Arfer effeithiol Archives - Page 66 of 70 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Crownbridge yw’r unig ysgol arbennig yn Nhorfaen, ac mae’n cynnwys safle lloeren yn Ysgol Gynradd Penygarn (Pont-y-pŵl). Mae ychydig dros ddau o bob tri disgybl o oedran ysgol statudol. Mae anghenion disgyblion yn cynnwys anhawster dysgu difrifol, anhawster dysgu dwys a lluosog, anhwylder ar y sbectrwm awtistig ynghyd ag amrywiol anhwylderau genetig, anawsterau synhwyraidd ac ymddygiadau heriol.

Yn Crownbridge, daethom yn fwyfwy ymwybodol nad oedd disgyblion ag anghenion dysgu cymhleth yn gallu chwarae rhan lawn mewn adolygu eu cynnydd. Y rheswm am hyn oedd bod y broses adolygu, fel digwyddiad blynyddol, yn cofnodi ‘ciplun’ yn unig o’u cynnydd.

Sylweddolom nad oedd yr adolygiadau’n dal safbwynt y disgybl, ei rieni neu ei ofalwyr, yn ystyrlon, nac yn dal safbwyntiau’r partneriaid strategol allweddol sy’n gweithio’n agos gyda’r disgyblion yn yr ysgol. Felly, gofynnom i ddau gynorthwyydd addysgu lefel uwch wneud ymchwil i botensial amrywiol fodelau. Aethom ati i fabwysiadu Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar Unigolion, gan mai dyma oedd y model mwyaf priodol i’n hanghenion ni. Darparom hyfforddiant ysgol gyfan ar sut byddem ni’n defnyddio’r model hwn.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Roedd ein gwelliannau cychwynnol i’r broses adolygu yn llwyddiannus. Fodd bynnag, wrth i ni ennill mwy o brofiad o’r fethodoleg hon, sylweddolom y gallem wneud defnydd gwell fyth o gynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion petai’n dod yn elfen gynhenid o’n holl waith yn yr ysgol. Gyda hyn mewn golwg, datblygom gynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion fel llinyn canolog yn yr holl weithgareddau cynllunio ac adolygu yn yr ysgol, fel bod llwybrau disgyblion unigol wedi’u cynllunio gan ddefnyddio’r fframwaith hwn.

Gydag amser, datblygodd yr un fethodoleg yn sylfaen sy’n llywio adolygiadau proffesiynol staff.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae ein dull ysgol gyfan o gynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion wedi newid y ddarpariaeth yn Crownbridge yn sylfaenol. Mae hyn oherwydd ein bod ni nawr yn dechrau’r holl waith o gynllunio darpariaeth unigol trwy gael gwybodaeth gan ddisgyblion, eu rhieni a’r amrywiaeth eang o bartneriaid sy’n ymwneud â nhw.

Rydym yn gwrando ar y bobl eraill sy’n adnabod ein disgyblion ac mae hyn yn ein helpu i ddeall eu diddordebau’n well, a’r hyn sy’n eu symbylu. Rydym wedi sylweddoli mai’r darlun cyfoethog, sy’n datblygu’n gyson, o’r hyn sy’n ‘bwysig i’ ac yn ‘bwysig ar gyfer’ y disgybl, a ‘beth sy’n mgweithio’ a ‘beth sydd ddim yn gweithio’, yw’r sylfaen fwyaf defnyddiol ar gyfer cynllunio llwybrau a rhaglenni unigol.

Erbyn hyn, pan fyddwn ni’n cynllunio ar gyfer anghenion disgyblion, mae gennym wybodaeth lawer ehangach amdanynt. Mae ein gwybodaeth well yn llywio cynllunio ac ymyriadau byrdymor a thymor canol, gan gynnwys cynllunio amserlenni. Bellach, mae gennym wybodaeth o ansawdd da am arddulliau a phrofiadau dysgu disgyblion unigol ac rydym yn ei hystyried er mwyn cynnig darpariaeth gwricwlaidd gytbwys. Mae’r dull ansoddol hwn, ar y cyd â defnydd effeithiol o wybodaeth feintiol am fedrau llythrennedd a rhifedd disgyblion, yn golygu y bydd bron pob disgybl yn gwneud cynnydd rhagorol o ran cyrraedd targedau cytûn.

Rydym yn darparu tystiolaeth o’r gwelliant hwn ym mherfformiad disgyblion trwy fonitro ac arfarnu’n drylwyr ddata ar gyrhaeddiad disgyblion mewn ‘medrau allweddol’. Rydym hefyd yn cynnal arolygon i gael barn rhieni a phartneriaid eraill sy’n gweithio gyda’n disgyblion.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae gan bob disgybl yn yr ysgol ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae eu hanghenion yn cynnwys anawsterau dysgu difrifol a chymedrol, anhwylder y sbectrwm awtistig, anawsterau ymddygiad emosiynol a chymdeithasol, yn ogystal ag anhwylderau genetig amrywiol, anawsterau synhwyraidd ac ymddygiadau heriol a chymhleth.

Mae gan yr ysgol bum adran, sef: iau, canol, uwch, cymorth ymddygiad / adran awtistiaeth a’r adran byw yn annibynnol.

Mae Ysgol St Christopher yn rhoi pwyslais penodol ar ymestyn y cyfleoedd i ddisgyblion 14-19 oed ennill cymwysterau academaidd a galwedigaethol priodol. O ganlyniad, mae diwylliant wedi datblygu lle mae disgyblion yn disgwyl sefyll arholiadau ac ennill achrediad am eu dysgu.

Mae’r ysgol yn darparu ystod eithriadol o gyrsiau galwedigaethol achrededig i helpu disgyblion i gyflawni eu llwyr botensial a’u paratoi’n effeithiol i symud ymlaen i’r cam nesaf ar eu llwybr dysgu. Mae nifer o gyfleusterau menter, gan gynnwys Canolfan Eco’r Mileniwm, salonau harddwch, siopau manwerthu, man glanhau ceir, canolfan magu anifeiliaid, caffis a busnes torri coed.

Mae gan Ysgol St Christopher bartneriaethau rhagorol gydag ysgolion prif ffrwd, colegau addysg bellach a phartneriaid busnes lleol. Mae disgyblion o ysgolion uwchradd prif ffrwd yn Wrecsam yn mynychu’r ddarpariaeth alwedigaethol hefyd.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi datblygu’r rhaglen opsiynau 14-19 oed. Mae hyn yn galluogi disgyblion i adeiladu ar eu cyflawniadau dros eu cyfnod yn yr ysgol. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyrsiau lefel cyn mynediad, lefel mynediad TGAU lefel 1 a lefel 2 gan ystod o gyrff dyfarnu.

Mae asesiadau trylwyr disgyblion unigol yn nodi cryfderau a meysydd angen disgyblion yn gywir. Caiff hyn ei ategu gan gymorth effeithiol gan staff i helpu disgyblion i ddewis opsiynau sy’n arwain at gymwysterau sydd eu hangen ar gyfer y cam nesaf yn eu llwybr dysgu. O’r herwydd, mae disgyblion yn symud ymlaen i gyrsiau ar lefel uwch neu’n cael profiadau ychwanegol ac yn ennill cymwysterau ychwanegol ar yr un lefel.

