Erthyglau Newyddion Archive - Page 2 of 18 - Estyn

Archives: Erthyglau Newyddion


Archives: Erthyglau Newyddion


Mae adroddiad, newydd gan Estyn yn canfod, er bod cynlluniau hyfforddi sydd â’r nod o wella sgiliau iaith Gymraeg yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau yn cael effaith gadarnhaol, bod anghysondebau yn eu heffeithiolrwydd hirdymor a’u gweithrediad strategol.

Mae’r adroddiad, ‘Cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y sectorau ôl-16’ yn gwerthuso’r rhaglenni hyfforddi a ddarperir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o dan y Cynllun Gwreiddio, sy’n cefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar dair menter allweddol o fewn y cynllun: sesiynau e-ddysgu, darpariaeth Sgiliaith, a’r cynllun Cymraeg Gwaith Addysg Bellach.

Dengys y canfyddiadau fod y mentrau hyn wedi llwyddo i gynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n siarad Cymraeg ac yn cofrestru eu gallu i weithio drwy’r iaith. Fodd bynnag, prin yw’r dystiolaeth i gysylltu’r hyfforddiant yn uniongyrchol â gwelliannau hirdymor mewn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Er bod mwy o weithgareddau dysgu bellach yn cynnwys ‘ychydig bach o ddysgu cyfrwng Cymraeg,’ ychydig o dwf a fu mewn addysgu dwyieithog lefel uwch a Chymraeg yn unig.

Dywedodd y Prif Arolygydd Owen Evans:

“Mae’n galonogol gweld cynnydd o ran cefnogi staff addysg bellach i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, fodd bynnag, mae’n rhaid i hyfforddiant fynd y tu hwnt i’r pethau sylfaenol a darparu mwy o gyfleoedd i ymarferwyr ymgorffori addysgu dwyieithog yn eu gwersi, ac mae arweinyddiaeth gref, cynllunio strategol clir, ac ymrwymiad i symud y tu hwnt i hyfedredd iaith cychwynnol yn hanfodol i sicrhau effaith hirdymor.”

Mae’r adroddiad yn amlygu enghreifftiau o arfer effeithiol ble mae darparwyr wedi cael mwy o effaith, gan gynnwys arweinyddiaeth strategol gref, cymhellion ariannol ar gyfer addysgu dwyieithog, ac amser penodedig i staff gwblhau hyfforddiant. Fodd bynnag, erys anghysondebau, yn enwedig o ran blaengynllunio, sicrhau ansawdd, a monitro effeithiolrwydd hyfforddiant ar lefel genedlaethol.

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae’r adroddiad yn argymell bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi mwy o arweiniad a her i golegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i fesur effeithiolrwydd hyfforddiant. Mae hefyd yn galw am ehangu darpariaeth Sgiliaith i gynnig cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig ar gyfer addysgu dwyieithog, yn ogystal â mwy o gydnabyddiaeth ariannol ac ymarferol i sgiliau Cymraeg y sector.

Mae argymhellion pellach yn annog Llywodraeth Cymru, colegau addysg bellach, a darparwyr prentisiaethau i sicrhau darpariaeth iaith gyson a mireinio cyfleoedd datblygiad proffesiynol i hyrwyddo addysgeg ddwyieithog.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.

Archives: Erthyglau Newyddion


Byddwn yn cynnal cynhadledd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar gyfer arweinwyr ysgolion cynradd y mis hwn ar y dyddiadau canlynol:

  • 14 Mawrth, Venue Cymru yn Llandudno 
  • 27 Mawrth, ICC Cymru yng Nghasnewydd 

Bydd y gynhadledd yn cynnig llwyfan unigryw i ddylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi, rhannu arbenigedd a chael mewnwelediadau ymarferol i wella perfformiad mewn lleoliadau cynradd.

