Beth a sut rydym ni'n ei arolygu Archives - Page 5 of 6 - Estyn

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn yn arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau a reoleiddir, heblaw ysgolion, sy’n gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser. Bydd yr arolygiadau hyn ar y cyd yn gwerthuso’r gofal a ddarperir ar gyfer pob plentyn hyd at 12 oed ac addysg plant tair a phedair oed nad ydynt yn derbyn addysg mewn lleoliad a gynhelir.

Diben arolygu ar y cyd yw:

  • cynnig arfarniad ansawdd i ddefnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill
    trwy adroddiadau cyhoeddus
  • hybu gwelliant mewn gofal ac addysg
  • llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru
  • profi p’un a yw’r gwasanaeth yn addas i’w gofrestru o hyd
  • rhoi sicrwydd digonol bod y gwasanaeth yn ddiogel ac yn cydymffurfio

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o ysgolion arbennig a gynhelir o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer ysgolion arbennig a gynhelir ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yr arolygiaeth yn trefnu cynnal gweithgarwch dilynol yn yr ysgol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall ysgolion arbennig a gynhelir ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned o Fedi 2019 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer partneriaethau ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, yna bydd yr arolygiaeth yn cynnal gweithgarwch dilynol yn y bartneriaeth i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall partneriaethau dysgu oedolion ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gyflawni eu hunanasesiad eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o ddarparwyr dysgu yn y gwaith o Fedi 2019 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer darparwyr ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, yna bydd yr arolygiaeth yn cynnal gweithgarwch dilynol yn y darparwr i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall darparwyr dysgu yn y gwaith ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanasesu a gwella eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r ddogfen hon yn cynnig arweiniad i leoliadau ar ffocws penodol y gwiriad cywirdeb ffeithiol. Hefyd, mae’n egluro sut bydd Estyn ac AGC yn ymateb i unrhyw faterion mae’r lleoliad yn eu codi drwy’r broses arolygu ar y cyd.

Mae Estyn ac AGC yn disgwyl i bob adroddiad arolygu fod yn ffeithiol gywir ac amlinellu canfyddiadau’r arolygiad a’r naratif, gan esbonio barnau’n glir ac yn ddiamwys.

Fel arfer, mae adroddiadau Estyn ac AGC yn cyflwyno’u canfyddiadau yn gywir. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd, gall gwall ffeithiol godi mewn adroddiad drafft neu gall y lleoliad amgyffred nad yw’r adroddiad yn cyfleu’r canfyddiadau’n glir. Rydym yn cydweithio â lleoliadau trwy gydol y broses o wirio cywirdeb ffeithiol i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r ddogfen hon yn cynnig arweiniad i ysgolion ar ffocws penodol y gwiriad cywirdeb ffeithiol. Hefyd, mae’n egluro sut bydd Estyn yn ymateb i unrhyw faterion mae’r ysgol yn eu codi drwy’r broses hon.

Mae Estyn yn disgwyl i bob adroddiad arolygu fod yn ffeithiol gywir ac amlinellu canfyddiadau’r arolygiad a’r naratif, gan esbonio barnau’n glir ac yn ddiamwys.

Fel arfer, mae adroddiadau Estyn yn cyflwyno’u canfyddiadau yn gywir. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd, gall gwall ffeithiol godi mewn adroddiad drafft neu gall yr ysgol / darparwr amgyffred nad yw’r adroddiad yn cyfleu’r canfyddiadau’n glir. Rydym yn cydweithio ag ysgolion/darparwyr trwy gydol y broses o wirio cywirdeb ffeithiol i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau dysgu yn y sector cyfiawnder (carchardai oedolion) o Orffennaf 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer dysgu yn y sector cyfiawnder (carchardai oedolion) ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yr arolygiaeth yn trefnu cynnal gweithgarwch dilynol yn y carchar i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall carchardai ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gyflawni eu hunanarfarniad eu hunain.