Mae dadansoddi data cymwysterau yn drylwyr ar gyfer pob plentyn yn llywio cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer y dyfodol yn yr ysgol. Mae rheoli perfformiad staff yn cynnwys targedau staff unigol sy’n gysylltiedig â gwelliannau penodol yng nghyflawniadau disgyblion. O ganlyniad, mae’r ysgol yn hynod effeithiol o ran darparu profiadau dysgu sy’n bodloni anghenion disgyblion.

Fel rhan o’r bartneriaeth dysgu 14-19 gyda phob ysgol uwchradd yn Wrecsam, mae’r ysgol wedi bod yn allweddol mewn datblygu rhaglen cysylltiadau â cholegau ‘Cyfoethogi’ (‘Enrichment’). Mae’r ysgol, fel cydlynydd y rhaglen hon, yn galluogi bron i dri chant o ddisgyblion, gan gynnwys cant o Ysgol St Christopher, fynychu colegau lleol. Mae gan bob disgybl gynllun partneriaeth dysgu blynyddol.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Dros y tair blynedd diwethaf, mae bron pob disgybl wedi symud ymlaen i gyrsiau coleg, darpariaeth ddydd arbenigol neu swydd. Mewn perthynas â’u hanghenion canfyddadwy, mae’r disgyblion hyn wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran ennill ystod eang o gymwysterau cydnabyddedig erbyn iddynt adael yr ysgol.

Mae’r rhaglen opsiynau galwedigaethol wedi ysbrydoli a chymell disgyblion i barhau i ddysgu ar ôl Blwyddyn 11.

O’r herwydd, mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth gliriach o fyd gwaith a phrofiad o ystod eang o leoliadau. Mae disgyblion sy’n llai abl yn cael sesiynau ‘rhagflas’ gwerthfawr yn narpariaethau menter amrywiol yr ysgol.

Mae canran disgyblion Blwyddyn 11 sy’n ennill cymwysterau ac achrediad am eu dysgu, sef 98%, yn uchel iawn. Mae bron pob un o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn dilyn cymwysterau lefel mynediad gan gynnwys mathemateg, gwyddoniaeth, Saesneg a TGCh. Pan fydd yn briodol, mae disgyblion yn trosglwyddo i gyrsiau TGAU.

Mae bron pob un o’r disgyblion, sef 99%, yn gadael Blwyddyn 14 Ysgol St Christopher gyda chymwysterau neu achrediad am eu dysgu.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Agorodd Trinity Fields School and Resource Centre ym 1998. Mae gan ddisgyblion amrywiaeth o anawsterau dysgu, gan gynnwys anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, anawsterau dwys a lluosog, anghenion meddygol sylweddol a syndromau perthynol, namau ar y synhwyrau, anhwylderau cyfathrebu, problemau emosiynol neu anawsterau corfforol.

Mae’r ganolfan adnoddau yn darparu gwasanaethau yn yr ysgol, y gymuned ac yn y cartref i blant, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Yr amcanion allweddol yw:
• datblygu gweithgareddau hamdden;
• hybu cynhwysiant;
• gwella’r trefniadau ar gyfer pontio o’r ysgol i wasanaethau oedolion; a
• hwyluso cydweithio da rhwng asiantaethau sy’n darparu ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau, a’u teuluoedd.

Galluogodd cyllid o £8.8 miliwn gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i wasanaethau canolfannau adnoddau gael eu datblygu ymhellach ar draws naw awdurdod lleol yn ne Cymru. Nodweddion allweddol y model cyflwyno Cyfleoedd Gwirioneddol yw cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chymorth mentor cymheiriaid. Mae pum llwybr rhyngddibynnol yn y pontio i oedolaeth wrth graidd y model. Y llwybrau hyn yw dysgu gydol oes, perthnasoedd, cyfleoedd hamdden, cyflogaeth a byw’n annibynnol.

Galluogodd sefydlu dogfennau, gweithdrefnau a strwythurau staffio unedig i wasanaeth cydlynol gael ei gyflwyno ar draws y naw awdurdod lleol. Datblygwyd cyrsiau achrededig Agored Cymru i fodloni anghenion pobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr, yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi i staff. Mae gweithlyfrau cwrs a deunyddiau cysylltiedig, y cawsant eu treialu a’u hadolygu yng Nghaerffili, yn sicrhau eu bod yn effeithiol cyn eu dosbarthu i awdurdodau eraill.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae ‘Cyfleoedd Gwirioneddol’ yn mynd i’r afael â’r bwlch mewn cymorth i bobl ifanc 14-19 oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog, ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig sy’n pontio rhwng addysgu amser llawn a chyflogaeth. Mae tîm amlddisgyblaeth o staff ym mhob awdurdod yn gweithio gydag asiantaethau eraill, rhieni/gofalwyr a phobl ifanc i gynnig pecyn personol o gynllunio a chymorth ar gyfer pontio. Y nod yw dileu’r rhwystrau sy’n atal y bobl ifanc hyn rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd trwy wella’u medrau a chodi eu dyheadau. Trwy broses gyfeirio ac asesu integredig, gall pobl ifanc ddewis manteisio ar un neu sawl rhan o’r gwasanaeth.

Gan weithio gydag ysgolion, mae ‘Cyfleoedd Gwirioneddol’ yn adeiladu ar ddysgu disgyblion trwy weithgareddau ymarferol sy’n eu cynorthwyo i drosglwyddo medrau i’r cartref ac i’r gymuned leol.

Trwy gyrsiau hyfforddi achrededig a addaswyd i anghenion penodol disgyblion, nod y fenter yw helpu pobl ifanc i ddod mor annibynnol â phosibl.

Mae ystod eang o gyrsiau ar gael, gan gynnwys hyfforddiant teithio, coginio, rheoli arian, gofal/hylendid personol, cadw’n ddiogel, materion yn ymwneud â bwlio, pendantrwydd, rheoli ymddygiad/emosiynau, magu hyder, ffrindiau, hamdden yn y gymuned, cymorth mentor cymheiriaid, a deall rhyw a pherthnasoedd.

Mae’r adran nesaf yn rhoi manylion pellach ynghylch rhai o’r cyrsiau sydd ar gael:

Deall Rhyw a Pherthnasoedd
Galluogodd cydweithio effeithiol gyda phartneriaid o’r bwrdd iechyd lleol a’r gwasanaeth ieuenctid i’r cwrs hwn gael ei ddatblygu a’i gyflwyno. Mae gweithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr yn arbennig o bwysig cyn cyflwyno’r cwrs hwn.

Paratoi ar gyfer Gwaith Achrededig
Yn hanesyddol, canran isel iawn o bobl ifanc sydd ag anabledd dysgu neu anhwylder ar y sbectrwm awtistig sy’n mynd ymlaen i gael gwaith â thâl. Mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn cefnogi cynnwys pobl ifanc ag anawsterau dysgu ag anableddau drwy newid amgyffredion ac arferion cyflogwyr. Mae’n cynorthwyo pobl ifanc, rhieni a gofalwyr i oresgyn eu rhwystrau rhag gweithio a’u pryderon ynghylch gweithio. Mae’r rhaglen yn cynnwys y cyfle i gael profiad o wahanol amgylcheddau gwaith ac mae’n ymdrechu i sicrhau gwaith rhan-amser, â thâl.