Yn ogystal â chynnig cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, bydd sesiwn y bore hefyd yn cynnwys sesiwn ryngweithiol ar reoli ymddygiad, cyfle i helpu i lunio’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd, diweddariad ar Asesiadau Personoledig, gan gynnwys cyfle i gael rhagolwg ar ddatblygiadau sydd i ddod, yn cynnwys yr Astudiaeth Ryngwladol Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen (PIRLS).

Bydd Estyn yn arwain sesiwn y prynhawn yn canolbwyntio ar ein hymagwedd at arolygiadau cynradd ac ymweliadau interim, yn ogystal â mewnwelediadau allweddol o adroddiad blynyddol diweddaraf PAEF. 

Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma: cynhadledd arweinyddiaeth y sector cynradd 2025  

Wrth gofrestru, bydd mynychwyr yn cael cyfle i gyflwyno cwestiwn ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg neu Estyn, gan sicrhau y caiff eu llais ei glywed wrth lunio dyfodol addysg gynradd yng Nghymru.

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â chofrestru a’r digwyddiad, cysylltwch â  

Archives: Erthyglau Newyddion


Yn ddiweddar, lansion arolwg ar-lein annibynnol i gasglu barn ein rhanddeiliaid am yr hyn y maent yn ei ddeall am Estyn – pwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud a’r effaith a gawn. Un o’n huchelgeisiau yw bod pawb rydym yn rhyngweithio â nhw yn deall ac yn gwerthfawrogi ein cyfraniad i’r sector ac i ddysgwyr yng Nghymru.

Diben ceisio mewnwelediadau rhanddeiliaid yw ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r perthnasoedd gwaith sydd gennym â’n rhanddeiliaid – i asesu ein henw da, asesu effaith a defnyddioldeb ein hadroddiadau, cyhoeddiadau ac ymgyrchoedd allweddol ac i ddeall y dulliau sy’n well gan randdeiliaid ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â ni.

Rydym yn falch o weld o’r canfyddiadau bod ymatebwyr sydd wedi cael arolygiadau ers y pandemig yn sôn am brofiad mwyfwy cadarnhaol, ac mae’n fy nghalonogi bod mwy o bobl yn gwerthfawrogi ein harolygiadau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mynegodd rai cyfranogwyr eu barn y bu newid amlwg yn naws Estyn.

Er bod dealltwriaeth ac ymagwedd gydweithredol ein gwaith yn cael eu cydnabod, mae’r adroddiad yn sicr yn amlygu meysydd y gallwn eu gwella. Mae pryder ynghylch arolygiadau o hyd, sy’n aml yn cael ei briodoli i’r pryder naturiol a ddaw yn sgil cael eich gwerthuso. Serch hynny, mae gwaith y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r cydbwysedd hwn o sicrwydd a chymorth.

Rwy’n falch o’r gwaith rydym yn ei wneud yma yn Estyn ac o’r newid cadarnhaol rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn, ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd a byddwn yn myfyrio ar y canfyddiadau hyn ac yn parhau i gasglu adborth gan randdeiliaid. Byddwn yn cynnal yr ymarfer hwn yn flynyddol i’n galluogi i feincnodi a mesur cynnydd yn ein gwaith wrth i ni wrando ac ymateb.

Rydym yn ddiolchgar i bob un ohonoch a roddodd eich amser i ymateb a rhannu eich mewnwelediadau a’ch profiadau o gydweithio â ni trwy’r gwaith hwn. Mae llawer o fanylion yn yr adroddiad ac rwy’n gobeithio y byddwch yn neilltuo amser i fwrw golwg arno.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma: Ymchwil Canfyddiadau Rhanddeiliaid Estyn

Archives: Erthyglau Newyddion


Wrth i addysg barhau i esblygu, mae twf deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno heriau a chyfleoedd. Ledled Cymru, mae darparwyr addysg a hyfforddiant yn dechrau archwilio sut gall deallusrwydd artiffisial gefnogi eu gwaith, o symleiddio tasgau gweinyddol i wella profiadau dysgu. Rydym ni yn Estyn ar daith debyg, gan archwilio sut gall ddeallusrwydd artiffisial ein helpu i wella’r ffordd rydym yn arolygu ac ymgysylltu ag ysgolion.

