Arfer effeithiol Archives - Page 57 of 70 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Comins Coch wedi’i lleoli ym mhentref Comins Coch, tua dwy filltir i’r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth, yng Ngheredigion.  Mae tua thraean o’r disgyblion yn byw yn y pentref, gydag eraill yn dod o bentref Waunfawr a’r ardal gyfagos.  Mae saith dosbarth yn yr ysgol, wedi’u haddysgu gan chwe athro amser llawn a dau athro rhan-amser.

Mae tua 6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol.  Dywed yr ysgol fod tua 22% o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, sy’n debyg i’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.  Nifer bach iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o dras gwyn Prydeinig.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i oddeutu 11% o ddisgyblion.  Nifer bach iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Comins Coch yn ymdrechu i greu ysgol hapus, ofalgar lle mae pawb yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u symbylu ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, lle y gall pob plentyn a phob aelod staff ddatblygu ei botensial yn llawn.  Mae rheoli perfformiad yn canolbwyntio’n gryf ar gyflawni’r nod hwn, gydag arsylwi cymheiriaid, mentora staff a hyfforddiant yn llunio rhan o ymagwedd ysgol gyfan, gynhwysol.  Mae cydweithio a dosbarthu arweinyddiaeth yn effeithiol yn meithrin diwylliant dysgu proffesiynol sy’n gyrru’r ysgol yn ei blaen.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae uwch dîm rheoli’r ysgol yn cynnwys y pennaeth a dau bennaeth cynorthwyol.  Mae un pennaeth cynorthwyol yn gyfrifol am ofal bugeiliol tra bod y llall yn gyfrifol am y cwricwlwm.  Maent yn sicrhau bod gweledigaeth a gwerthoedd yr ysgol yn cael eu cyfleu’n glir i bawb.  Mae dyrannu cyfrifoldebau staff yn cyd-fynd yn glir â gweithdrefnau rheoli perfformiad effeithiol, gan gynnwys datblygiad proffesiynol parhaus staff.  Mae hyn yn hybu lefelau uchel o gydweithredu ac arfer dda wedi’i rhannu ar draws cymuned yr ysgol.  Mae arsylwi cymheiriaid yn rheolaidd gan staff addysgu a chynorthwywyr addysgu, gyda ffocws clir yn unol â blaenoriaethau’r ysgol, y mae staff wedi cytuno iddynt ymlaen llaw, yn sicrhau deialog broffesiynol effeithiol, ymagwedd gyson a’r defnydd gorau o arbenigedd cyfunol yr ysgol.

Caiff medrau’r holl unigolion yn yr ysgol eu gwerthfawrogi ac mae’r ysgol yn hyrwyddo cyfranogiad llawn holl aelodau’r tîm yn weithgar.  Caiff penderfyniadau eu trafod a’u hesbonio’n glir i hybu dealltwriaeth a datblygu perchenogaeth.  Elfennau allweddol o lwyddiant yr ysgol yw bod yn gynhwysol, gwaith tîm a hinsawdd gefnogol sy’n seiliedig ar dryloywder a pharch tuag at ei gilydd.  Mae fideos o arfer dda yn yr ysgol yn cael eu cynhyrchu a’u rhannu ymhlith staff addysgu a chynorthwywyr addysgu.  O ganlyniad, caiff staff drafodaethau agored am nodweddion allweddol dysgu ac addysgu ac arfer orau.  Mae hyn, ynghyd â sesiynau rheolaidd, ysgol gyfan, o graffu ar lyfrau, yn hybu trafodaeth onest ac effeithiol, cydweithredu a dealltwriaeth glir o nodau’r ysgol.  Mae staff yn gweithio fel tîm, lle mae gan bawb ran yng ngweledigaeth yr ysgol i ddarparu addysg o’r safon uchaf.

Mae gan yr holl staff ystafell ddosbarth gyfrifoldeb am fonitro a datblygu cwricwlwm, neu faes trawsgwricwlaidd.  Mae bod yn gynhwysol a rhannu cyfrifoldebau fel hyn yn helpu i godi safonau ac mae’n rhoi profiadau cyfoethog i’r disgyblion.  Mae gweithdrefnau mentora effeithiol ar waith gan yr ysgol ar gyfer staff newydd a staff sy’n ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau neu rolau arwain.  Mae staff ar bob lefel yn cael cyfle i gysgodi cydweithwyr mwy profiadol a rhannu arfer dda.  Mae gweithio’n agos mewn tîm a chyfarfodydd tîm rheolaidd gyda ‘ffrind beirniadol’, heb farnu, yn sicrhau ethos cadarnhaol.

Caiff rhaglen sicrhau ansawdd ei defnyddio trwy gydol y flwyddyn academaidd.  Caiff amserlen ei llunio ar ddechrau’r flwyddyn, mewn ymgynghoriad â’r holl staff ystafell ddosbarth, yn cynnwys monitro meysydd pwnc, craffu ar lyfrau a safoni.  Hefyd, mae’r amserlen yn nodi pryd caiff adborth ei rannu a’i drafod, gyda ffyrdd clir ymlaen.

Mae gweithdrefnau rheoli perfformiad effeithiol yn sicrhau bod pob athro a chynorthwyydd addysgu yn cael cyfle i wneud y mwyaf o’u medrau eu hunain a rhoi profiadau amrywiol i ddisgyblion.  Mae’r systemau yn agored ac yn glir i bawb, gan annog myfyrio, trafodaeth onest ac ystyried meysydd i’w datblygu ymhellach a dyheadau gyrfaol.  Mae adborth rheolaidd a monitro ochr yn ochr â rhannu arfer dda yn sicrhau gwelliant parhaus a chynnal safonau uchel.

Mae’r holl aelodau staff yn cyfrannu’n llawn at gynllun hunanarfarnu a datblygu’r ysgol, fel bod pawb yn rhannu cyfrifoldeb am gyfeiriad strategol yr ysgol ac yn defnyddio’u cryfder unigol a’u cymwysterau er y gorau.  Mae’r holl aelodau staff a chynrychiolwyr y corff llywodraethol yn dod ynghyd mewn diwrnod hyfforddiant ysgol i fyfyrio ar y blaenoriaethau presennol a’u harfarnu.  Cynhelir trafodaethau gonest ac agored am gryfderau’r ysgol fel cymuned ddysgu a’i meysydd i’w gwella.  Mae barn yr holl aelodau staff yn dylanwadu ar flaenoriaethau at y dyfodol ac anghenion hyfforddi, sy’n cyfrannu at gynllun datblygu’r ysgol.  Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn rhannu cyfrifoldeb am lwyddiant yr ysgol a’r safonau a gyflawnir.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

• Mae’r holl aelodau staff yn rhannu disgwyliadau uchel iawn a gweledigaeth sy’n seiliedig ar ddarparu ansawdd o’r safon uchaf.
• Caiff y weledigaeth ei chyfleu i staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr yn llwyddiannus iawn.
• Mae’r ysgol yn gymuned hapus a gofalgar i bawb.
• Mae parch ymhlith yr holl aelodau staff tuag at ei gilydd ac ymdrech ar y cyd i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cyflawni eu potensial llawn.
• Mae proses effeithiol o hunanarfarnu sy’n galluogi’r ysgol i nodi, monitro ac arfarnu ei pherfformiad yn llwyddiannus.
• Mae gan yr holl staff ddarlun clir a chywir o gryfderau’r ysgol a meysydd y mae angen eu gwella.
• Mae trefniadau mentora a gweithdrefnau rheoli perfformiad rhagorol yn effeithio’n sylweddol ar addysgu, dysgu a pha mor dda mae disgyblion yn cyflawni.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

• Rhoddodd y pennaeth gyflwyniad ar weithdrefnau monitro a mentora’r ysgol mewn cynhadledd i benaethiaid newydd a phenaethiaid dros dro.
• Mae’r cynorthwyydd addysgu lefel uwch presennol wedi cymryd rhan mewn datblygu’r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Cynorthwyo Addysgu a bu’n gallu rhannu arfer dda’r ysgol gyda gweithwyr addysg proffesiynol eraill

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Dŵr y Felin yn ysgol gyfun gymysg, cyfrwng Saesneg, i ddisgyblion 11-16 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae ganddi 1,134 o ddisgyblion ar y gofrestr.
 
Daw disgyblion o ardal sy’n cynnwys Castell-nedd a’r ardal gyfags.  Mae ychydig dros 14% o ddisgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac mae dros 17% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Daw tuag 1% o ddisgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig, gyda nifer bach iawn o grwpiau ethnig lleiafrifol.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i 34 disgybl.

Canran y disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig yw tua 26%, sy’n cyd-fynd â’r cyfartaledd cenedlaethol.  Canran y disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig yw tuag 1%, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 2.5%.  Mae pymtheg disgybl dan ofal yr awdurdod lleol.

Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dau ddirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol a bwrsar.
Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ‘ysgol arloesi dysgu proffesiynol’.

Mae ein datganiad cenhadaeth yn cyd-fynd â phedwar diben y cwricwlwm i Gymru.  
“Ein nod yw darparu amgylchedd gofalgar, strwythuredig, lle y mae disgyblion yn datblygu:

• yn ddysgwyr medrus, uchelgeisiol, yn barod i ddysgu trwy gydol eu bywyd
• yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
• yn ddinasyddion gwybodus, moesegol Cymru a’r byd
• yn unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd boddhaus yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas ac wedi’u symbylu i gyflawni eu llawn botensial”.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae gan yr ysgol hanes hir o ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol personol yn gysylltiedig ag arweinyddiaeth a gwella safonau mewn dysgu ac addysgu.  Mae hyn yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, a nodwyd yn adroddiadau Donaldson a Furlong.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae cymuned yr ysgol gyfan yn ymroi i gydweithio er mwyn rhoi’r cyfleoedd gorau i’r holl staff a disgyblion, gyda ffocws clir ar godi safonau.

Mae’r ysgol yn chwarae rhan arweiniol mewn partneriaethau hynod lwyddiannus i gefnogi ysgolion ac ymarferwyr eraill.  Mae staff wedi cael cyfleoedd buddiol i ymgymryd â secondiadau yn fewnol ac yn y consortiwm lleol.  Mae’r penaethiaid Saesneg a gwyddoniaeth wedi bod ar secondiadau estynedig gydag ERW i rannu arbenigedd, gwybodaeth ac arfer orau i gynorthwyo ysgolion â chodi safonau.  Mae hyn wedi caniatáu i’r ymarferwyr hynny ennill cipolwg gwerthfawr ar arfer effeithiol mewn ysgolion eraill. Mae rhannu arfer orau fel hyn wedi arwain at nifer o fanteision i’n hysgol.

Mae secondiadau i’r uwch dîm arwain estynedig wedi rhoi cyfleoedd datblygiad personol i staff i gymryd cyfrifoldeb am arwain ar flaenoriaeth ysgol gyfan a rheoli newid.  Mae’r cyfleoedd hyn wedi ehangu gwybodaeth a phrofiad arweinwyr canol o reoli’r ysgol, yn unol â’r safonau arwain.  Mae creu rolau Penaethiaid Cynorthwyol Blwyddyn wedi meithrin ymhellach y gallu i arwain o fewn y systemau bugeiliol yn yr ysgol.  Trwy weithio gyda grwpiau o ddisgyblion agored i niwed, maent wedi cryfhau’r gofal, y cymorth a’r arweiniad i bob disgybl.

Mae rolau arwain cynyddol ar gyfer cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd wedi cyfrannu’n llwyddiannus at greu cyfleoedd i staff arwain blaenoriaethau cenedlaethol yn yr ysgol, y clwstwr a thu hwnt.  Yn ogystal, crewyd rôl cydlynydd dysgu ac addysgu, gyda ffocws penodol ar ddatblygu addysgeg ar draws yr ysgol.

Datblygwyd rolau cynorthwywyr cymorth dysgu gan roi mwy o gyfrifoldeb iddynt am gyflwyno ymyriadau i wahanol grwpiau o ddysgwyr.

