Erthyglau newyddion |

Penodiad y Prif Arolygydd nesaf wedi’i gyhoeddi

Share this page

Rydym yn falch iawn o ddatgan mai Meilyr Rowlands AEM fydd Prif Arolygydd nesaf Estyn. Fe’i penodir yn Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar Fehefin 1af 2015.
Mae Meilyr wedi bod yn Gyfarwyddwr Strategol gydag Estyn am 6 blynedd, gan arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisi arolygu a goruchwylio arolygiadau ysgolion. I gael rhagor o wybodaeth am yrfa Meilyr, ewch i estyn.gov.uk/cymraeg/amdanom-ni/pwy-yw-pwy/cyfarwyddwyr-strategol

Dywed Meilyr Rowlands

“Rwyn falch iawn o gael fy mhenodi yn Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rwyn edrych ymlaen at gydweithio gyda holl randdeiliaid Estyn pan fyddaf yn cychwyn ym Mehefin.”

Dywed Ann Keane ei bod yn fodlon iawn â’r penodiad.