Gallwch ein helpu i ddeall defnyddio deallusrwydd artiffisial ym myd addysg ac yng Nghymru yn well a helpu i lywio ei ddyfodol trwy lenwi ein harolwg byr: Deallusrwydd artiffisial ym myd addysg – rhannwch eich barn

Deallusrwydd Artiffisial ym Myd Addysg yng Nghymru: Dechrau’r Daith

Mae ysgolion a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru yn dechrau gweld potensial deallusrwydd artiffisial. Boed hynny’n bersonoli dysgu i weddu i gryfderau unigol neu ddefnyddio offer a ysgogir gan ddeallusrwydd artiffisial i leihau llwyth gwaith, mae diddordeb cynyddol yn yr hyn y gall y dechnoleg hon ei wneud. Er bod rhai eisoes yn arbrofi â deallusrwydd artiffisial, mae eraill yn cymryd y camau cyntaf petrus, yn awyddus i ddeall sut i wneud y mwyaf ohono’n ddiogel ac yn effeithiol.

Ymagwedd Estyn: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i Wella, Nid Disodli

Yn yr un modd ag ysgolion, rydym ni yn Estyn yn archwilio sut gall deallusrwydd artiffisial gefnogi ein gwaith. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar sut gall deallusrwydd artiffisial helpu i ryddhau mwy o amser i arolygwyr ymgysylltu’n uniongyrchol ag athrawon, rhieni, a dysgwyr. Trwy awtomeiddio tasgau arferol a’n helpu i ddadansoddi gwybodaeth yn fwy effeithlon, gallwn dreulio mwy o amser yn cael sgyrsiau ystyrlon a mynd i wraidd yr hyn sy’n digwydd mewn ysgolion a darparwyr hyfforddiant.

Wrth gwrs, mae’n rhaid defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel ac yn foesegol, gan sicrhau ei fod yn cefnogi yn hytrach na disodli barn ac arbenigedd dynol.

Dysgu gan ein Partneriaid Ewropeaidd

Er mwyn ein helpu ar y daith hon, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag arolygiaethau addysg eraill ledled Ewrop. Trwy rannu syniadau a dysgu o’n profiadau ein gilydd, rydym yn datblygu dealltwriaeth well o sut gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial ym maes addysg ac arolygu. Mae’r cydweithrediad rhyngwladol hwn yn ein helpu i ffurfio ein hymagwedd ein hunain, gan sicrhau ein bod yn cynnal ein gwybodaeth am arfer gorau a datblygiadau newydd.

Adolygiad Thematig: Deall Deallusrwydd Artiffisial mewn Ysgolion

Yn rhan o’n gwaith, rydym yn cynnal adolygiad thematig ar ran Llywodraeth Cymru i gael darlun cenedlaethol o sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion. Rydym eisiau deall sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn ystafelloedd dosbarth, beth sy’n gweithio’n dda, a beth yw’r heriau. Yn bwysicach, rydym eisiau casglu enghreifftiau o arfer effeithiol y gallwn eu rhannu ag eraill. Bydd canfyddiadau’r adolygiad hwn yn helpu i ffurfio canllawiau a chymorth ar gyfer ysgolion ledled Cymru yn y dyfodol.

Gyda’n gilydd, gallwn lywio’r maes newydd a chyffrous hwn, gan gynorthwyo ein gilydd ar y daith a sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd sydd o fudd i ddysgwyr, athrawon, a’r system addysg ehangach.

Archives: Erthyglau Newyddion


Mae ymweliadau interim yn nodwedd newydd yn ein fframwaith arolygu ar gyfer ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau). Mae’r ymweliadau hyn, a gyflwynwyd ym mis Medi 2024, yn rhoi cyfle i arweinwyr ysgolion gael trafodaethau proffesiynol gydag arolygwyr am eu cynnydd, eu heriau, a meysydd i’w gwella.

Yn wahanol i arolygiadau craidd, nid bwriad ymweliadau interim yw llunio casgliad cyffredinol am effeithiolrwydd ysgol, ond byddant yn cynorthwyo arweinwyr i adolygu cynnydd ers yr arolygiad craidd diwethaf ac ystyried eu camau nesaf ar gyfer gwella. Bydd arolygwyr yn cyfarfod ag arweinwyr ysgolion yn ystod ymweliad  interim i drafod hunanwerthuso, blaenoriaethau, a’r camau a gymerwyd i wella addysgu a dysgu.

Pam mae ymweliadau interim wedi cael eu cyflwyno?

Awgrymodd adborth gan randdeiliaid y byddent yn croesawu ymgysylltu amlach gan Estyn gydag ysgolion ac UCDau. Bydd hyn yn ein helpu i ddod i adnabod ysgolion yn well a’u cefnogi â’u proses gwerthuso a gwella.

Mae ymweliadau interim yn darparu man cyswllt rheolaidd gydag arolygwyr ar gyfer ysgolion ac UCDau, gan gynnig mewnwelediadau a myfyrdodau proffesiynol sy’n gallu llywio gwelliannau yn y dyfodol. Mae’r dull hwn yn caniatáu ar gyfer darlun cliriach o sut mae ysgolion yn gwneud cynnydd rhwng arolygiadau craidd.

Beth yw manteision ymweliadau interim?

Ymweliadau interim:

  • cefnogi trafodaethau proffesiynol am gryfderau a meysydd i’w datblygu
  • darparu adborth adeiladol i helpu ffurfio strategaethau gwella ysgolion
  • helpu llywio ffocws yr arolygiad craidd nesaf.

Beth mae penaethiaid yn ei ddweud am ymweliadau interim?

Mae adborth gan bennaeth cynradd a gymerodd ran mewn ymweliad interim yn ddiweddar yn awgrymu bod y broses yn wahanol i arolygiad craidd. Gwelon nhw fod yr ymweliad yn brofiad cadarnhaol a myfyriol, gan roi dealltwriaeth gliriach iddynt o gynnydd a blaenoriaethau eu hysgol.

I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys mewnwelediadau gan arweinwyr ysgolion, ewch i:

Archives: Erthyglau Newyddion


Heddiw, mae Estyn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2023-24, syn amlinellu darlun cymysg ar gyfer darpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru wrth i’r arolygiaeth amlygu arfer gref yn ogystal â meysydd allweddol y mae angen eu gwella.

Yn ôl y Prif Arolygydd, Owen Evans, mae llawer i’w ddathlu yn y sector, ond mae problemau parhaus fel cynllunio ar gyfer hunanwella yn faes hollbwysig i addysgwyr ganolbwyntio eu hymdrechion arno o hyd. Mae’r adroddiad yn pwysleisio mai dim ond lleiafrif o ddarparwyr sy’n dangos arfer gref sy’n sbarduno gwelliant, tra nad yw eraill yn gwerthuso effaith addysgu ar ddysgu yn ddigon manwl.

Yn ogystal â hyn, mae’r Prif Arolygydd yn amlygu’r angen am ffocws clir ar fedrau sylfaenol ar draws y cwricwlwm. Mae bylchau nodedig o ran sut mae darparwyr yn cynllunio i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol dysgwyr ar hyn o bryd.   

