Beth a sut rydym ni'n ei arolygu Archives - Page 2 of 6 - Estyn

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagwedd at arolygu gwaith ieuenctid. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer gwaith ieuenctid, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall ysgolion ac UCDau ddefnyddio’r
arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a helpu llywio’u prosesau hunanasesu a gwella’u hunain.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer a allai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr eraill, bydd arolygwyr yn gwahodd y darparwr i ysgrifennu astudiaeth achos y byddwn yn ei chyhoeddi ar ein gwefan. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd y ddarpariaeth a hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagweddau at arolygu darparwyr Cymraeg i Oedolion o 2024. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o drefniadau arolygu, y meddylfryd arolygu a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr ag arweiniad ‘Beth rydym yn ei arolygu’ ar gyfer darparwyr Cymraeg i Oedolion, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu ar gyfer arolygiadau llawn. Gall darparwyr ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanasesu a gwella eu hunain. Ar gyfer arolygiadau â thema, byddwn yn ysgrifennu at ddarparwyr bob blwyddyn yn amlinellu’r ffocws ar gyfer y flwyddyn, a’n hymagwedd.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys sbotolau ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad arolygu. Byddwn yn arddangos ystod o’r sbotoleuadau hyn, ac mewn rhai achosion, astudiaethau achos manylach ar ein gwefan. Dylai argymhellion roi syniad clir a phenodol i’r darparwr o’r meysydd i’w gwella y bydd angen iddo fynd i’r afael â nhw. Bydd y cynnydd yn erbyn argymhellion yn cael ei fonitro yn yr arolygiad dilynol o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Gallai arolygwyr hefyd ystyried cynnydd yn erbyn argymhellion o fewn gwerthusiadau cyfnodol o waith darparwyr.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn arolygiad llawn o ddarparwyr Cymraeg i Oedolion (Dysgu Cymraeg). Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, yn cynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd i ddarparwyr gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod:
MA1: Addysgu a dysgu
MA2: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
MA3: Arwain a gwella

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r pum maes arolygu mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu, hefyd. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u hamlinellu isod.

Meysydd arolygu
1 – Sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?
1.1 Addysgiadol
1.2 Mynegiannol
1.3 Cyfranogol
1.4 Cynhwysol
1.5 Grymusol

2 – Beth gall pobl ifanc ei ddisgwyl gan ddarpariaeth gwaith ieuenctid
2.1 Ansawdd gwaith ieuenctid
2.2 Y Cynnig Cyffredinol (darpariaeth gwaith ieuenctid ar gyfer yr holl bobl ifanc)
2.3 Cymorth ar gyfer pobl ifanc fregus

3 – Arwain a gwella
5.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
5.2 Prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
5.3 Dysgu proffesiynol
5.4 Diogelu

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein hymagweddau at arolygu trefniadau trochi yn y Gymraeg mewn awdurdodau lleol. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall awdurdodau lleol a darpariaethau trochi yn y Gymraeg ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys ciplun ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad arolygu. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd y ddarpariaeth a hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 13 y llawlyfr hwn.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn nodi’r hyn y mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu ar gyfer trefniadau trochi yn y Gymraeg mewn awdurdodau lleol. Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u nodi isod:
MA1: Addysgu a dysgu
MA2: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
MA3: Arwain a gwella

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn nodi’r hyn mae angen i arolygwyr ei ystyried wrth werthuso’r tri maes arolygu mewn ysgolion a gynhelir (ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig) ac unedau cyfeirio disgyblion (UCD). Mae’n esbonio ‘Beth rydym yn ei arolygu’. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer darparwyr i gefnogi eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu. Mae llawlyfr ar wahân sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu, sef ‘Sut rydym yn arolygu’.

Mae’r tri maes arolygu wedi’u nodi isod:
MA1: Addysgu a dysgu
MA2: Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
MA3: Arwain a gwella

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein dulliau o arolygu ysgolion a gynhelir (ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig) ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’ sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall ysgolion ac UCDau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn cynnwys ciplun ar yr arfer hon fel rhan o’r adroddiad arolygu. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant, neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 18 y llawlyfr hwn.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Nod yr arweiniad atodol hwn yw cynorthwyo arolygwyr yn ôl yr angen i werthuso trefniadau diogelu darparwyr wrth gynnal arolygiadau.


Ym mhob agwedd ar ein gwaith, rhaid rhoi anghenion, buddiannau a lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus uwchlaw anghenion a buddiannau pawb arall. Felly, rhaid i’n Polisi Diogelu a’r arweiniad ynddo gael blaenoriaeth dros yr holl gyngor a pholisïau eraill. Trwy’r arweiniad hwn a thrwy hyfforddiant priodol, byddwn yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ein staff o achosion posibl o gam-drin, esgeulustra ac arfer broffesiynol anniogel mewn lleoliadau rydym yn eu harolygu, ac mewn lleoliadau eraill rydym yn ymweld â nhw.


Dylid defnyddio’r arweiniad atodol ar gyfer cyfeirio ato yn ystod arolygiad ochr yn ochr â’n Polisi a Gweithdrefnau ar gyfer Diogelu. Nid yw’r arweiniad hwn yn cwmpasu’r modd y dylai arolygwyr ddelio â honiadau o ran diogelu a ddaeth i law yn ystod arolygiad. Rhaid i arolygwyr fod yn gyfarwydd â’n Polisi a Gweithdrefnau ar gyfer Diogelu (gweler uchod), sy’n cwmpasu plant, pobl ifanc ac oedolion bregus. Dylai pob arolygydd fod yn ymwybodol o beth i’w wneud os
daw honiadau i law yn gysylltiedig â diogelu, ac amlinellir y camau angenrheidiol yn y ddogfen hon.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu ein dulliau o arolygu ysgolion a gynhelir (ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig), ysgolion annibynnol ac unedau cyfeirio disgyblion. Mae’n esbonio sut rydym yn arolygu. Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a holl aelodau eraill y tîm arolygu. Gallai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd i ategu eu dealltwriaeth o’r meddylfryd a methodolegau arolygu.

Dylid darllen yr arweiniad ochr yn ochr â ‘Beth rydym yn ei arolygu’, sy’n amlinellu’r fframwaith arolygu. Gall ysgolion ac UCDau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau’n gweithio.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi arfer sy’n werth ei rhannu, bydd arolygwyr yn gwahodd y darparwr i ysgrifennu astudiaeth achos y byddwn yn ei chyhoeddi ar ein gwefan. Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig yn ymwneud â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant, neu arweinyddiaeth a rheolaeth, byddwn yn trefnu gweithgarwch dilynol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar dudalen 18 y llawlyfr hwn.