Polisi Iaith Gymraeg

Summary

Caiff y polisi hwn ei gefnogi’n llawn gan Brif Arolygydd ei Mawrhydi a thîm rheoli uwch Estyn. Mae gweithgor iaith Gymraeg Estyn yn cynnwys cynrychiolwyr o bob lefel o’r sefydliad ac mae’n cwrdd yn rheolaidd er mwyn monitro a chefnogi’r modd y caiff y polisi ei weithredu. Mae’r sefydliad wedi ymrwymo i sicrhau llwyddiant y polisi. Rydym yn trin yr iaith Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal yn ein gwaith, yn fewnol ac wrth arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Cenhadaeth Estyn yw parhau i gyflawni rhagoriaeth ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel. Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn gweld yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o’r weledigaeth hon.

Mae’r polisi hwn yn amlinellu sut rydym yn darparu ein gwasanaethau iaith Gymraeg yn fewnol ac yn allanol. Mae’r polisi yn ystyried yn llawn ofynion safonau’r iaith Gymraeg ac yn adlewyrchu’n harfer cyfredol ar draws y meysydd hynny y mae’r safonau yn ymwneud â nhw.

Document thumbnail
Category
Document type size date

pdf, 229.39 KB