Mae’r adroddiad yn amlygu ymdrechion clodwiw gan ysgolion i ymwreiddio gwrth‑hiliaeth yn eu hethos a’u harferion, yn ogystal ag arfer gref o ran hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymreig. Mae materion hirsefydlog fel absenoldebau dysgwyr a recriwtio athrawon a staff cymorth ar draws nifer o arbenigeddau yn parhau i beri heriau ychwanegol i arweinwyr addysg.

Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans,

“Rydym yn dra ymwybodol o’r pwysau a’r heriau y mae darparwyr addysg yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ond mae angen gwella hunanwerthuso mewn ysgolion a darparwyr eraill i gryfhau’r system. Mae angen arweinwyr cryf arnom i ysgogi’r gwelliant hwn, gan fod methiant i wneud hynny’n atal cynnydd gormod o ddysgwyr.”

Mae adroddiad blynyddol PAEF yn edrych yn ôl ar ganfyddiadau arolygiadau ac adroddiadau thematig dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Ar ôl cyhoeddi crynodebau sector Estyn ym mis Hydref, mae adroddiad llawn mis Ionawr yn cynnig cyd-destun manwl ac yn rhoi mewnwelediad llawer dyfnach i’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn y mae angen ei wella ar draws un ar bymtheg o sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae ysgolion, lleoliadau meithrin nas cynhelir, colegau, prentisiaethau dysgu yn y gwaith, dysgu oedolion yn y gymuned a gwaith ieuenctid ymhlith y sectorau sydd wedi’u cynnwys.

Gyda’r nod o roi adborth defnyddiol i’r gweithlu addysg a hyfforddiant, mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn rhoi crynodeb o bob un o’r adroddiadau thematig cenedlaethol a luniwyd gan Estyn eleni ac, i gefnogi gwelliant ymhellach, mae’n cyfeirio at adroddiadau arolygu ac astudiaethau achos gan ddarparwyr a arolygwyd ac y canfuwyd eu bod yn gwneud yn arbennig o dda.

Mae’r adroddiad hefyd yn gwerthuso pa mor dda mae darparwyr yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau penodol y mae dysgwyr yng Nghymru yn eu hwynebu trwy gyfres o grynodebau o themâu allweddol cyfamserol.

Mae’r themâu allweddol eleni yn cynnwys:

  • gwrth-hiliaeth
  • gweithredu Cwricwlwm i Gymru
  • hunanwerthuso a gwella
  • heriau recriwtio
  • arfer dda o ran hybu’r Gymraeg

Parhaodd y Prif Arolygydd, Owen Evans:

“Mae’r adroddiad eleni yn dangos bod gan y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru gryfderau sylweddol, ond hefyd nifer o feysydd y mae angen eu gwella o hyd. Rydym yn ymrwymo i gefnogi gwelliant trwy ein gweithgareddau ac yn gobeithio y bydd yr adroddiad ei hun a’r adnoddau ategol yn helpu darparwyr i fyfyrio’n adeiladol a sbarduno gwelliannau ar gyfer ein dysgwyr ledled Cymru.”

Yn ogystal ag ystod o astudiaethau achos arfer orau, mae cyfres o bodlediadau yn cyd-fynd ag adroddiad Estyn eleni, sy’n dod â darparwyr ar draws y sectorau at ei gilydd i drafod rhai o’r heriau ac arfer orau yn unol â themâu allweddol gwrth-hiliaeth a gweithredu Cwricwlwm i Gymru.

Gallwch weld yr adroddiad llawn yma.

Archives: Erthyglau Newyddion


Portread o berson gwenu gyda gwallt llwyd, wedi'i wisgo'n broffesiynol, yn sefyll o flaen baner hyrwyddo sy'n darllen 'Barod Parod Ôl-16' gyda lluniau amrywiol o fyfyrwyr yn y cefndir.

Yn Estyn, rydym yn ymrwymo i helpu darparwyr i wella ansawdd addysg a hyfforddiant, gan sicrhau deilliannau cadarnhaol i bob dysgwr yng Nghymru. Mae arolygiadau’n rhan annatod o’r broses hon, gan werthuso safonau cyfredol, nodi cryfderau ac amlygu meysydd lle gellir tyfu. Ein nod yw cynorthwyo darparwyr ar eu taith tuag at ragoriaeth.

