Holiadur cyn arolygiad - staff (Cymraeg i Oedolion) - Estyn

Holiadur cyn arolygiad – staff (Cymraeg i Oedolion)



Yn yr wythnosau nesaf, bydd Estyn yn arolygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  

Cyn i ni ei wneud, hoffem wybod eich barn.  Byddwch cystal â threulio ychydig funudau’n darllen pob datganiad ar y dudalen nesaf a dewis yr ateb sy’n adlewyrchu eich barn chi orau.   

Bydd eich atebion yn cael eu defnyddio gan arolygwyr Estyn i ystyried safbwyntiau tiwtoriaid a staff am y sector a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Ni fydd eich ymateb unigol yn cael ei rannu y tu allan i Estyn neu gyda’ch darparwr neu’r Ganolfan Genedlaethol. Yr unig bryd y byddwn yn rhannu ateb unigol yw be bai’n codi pryderon ynghylch diogelu. 

Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel ar ein cronfeydd data yn unol â’n polisi cadw data.