Mentora Cymheiriaid
Mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd a darpariaeth ieuenctid, mae gwirfoddolwyr ifanc yn cael hyfforddiant i gynnig cymorth mentor cymheiriaid i bobl ifanc mewn lleoliadau addysg, cymdeithasol a gwaith.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

O ganlyniad i’r cydweithio agos yn sgil y ‘Rhaglen Cyfleoedd Gwirioneddol’, bu gwelliant mewn cynllunio a chydlynu ar gyfer y bobl ifanc a’u teuluoedd. Mae gweithio rhagorol mewn partneriaeth yn yr awdurdod ac ar draws awdurdodau, a rhwng cyflogwyr ac asiantaethau gwirfoddol a statudol, cenedlaethol a lleol. Yn ogystal â gweithio effeithiol ar y cyd, caiff digwyddiadau hyfforddi a seminarau rhwydwaith eu trefnu lle gall staff o asiantaethau statudol a gwirfoddol o bob awdurdod ddod ynghyd i rannu profiadau, dysgu dulliau newydd o weithio a hybu arfer dda.

Cyhoeddir e-gylchlythyr misol sy’n cynnwys straeon newyddion da ynghylch cyflawniadau cyfranogwyr ynghyd â materion y dydd a allai fod o ddiddordeb i bobl ifanc, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Hefyd, mae gwefan, Facebook a Twitter.

Mae’r gwaith hwn wedi llenwi bwlch a nodwyd mewn darpariaeth yn y naw awdurdod lle mae’n mynd rhagddo. Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Gwirioneddol wedi helpu pobl ifanc ag anableddau i ddatblygu eu hannibyniaeth, medrau bywyd a dysgu. O ganlyniad, maent wedi cynyddu eu cylchoedd cyfeillion, eu lles ac wedi ehangu cyfleoedd i fynd i’r coleg, gwneud gwaith gwirfoddol neu gael gwaith â thâl.

Mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn cynnal cofnodion a thystiolaeth gynhwysfawr am effaith a chyflawniadau pobl ifanc, gan gynnwys ystadegau ac astudiaethau achos. Er enghraifft, ar gyfer y cyfnod o Fedi 2010 i Dachwedd 2012:

• Nifer y bobl ifanc anabl a gafodd dystysgrif cymhwyster – 414
(Mae llawer mwy yn mynd drwy’r broses wirio ar hyn o bryd)
• Nifer y bobl ifanc anabl a fynychodd y cwrs achrededig ar Ryw a Pherthnasoedd – 151
• Nifer yr unedau achrededig a gyflwynwyd – 2036
(Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn cyflawni unedau lluosog)
• Nifer y bobl ifanc anabl sy’n cael gwaith â thâl – 23
• Nifer y bobl ifanc anabl sy’n cymryd rhan mewn gwaith pontio – 708
• Nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn cynhwysiant ieuenctid – 365
• Nifer y bobl ifanc a gymerodd ran yn y cwrs achrededig ar fentora cymheiriaid – 794

Yn ogystal â chomisiynu ei ymchwil a’i werthusiad allanol ei hun, mae’r prosiect yn cymryd rhan mewn tair astudiaeth genedlaethol, un ar weithio allweddol ynghylch pontio, un arall ar ddarpariaeth ôl-16 i bobl ifanc ag anableddau dysgu dwys a lluosog a’r trydydd ar ddeilliannau cyflogaeth i bobl ifanc ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Ysgol arbennig annibynnol yw Ysgol Headlands, sydd wedi’i lleoli mewn ardal breswyl ym Mhenarth ym Mro Morgannwg. Mae’n rhan o’r elusen ‘Gweithredu dros Blant’. Mae’r ysgol yn darparu lleoliadau dydd a phreswyl ar gyfer disgyblion y mae eu hymddygiad yn heriol iawn a disgyblion sydd ag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol (DECY). Adeg yr arolygiad diwethaf yn Hydref 2012, roedd 48 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol, rhwng 8 ac 19 oed, ac roedd 42 o’r rhain yn fechgyn a 6 ohonynt yn ferched. Roedd pum disgybl yng nghyfnod allweddol 2, 19 yng nghyfnod allweddol 3, 10 yng nghyfnod allweddol 4 ac 14 yn y sector ôl-16.

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn anfon disgyblion i’r ysgol. Mae gan ddeuddeg disgybl leoedd preswyl tymhorol. Mae gan bedwar deg saith o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, ac mae 15 o ddisgyblion yn cael gofal gan eu hawdurdod lleoli. Mae gan bob disgybl anghenion dysgu ychwanegol, sy’n cynnwys anhwylderau gorfywiogrwydd a diffyg canolbwyntio (ADHD) ac anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ASD).

Saesneg yw prif iaith bron pob un o’r disgyblion. Mae un disgybl yn siarad Cymraeg gartref, a dyma yw ei famiaith.

Nod yr ysgol yw darparu amgylchedd meithringar a chwricwlwm eang a chytbwys i fodloni anghenion dysgu ac ymddygiadol unigol disgyblion.

Amcan cyffredinol yr ysgol yw helpu disgyblion i gyflawni eu potensial gorau a’u paratoi yn effeithiol i symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu bywydau.

Mae disgyblion yn mynd i Ysgol Headlands ar ôl methu fel dysgwyr yn y gorffennol. Oherwydd y medrau cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen i ymdopi â phwysau a gofynion cyrsiau arholi, mae disgyblion yn y sector hwn yn gyffredinol yn ei chael yn anodd cwblhau ac ennill cymwysterau yn unol â’u potensial. Mae staff Headlands yn credu y gall y disgyblion gyflawni’n dda os cânt ddigon o gymorth, a bod ganddynt hawl i wneud hynny. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi rhoi pwyslais penodol ar ymestyn y cyfleoedd i ddisgyblion ennill cymwysterau priodol. O ganlyniad, mae’r ysgol wedi creu diwylliant lle mae disgyblion yn disgwyl cwblhau cyrsiau arholi ac ennill dyfarniadau. Trwy greu sylfaen ddiogel a chadarn sy’n gwerthfawrogi cyflawniad academaidd, daw disgyblion Headlands yn ddysgwyr mwy effeithiol. Mae disgyblion yn gwybod sut i lwyddo erbyn hyn, yn hytrach na sut i fethu, ac maent yn disgwyl llwyddo.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Er mwyn iddynt fod yn oedolion llwyddiannus a byw bywydau cyflawn, credwn y bydd angen i ddisgyblion allu manteisio ar addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth pan fyddant yn gadael yr ysgol. Yn y byd heddiw, bydd hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt gystadlu am leoedd ar gyrsiau a swyddi yn erbyn pobl eraill sydd wedi bod i ysgolion sy’n cynnig cyfleoedd eang i ennill cymwysterau. Mae’n bwysig bod disgyblion Headlands o leiaf yn cael cyfleoedd tebyg neu well i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gael y swyddi, yr hyfforddiant a’r addysg bellach y maent yn ymgeisio amdanynt. I gefnogi’r weledigaeth hon, mae’r ysgol wedi dechrau ystod o strategaethau.

  • Meithrin y medrau cymdeithasol ac emosiynol sydd eu hangen ar ddysgwyr yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r dull hwn yn helpu disgyblion i ymdopi â’r pwysau a’r gofynion sy’n gysylltiedig ag ennill cymwysterau.
  • Darparu ystod gynhwysfawr o gyfleoedd a chymwysterau ar safle’r ysgol. Mae’r ysgol yn disgwyl i bob athro gyflwyno cyrsiau arholi allanol, ac yn rhoi’r cymorth angenrheidiol i staff i gyflawni’r nod hwn.
  • Efydlu partneriaethau cryf gydag ysgolion, colegau a darparwyr addysg lleol i ymestyn ystod y cymwysterau sydd ar gael. Trwy’r partneriaethau hyn, mae disgyblion yn ennill cymwysterau Safon Uwch, ar raglenni dysgu yn y gwaith a chymwysterau galwedigaethol.
  • Creu diwylliant cadarnhaol o amgylch dysgu, gyda phwyslais cryf ar ddathlu llwyddiant mewn arholiadau. Mae canlyniadau arholiadau cadarnhaol llawer o ddisgyblion yn eu helpu i gymell ac ysbrydoli disgyblion eraill i gyflawni llwyddiant tebyg. Mae’r dull hwn hefyd yn atgyfnerthu disgwyliadau athrawon i ddisgyblion weithio’n galed a dangos ymrwymiad i’w hastudiaethau.
  • Cael disgyblion i gymryd rhan mewn trafodaethau am eu dyheadau yn y dyfodol. Mae’r trafodaethau hyn a chymorth ac anogaeth athrawon yn helpu i gymell disgyblion i ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gwblhau’r cam nesaf mewn dysgu neu waith.
  • Parhau i addasu a datblygu’r cyrsiau arholi sydd ar gael i ddisgyblion. Mae’r ysgol yn rhoi i staff y cymorth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu cyrsiau newydd a rhoi amser i sefydlu partneriaethau newydd gyda darparwyr allanol. Mae hyn yn sicrhau bod ein fframwaith cymwysterau yn aros yn hyblyg ac y gellir ei addasu i fodloni llwybrau dysgu pob carfan benodol o ddisgyblion.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae gan ddisgyblion gyfle erbyn hyn i adael Ysgol Headlands gydag ystod eang o gymwysterau sy’n berthnasol i’w dyheadau yn y dyfodol. O ganlyniad, maent yn datblygu’r medrau i ddysgu yn annibynnol, maent wedi eu paratoi’n well i symud ymlaen i addysg bellach a hyfforddiant, ac fe gânt y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo mewn bywyd.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae disgyblion wedi ennill ystod eang o gymwysterau a dyfarniadau gan gynnwys lefel UG, TGAU, lefel mynediad, Rhwydwaith Coleg Agored, BTEC, Gwobr Dug Caeredin, Prosiectau CBAC a thystysgrifau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Chwe blynedd yn ôl, dim ond tri chwrs TGAU a chwe chwrs lefel mynediad yr oedd disgyblion yn gallu eu hastudio. Yn 2012, llwyddodd disgyblion yn Ysgol Headlands i ennill:

  • cyfanswm o 61 cymhwyster TGAU mewn 10 maes pwnc, gyda thua thraean o’r rhain yn raddau B-D;
  • pedair Gwobr Efydd Dug Caeredin;
  • pedwar cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru ar lefel 2 mewn cymhwyso rhif;
  • deg cymhwyster prosiect CBAC (2 ar radd estynedig C ac E, un ar radd uwch B, a saith ar raddau sylfaen A a B);
  • dau gymhwyster BTEC mewn gwallt a harddwch ar lefel 1, a thystysgrif estynedig BTEC mewn adeiladu ar lefel 2; a
  • CGC mewn perfformio gweithrediadau peirianneg ar lefel 1.

Mae’r deilliannau hyn yn dangos yn glir y modd y mae gwelliannau mewn diwylliant dysgu yn Ysgol Headlands wedi bod o fudd sylweddol i ddisgyblion.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Portfield yn darparu addysg i ddisgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig rhwng 3 ac 19 oed. Mae anghenion y disgyblion yn cynnwys anhawster dysgu difrifol (SLD), anhawster dysgu difrifol a lluosog (PMLD), anhwylder yn y sbectrwm awtistig (ASD), yn ogystal ag anhwylderau genetig amrywiol, anawsterau synhwyraidd ac ymddygiadau heriol.

Mae dwy ganolfan gysylltiol gan Ysgol Portfield. Mae un o’r canolfannau cysylltiol hyn yn Ysgol Gyfun Tasker Milward yn Hwlffordd. Mae’r ganolfan arall yn Y Porth yn Ysgol Preseli, Crymych, yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Mae’r gwaith partneriaeth, sy’n cael ei reoli’n arbennig o dda gyda dwy ysgol uwchradd brif ffrwd a choleg addysg bellach lleol, yn galluogi mwyafrif y disgyblion yng nghyfnod allweddol 3, cyfnod allweddol 4 a’r sector ôl-6 i ddysgu am o leiaf ran o’r wythnos gyda’u cyfoedion yn y brif ffrwd.

Mae adeilad ysgol uchaf Ysgol Portfield ar yr un campws ag Ysgol Tasker Milward, sef ysgol gyfun fawr sy’n gwasanaethu ardal Hwlffordd. I gychwyn, roedd nifer fach o ddisgyblion yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu cynhwysol yn Ysgol Tasker Milward. O ganlyniad i lwyddiant y prosiect hwn, sefydlwyd dosbarth Portfield ar wahân yn Ysgol Tasker Milward. Ehangwyd y trefniant hwn yn raddol fel bod mwyafrif disgyblion Portfield yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu cynhwysol yn Tasker Milward.

Yn 2009, fe wnaeth Ysgol Portfield, gyda chefnogaeth gan yr awdurdod lleol, sefydlu canolfan gysylltiol cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Preseli i fodloni’r galw am ddarpariaeth addysg arbennig cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y sir. O’i gychwyn, manteisiodd Y Porth ar y cyfle i gynnwys mwyafrif ei ddisgyblion ym mywyd Ysgol Preseli. Mae’r disgyblion yn rhannu gwersi, amser chwarae ac amser cinio gyda’u cyfoedion yn y brif ffrwd. Mae’r broses yn un ‘ddwyffordd’ i raddau helaeth, gyda rhai o ddisgyblion Ysgol Preseli yn cael mynediad i’r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a gynigir gan Y Porth.

Cafodd yr ysgol gyllid Prosiect Datblygu Anghenion Ychwanegol Llywodraeth Cymru i ehangu’r ddarpariaeth. Roedd y myfyrwyr yn gweithio ar Lefel 1 Mynediad ac uwch yn gallu cael cyrsiau rhagflas yng Ngholeg Addysg Bellach Sir Benfro yn lleol.

Er 2010, mae’r cyllid hwn hefyd wedi darparu diwrnod dewisiadau yn y coleg ar gyfer yr holl ddisgyblion 14 i 19 oed yn Ysgol Portfield ac ysgolion uwchradd lleol eraill. Mae disgyblion yn dilyn pynciau galwedigaethol a phynciau’n seiliedig ar fedrau, fel celfyddydau perfformio Shakespeare, gweithdai celf gan gynnwys sgrinbrintio a chrochenwaith, cwmni cydweithredol llysiau a ffrwythau, adeiladu technegol, a ffilm ac animeiddio.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae disgyblion yn dilyn cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau achrededig, fel OCR, ASDAN, RhyCA a TGAU ar lefel briodol i’w hanghenion a aseswyd. Cânt eu paratoi’n dda ar gyfer trosglwyddo i gyrsiau coleg.

Nod y cyrsiau cynhwysol oedd hyrwyddo egwyddorion sylfaenol arfer gynhwysol, ond hefyd, trwy ddefnyddio adnoddau’n fwy effeithiol, rhoi mynediad i ddisgyblion Portfield i gyrsiau sy’n anodd eu darparu o fewn lleoliad Portfield. Er enghraifft, gall disgyblion ddilyn cyrsiau TGAU mewn gwyddoniaeth a thechnoleg dylunio. Yn ogystal, galluogodd y prosiect gynhwysiant “o’r tu allan” i Portfield ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o ysgolion uwchradd eraill ar draws Sir Benfro. Yn Portfield, mae’r disgyblion hyn yn dilyn cyrsiau achrededig arbenigol ar lefel sy’n briodol i’w hanghenion unigol. Mae’r staff sy’n mynd gyda’r disgyblion hyn i Portfield yn elwa’n sylweddol o ran eu datblygiad proffesiynol o weithio gyda staff Portfield a thrwy fynediad i’w harbenigedd a’u medrau penodol.

Un datblygiad diweddar fu ymestyn y cysylltiadau hyn i’r cyrsiau rhagflas a’r gweithdai yng Ngholeg Sir Gâr. Mae’r trefniant hwn yn helpu disgyblion i ddatblygu’u diddordebau ac ehangu’u huchelgeisiau ar gyfer gyrfaoedd a llwybrau dysgu yn y dyfodol.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae’r amrywiaeth o ddewisiadau cynhwysiant wedi cyfoethogi profiadau dysgu’r disgyblion yn sylweddol a’u helpu i ddatblygu ystod ehangach o lawer o ddiddordebau unigol.

Trwy’r gwaith partneriaeth hwn:
• mae’r holl ddisgyblion wedi cyflawni ystod o achrediadau sy’n briodol i’w lefel a aseswyd yng nghyfnod allweddol 4 ac yn y cyfnod ôl-16;
• mae asesiadau athrawon yn dynodi y bydd y disgyblion sy’n cyfranogi yn ennill cymwysterau TGAU ar Lefel Sylfaen; ac
• mae’r holl ddisgyblion ôl-16 sy’n mynychu cyrsiau yng Ngoleg Sir Benfro wedi cyflawni achrediad gydag unedau RhyCA yn y meysydd pwnc perthnasol.

Ran amlaf o lawer, mae llwyddiant y prosiect partneriaeth yn y buddion cynhwysiant cymdeithasol a gaiff disgyblion Portfield a’r rheini o ysgolion partner eraill. Mae effaith gadarnhaol eu cynnwys yn helpu’r disgyblion hyn i gael mwy o hunanhyder, dod yn fwy annibynnol a chaffael amrywiaeth o fedrau sy’n eu paratoi yn dda ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r ysgol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Llangatwg yn ysgol gymunedol 11-16 oed yn ardal Llangatwg o Gastell-nedd. Mae’r ardal sy’n cael ei gwasanaethu gan yr ysgol yn ardal rhannol wledig ac yn gyffredin â chymunedau eraill y cymoedd, mae’n dioddef graddfa uwch na’r cyfartaledd o ddifreintedd cymdeithasol ac economaidd. Pan fyddant yn dechrau, mae cyrhaeddiad disgyblion wedi bod islaw cyfartaleddau cenedlaethol yn gyson. Dyma ddatganiad o genhadaeth yr ysgol: ‘Gwella cyflawniad a hyrwyddo partneriaeth yng nghalon y gymuned’.

Disgrifiad o natur strategaeth neu weithgaredd

System gyfadran yw ein strwythur sefydliadol o ddewis. Mae’r pum tîm cyfadran wedi’u seilio ar:

Gwyddoniaeth – gan gynnwys Addysg Gorfforol

Mathemateg / Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu – gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol

Cyfathrebu – Ffrangeg, Cymraeg, Saesneg, Drama a Cherddoriaeth

Technoleg – gan gynnwys Celf, Arlwyo, Lletygarwch ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Y Dyniaethau – Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Grefyddol, Astudiaethau Busnes a Hamdden a Thwristiaeth

Mae pob tîm cyfadran yn gyfrifol am ansawdd yr addysgu a’r dysgu ym mhob un o’r pynciau y maen nhw’n eu cyflwyno. Yn ogystal, mae’r tîm yn gyfrifol am ofal, cymorth ac arweiniad grŵp blwyddyn o ddysgwyr.

Daw pob grŵp sy’n dechrau Blwyddyn 7 o dan reolaeth tîm cyfadran. Mae dysgwyr yn aros gyda’r gyfadran honno drwy gydol eu cyfnod cyfan yn yr ysgol. Mae ganddynt yr un arweinydd cyfadran, staff cyfadran a thiwtoriaid dosbarth. O ganlyniad, mae staff y gyfadran yn dod i adnabod dysgwyr yn y grŵp blwyddyn hwnnw yn dda iawn ac maen nhw’n dod i wybod yn gyflym pan na fydd pethau’n iawn.

Credwn fod llawer o fanteision i’r math hwn o drefn. Mae gwaith bugeiliol ac academaidd yr ysgol wedi’i integreiddio a’r ffocws ar gyfer pob tîm yw datblygu dull ‘plentyn cyfan’. Mae pob aelod o’r staff addysgu yn perthyn i un tîm yn unig ac nid oes rhannu teyrngarwch. Gellir rhoi i’r timau yr adnoddau a’r cyfrifoldebau sylweddol y mae eu hangen arnynt er mwyn iddynt fod yn effeithiol yn eu gwaith bugeiliol ac academaidd. Mae addysgu a dysgu wrth wraidd gwaith pob cyfadran ac mae llwybrau gyrfaol clir i’r holl staff yn eu cyfadran. Mae’r system yn hyblyg ac mae wedi ein galluogi ni i ateb gofynion cenedlaethol a lleol sy’n newid.

Yn ogystal, mae arweinwyr cyfadran yn ffurfio tîm rheoli canol effeithiol, sy’n gallu llywio dyfodol yr ysgol. Fodd bynnag, budd pwysicaf y system gyfadran yw ansawdd y cysylltiadau proffesiynol sy’n datblygu, yn y tîm a rhwng y tîm a’i ddysgwyr.

Ym mhob cyfadran, mae arweinydd cyfadran, arweinydd cynnydd disgyblion, arweinwyr pwnc, athrawon dosbarth a phwnc, a chynorthwyydd cymorth cyfadran. Mae cyfadrannau’n cael cyngor proffesiynol ar sut i ddatblygu eu haddysgu a’u dysgu gan y tîm gwasanaethau cyfadran, sy’n cynnwys athrawon profiadol sydd â chyfrifoldebau ysgol gyfan. Yn ogystal, gall cyfadrannau gael cymorth i’w dysgwyr drwy’r tîm gwasanaethau cymorth canolog. Mae’r tîm hwn yn cynnwys y swyddog cymorth a lles disgyblion, y swyddog lles addysg, y swyddog cymorth presenoldeb, cynghorydd yr ysgol, y seicolegydd addysgol, y cynghorydd ar gamddefnyddio sylweddau ac ystod o asiantaethau allanol.

Arweinwyr cyfadran yw’r bobl allweddol. Mae ganddynt rôl academaidd a bugeiliol, a chyfrifoldeb i sicrhau bod eu tîm yn addysgu eu pynciau yn effeithiol ac yn rhoi cymorth, gofal ac arweiniad effeithiol i’w dysgwyr. Gall arweinwyr cyfadran wneud hyn dim ond drwy sefydlu gweithdrefnau gweithredu clir ac yna monitro ac arfarnu gwaith y tîm yn agos iawn. Mae bod yn arweinydd cyfadran yn baratoad delfrydol ar gyfer arweinyddiaeth uwch.

Mae’n rhaid i bob cyfadran ddangos eu bod yn cynnig addysgu o ansawdd uchel. Caiff arweinwyr pwnc ac arweinwyr cyfadran eu dwyn i gyfrif am ddeilliannau disgyblion yn eu meysydd penodol. Mae nodi a herio tangyflawniad yn rhan hanfodol o hyn a chaiff cynnydd dysgwyr ei olrhain yn ofalus iawn. Mae athrawon dosbarth yn cyflwyno’r rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol, sydd wedi’i chynllunio’n ganolog, i’w dosbarthiadau. Hefyd, maent yn gyfrifol am roi’r polisi cymorth dysgwyr ar waith, sy’n gofyn iddynt gyfarfod yn rheolaidd â’u dysgwyr a thrafod nid yn unig arddulliau dysgu a chynnydd academaidd, ond hefyd graddfa hapusrwydd a lles pob person ifanc. Caiff y cyfarfodydd hyn eu cofnodi’n ffurfiol.

Gall athrawon dosbarth gyfeirio dysgwyr at eu harweinydd cynnydd disgyblion, sydd wedi hyfforddi’n anogwr dysgu, neu at arweinwyr pwnc am gyngor ynghylch pwnc penodol. Hefyd, mae gwasanaethau eraill y gall athrawon dosbarth ac arweinwyr cyfadran droi atynt. Mae rhai o’r rhain yn cael eu darparu gan yr ysgol ac eraill gan asiantaethau allanol.

Mae timau cyfadran hefyd yn gyfrifol am hyrwyddo presenoldeb da, dathlu llwyddiant a chreu hunaniaeth neilltuol ar gyfer grŵp blwyddyn. Disgwylir llawer o ofynion sylfaenol o bob cyfadran ond mae lle hefyd am ddawn ac unigoliaeth. Mae’r dull hwn yn meithrin blaengaredd, perchenogaeth ac ymrwymiad i’r system.

Fel rhan o drefniadau cynllunio gwelliant, mae’n rhaid i gynlluniau datblygu cyfadrannau ddangos sut byddant yn cyfrannu at wireddu’r amcanion datblygu ysgol gyfan hynny sy’n deillio o brosesau hunanarfarnu’r ysgol. Caiff timau cyfadran hefyd eu hannog i nodi eu hamcanion datblygu penodol eu hunain a dangos yn eu cynlluniau sut yr eir i’r afael â’r rhain.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’n trefn gyfadran, mae cysylltiadau proffesiynol cadarnhaol yn bodoli ar draws yr ysgol ac mae hyn yn ffafriol iawn ar gyfer dysgu.

Mae gan athrawon wybodaeth fanwl am anghenion dysgu a lles eu dysgwyr, a gallant anelu at ddarparu popeth y mae ar ddysgwr ei angen i fod yn llwyddiannus yn yr ysgol. Gallai hyn amrywio o gymorth ar gyfer llythrennedd i gynghori ynghylch sut i reoli dicter. Mae dysgwyr a’u rhieni yn glir ynghylch pwy y dylid cysylltu â nhw os oes problem. Mae’r holl ddysgwyr bron yn dweud eu bod yn teimlo’n hapus, yn ddiogel a bod cymorth da iddynt yn yr ysgol. Ar yr un pryd, mae cyflawniad academaidd wedi gwella’n gyson. Mae bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd gwell na’r disgwyl ar eu taith o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 4 ac mae’r ysgol yn cymharu’n dda â’r holl gymaryddion meincnod cenedlaethol, awdurdod lleol, teulu a phrydau ysgol am ddim.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gyfun Treorci yn ysgol gyfun gymysg fawr i ddisgyblion 11-18 oed yn Rhondda Cynon Taf. Mae 1,580 o ddisgyblion ar y gofrestr gan gynnwys 364 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth.

Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ysgolion cynradd yn y dalgylch traddodiadol, er yn y tair blynedd diwethaf, mae dros 40 o ddisgyblion wedi ymuno â’r ysgol o ysgolion cynradd eraill.

Daw derbyniad yr ysgol o gefndir cymdeithasol amrywiol ac mae’n cynrychioli’r ystod lawn o allu. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 23.5%.

Mae gallu academaidd adeg derbyn islaw cyfartaleddau cenedlaethol. Mae 16% o ddisgyblion yr ysgol ar y gofrestr anghenion addysgol arbennig. Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dod o gartrefi Saesneg eu hiaith, mae tua 9% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Yn Ysgol Gyfun Treorci, mae ethos cryf o ddysgu a chyflawniad yn cael ei danategu gan Ddatganiad Cenhadaeth yr ysgol, sef ‘Ysgol Gymunedol sy’n ymroi i ragoriaeth’.

Mae’r ethos hwn wedi arwain at ddatblygu cwricwlwm hyblyg a chytbwys sy’n bodloni anghenion pob dysgwr. Rhan annatod o’r ddarpariaeth hon yw’r elfen mwy galluog a dawnus sy’n herio dysgwyr i garlamu eu cynnydd, gan arwain at ddeilliannau rhagorol.

Ysgol Gyfun Treorci oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni Dyfarniad Her y ‘Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Galluog mewn Addysg’ (NACE) yn 2007 a’r cyntaf i gael ei hailachredu yn Nhachwedd 2011.

Disgrifiad o natur strategaeth neu weithgaredd

Mae Ysgol Gyfun Treorci wedi datblygu llwybrau dysgu hyblyg i bersonoli dysgu ac i fodloni anghenion pob unigolyn. Un elfen o hyn yw datblygu darpariaeth garlam i ddisgyblion mwy galluog a dawnus.

Darpariaeth garlam Cymraeg ail iaith

Mae athrawon wedi cael eu cyflogi i weithio mewn ysgolion cynradd bwydo i ddatblygu cysondeb a dilyniant gwell wrth addysgu a dysgu Cymraeg ail iaith.

Caiff disgyblion eu nodi pan ddechreuant yn yr ysgol i gael addysgu dwyieithog mewn amrywiaeth o wersi yng nghyfnod allweddol 3. Mae’r disgyblion hyn yn datblygu eu galluoedd a’u medrau ieithyddol i lefel sy’n eu galluogi nhw i gyflawni’r graddau TGAU uchaf mewn Cymraeg ail iaith ar ddiwedd Blwyddyn 9.

Yng nghyfnod allweddol 4, mae’r disgyblion hyn yn parhau â’u darpariaeth garlam, gan weithio tuag at gwblhau Cymraeg ail iaith UG ar ddiwedd Blwyddyn 11. Yna, mae bron pob un o’r disgyblion yn mynd ymlaen i’r chweched dosbarth lle maent yn sefyll eu harholiad A2 ar ddiwedd Blwyddyn 12.

Darpariaeth garlam Ffrangeg

Mewn Ffrangeg, mae disgyblion yn cyflymu eu dysgu ac yn dechrau’r cwrs TGAU ym Mlwyddyn 9. Mae llawer o ddisgyblion yn dewis Ffrangeg fel opsiwn ar lefel TGAU ac maent yn sefyll eu harholiad ar ddiwedd Blwyddyn 10. O Fehefin ym Mlwyddyn 10, mae’r disgyblion hyn yn ehangu eu cysylltiad â’r Ffrangeg trwy gael profiad o gwrs NVQ CILT mewn Ffrangeg Iaith Fusnes ac maent yn astudio modiwl blasu UG. Mae hyn yn rhoi sylfaen ragorol i’r disgyblion hynny sy’n dewis astudio Ffrangeg ar ôl 16 oed i gychwyn eu cyrsiau lefel A.

Darpariaeth garlam Mathemateg

Mae nifer fach iawn o ddisgyblion sy’n cychwyn yn Ysgol Gyfun Treorci wedi cwblhau eu TGAU mathemateg ac felly mae angen darpariaeth garlam arnynt. Ym Mlwyddyn 7, mae’r ysgol yn nodi disgyblion eraill a fyddai’n elwa ar ddarpariaeth garlam ac mae’r holl ddisgyblion hyn yn sefyll modiwl TGAU ym Mlwyddyn 9 ac yn cwblhau eu TGAU mathemateg ym Mlwyddyn 10. O Fehefin ymlaen ym Mlwyddyn 10, bydd disgyblion yna’n gweithio tuag at eu TGAU Mathemateg ychwanegol gan gwblhau hyn ar ddiwedd cyfnod allweddol 4. Mae’r ddarpariaeth hon yn caniatáu profiadau mathemategol ehangach i ddisgyblion ac mae’n gwella’u paratoad ar gyfer astudiaethau lefel A.

Darpariaeth mwy galluog a dawnus ôl-16 oed

Caiff disgyblion mwy galluog a dawnus ôl-16 oed eu hannog i ddilyn modiwlau’r Cynllun Ymgeiswyr Ifanc mewn Ysgolion (Y Brifysgol Agored) i ategu ac ehangu eu hastudiaethau. Mae manylion y cynllun i’w gweld yn

http://www8.open.ac.uk/choose/yass/

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae datblygiad cyfleoedd carlam wedi cyfrannu’n helaeth at ailachredu Dyfarniad Her NACE i’r ysgol.

Mae barn y disgyblion am y ddarpariaeth garlam yn gadarnhaol iawn ac mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ddeilliannau rhagorol.

Yn 2011:

Cyflawnodd disgyblion Blwyddyn 10 a wnaeth sefyll TGAU mathemateg neu Ffrangeg raddau A*-C;
Cyflawnodd disgyblion Blwyddyn 9 a wnaeth sefyll TGAU Cymraeg ail iaith raddau A*-B;
Cyflawnodd disgyblion Blwyddyn 11 a wnaeth sefyll TGAU mathemateg ychwanegol raddau A*- B;
Cyflawnodd disgyblion Blwyddyn 11 a wnaeth sefyll Cymraeg ail iaith UG raddau A*-D; a
Chyflawnodd myfyrwyr Blwyddyn 12 a wnaeth sefyll Cymraeg ail iaith A2 raddau A*-C.

Mae’r ddarpariaeth garlam hefyd yn effeithio’n gadarnhaol ar nifer y disgyblion sy’n dewis astudio’r pynciau hyn i lefel A. Ar hyn o bryd, mae 35 o fyfyrwyr yn dilyn Cymraeg ail iaith ym Mlwyddyn 12. Mae’r adran fathemateg yn denu digon o fyfyrwyr i gynnal dau ddosbarth lefel A yn gyson a’r adran ieithoedd tramor modern yw’r unig ddarparwr Ffrangeg a Sbaeneg yng nghwm Rhondda.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Ysgol 11-19 gymysg, cyfrwng Saesneg a gynorthwyir yn wirfoddol yw Ysgol Uwchradd Gatholig yr Esgob Hedley ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae 656 o ddysgwyr ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal sydd dan anfantais yn economaidd. Mae gan ddau ddeg pump y cant o ddysgwyr hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ffigur hwn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.1%.

Strategaeth

Mae’r pennaeth cynorthwyol wedi cydlynu ystod o weithgareddau ar draws pob cyfnod allweddol i ddatblygu gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth dysgwyr o faterion ariannol. Mae staff o nifer o adrannau ar draws y cwricwlwm yn cymryd rhan mewn cynllunio a chyflwyno’r rhaglen addysg ariannol. Oherwydd lleoliad yr ysgol mewn ardal sydd dan anfantais economaidd, fe wnaeth staff yn yr ysgol roi pwysigrwydd mawr i ddatblygu’r agwedd hon ar y cwricwlwm am gyfnod hir.

Gweithredu

Trwy ei rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol a thrwy ffyrdd eraill, mae wedi darparu gweithgareddau sy’n cynnwys gwasanaethau blwyddyn, gyda ffocws ar agweddau ar fenthyca arian, dyled a chynilion, yn ogystal â nifer o weithgareddau menter.

I sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd da, mae’r pennaeth cynorthwyol wedi mynd ati’n ofalus i fapio’r gweithgareddau i ymgymryd â nhw ac mae’n cyfarfod yn rheolaidd â’r athrawon sy’n cyflwyno addysg bersonol a chymdeithasol. Mae cyfarfodydd rheolaidd yn gwneud yn siŵr bod athrawon yn cael cyfle i ddefnyddio’r adnoddau diweddaraf, gan gynnwys dogfennau arweiniad, a’u bod yn trafod y datblygiadau perthnasol diweddar yn y maes hwn o’r cwricwlwm gyda’u dysgwyr.

Deilliannau

Caiff pob un o’r dysgwyr gyfle i ddefnyddio’r medrau y maent wedi’u datblygu ac maent yn defnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau menter. Mae dysgwyr hŷn yn cymryd rhan mewn cystadlaethau gydag ysgolion lleol. Yn ystod y digwyddiadau hyn, mae dysgwyr yn cyfarfod â phobl fusnes leol ac yn datblygu eu medrau a’u dealltwriaeth mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae pedwar o ddisgyblion o deuluoedd Teithwyr Galwedigaethol yn Ysgol Gyfun Penyrheol yn Abertawe. Mae gan y teuluoedd hyn rieni sy’n gweithio mewn ffeiriau ar hyd a lled y wlad, yn ystod tymor yr haf o tua mis Ebrill hyd at hanner tymor yr Hydref. Gan fod y plant yn teithio ac yn gweithio gyda’u rhieni, maent yn colli llawer iawn o ysgol. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar eu cyrhaeddiad academaidd a’u gallu i ailintegreiddio ym mywyd yr ysgol ar ôl rhai misoedd o absenoldeb. I helpu lleddfu’r broblem hon, aeth yr ysgol ati, ar y cyd â gwasanaeth addysg teithwyr Abertawe, i gynnal prosiect peilot y llynedd gyda disgybl Blwyddyn 7.

Strategaeth

Fe wnaeth yr ysgol ystyried nifer o ffyrdd i allu cynnal cyswllt agosach â’r disgybl pan oedd ei deulu’n teithio. Trafodwyd posibiliadau gyda’i rieni cyn cytuno ar strategaeth derfynol.

Gweithredu

Darparwyd gliniadur i’r disgybl i fynd gydag ef pan oedd ei deulu allan o’r ardal, a chytunodd ei rieni i brynu dyfais i ddarparu mynediad rhyngrwyd Wi-Fi iddo. Bu’r cynorthwyydd bugeiliol Blwyddyn 7 yn cadw cysylltiad â’r bachgen a’i deulu yn gyson drwy e-bost, ac fe sicrhaodd bod gwaith ym mhob un o’r pynciau yn cael ei anfon ato’n electronig, gyda therfynau amser ar gyfer dychwelyd y gwaith. Gweithiodd y system hon yn effeithiol iawn.

Deilliant

Roedd y disgybl hefyd yn gallu cadw mewn cysylltiad electronig rheolaidd â’i ffrindiau o’r ysgol a’i diwtor dosbarth, ac roedd hyn yn amhrisiadwy o ran helpu’r bachgen i ddychwelyd yn ddidrafferth i’r ysgol ar ôl cyfnod hir o absenoldeb. Fe wnaeth hefyd alluogi rhywfaint o barhad yn yr addysg. Yn sgil effaith lwyddiannus y prosiect peilot hwn ar gyflawniad academaidd y disgybl a’i fedrau cymdeithasol, mae’r ysgol yn bwriadu trefnu darpariaeth debyg ar gyfer pob un o’i disgyblion eraill o deuluoedd Teithwyr Galwedigaethol pan fydd gwaith yn mynd â nhw i ffwrdd o’r ardal yn haf 2011.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Sefydlwyd Menter Wyddoniaeth Trefynwy yn 2008 gan bennaeth bioleg presennol yr ysgol a’i rhagflaenydd fel trefniant partneriaeth arloesol gyda phum ysgol leol – ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol – i wella deilliannau a dylanwadu ar ddewisiadau gyrfa disgyblion chweched dosbarth lleol. Fe’i sefydlwyd i ymateb i’r pryderon hysbys a fynegwyd yn y blynyddoedd diwethaf am ansawdd a deilliannau addysg wyddoniaeth yn ysgolion y DU.

Nod Menter Wyddoniaeth Sir Fynwy yw:

  • ysbrydoli disgyblion dawnus lleol i ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth gyda bwriad o wella ein safle byd-eang presennol mewn addysg ac ymchwil wyddonol;
  • galluogi disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth o’r ymchwil wyddonol sy’n sail i’r egwyddorion;
  • rhoi sylw i’r heriau a ddarperir gan wyddoniaeth arbrofol trwy gynnig arbrofion sydd y tu hwnt i ofynion y cwricwlwm Safon Uwch;
  • gwella hyder disgyblion yn y labordy; a
  • galluogi disgyblion i ddatblygu’r medrau dysgu annibynnol sydd eu hangen ar gyfer cyrsiau addysg uwch yn y gwyddorau.

Gellir defnyddio’r ddolen gyswllt isod i edrych ar Fenter Wyddoniaeth Trefynwy ar y we:

www.monmouth-science.co.uk

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Er 2008, mae staff adran wyddoniaeth Monmouth School wedi gwneud defnydd cynyddol o’u harbenigedd a chyfleusterau’r ysgol i ysbrydoli disgyblion chweched dosbarth a’u hannog i ystyried astudio gwyddoniaeth a disgyblaethau cysylltiedig ymhellach, trwy roi cyfleoedd i ddisgyblion wneud arbrofion ymarferol diddorol a soffistigedig.

Darperir sesiynau gwyddoniaeth ymarferol wythnosol o safon israddedig ar gyfer disgyblion chweched dosbarth mwy galluog a dawnus o bum ysgol leol ac maent yn cynnwys gweithgareddau fel trawsffurfiad genetig E. coli, mwyhau a lysis DNA, seryddiaeth radio a dylunio, adeiladu a rhaglennu robotau Lego.

Yn ychwanegol i’r rhaglen wythnosol, cynigir sesiynau addysgu a hyfforddi i staff a disgyblion mewn ysgolion partner, naill ai ar y safle neu yn Monmouth School. Yn 2012-13, fe wnaeth y rhaglen allymestyn hon gyflwyno hyfforddiant mewn medrau biodechnolegol datblygedig i 60 o ddisgyblion yn ychwanegol o ysgolion lleol. Cynhaliwyd digwyddiad ar wahân ar gyfer ysgol gynradd leol hefyd, gan alluogi 30 o ddisgyblion i adeiladu a rheoli robotau Lego.

Am y tair blynedd diwethaf, cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Menter Wyddoniaeth Trefynwy yn Monmouth School gyda chyflwyniadau gan ystod o ddarparwyr. Mae hyn yn cynnwys diwydiannau lleol yn seiliedig ar STEM, cyflwyniadau amlddisgyblaethol gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a staff o adran gemeg Monmouth School yn darparu arddangosfeydd yn ymwneud â thân gwyllt.

Yn ystod blwyddyn academaidd 2013- 14, i ddathlu canmlwyddiant marwolaeth y naturiaethwr Alfred Russel Wallace, croesawodd Menter Wyddoniaeth Trefynwy Theatr Na Nóg i berfformio eu drama ‘You should ask Wallace’. Cafwyd cyflwyniad i gyd-fynd â hyn gan y genetegwr sy’n enwog yn rhyngwladol, yr Athro Steve Jones a fu’n trafod esblygiad dyn, gan ofyn i gyfranogwyr “Ai dim ond anifail arall yw dyn?” Noddwyd y digwyddiad cyfan gan Brifysgol Caerdydd a’r Gymdeithas Linneaidd, a mynychodd dros 400 o ddisgyblion o Gymru a Gorllewin Lloegr.

Mae Menter Wyddoniaeth Sir Fynwy wedi datblygu ei phartneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd i ddarparu dau gyfle yn ystod y flwyddyn i ddisgyblion chweched dosbarth ymweld ag adrannau perthnasol a gweld sut beth yw bywyd i fyfyriwr israddedig. Mae’r ymweliadau’n rhoi cyfle i’r disgyblion ymgymryd â thasgau ymarferol yn labordai’r brifysgol a chael cipolwg ar elfennau ar ymchwil ôl-radd.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae Menter Wyddoniaeth Sir Fynwy wedi cefnogi agenda genedlaethol STEM yn llwyddiannus. Trwy’r model partneriaeth, mae’r ysgol wedi agor ei drysau i dros 300 o ddisgyblion, ac mae’r diwrnodau allymestyn a’r cynadleddau yn ymestyn yr agwedd hon ar addysg wyddoniaeth Monmouth School i ymhell dros 1000 o ddisgyblion ychwanegol.

Yn ychwanegol i gyfranogiad uchel iawn disgyblion ym Menter Wyddoniaeth Trefynwy, mae’r bartneriaeth wedi eu helpu i wella’u safonau.

O ganlyniad, mae nifer uwch o ddisgyblion sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen a nifer y disgyblion sy’n cael eu derbyn i’r prifysgolion mwyaf cystadleuol yn y DU i astudio’r pynciau hyn wedi dilyn cyrsiau STEM yn y brifysgol.