Rydym yn deall y gall arolygiadau deimlo’n heriol o bryd i’w gilydd, ond maent wedi’u llunio i fod yn brofiad cydweithredol. Mae’n ein harolygwyr yma i weithio gyda chi ac nid ydym yn disgwyl perffeithrwydd. Yn hytrach, hoffem weld gwir adlewyrchiad o’ch arferion bob dydd a phrofiadau dysgwyr.

Yr hyn rydym yn edrych amdano yn ystod arolygiadau

  • Wythnos arferol o weithgarwch: Hoffem arsylwi profiadau eich dysgwyr a staff o ddydd i ddydd. Cynlluniwch ar gyfer eich dosbarthiadau, sesiynau neu weithdai yn ôl yr arfer yn ystod yr arolygiad – does dim angen gorbaratoi.
  • Arsylwadau yn y fan a’r lle: Mae ein harolygwyr yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd mewn amser real ac yn gwrando’n weithredol ar eich dysgwyr i ddeall eu safbwyntiau.
  • Amlygu cryfderau a meysydd i’w gwella: Mae arolygiadau’n gyfle i ddathlu’r hyn sy’n gweithio’n dda a nodi ffyrdd i wella profiad y dysgwr ymhellach.

Nid oes angen creu gwaith papur ychwanegol na dilyn dulliau addysgu neu asesu penodol. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut mae’ch dulliau’n cefnogi cynnydd a datblygiad dysgwyr. Rydym yn chwilio am arferion dilys sy’n gwneud gwahaniaeth.

Barod yn Barod! ar gyfer arolygiad Estyn

Rydym yn credu bod darparwyr ledled Cymru eisoes yn barod ar gyfer arolygiad Estyn. Trwy ganolbwyntio ar ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel bob dydd, rydych chi’n dangos y parodrwydd rydym yn chwilio amdano.

Eisiau gweld sut olwg sydd ar arolygiad Estyn, mewn gwirionedd? Gwyliwch y fideos hyn gan Goleg Caerdydd a’r Fro a Grŵp Llandrillo Menai i gael adlewyrchiad gonest o’r broses:

I ddysgu mwy am sut rydych chi’n Barod yn Barod! ar gyfer arolygiad Estyn, ewch i dudalen yr ymgyrch yma:

Archives: Erthyglau Newyddion


Ymunwch â ni’n fyw am 3:45yh ar 29 Ionawr 2025 am drafodaeth ynglŷn ag arfer effeithiol a chanfyddiadau allweddol o’n hadroddiad thematig diweddar; Adroddiad Thematig: Pontio a chynnydd disgyblion – Estyn

Bydd awdur yr adroddiad, Andrew Thorne AEF yn cael cwmni cynrychiolwyr o Ysgol Llywelyn ac Ysgol Uwchradd Rhyl i rannu eu profiadau. Bydd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â’r adroddiad, neu’r pwnc yn ehangach.

Archives: Erthyglau Newyddion


Ymunwch â ni’n fyw am 4pm ar 16 Ionawr 2025 am drafodaeth ynglŷn ag arfer effeithiol a chanfyddiadau allweddol o’n hadroddiad thematig diweddar;

Adroddiad thematig: Y system anghenion dysgu ychwanegol

Bydd awdur yr adroddiad, Lyn West AEF yn cael cwmni cynrychiolwyr o Feithrinfa Homestead ac Ysgol Uwchradd Whitmore i rannu eu profiadau. Bydd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â’r adroddiad, neu’r pwnc yn ehangach.

Archives: Erthyglau Newyddion


A person typing on a laptop with various digital icons overlaid, including an AI symbol, a book, a graduation cap, a target, and a magnifying glass, representing technology, education, and artificial intelligence.

Bydd Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn arwain adolygiad i ddeall sut mae Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn ysgolion ledled Cymru.

Bydd yr adolygiad yn archwilio’r defnydd cyfredol o becynnau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ac yn archwilio’r manteision posibl i ysgolion, gan ystyried yr heriau y gallent eu hwynebu hefyd. 

Mae cam cyntaf yr adolygiad yn cynnwys arolwg ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn gofyn am eu barn a’u profiad, ac yna bydd ymgysylltu manylach ag athrawon.  Disgwylir i’r adroddiad ar ganfyddiadau’r gwaith ymchwil gael ei gyhoeddi yn yr haf.

I gefnogi ysgolion sy’n ystyried neu’n dechrau defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, cyhoeddwyd canllawiau newydd. Mae’r canllawiau’n rhan o becyn ehangach o gymorth i ysgolion sydd ar gael ar Hwb  a ddatblygwyd gyda chymorth  arbenigwyr diogelwch ar-lein blaenllaw, gan gynnwys UK Safer Internet Centre, Common Sense Education, Praesidio Safeguarding a Internet Matters.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

“Mae deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno posibiliadau mawr i ysgolion; mae’r dechnoleg yn esblygu’n gyflym, ac mae’n hanfodol bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddelio â’r newidiadau.

Trwy gael dealltwriaeth o’r arferion da sy’n cael ei ddefnyddio eisoes, gallwn helpu ysgolion i fanteisio’n gyfrifol ar y cyfleoedd y gallai AI eu cynnig, a pharhau i flaenoriaethu diogelwch a lles staff a dysgwyr.

Mae Estyn mewn sefyllfa dda i gynnal yr adolygiad hwn, o ystyried eu dealltwriaeth ddofn o’r sector addysg yng Nghymru. Fel llywodraeth, rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, ac ymgysylltu â sefydliadau diogelwch ar-lein blaenllaw i sicrhau bod ysgolion yn cael eu harwain gan y cyngor arbenigol gorau.”

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi yn Estyn :

“Rydym yn falch iawn o lansio’r broses bwysig hon i gasglu barn gan weithwyr addysg proffesiynol i ddeall yn well sut mae athrawon a disgyblion eisoes yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru.

Mae gan Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol y potensial i drawsnewid addysg os caiff ei ddefnyddio’n gyfrifol ac mae ei ddefnydd ymhlith addysgwyr a dysgwyr yn cynnyddu ar raddfa gyflym iawn. Bydd cael dealltwriaeth gliriach o integreiddio Deallusrwydd Artiffisial mewn ysgolion ar lefel genedlaethol yn galluogi’r Llywodraeth i gefnogi ac arwain y gymuned addysg yn well wrth ddefnyddio’r dechnoleg bwerus hon.

Rydym yn annog arweinwyr ysgolion, athrawon a staff cymorth i rannu eu profiadau ac ymgysylltu â’r arolwg sydd bellach yn fyw. Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â darparwyr dros y misoedd nesaf i siarad yn fanylach am eu gwaith o ran defnyddio Deallusrwydd Cynhyrchiol yn eu lleoliadau.

Mae Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn cyflwyno cyfleoedd go iawn i drawsnewid y sector addysg a phrofiad dysgwyr ac addysgwyr”.

Ochr yn ochr â’r adolygiad, sefydlwyd is-grŵp Deallusrwydd Artiffisial o Ddysgu Digidol Cymru i sicrhau mewnbwn gan y sector ac mae rhwydwaith o arbenigwyr o bob rhan o’r sector addysg, diwydiant a’r trydydd sector yn helpu i drafod y cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm â Deallusrwydd Artiffisial.

I gymryd rhan yn yr adolygiad, rhannwch eich barn a’ch profiadau o Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn ysgolion ac UCDau yn yr arolwg isod: