Erthyglau Newyddion Archive - Estyn

Archives: Erthyglau Newyddion


Archives: Erthyglau Newyddion


A group of teachers sat around tables talking.

Mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl bwysig wrth helpu ysgolion i reoli eu cyllid, ond mae’r cymorth strategol y maent yn ei gynnig yn amrywio gormod ledled Cymru, yn ôl adroddiad newydd Estyn, Cymorth awdurdodau lleol i ysgolion i reoli eu cyllidebau. Mae’r adroddiad yn archwilio pam mor effeithiol mae awdurdodau lleol yn cynorthwyo ysgolion a gynhelir â rheolaeth ariannol a chynllunio tymor hir ar adeg o bwysau cynyddol ar gyllidebau ysgolion.

Mae’r adolygiad yn canfod bod ysgolion yn gwerthfawrogi’r cyngor a’r arweiniad a gânt gan dimau cyllid awdurdodau lleol, yn gyffredinol. Mewn llawer o achosion, mae ysgolion yn elwa ar gymorth gweithredol cryf o ddydd i ddydd i’w helpu i fonitro gwariant, rheoli grantiau a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ariannol.

Fodd bynnag, mae cymorth yn llai cyson o ran helpu ysgolion i gynllunio’n strategol. Yn rhy aml, mae’r ffocws ar fantoli cyllidebau blynyddol yn hytrach na chynorthwyo ysgolion i wneud penderfyniadau ariannol tymor canolig a thymor hir hyderus.

Fel arfer, mae prosesau gosod cyllideb yn agored ac yn dryloyw, ac mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ymgysylltu ag ysgolion trwy grwpiau ymgynghori neu fforymau cyllideb. Fodd bynnag, gall eglurder ac amseriad gwybodaeth ariannol amrywio’n sylweddol, gan ei gwneud hi’n anodd i arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion gynllunio penderfyniadau am staff a’r cwricwlwm yn hyderus.

Mae’r adroddiad hefyd yn canfod, er bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn monitro risg ariannol ac yn cynorthwyo ysgolion sy’n wynebu anawsterau ariannol, bod dulliau ymyrraeth gynnar a chynaliadwyedd tymor hir yn anghyson. Mewn llawer o achosion, mae ymatebion yn canolbwyntio ar arbedion tymor byr yn hytrach na chynllunio tymor hwy.

Mae Estyn yn tynnu sylw at y ffaith bod yr arfer gryfaf yn digwydd lle mae gwasanaethau cyllid, adnoddau dynol a gwasanaethau gwella ysgolion yn cydweithio’n agos â’i gilydd. Mae hyn yn helpu awdurdodau i nodi risgiau’n gynharach a sicrhau bod penderfyniadau ariannol yn cyd-fynd â blaenoriaethau addysgol.

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Owen Evans:

“Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi ymrwymo’n gryf i gynorthwyo ysgolion i reoli eu cyllid, ac mae ysgolion yn gwerthfawrogi proffesiynoldeb a hygyrchedd timau cyllid.

“Fodd bynnag, mae angen gwybodaeth gliriach a mwy amserol, a chymorth cryfach, ar ysgolion i gynllunio ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hir. Lle mae awdurdodau lleol yn dwyn ynghyd arbenigedd cyllid, y gweithlu a gwella ysgolion, maent yn gallu nodi risgiau’n gynnar yn well a chynorthwyo ysgolion i wneud penderfyniadau cynaliadwy sydd o fudd i ddysgwyr.”

Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwella amseroldeb a rhagweladwyedd cyllid ac yn symleiddio trefniadau ariannu i gefnogi cynllunio tymor hir yn well. Mae hefyd yn galw am arweiniad cenedlaethol cryfach a buddsoddi mewn data i gefnogi cynllunio ariannol cyson ledled Cymru. Mae’r adroddiad yn argymell cryfhau cymorth strategol gan awdurdodau lleol trwy wella cynllunio aml-flwyddyn, darparu gwybodaeth ariannol gliriach a mwy amserol, a chydweithio’n agosach ar draws gwasanaethau cyllid, y gweithlu a gwella ysgolion.

Archives: Erthyglau Newyddion


A teacher sitting at a desk opposite a learner, smiling.

Mae adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, Mwy na dewis olaf: Trefniadau ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol yng Nghymru, a’i hansawdd, yn darganfod bod gwasanaethau tiwtora, ar y cyfan, yn darparu cymorth o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion bregus. Fodd bynnag, mae ansawdd ac argaeledd cyffredinol y ddarpariaeth yn amrywio’n rhy eang ledled Cymru.

Mae gwasanaethau tiwtora yn chwarae rôl hanfodol mewn cefnogi disgyblion nad ydynt yn gallu mynychu’r ysgol oherwydd anghenion iechyd neu amgylchiadau personol cymhleth eraill, gan eu helpu i barhau â’u dysgu a chynnal cysylltiad ag addysg. I lawer o’r dysgwyr hyn, mae gwersi tiwtora yn cynnig llwybr pwysig i ailymgysylltu ag addysg, magu hyder a pharatoi ar gyfer dysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Mae ein hadroddiad yn amlygu enghreifftiau o arfer gref lle mae gan arweinwyr weledigaeth strategol glir ar gyfer darpariaeth diwtora ac yn ei hystyried yn ymyrraeth bwrpasol sy’n helpu disgyblion i ailgysylltu â dysgu a symud ymlaen i gyrchfannau cadarnhaol. Yn yr achosion hyn, mae disgyblion yn elwa ar addysgu difyr, cwricwla wedi eu cynllunio’n ofalus a chymorth effeithiol ar gyfer eu lles.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn darganfod bod arweinyddiaeth, goruchwyliaeth ac ansawdd y ddarpariaeth yn anghyson ledled Cymru. Mewn llawer o ardaloedd, mae disgyblion yn cael nifer gyfyngedig o oriau o ddarpariaeth diwtora bob wythnos yn unig, ac mae cyfleoedd i ddilyn cwricwlwm eang a chytbwys yn gyfyngedig. Mae darpariaeth yn aml yn canolbwyntio’n gyfyng ar Saesneg a mathemateg, sy’n gallu cyfyngu ar gyfleoedd disgyblion i ennill cymwysterau a symud ymlaen i ddysgu pellach neu gyflogaeth.

Canfu Estyn hefyd nad yw disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer darpariaeth diwtora yn ddigon clir. Mae hyn wedi arwain at wahaniaethau yn y modd y mae awdurdodau lleol yn dehongli eu cyfrifoldebau, gan arwain at amrywiad o ran faint o ddysgu mae disgyblion yn ei gael, ac ystod y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:

“Mae gwasanaethau tiwtora yn cefnogi rhai o’r bobl ifanc fwyaf bregus yng Nghymru. Ar eu gorau, maen nhw’n darparu sefydlogrwydd, yn magu hyder o’r newydd ac yn helpu dysgwyr i ailgysylltu ag addysg a chynllunio ar gyfer eu dyfodol. Fodd bynnag, mae ein canfyddiadau’n dangos bod ansawdd ac argaeledd y ddarpariaeth yn amrywio gormod ledled Cymru. Mae gormod o ddisgyblion yn cael cwricwlwm cul ac oriau dysgu cyfyngedig, sy’n cyfyngu ar eu cyfleoedd i ennill cymwysterau a symud ymlaen i gyrchfannau cadarnhaol.

Bydd cryfhau arweinyddiaeth strategol, egluro disgwyliadau a gwella monitro yn hanfodol i sicrhau bod pob disgybl sy’n dibynnu ar wasanaethau tiwtora yn cael yr addysg a’r cymorth o ansawdd uchel y mae’n ei haeddu.”

Mae’r adroddiad yn galw am ddisgwyliadau cenedlaethol cliriach, goruchwyliaeth gryfach gan awdurdodau lleol a monitro darpariaeth yn well, yn enwedig lle mae gwasanaethau wedi eu comisiynu neu’n cael eu darparu ar-lein. Bydd y camau hyn yn helpu sicrhau bod gwasanaethau tiwtora ledled Cymru yn darparu cymorth cyson, o ansawdd uchel, ac yn galluogi pob dysgwr i symud ymlaen yn hyderus i’r cam nesaf yn ei addysg neu gyflogaeth.

Archives: Erthyglau Newyddion


Person yn teipio ar fysellfwrdd gliniadur gyda bysellau goleuol tra bod eiconau digidol tryloyw yn ymddangos uwchben y ddyfais, gan gynnwys tarian â thic, cronfa ddata, dogfen, gerau, cerdyn credyd, sglodyn rhwydwaith, amlen neges, a phroffil defnyddiwr, yn cynrychioli seiberddiogelwch, diogelu data a systemau digidol.

Mae colegau addysg bellach ledled Cymru yn dechrau archwilio sut y gall deallusrwydd artiffisial (AI) gefnogi addysgu, dysgu ac effeithlonrwydd sefydliadol, yn ôl adroddiad newydd gan Estyn, Archwilio’r Potensial: Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg Bellach.

Mae’r adroddiad yn canfod, er bod y sector yn dal i fod yng nghyfnod cynnar mabwysiadu AI, fod momentwm cynyddol ymhlith staff a dysgwyr i ddefnyddio’r dechnoleg i gefnogi dysgu, cynllunio ac adborth. Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae colegau’n dechrau integreiddio AI i’w cynllunio strategol, gan ei gysylltu ag addysgu, cynhwysiant a gwella gwasanaethau i ddysgwyr. Adroddodd dysgwyr eu bod yn defnyddio offer AI i helpu i grynhoi gwybodaeth, strwythuro gwaith ysgrifenedig a chefnogi eu dealltwriaeth o bynciau cymhleth.

Dywedodd llawer o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, y gall offer AI eu helpu i feithrin hyder a rheoli eu gwaith cwrs yn fwy effeithiol. Mae staff hefyd yn dechrau archwilio sut y gall AI gefnogi cynllunio gwersi, creu adnoddau ac adborth ffurfiannol, er bod arfer yn amrywio’n fawr ar draws meysydd cwricwlwm.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at sawl her. Mewn llawer o golegau, mae dysgwyr yn derbyn negeseuon cymysg ynghylch yr hyn sy’n ddefnydd derbyniol o AI, yn enwedig wrth gwblhau gwaith asesedig. Yn aml, darperir canllawiau yn ystod y cyfnod sefydlu ond nid ydynt yn cael eu hailymweld yn rheolaidd, gan adael rhai dysgwyr yn ansicr neu’n bryderus ynghylch defnyddio offer AI hyd yn oed pan allent gefnogi dysgu.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi, er bod ystyriaethau moesegol, diogelwch a diogelu yn cael eu cydnabod fwyfwy gan golegau, nad ydynt wedi’u hymgorffori’n gyson ym mhrofiad y dysgwr eto. Mae cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o AI, gan gynnwys materion fel rhagfarn a gorddibyniaeth ar dechnoleg, yn parhau i fod yn gyfyngedig mewn llawer o achosion.

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi yn Estyn:

“Mae deallusrwydd artiffisial eisoes yn dechrau dylanwadu ar sut mae dysgwyr yn astudio a sut mae staff yn cynllunio ac yn cyflwyno dysgu mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Mae ein canfyddiadau’n dangos arfer cynnar calonogol, gyda dysgwyr a staff yn archwilio sut y gall deallusrwydd artiffisial gefnogi dysgu, hyder ac effeithlonrwydd.

“Fodd bynnag, bydd angen i golegau sicrhau bod dysgwyr yn derbyn canllawiau clir a chyson ynghylch sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial yn briodol. Bydd datblygu dealltwriaeth dysgwyr o ddefnydd moesegol a chyfrifol deallusrwydd artiffisial hefyd yn bwysig wrth i’r dechnoleg barhau i esblygu.”

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd arweinyddiaeth gref, cyfathrebu clir â dysgwyr a deialog barhaus ar draws y sector i sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn cefnogi dysgu o ansawdd uchel a mynediad teg at gyfleoedd.

Archives: Erthyglau Newyddion


Portread o unigolyn yn gwenu mewn crys du, yn cynrychioli Estyn, wedi'i osod yn erbyn cefndir melyn a gwyn.

Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar Estyn yn Fyw am 4:00yh ar 26 Mawrth 2026 am drafodaeth ynglŷn ag Ymweliadau Interim a beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol.

Bydd y sesiwn drafod yn dadansoddi popeth sydd angen i chi ei wybod cyn Ymweliad Interim – gan ei gwneud yn sesiwn hanfodol i arweinwyr ysgolion, staff a llywodraethwyr sydd eisiau dysgu mwy am y broses.

Archives: Erthyglau Newyddion


Heddiw, mae Estyn wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd, gan roi trosolwg clir a manwl o addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cydnabod enghreifftiau o arfer gref, gan rybuddio bod gwendidau parhaus mewn llythrennedd, ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd, yn cyfyngu ar gynnydd gormod o ddysgwyr.

Gan ddefnyddio tystiolaeth arolygu o ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a gwasanaethau addysg ehangach yn ystod 2024–2025, mae’r adroddiad yn canfod, er bod llawer o gryfderau, nad yw’r system gyfan wedi gweithio’n ddigon cydlynol hyd yma i sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn gyson.

Mae enghreifftiau o arfer gref yn cael eu hamlygu trwy gydol yr adroddiad, gan gynnwys ysgolion yn ymwreiddio ymagweddau pwrpasol a systematig tuag at ddarllen, darparwyr yn sefydlu diwylliannau o ddysgu proffesiynol ac awdurdodau lleol yn datblygu darpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg yn effeithiol.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at heriau hirsefydlog, gan gynnwys anghysondeb mewn arweinyddiaeth a hunanwerthuso, problemau o ran recriwtio, gallu anghyfartal i fanteisio ar ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel i athrawon, a gwendidau mewn datblygu medrau fel darllen, mathemateg a chymhwysedd digidol.

Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans,

“Mae adroddiad eleni yn sicr yn amlygu rhesymau i fod yn optimistaidd. Mae diwygiadau parhaus i’r cwricwlwm, y Rhaglen Gwella Ysgolion (RhGY) newydd, sefydlu Adnodd a Dysgu, a blwyddyn gyntaf Medr yn gwbl weithredol – yn cynnig cyfleoedd i gryfhau cydlynu ar draws y system.

“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn o’r pwysau cynyddol ar ddarparwyr, gyda niferoedd cynyddol o ddysgwyr sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol a’r galw cynyddol am ddarpariaeth arbenigol. Mae’r pryderon ynghylch lefelau llythrennedd ac ansawdd yr addysgu ledled Cymru yn parhau a, heb ffocws mwy craff a chynaledig yn y meysydd hyn, bydd gormod o ddysgwyr yn parhau i fethu cyrraedd eu potensial.”

Mae adroddiad blynyddol PAEF yn edrych yn ôl ar ganfyddiadau o adroddiadau arolygu ac adroddiadau thematig dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Ar ôl cyhoeddi crynodebau sector Estyn ym mis Hydref, mae’r adroddiad llawn ym mis Chwefror yn cynnig cyd-destun manwl ac yn rhoi mewnwelediad llawer dyfnach i’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei wella ar draws deunaw sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae ysgolion, lleoliadau meithrin nas cynhelir, colegau addysg bellach, prentisiaethau, addysg gychwynnol athrawon, trefniadau trochi Cymraeg a gwaith ieuenctid ymhlith y sectorau sy’n cael eu cynnwys.

Mae’r adroddiad hefyd yn gwerthuso pa mor dda mae darparwyr yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau penodol y mae dysgwyr yn eu hwynebu yng Nghymru trwy gyfres o themâu allweddol.

Mae themâu eleni yn cynnwys:

  • Datblygu maes dysgu a phrofiad (MDaPh) y Dyniaethau
  • Cefnogi disgyblion o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Datblygu dysgwyr yn feddylwyr annibynnol
  • Effaith cynllunio ar gyfer llythrennedd ar fedrau darllen, ysgrifennu a llafaredd disgyblion mewn ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed
  • Datblygu dealltwriaeth fathemategol a chymhwyso medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm
  • Effaith arweinyddiaeth ar addysgu

Parhaodd y Prif Arolygydd, Owen Evans:

“Hoffwn ddiolch i’r holl leoliadau, darparwyr, staff a dysgwyr sy’n parhau i ddangos ymroddiad ac ymrwymiad, er gwaethaf pwysau sylweddol. Mae Estyn yn parhau i ymrwymo i ddarparu craffu annibynnol, adeiladol a theg ac rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cynnig adborth defnyddiol i sectorau addysg a hyfforddiant i gefnogi gwelliant pellach.

“Rwy’n falch o gynnwys yr arloesedd a’r arfer gref a welom ledled Cymru ac rwy’n optimistaidd y gallwn adeiladu ar y sylfeini cryf hyn; fodd bynnag, mae angen camau gweithredu pendant i fynd i’r afael â gwendidau systemig. Byddwn yn parhau i chwarae ein rhan trwy dynnu sylw at arfer orau, herio tanberfformio a chefnogi gwelliant – dros ddysgwyr, dros Gymru.”

Yn ogystal ag ystod o astudiaethau achos arfer orau, mae cyfres o bodlediadau yn cyd-fynd ag adroddiad Estyn eleni, sy’n dod â gweithwyr proffesiynol addysg a dysgwyr ynghyd i drafod rhai o’r heriau a’r arfer orau yn unol â themâu allweddol prentisiaethau dysgu yn y gwaith a datblygu dysgwyr yn feddylwyr annibynnol.

Archives: Erthyglau Newyddion


Yn ddiweddar, buom yn holi barn rhanddeiliaid fel rhan o’n hymchwil amgyffredion rhanddeiliaid annibynnol. Nod y gwaith hwn yw ein helpu i ddeall sut mae rhanddeiliaid ledled Cymru yn gweld ein gwaith, pwy ydym ni, beth rydym ni’n ei wneud a’r effaith a gawn. Un o’n huchelgeisiau yw bod pawb rydym yn rhyngweithio â nhw yn deall ac yn gwerthfawrogi ein cyfraniad at y sector ac at ddysgwyr yng Nghymru. 

Hon yw’r ail flwyddyn i ni gynnal y gwaith hwn, sy’n cynnwys arolwg ar-lein agored a chyfweliadau manylach dros y ffôn. Mae’r canfyddiadau yn ein helpu i gael dealltwriaeth fanylach o’r perthnasoedd gwaith sydd gennym â’n rhanddeiliaid – i asesu ein henw da, asesu effaith a defnyddioldeb ein hadroddiadau, ein cyhoeddiadau a’n hymgyrchoedd allweddol, a deall y dulliau y mae rhanddeiliaid yn eu ffafrio i gyfathrebu ac ymgysylltu â ni. 

 
Bydd Estyn yn defnyddio’r canfyddiadau i lywio gwaith parhaus i wella cysondeb, lleihau pryderon, a chryfhau ymgysylltu a chyfathrebu—yn enwedig gyda staff mewn rolau nad ydynt yn rhai uwch. 

Dywed Owen Evans, y Prif Arolygydd,

Mae’n galonogol fod y rhai sydd wedi cael  arolygiadau yn y blynyddoedd diwethaf yn adrodd am safbwyntiau mwy cadarnhaol, sy’n amlygu pwysigrwydd y newidiadau a gafodd eu cyflwyno o dan y fframwaith arolygu newydd a’n ffocws clir ar ddeialog a chydweithio. 

“Mae’r ymchwil hon yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr ac amserol i ni ar sut caiff Estyn ei amgyffred gan ystod eang o randdeiliaid ledled Cymru. Rwy’n hynod falch ein bod ni, eleni, wedi clywed gan lawer mwy o arweinwyr canol a staff sy’n gweithio’r tu allan i rolau uwch, y mae eu lleisiau’n hanfodol os ydyn ni am ddeall effaith lawn ein gwaith.  

“Rydyn ni’n cymryd y canfyddiadau hyn o ddifri. Maen nhw’n atgyfnerthu’r angen i ni barhau i wella cysondeb, tryloywder a chyfathrebu, a sicrhau bod ein gwaith yn cael ei ddeall, nid yn unig gan uwch arweinwyr ond gan staff ar bob lefel. Bydd lleihau pryderon diangen, cryfhau ymgysylltu ag arweinwyr canol ac athrawon, a rhannu arfer orau yn fwy effeithiol yn parhau yn flaenoriaethau allweddol i ni. Mae gwrando ar adborth fel hyn yn ganolog i’n hymrwymiad i ddysgu, gan wella a meithrin ymddiriedaeth ar draws y system addysg.” 

Byddwn yn parhau i gynnal yr ymarfer hwn yn flynyddol i’n galluogi i feincnodi a mesur cynnydd yn ein gwaith wrth i ni wrando ac ymateb. 

Darllenwch mwy yma: Canfyddiadau ymchwil rhanddeiliad 2025

Archives: Erthyglau Newyddion


Ar ôl cyhoeddi ein hadroddiad thematig diweddar, Oes Newydd: Sut mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Cefnogi Addysgu a Dysgu, sy’n archwilio sut mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn cael ei ddefnyddio ar draws addysg yng Nghymru, rydym yn ailgyhoeddi ein harolwg ar ddefnyddio AI mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau).

Cafodd yr arolwg gwreiddiol gyfradd ymateb uchel iawn a bu llawer iawn o ddiddordeb yng nghanfyddiadau a negeseuon yr adroddiad cyhoeddedig. Tynnodd hyn sylw at sut mae ymgysylltiad darparwyr addysg ag AI yn cynyddu a brys yr angen am ymateb strategol, cydlynol ar bob lefel yn y sector.

Rhannwyd yr arolwg gyntaf flwyddyn yn ôl a rhoddodd gipolwg diddorol ar sut roedd ysgolion ac UCDau yn dechrau archwilio AI, ei risgiau a’i fanteision. Trwy ailgyhoeddi’r holiadur, hoffem ddeall sut mae pethau wedi newid dros amser a datblygu darlun cliriach o sut mae ymgysylltu ag AI yng Nghymru yn esblygu, gan gynnwys newidiadau o ran hyder, arfer, cyfleoedd a phryderon.

Byddem yn croesawu ymatebion gan gydweithwyr a lenwodd yr arolwg yn flaenorol, yn ogystal â’r rhai na wnaethant ei lenwi. Caiff y rhai a lenwodd yr arolwg y tro diwethaf eu hannog i wneud hynny eto i fyfyrio ar sut mae eu defnydd a’u dealltwriaeth o AI wedi newid. Mae’r holiadur ar agor i unrhyw un sy’n gweithio mewn ysgolion ac UCDau yng Nghymru, yn ogystal â’r rhai sy’n eu cefnogi, fel swyddogion awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol addysg eraill.

Bydd y canfyddiadau’n helpu i lunio ein gwaith parhaus ar AI mewn addysg ac yn cefnogi dealltwriaeth gyffredin o sut mae AI yn cael ei ddefnyddio ar draws y system.

Archives: Erthyglau Newyddion


Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar Estyn yn Fyw am 4:00yh ar 12 Chwefror 2026 am drafodaeth ynglŷn â’r negeseuon allweddol o Adroddiad Blynyddol PAEF, fydd yn cael ei gyhoeddi ar 11 Chwefror 2026.

Clywch gan Owen Evans PAEF ac awduron yr adroddiad am,yr hyn sydd yn mynd yn dda a’r hyn sydd angen gwella mewn gwahanol sectorau addysg yng Nghymru.

Archives: Erthyglau Newyddion


Portrait of a smiling person in a red floral shirt with the Estyn logo in the upper right corner, against a white and green background.

Ymunwch â ni ar gyfer ein gweminar Estyn yn Fyw am 4:00yh ar 29 Ionawr 2026 am drafodaeth ynglŷn â ffocws Estyn ar ddarllen yn y sector cynradd.

O fis Medi 2026, bydd gan Estyn ffocws fanylach tair blynedd ar ddarllen. Bydd panel o gynrychiolwyr Estyn yn rhannu beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y daith ddarllen yn yn sector cynradd.

Archives: Erthyglau Newyddion


Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth yn dal cardiau gyda llythrennau, yn cymryd rhan mewn gweithgaredd addysgol.

Digwyddiad Dysgu mewn partneriaeth ag Estyn 

Rydym yn gwahodd athrawon mathemateg ysgolion uwchradd a phenaethiaid adrannau mathemateg i ymuno â ni ar gyfer y Sioe Deithiol Mathemateg Uwchradd, y byddwn yn ei chyflwyno mewn partneriaeth â Dysgu. 

Mae’r gyfres hon o ddigwyddiadau yn cynnig cyfle gwerthfawr i archwilio dulliau wedi’u seilio ar dystiolaeth sy’n cefnogi addysgu mathemateg o ansawdd uchel, yn cryfhau arweinyddiaeth adrannol ac yn gwella deilliannau dysgwyr. Bydd cynrychiolwyr yn cael mewnwelediadau o ymchwil ac arfer bresennol, ac yn cymryd rhan mewn sesiynau sydd wedi’u cynllunio i lywio addysgeg ystafell ddosbarth a chynllunio  strategol. 

Gall pob ysgol uwchradd gofrestru hyd at ddau gynrychiolydd, a chaiff lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Bydd y sioe deithiol yn cynnwys chwe sesiwn ar draws tri lleoliad: 

De Cymru – Pencadlys Estyn, Llys Angor, Caerdydd Dydd Llun 23 Chwefror 2026 
bydd sesiwn y bore’n cael ei chyflwyno yn Saesneg yn unig; bydd sesiwn y prynhawn yn cael ei chyflwyno’n ddwyieithog  

De Orllewin Cymru – Village Hotel, Abertawe  Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026 
bydd sesiwn y bore’n cael ei chyflwyno yn Saesneg yn unig; bydd sesiwn y prynhawn yn cael ei chyflwyno’n ddwyieithog  

Gogledd Cymru – Galeri, Caernarfon Dydd Iau 26 Chwefror 2026 
Bydd y ddwy sesiwn yn cael eu cyflwyno’n ddwyieithog