Adroddiad thematig |

Gwella ysgolion trwy gonsortia addysg rhanbarthol - Mehefin 2015

Share this page

Adroddiad thematig | 03/06/2015

pdf, 851.46 KB Added 03/06/2015

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Estyn lunio’r adroddiad hwn ar gyfer y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei gylch gwaith blynyddol. Diben yr arolwg hwn yw adrodd ar y cynnydd sy’n cael ei wneud gan gonsortia addysg rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion.Ar wahân, gofynnodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i staff Swyddfa Archwilio Cymru gynnal astudiaeth o ddull Llywodraeth Cymru o wella ysgolion trwy gonsortia rhanbarthol. Cynhaliodd staff Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru ymweliadau gwaith maes â phob consortiwm rhanbarthol mewn partneriaeth a rhannwyd tystiolaeth rhwng y ddau sefydliad. Roedd yr ymweliadau gwaith maes yn cynnwys cyfweliadau â staff allweddol o bob consortiwm a’i awdurdodau lleol cysylltiedig. Roedd yr arolwg hefyd yn cynnwys craffu ar ystod eang o dystiolaeth o ysgolion, awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.

Argymhellion

Dylai consortia rhanbarthol:

Wella trefniadau rheoli perfformiad trwy:

  • gynllunio ar gyfer y tymor canolig i sicrhau dull strategol o wella ysgolion
  • sicrhau bod cynlluniau’n cynnwys camau gweithredu sy’n benodol a mesuradwy, gyda thargedau, costau a cherrig milltir priodol ar gyfer cyflawni
  • cofnodi, rhannu a defnyddio data (o lefel disgybl i fyny) yn effeithlon ac yn effeithiol
  • monitro cynnydd disgyblion ac ysgolion yn rheolaidd
  • defnyddio dull mwy trylwyr o nodi risgiau a’u rheoli
  • hunanarfarnu eu cryfderau a’u diffygion yn realistig
  • rheoli perfformiad unigol eu staff yn dynn

Sicrhau cysondeb gwell yn ansawdd arfarniadau ymgynghorwyr her o ysgolion, yn enwedig mewn perthynas ag addysgu ac arweinyddiaeth

Datblygu strategaethau cliriach i fynd i’r afael ag effaith amddifadedd ar ddeilliannau addysg a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu yn gydlynus i’r perwyl hwn

Gwella ansawdd ac ystod y cymorth ar gyfer ysgolion, ac yn benodol:

  • datblygu strategaethau cliriach ar gyfer gwneud y mwyaf o botensial cymorth o un ysgol i’r llall
  • darparu neu frocera cymorth gwell ar gyfer addysgu a dysgu mewn meysydd pwnc nad ydynt yn rhai craidd

Cynnwys awdurdodau esgobaethol yn effeithiol wrth gynllunio ac arfarnu gwasanaethau rhanbarthol yn strategol

Dylai awdurdodau lleol:

  • Gefnogi eu consortiwm rhanbarthol i ddatblygu cynlluniau busnes tymor canolig a sicrhau bod yr holl gynlluniau’n ystyried anghenion eu hysgolion lleol
  • Datblygu perthnasoedd gweithio ffurfiol rhwng pwyllgorau craffu yn eu consortiwm er mwyn craffu ar waith ac effaith eu consortiwm rhanbarthol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Wella’i strategaeth i ddatblygu uwch arweinwyr a rheolwyr ar gyfer addysg ar lefel awdurdod lleol a chonsortia rhanbarthol
  • Cydweithio’n fwy â chonsortia ac awdurdodau lleol i gytuno ar gynlluniau busnes tymor byr a thymor canolig a lleihau ceisiadau i newid ac ychwanegu at gynlluniau yng nghanol blwyddyn
  • Sicrhau bod categoreiddio ysgolion yn cael ei safoni’n drylwyr ar draws y consortia
  • Datblygu dealltwriaeth ar y cyd rhwng athrawon, ysgolion, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru am ddiben targedau cyrhaeddiad a’r defnydd a wneir ohonynt
  • Ymgysylltu’n fwy effeithiol ag awdurdodau esgobaethol i ddatblygu eu strategaeth ar gyfer gwella ysgolion
  • Sicrhau bod consortia, awdurdodau lleol ac awdurdodau esgobaethol yn glir ynglŷn â’u rolau a’u cyfrifoldebau priodol ar gyfer ysgolion yn rhaglen Her Ysgolion Cymru

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol