Beth a sut rydym ni'n ei arolygu Archives - Page 3 of 6 - Estyn

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r broses arolygu ar gyfer arolygiadau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) o fis Medi 2022. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Hefyd, gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a’r methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym ni’n ei arolygu’, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei lledaenu, bydd arolygwyr yn gwahodd y bartneriaeth i ysgrifennu astudiaeth achos y byddwn yn ei rhannu ar ein gwefan. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 14 y llawlyfr hwn.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pum maes arolygu mewn ysgolion a gynhelir (ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig) ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym yn ei arolygu a Sut rydym yn arolygu. Fodd bynnag, rydym hefyd yn llunio arweiniad atodol i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach.

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion allweddol, ystyriaethau ac adnoddau i arolygwyr. Maent yn perthyn i bob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni fyddant yn datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwys).

Nid yw’r dogfennau arweiniad atodol yn anelu at fod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwr weithio drwyddynt yn fanwl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol mewn arolygiad. Fodd bynnag, gallant fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.

Gall y dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i ennill dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn. Hefyd, gallant fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr wrth werthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth nhw.

Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol

  • Bydd arolygwyr yn arolygu â meddylfryd cadarnhaol i sicrhau mai hwn yw’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl ar gyfer y staff ym mhob darparwr
  • Bydd arolygwyr yn defnyddio dull arolygu sy’n cael ei arwain gan y dysgwyr
  • Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol dra ystyriol
  • Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd ag y bo modd
  • Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymatebol i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, a byddant yn defnyddio’r amrywiaeth gynyddol o offer a dulliau arolygu sydd ar gael
  • Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond yn adrodd ar y cryfderau allweddol a’r gwendidau yn unig ym mhob darparwr

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Prif bwrpas y stori ydy dangos i blant nad oes angen iddynt boeni pan fydd arolygwyr yn ymweld â’r lleoliad. Rydym yn dymuno rhannu’r neges ei bod hi’n ddiwrnod arferol, gyda’r arolygwyr
yn ymddiddori yn yr hyn mae’r plant yn ei wneud, a’u bod yn mwynhau sgwrsio â nhw am eu gweithgareddau amrywiol. Beth am dynnu sylw’r plant at yr hyn mae’r arolygwyr yn ei wneud o fewn y stori, er enghraifft: sgwrsio, edrych ar luniau’r plant, a rhannu llyfr. Gallwch hefyd annog y plant i chwilio am y bochdew sy’n cuddio ar bob tudalen. Yn ogystal â hyn, mae cyfleoedd gwych i blant
uniaethu â’r digwyddiadau yn y stori ac mae’n sbardun effeithiol i drafodaethau pellach o fewn eich grwpiau

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn cynorthwyo arolygwyr i werthuso’r deilliannau a’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’n cynnwys gwybodaeth fuddiol i gynorthwyo ag arolygu deilliannau a darpariaeth ar gyfer dysgwyr ag ADY.

Dylai arolygwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn ochr yn ochr â’r llawlyfr Arweiniad Arolygu ar y Cyd ar gyfer arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau a reoleiddir nad ydynt yn ysgolion sy’n gymwys i gael cyllid ar gyfer addysg ran-amser.

Hefyd, dylai arolygwyr ymgyfarwyddo â’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf, ynghyd â’r Cod hwn a rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf, yn darparu’r system statudol ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) plant a phobl ifanc. Mae’n gosod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plant wrth wraidd y broses i gynllunio’r cymorth sydd ei angen i’w galluogi i ddatblygu’n effeithiol a chyflawni eu llawn botensial.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pum maes arolygu mewn colegau addysg bellach. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’, sy’n amlinellu ein hymagwedd at arolygu yn sgil pandemig COVID-19.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer colegau i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu hefyd. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r pum maes arolygu wedi’u hamlinellu isod.

Meysydd arolygu

MA1 – Dysgu

  • 1.1 Safonau a chynnydd mewn dysgu a medrau

MA2 – Lles ac agweddau at ddysgu

  • 2.1 Lles
  • 2.2 Agweddau at ddysgu

MA3 – Addysgu a phrofiadau dysgu

  • 3.1 Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm
  • 3.2 Ansawdd yr addysgu a’r asesu

MA4 – Gofal, cymorth ac arweiniad

  • 4.1 Datblygiad personol
  • 4.2 Diogelu

MA5 – Arweinyddiaeth a rheolaeth

  • 5.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
  • 5.2 Prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
  • 5.3 Dysgu proffesiynol

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu colegau arbenigol annibynnol yn 2022. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol ar gyfer colegau i gefnogi eu dealltwriaeth o’r meddylfryd arolygu a methodolegau hefyd.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â’r arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ mewn colegau arbenigol annibynnol, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall colegau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanasesu a gwella eu hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn gwahodd y coleg i ysgrifennu astudiaeth achos y byddwn yn ei chyhoeddi ar ein gwefan. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar ein gwefan.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pum maes mewn Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) o fis Medi 2022. Mae’n esbonio ‘beth rydym ni’n ei arolygu’.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Hefyd, gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r fframwaith arolygu. Ceir llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘sut rydym ni’n arolygu’.

Mae’r pum maes arolygu wedi eu hamlinellu isod.

Meysydd Arolygu
MA1 Dysgu

  • 1.1 Safonau a chynnydd yn gyffredinol

MA2 Lles ac agweddau at ddysgu

  • 2.1 Lles
  • 2.2 Agweddau at ddysgu

MA3 Addysgu a phrofiadau dysgu

  • 3.1 Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm
  • 3.2 Ansawdd addysgu a mentora

MA4 Gofal, cymorth ac arweiniad

  • 4.1 Datblygiad personol a phroffesiynol, a darparu cymorth dysgu
  • 4.2 Diogelu

MA5 Arweinyddiaeth a rheolaeth

  • 5.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
  • 5.2 Prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
  • 5.3 Dysgu proffesiynol