O ganlyniad i’r mentrau hyn, dosbarthwyd arweinyddiaeth i lawer o staff sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at waith gwella’r ysgol. 

Yn ogystal, mae nifer sylweddol o fforymau wedi’u harwain gan ddisgyblion, sy’n cyfrannu at ddatblygiad yr ysgol.  Mae uwch swyddogion yn arwain y cyngor ysgol.  Maent wedi creu fersiwn o’r cynllun datblygu sy’n addas i ddisgyblion ac wedi arwain ar flaenoriaethau allweddol, fel ffocws ar wella presenoldeb, addasiadau i drefniadau asesu a newidiadau i’r amgylchedd dysgu.  Yn ogystal, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at fywyd yr ysgol mewn amrywiaeth o rolau arwain, drwy gymryd rhan fel llysgenhadon gwrth-fwlio, mentoriaid cymheiriaid, a chynrychiolwyr dysgu ac addysgu.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae arweinyddiaeth ar bob lefel wedi creu cymuned ddysgu hynod effeithiol, sydd wedi sicrhau a chynnal deilliannau cadarn gan ddisgyblion dros y pedair blynedd diwethaf.
 
Mae partneriaethau cadarn gyda’r clwstwr a’r coleg wedi arwain at bontio di-dor ac mae medrau trawsgwricwlaidd yn cael eu cyflwyno’n gyson.

Mae secondiadau staff allweddol wedi arwain at rannu arfer orau rhwng ysgolion.  Mae hyn wedi caniatáu i’n hysgol gadw i fyny â datblygiadau presennol.  Mae hyn wedi arwain at gyfleoedd ar gyfer dyrchafiad ac mae nifer sylweddol o staff wedi cwblhau cymwysterau arwain.

Mae datblygiad fforymau disgyblion yn cyfrannu’n ystyrlon at gyfeiriad strategol yr ysgol.  Mae disgyblion yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi ac maent yn ddysgwyr uchelgeisiol, mwy hyderus, sydd wedi’u paratoi’n dda i fod yn arweinwyr y dyfodol.

Mae pwyslais penodol yr ysgol ar ddosbarthu cyfrifoldebau arwain yn ehangach yn hynod lwyddiannus ac mae wedi cyfrannu at ddatblygu addysgu cyson effeithiol mewn llawer o wersi sy’n sicrhau bod llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Rhannwyd ein harfer yn eang trwy weithio gyda’r clwstwr, rhwydwaith 14-19 yr awdurdod lleol a’r consortiwm.  Mae’r ysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru fel ysgol arloesi ac mae wedi cyfrannu at ymchwil gyda’r OECD.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Llansanwyr a Llanhari yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg â dosbarthiadau un oedran, sy’n gwasanaethu Bywoliaeth Rheithorol y Bont-faen a phlwyf Llanhari.  Mae’r ysgol mewn lleoliad gwledig bedair milltir i’r gogledd o’r Bont-faen ym Mro Morgannwg, a hanner milltir o bentref Llanhari yn Rhondda Cynon Taf, ac mae’n derbyn disgyblion o’r ddau awdurdod lleol.

Ceir tua 230 o ddisgyblion rhwng tair ac un ar ddeg oed ar y gofrestr, gan gynnwys 43 yn y feithrinfa ran-amser.  Mae’r ysgol yn addysgu disgyblion mewn wyth dosbarth, sy’n cynnwys disgyblion o grwpiau blwyddyn unigol.  Mae rhyw 5% o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, ac mae’r ysgol yn nodi bod anghenion dysgu ychwanegol gan ryw 15% o ddisgyblion.  Mae bron pob un o’r disgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac yn siarad Saesneg fel eu mamiaith.

Ymgymerodd y pennaeth â’i swydd yn Ionawr 2015.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Yn dilyn cyfnod o ansefydlogrwydd yng Ngwanwyn 2015, gyda bron i hanner y staff addysgu ar gontractau tymor byr dros dro, prif amcan y pennaeth oedd nodi cryfderau a gwendidau yn yr addysgu, herio tanberfformio, a datblygu llinellau atebolrwydd clir.  Arweiniodd cyfnod o recriwtio trylwyr at gryfhau’r arweinyddiaeth a’r tîm addysgu trwy benodi Arweinydd Dysgu / Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, ynghyd ag Arweinydd y Cyfnod Sylfaen.  Penododd yr ysgol ddau Athro Newydd Gymhwyso a dosbarthodd gyfrifoldebau pynciau craidd a oedd yn swyddi gwag yn flaenorol.

Gallai hwn fod wedi bod yn gyfnod bregus gyda newid sylweddol yn y staffio a phrosesau a gweithdrefnau sefydliadol, ond yn y pen draw galluogodd yr ysgol i esblygu a datblygu arfer gadarn, a arweiniodd at safonau gwell ar draws yr ysgol dros y ddwy flynedd diwethaf.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer sy’n arwain y sector

Nodau ac amcanion strategol clir

Aeth yr ysgol ati i ddiwygio’i gweledigaeth, ei gwerthoedd a’i nodau gyda’i chymuned, ac fe’u lansiwyd yng Ngwanwyn 2016 gyda logo newydd wedi’i ddylunio gan y disgyblion.  Mae bathodyn yr ysgol yn ymgorffori ethos Cristnogol cryf yr ysgol yn gywir, ynghyd â’i dyfodol fel y’i gwelir gan ddisgyblion Llansanwyr.

Mae’r ysgol yn rhannu ei nodau a’i hamcanion strategol gyda phob rhanddeiliad, ac yn eu hailystyried yn rheolaidd yn ystod sesiynau hyfforddiant mewn swydd (HMS).  Ceir cyd-ddealltwriaeth dda o’r meysydd y mae angen eu gwella, sy’n sicrhau ymdrech ddiwyro i sicrhau gwelliant sy’n ganolog i fywyd yr ysgol.

Rolau a chyfrifoldebau staff a llywodraethwyr a’u cyfraniad at wella’r ysgol

Mae rolau a chyfrifoldebau’r staff yn diffinio’u meysydd atebolrwydd a chyfrifoldeb yn glir.  Mae arweinwyr yn adolygu disgrifiadau swyddi yn rheolaidd gyda staff, ac mae hyn yn eu galluogi i fynd i’r afael yn flaenweithgar â meysydd gwella sy’n flaenoriaeth ac arwain o fewn eu grŵp cwricwlwm ymbarél.  Dosberthir llwyth gwaith gan arweinwyr yn deg, ac maent yn rhoi amser digyswllt priodol i staff gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol, ac i fodloni terfynau amser cytûn; mae hyn yn sicrhau cyflymder a momentwm.
 
Gwna’r holl arweinwyr gyfraniad sylweddol at wella’r ysgol; maent yn rheoli eu hamser yn effeithiol ac yn myfyrio ar eu harfer, gan gymryd lefel uchel o gyfrifoldeb am eu cynlluniau gwella pynciau a thargedau.  Mae athrawon yn rhannu ymrwymiad corfforaethol i gyrraedd a bodloni’r targedau hyn, ac maent yn dadansoddi a myfyrio ar ystod o ddata yn hyderus, er mwyn eu cefnogi yn y rôl hon.  Lle mae arweinwyr yn nodi tanberfformio, maent yn mynd i’r afael yn gyflym ac effeithlon ag unrhyw wendidau, gan ddarparu rhaglenni cymorth wedi’u targedu.  Mae hyn yn sicrhau bod yr holl staff yn rhannu disgwyliadau uchel iawn.  Yn sgil y rhwydweithiau cymorth ac ymddiriedaeth sefydledig, mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac mae morâl yn uchel iawn.

Mae cyfarfodydd staff yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth ac ar wella medrau staff, gyda’r holl weithgarwch trafodaethol wedi’i gyfyngu i gyfathrebu drwy’r e-bost.  Mae safoni a chymedroli safonau disgyblion yn rhan reolaidd o amserlen HMS yr ysgol, ac mae wedi arwain at gyd-ddealltwriaeth dda o lefelau asesu a chysondeb da iawn ar draws yr ysgol.  Roedd hyn yn hanfodol yn sgil y trosiant staff uchel, ac mae wedi cynorthwyo datblygiad athrawon newydd gymhwyso yn effeithiol.

O dan arweinyddiaeth cadeirydd effeithiol, mae llywodraethwyr yn sicrhau eu bod yn deall cryfderau, diffygion a blaenoriaethau’r ysgol i’r dyfodol yn dda iawn.  Mae dealltwriaeth glir gan aelodau o’u rolau a’u cyfrifoldebau o ran dwyn arweinwyr a rheolwyr ysgol i gyfrif.  Mae llywodraethwyr cyswllt yn dewis maes gwella’r ysgol ac yn cyfarfod yn rheolaidd gyda’r athro arweiniol i fonitro, herio a chefnogi cynnydd.

Rheoli Perfformiad Effeithiol

Mae proses rheoli perfformiad yr ysgol yn nodi anghenion hyfforddi a datblygu unigol ac ysgol gyfan yn glir er mwyn cefnogi targedau gwella’r ysgol.  Cynhwysir pob un o’r staff wrth gynnal arsylwadau o addysgu, ac mae hyn wedi arwain at weithredu rhaglenni cymorth effeithiol a gweithio mewn triawdau, gydag athrawon medrus yn barod i rannu eu harferu.  Mae arweinwyr yn amserlennu amser digyswllt ar gyfer staff, er mwyn galluogi deialog broffesiynol a myfyriol.  Mae hyn wedi arwain at ddiwylliant dysgu o hunanwella.  Mae’r broses o driongli arsylwadau gwersi, craffu ar lyfrau disgyblion a dadansoddi data yn sicrhau bod proses rheoli perfformiad yr ysgol yn effeithio’n gadarnhaol ar addysgu a dysgu. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae systemau rheoli ac arwain sydd wedi’u gwella ar bob lefel yn ddiweddar wedi sicrhau tuedd gadarn o wella dros y ddwy flynedd diwethaf yn yr addysgu a deilliannau disgyblion.  Er enghraifft, erbyn hyn mae pob un o’r staff yn cymhwyso dull cyson ac effeithiol iawn o asesu a marcio gwaith disgyblion.  Mae hyn wedi gwneud gwelliant nodedig yn y safonau rhifedd y mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn eu cyflawni.

Mae prosiectau arloesi’r cwricwlwm, fel diwrnodau trochi, yn galluogi disgyblion i gyfrannu at gynllunio, gan gynyddu ymgysylltiad ysgrifenwyr amharod.  Mae bron pob disgybl yn cydweithio ac yn ymgysylltu’n dda â gweithgareddau ac yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau.

Barnodd yr arolygiad diweddaraf ym Mai 2017 fod rhagolygon gwella’r ysgol yn rhagorol, ac adroddodd arolygwyr fod “arweinyddiaeth ddynamig yn grymuso pob un o’r staff i gyfrannu’n effeithiol o fewn ethos tîm cadarn a chefnogol.  Mae uwch arweinwyr yn herio tanberfformiad yn gadarn er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cael cyfle cyfartal.  Mae pob un o’r staff yn llawn cymhelliant ac yn ymateb yn gadarnhaol i ddisgwyliadau uchel y pennaeth.”

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu ei harweinyddiaeth gref a’i phrosesau cynllunio strategol gydag ysgolion eraill trwy’r prosiect braenaru, Grŵp Gwella Ysgolion a grwpiau clwstwr.  Hefyd, mae’n rhannu ei her uchel a’i llinellau atebolrwydd ar y rhaglen hyfforddi Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth ac mewn digwyddiadau hyfforddi cenedlaethol i ymgynghorwyr her.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Llansanwyr a Llanhari yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg â dosbarthiadau un oedran, sy’n gwasanaethu Bywoliaeth Rheithorol y Bont-faen a phlwyf Llanhari.  Mae’r ysgol mewn lleoliad gwledig bedair milltir i’r gogledd o’r Bont-faen ym Mro Morgannwg, a hanner milltir o bentref Llanhari yn Rhondda Cynon Taf, ac mae’n derbyn disgyblion o’r ddau awdurdod lleol.

Ceir tua 230 o ddisgyblion rhwng tair ac un ar ddeg oed ar y gofrestr, gan gynnwys 43 yn y feithrinfa ran-amser.  Mae’r ysgol yn addysgu disgyblion mewn wyth dosbarth, sy’n cynnwys disgyblion o grwpiau blwyddyn unigol.  Mae rhyw 5% o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, ac mae’r ysgol yn nodi bod anghenion dysgu ychwanegol gan ryw 15% o ddisgyblion.  Mae bron pob un o’r disgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac yn siarad Saesneg fel eu mamiaith.

Ymgymerodd y pennaeth â’i swydd yn Ionawr 2015.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Yn dilyn cyfnod o ansefydlogrwydd yng Ngwanwyn 2015, gyda bron i hanner yr athrawon ar gontractau tymor byr dros dro, prif amcan y pennaeth oedd nodi cryfderau a gwendidau yn yr addysgu, herio tanberfformio, a datblygu llinellau atebolrwydd clir trwy roi systemau a gweithdrefnau cadarn ar waith.  Arweiniodd cyfnod o recriwtio trylwyr at gryfhau’r arweinyddiaeth a’r tîm addysgu trwy benodi Arweinydd Dysgu / Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, ynghyd ag Arweinydd y Cyfnod Sylfaen a dau Athro Newydd Gymhwyso.

Er mwyn i’r pennaeth a’r uwch dîm arwain gael dealltwriaeth gywir o gryfderau’r ysgol a meysydd i’w datblygu, aethant ati i adolygu’r trefniadau ar gyfer hunanarfarnu, monitro a chynllunio ar gyfer gwelliannau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer sy’n arwain y sector

Hunanarfarniad yr ysgol

Yn dilyn adolygiad o’r prosesau hunanarfarnu, mae cylch monitro, arfarnu ac adolygu’r ysgol yn canolbwyntio’n drwyadl ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion.  Mae arweinyddiaeth ddosbarthedig gadarn yn sicrhau bod pob un o’r staff yn gwneud cyfraniad sylweddol at y broses hon.  Mae arweinwyr pwnc yn ymgymryd â pherchnogaeth o’u cynlluniau gwella, a luniwyd ganddynt ar sail eu harfarniadau monitro a’u dadansoddiad o ddata perfformiad.  Mae arweinwyr yn cynllunio cylchoedd monitro cadarn sy’n defnyddio amrywiaeth o weithgareddau monitro trwy gydol y flwyddyn i wirio ansawdd; mae’r rhain yn cynnwys adolygiadau arfarnol o waith disgyblion ac arsylwadau gwersi.  Maent yn mesur cynnydd ac yn asesu effaith camau gweithredu ar bwyntiau allweddol, gan baratoi adroddiadau cryno sy’n amlinellu’r cryfderau a meysydd y mae angen eu gwella ymhellach.

Mae disgyblion yn cyfrannu at broses gwella’r ysgol hefyd drwy ddiwrnodau ‘trochi’ cynllunio sy’n eu galluogi i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut, ac i ryw raddau beth, y byddant yn dysgu yn y tymor canlynol.  Mae cenhadon disgyblion yn arsylwi’r dysgu mewn gwersi ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella; roedd eu sylwadau yn allweddol wrth ddatblygu targedau disgyblion a’r polisi marcio ac adborth.

Mae deilliannau hunanarfarnu ar draws yr ysgol yn pennu polisïau a thargedau clir ar gyfer gwella.  Mae’r rhain yn sail i gynllun gwella ysgol manwl, sy’n amlinellu cyfrifoldebau, camau gweithredu, graddfeydd amser a gweithdrefnau ar gyfer monitro cynnydd yn glir.

Defnyddio data

Mae’r ysgol yn rhoi pwys mawr ar ddefnyddio amrywiaeth o ddata i fesur cynnydd.  Defnyddir taflenni olrhain electronig manwl a chadarn gan arweinwyr i gofnodi ystod o ddata asesiadau disgyblion, ac mae staff yn defnyddio’r rhain yn hyderus ac yn rheolaidd i fonitro ac arfarnu perfformiad grwpiau o ddisgyblion.  Mae athrawon yn deall yn dda iawn sut maent yn atebol am gynnydd disgyblion.  Gyda chymorth yr arweinwyr, maent yn adolygu cynnydd bob tymor, ac yn nodi camau gweithredu priodol i gyflawni targedau’r dyfodol.  Mae’r broses hon wedi creu diwylliant ymaddasol ac ymatebol lle mae staff yn cynnal disgwyliadau uchel ac yn cysylltu unrhyw newidiadau i ddarpariaeth neu hyfforddiant yn uniongyrchol ag angen disgyblion. 

Ymateb i farnau rhanddeiliaid

Mae arweinwyr yn annog yr holl randdeiliaid i gyfrannu at y broses hunanarfarnu drwy holiaduron blynyddol, mynychu gweithdai, nosweithiau rhieni a grwpiau amrywiol llais y disgybl ar draws yr ysgol.  Mae arweinwyr yr ysgol yn cynnal dadansoddiadau manwl o ganfyddiadau, ac yn ymateb yn brydlon i feysydd a nodir gan grwpiau penodol.  Er enghraifft, fe wnaeth arweinwyr wella cyfathrebu â rhieni, trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a chyflwyno adroddiadau canol tymor ar gynnydd disgyblion, y mae rhieni’n eu gwerthfawrogi’n fawr. 

Cydweithio mewn rhwydweithiau arfer broffesiynol

Mae arweinwyr yn gwerthfawrogi buddion cydweithio a gweithio mewn partneriaeth yn yr ysgol a gydag ysgolion eraill ac asiantaethau partner.  Cynhaliwyd adolygiadau gan asiantaethau allanol ar ddarpariaeth y Cyfnod Sylfaen, marcio ac adborth ac iechyd a diogelwch.  Mae canfyddiadau o’r adroddiadau hyn wedi helpu’r ysgol i fynd i’r afael â meysydd dynodedig a symud ymlaen yn gyflym.  Hefyd, mae’r ysgol yn ymgysylltu’n agored â chlwstwr o ysgolion, grŵp gwella ysgolion, prosiect braenaru, awdurdod lleol, consortiwm rhanbarthol ac ymgynghorydd her ar nifer o brosiectau.  Mae staff yn ymweld yn rheolaidd ag ysgolion eraill lle ceir arfer ragorol, ac maent yn myfyrio ar eu canfyddiadau, gan ledaenu’r hyn sy’n berthnasol ac yn briodol ar gyfer eu lleoliad eu hunain.  Mae’r gwaith hwn wedi darparu persbectif, her a chymorth allanol da wrth hwyluso rhannu adnoddau ddwyffordd a phrosesau arwain effeithiol.

Mae staff yn cynllunio, paratoi ac asesu gwaith disgyblion mewn timau, ac yn helpu ei gilydd i ddatblygu a gwella o fewn ethos cefnogol, gofalgar ac ymddiriedus.  Caiff pob athro y cyfle i arsylwi athrawon eraill yn addysgu, a thrwy ddeialog broffesiynol a myfyriol wedi’i chynllunio, maent yn nodi meysydd i’w dathlu a’u rhannu.  Mae hyn wedi arwain at ddiwylliant dysgu o hunanwella lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a lle ceir morâl uchel iawn.

Anogir yr holl staff i goleddu maes ymchwil weithredu sy’n gysylltiedig â maes penodol o arloesi’r cwricwlwm, gan sicrhau bod yr ysgol yn parhau i wella.  Mae’r rhain wedi cynnwys: meddylfryd o dwf, arloesi/mentergarwch, medrau meddwl, diwrnodau trochi disgyblion mewn cynllunio, arferion y meddwl, dysgu iaith dramor fodern, dysgu awyr agored a marcio ac adborth.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r holl weithgareddau arfarnu yn canolbwyntio’n drwyadl ar wella deilliannau ar gyfer disgyblion, ac mae hyn wedi sicrhau tuedd gyson o wella mewn darllen, ysgrifennu a mathemateg ar draws yr ysgol.

Mae pob un o’r staff yn deall blaenoriaethau’r ysgol ar gyfer gwella ynghyd â’u rôl i sicrhau’r canlyniadau a ddymunir.  Mae’r ethos cryf iawn o waith tîm a chymorth ymhlith y staff wedi golygu bod staff yn barod i gymryd rhai risgiau.  Mae hyn wedi galluogi’r ysgol i weithio ar nifer o brosiectau arloesol ar ddatblygu’r cwricwlwm sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion, er enghraifft gwelliannau a wnaed wrth ddefnyddio cwestiynau i herio meddwl disgyblion yn fwy effeithiol. 

O ganlyniad i  gynllunio gwelliant llwyddiannus, erbyn hyn mae gan yr ysgol hanes cadarn o lwyddo dros y ddwy flynedd diwethaf i godi safonau ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn arwain prosiect i rannu ei harfer dda wrth olrhain a defnyddio data gydag ysgolion eraill.  Mae’r ysgol wedi rhannu ei harweinyddiaeth gref a’i phrosesau cynllunio strategol gydag ysgolion eraill trwy’r prosiect braenaru, grŵp gwella ysgolion a grwpiau clwstwr.  Hefyd, mae wedi rhannu ei her uchel a’i llinellau atebolrwydd ar y rhaglen hyfforddi Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth ac mewn digwyddiadau hyfforddi cenedlaethol eraill i ymgynghorwyr her. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar gyrion tref Aberystwyth ac mae’n gweithredu’r dref ac ardaloedd gwledig gogledd Ceredigion. Mae tua hanner y disgyblion yn siarad Cymraeg gartref ac mae 2% yn teilyngu Prydau Ysgol am Ddim. Cafodd yr ysgol ei harolygu ym mis Tachwedd 2016 a llwyddodd i gyrraedd y safon Rhagorol ym mhob un o’r meysydd arolygu. Mae’r ysgol hefyd yn ysgol arloesi ac yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu agweddau o ddysgu proffesiynol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol wedi bod yn llwyddiannus wrth ddatblygu grwpiau o athrawon sy’n cydweithio mewn pedwarawdau er mwyn ffocysu ar agweddau cytunedig o ddysgu ac addysgu.  Rhan bwysig o’r broses yw’r cyfleoedd a ddarperir i athrawon gyd-gynllunio, cyd-arsylwi a chyd-werthuso.  Mae pwyslais mawr ar ddefnyddio syniadau’r disgyblion ar gyfer creu tasgau cyfoethog a diddorol sy’n ennyn eu medrau a’u chwilfrydedd tuag at ddysgu.  Mae rôl yr ysgol fel un arloesol wedi sicrhau cyfleoedd i ddatblygu’r broses hon drwy ddefnyddio themâu sy’n hybu’r argymhellion ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a’r Cwricwlwm Cymreig.  Pwysleisiwyd yr angen i athrawon i fod yn greadigol ac i fentro gwneud pethe mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer, ond i gofio bod angen i’r gweithgareddau arwain at ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) y disgyblion. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd a adnabuwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Datblygwyd tasgau cyfoethog drwy ganolbwyntio ar y thema ‘T Llew Jones’ er mwyn gwau agweddau o’r celfyddydau ar draws yr wyth dosbarth yng nghyfnod allweddol 2.  Yn sgil y syniadau a gasglwyd o blith y disgyblion crëwyd mapiau meddwl a chytunwyd ar weithgareddau ysgrifennu creadigol, cyflwyniadau digidol, gweithgareddau drama, celf, cerddoriaeth greadigol a dawns.  Mireiniwyd y cynlluniau ac adnabuwyd cyfleoedd i weithio gyda’r gymuned leol gan fanteisio ar arbenigedd sefydliadau fel cwmni drama’r Arad Goch a’r Brifysgol yn Aberystwyth. 

Yn sgil rôl yr ysgol fel un arloesol manteisiwyd ar y cyfleoedd i gydweithio gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant gan blethu rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon i mewn i’r ‘pair creadigol’. 
Bu hyfforddeion y Brifysgol yn rhan o’r cynllunio gyda’r athrawon a llwyddwyd i ddatblygu cyfleoedd iddynt arsylwi a chymryd grwpiau yn ystod y gwersi.  Bu hyn yn llwyddiannus ac yn rhan bwysig o’u hyfforddiant fel darpar athrawon. 

Wrth werthuso’r gwersi yn wythnosol mewn sesiynau adlewyrchol, darparwyd cyfleoedd i athrawon profiadol a darpar athrawon gydweithio er mwyn gwella’r profiadau ar gyfer y disgyblion.  Penllanw’r gwaith oedd cael prynhawn o rannu arferion da ar ffurf cyflwyniad i holl ddisgyblion cyfnod allweddol 2, staff yr ysgol, llywodraethwyr, staff yr awdurdod lleol a myfyrwyr y Brifysgol. 

Pa effaith cafodd y gwaith ar ddarpariaeth a deilliannau’r disgyblion?

Llwyddodd y ddarpariaeth i gael effaith gadarnhaol ar fedrau llafar ac ysgrifennu’r disgyblion yng nghyfnod allweddol 2, gyda’r thema greadigol yn ennyn brwdfrydedd y bechgyn yn benodol – roedd y cyfleoedd ehangach i ddisgyblion weithio mewn grwpiau ac i chwarae rôl yn fodd iddynt ddatblygu mewn hyder a sicrhau cyfleoedd iddynt berfformio mewn cyd-destun Cymreig. 

Llwyddodd y gweithgareddau digidol a gyflwynwyd i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau TGCh trwy ddefnyddio rhaglenni creu ffilm, paratoi cyflwyniadau electronig a defnyddio sgrin werdd.  Nodwyd fod parodrwydd y disgyblion a’r staff i fentro a defnyddio rhaglenni newydd wedi cyfoethogi eu medrau cyfrifiadurol ar draws yr ysgol. 

Sut ydych chi wedi rhannu’r arfer dda?

Un o flaenoriaethau’r cynllun gwella ysgol oedd ymestyn y cyfleoedd i rannu arfer dda o safbwynt dysgu ac addysgu ar draws yr ysgol.  Llwyddwyd i wneud hyn yn effeithiol, gan sicrhau bod yr athrawon yn datblygu sgiliau arsylwi, gwerthusol a gwella’r ffyrdd y maent yn rhoi adborth effeithiol.  Cafwyd cyfleoedd i rannu’r arfer dda drwy rwydwaith ysgolion arloesol, mewn cynadleddau’r Consortiwm Rhanbarthol a chydag ysgolion lleol. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Y Bynea ym mhentref Bynea ger Llanelli, yn Sir Gaerfyrddin.  Mae chwe dosbarth oedrannau cymysg yn yr ysgol, ac mae rhyw draean o’r plant yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.  Hefyd, ceir cyfleuster Dechrau’r Deg a ariennir gan y Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr a Llywodraeth Cymru yn adeilad yr ysgol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol wedi tyfu’n gyflym dros y pedair blynedd diwethaf, ac er mai ychydig iawn o ofod sbâr oedd ar gael y tu mewn i’r adeilad, roedd tir yr ysgol yn helaeth.  Roedd yr ysgol eisoes yn defnyddio ardal y berllan ar gyfer gweithgareddau Ysgol Goedwig, ond yn sgil tywydd anwadal a’r angen i storio dillad ac offer addas, crëwyd y sail i’r her o greu pentref dysgu awyr agored.  Ceir ffocws cymunedol cryf yn yr ysgol ac mae’n flaenweithgar yn y gymuned leol.  Mae’r ysgol yn ceisio cynnwys gymaint o rieni ag y bo modd yn ei gwaith, ac mae’n lwcus bod ei rhieni bob amser yn barod i gyfranogi pan fydd staff yn gofyn iddynt wneud hynny.  Mae nifer o fusnesau yn yr ardal leol sydd wedi bod yn gaffaeliad mawr, ac maent yn aml yn cefnogi’r ysgol i godi arian pan fydd angen.  Hefyd, cynhwysodd yr ysgol ei hysgol gyfun leol a cholegau lleol gan fod angen ystod o arbenigedd arni ar gyfer holl elfennau gwahanol y prosiect. 

Estynnodd y disgyblion wahoddiad i’r rheolwr sydd â gofal dros foderneiddio ysgolion yn Sir Gaerfyrddin i ymuno, ac esboniodd wrthynt pwy oedd angen iddynt gysylltu â nhw er mwyn cynllunio’u pentref a ble gallent gael deunyddiau, a rhoddodd reolau sylfaenol rheoliadau adeiladu iddynt. 

Mae Ysgol Bynea yn gwerthfawrogi pob math o ddysgu, a chred y staff fod angen ystod eang o brofiadau bywyd go iawn ar blant er mwyn tyfu a datblygu yn oedolion cyfrifol.  Weithiau mae plant yn teimlo mai’r disgyblion hynny sydd â medrau rhifedd a llythrennedd cadarn yw’r rhai clyfar.  Er mwyn esbonio’r camsyniadau hyn, roedd angen i’r staff ddangos i’r disgyblion bod llawer o wahanol fathau o ddysgwyr, a bod medrau gwahanol yn bwysig mewn sefyllfaoedd gwahanol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Dechreuodd y prosiect yn wreiddiol pan roddodd staff friff i’r disgyblion ddylunio a gwneud pentref dysgu awyr agored lle gallent fynd â’u dysgu tu allan i’r ystafelloedd dosbarth.  Roedd rhaid iddynt fod yn ystyriol o Statws Eco yr ysgol a’r angen i sicrhau gwerth am arian.  Gwnaeth yr ysgol gais am grantiau a bu’n ffodus i dderbyn cyllid.  Treuliodd y disgyblion lawer o amser yn trafod ac yn tynnu lluniau o’r hyn yr oeddent yn meddwl y dylai eu hamgylchedd dysgu awyr agored delfrydol fod.  Ar ôl trafod y prosiect gyda’r cyngor ysgol a dosbarthiadau hŷn cyfnod allweddol 2, roedd y disgyblion yn frwdfrydig iawn ac yn benderfynol y dylen nhw arwain y prosiect eu hunain.  Roeddent yn teimlo eu bod yn ddigon hen i ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb.  Cawsant gyfle i gyfarfod a gweithio ochr yn ochr â llawer o weithwyr proffesiynol, a dysgu am bwysigrwydd sut i gyfathrebu gyda phob eraill.  Cawsant gyfleoedd i anfon negeseuon e-bost at bobl, llenwi ffurflenni, gwneud archebion dros y ffôn ac ysgrifennu llythyrau; bob un ohonynt yn fedrau y bydd eu hangen arnynt yn eu bywyd bob dydd.  Hefyd, fe wnaethant gadw dyddiadur ffotograffig o’u prosiect, a gwnaethant gyflwyniad electronig i lywodraethwyr ac ymwelwyr ar ddiwedd y prosiect.

Creodd y disgyblion fodelau graddedig i sicrhau y byddai eu dyluniadau yn ffitio ar y darn o dir a ddynodwyd ar gyfer y prosiect.  Ar ôl i hwnnw gael ei gwblhau, aethant ati i edrych ar y math o adeileddau y byddent yn eu hoffi a beth allent ei fforddio; penderfynont alw’r adeileddau hyn yn bodiau dysgu.  Roedd cyllideb wreiddiol o bymtheg mil o bunnau gan y disgyblion, ac am eu bod yn gyfrifol am y gyllideb gyfan, bu’n rhaid iddynt gadw cyfrifon cywir o bob ceiniog a wariwyd ganddynt.  Fe wnaethant gyfrifo cost a maint deunyddiau yr oedd eu hangen arnynt, ac edrych am werth am arian.  Ar ôl iddynt benderfynu pa adeileddau yr oedd eu hangen arnynt ac wedi dod o hyd i’r hyn y gallent ei fforddio, roeddent yn barod i ddechrau ar y sylfeini ar gyfer eu podiau neu siediau.  Gwahoddwyd rhieni a’r gymuned ganddynt i’w helpu i fesur a chloddio’r sylfeini a symud graean.

Pan oedd y podiau dysgu yn eu lle, roedd yn rhaid i’r disgyblion ddylunio a gwneud llwybrau pwrpasol rhwng pob adeiledd fel eu bod yn gallu defnyddio’r pentref ym mhob math o dywydd.  Daeth rhieni a theuluoedd i mewn i baentio’r podiau dysgu â staen diddosi er mwyn sicrhau y byddent yn para mewn cyflwr da.  Roedd angen i bob adeiledd gael ffocws maes cwricwlwm fel mathemateg, iaith, gwyddoniaeth, y celfyddydau creadigol, Cymraeg neu gyfuniad o feysydd dysgu.  Awgrymodd rhai disgyblion, pe bai’r pod gwyddoniaeth yn gallu cael gardd synhwyraidd a phanel solar o bosibl, y byddai angen mwy o le o’i amgylch na’r pod iaith, dyweder.  Datblygwyd medrau meddwl disgyblion yn dda yn hyn o beth.

Wedi i’r disgyblion ddylunio ac adeiladu prif strwythur y pentref, roedd rhaid iddynt addurno’r podiau a’u llenwi ag adnoddau.  Roedd ganddynt gyllidebau unigol gan ddibynnu ar y maes cwricwlwm, ac roedd rhaid iddynt ddylunio ac addurno rhannau mewnol pob un o’r podiau.  Roedd yn rhaid iddynt wneud y profiadau dysgu yn addas i bob oedran, a cheisio sicrhau bod y gweithgareddau yn canolbwyntio ar ddysgu annibynnol yn bennaf.  Buont yn gweithio gyda’r cydlynwyr pwnc, artistiaid ac ymgynghorwyr i sicrhau bod y gweithgareddau a ddewiswyd ganddynt yn fuddiol ac yn dangos gwerth am arian. Hefyd, aethant ati i ailgylchu byrddau, cadeiriau, byrddau arddangos ac adnoddau eraill o ysgol arall a oedd wedi cau yn ddiweddar.

Ar ôl iddynt sicrhau bod y prif adeileddau a’r llwybrau yn eu lle, cafodd ardal chwarae corfforol awyr agored y pentref ei dylunio gan ddosbarthiadau is cyfnod allweddol 2.  Dilynwyd yr un fformat ganddynt lle buont yn creu dyluniadau ac yna’n edrych ar yr hyn a oedd yn fforddiadwy ac ymarferol.  Rhoddodd yr arweinwyr gyllideb o bum mil o bunnau iddynt, a dweud yn glir fod angen iddynt gadw arian i dalu am lafur a sylfeini eu hadeileddau.  Datblygont ddealltwriaeth o ddefnyddio graddfa a gwerth adnoddau, a chael boddhad o greu rhywbeth defnyddiol.  Ers hynny, maent wedi gweithio gyda rhieni i wella’r ardal mwy fyth, ac wedi ailgylchu teiars i blannu blodau ynddynt, ac maent yn tyfu eu llysiau eu hunain. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Yn ystod y prosiect hwn, cafodd disgyblion gyfleoedd i ddatblygu medrau a ddefnyddir gan ddylunwyr, penseiri, cyfrifwyr, adeiladwyr, garddwyr tirlun, arlunwyr graffig, a llawer un arall.  Arweiniodd disgyblion eu dysgu eu hunain a chymryd cyfrifoldeb am wahodd pobl i weithio gyda nhw, archebu deunyddiau a mantoli cyllidebau.  Mae gan staff yn Ysgol Bynea ymagwedd gyfannol at ddysgu, ac maent eisiau i bob disgybl fod yn aelodau cyflawn o’r gymuned y maent yn perthyn iddi.  Roedd eu gweld yn ymateb i’r her hon yn dangos lefelau aeddfedrwydd a dealltwriaeth y tu hwnt i ddisgwyliadau uchel y staff.

Mae disgyblion yn dysgu orau pan gynigir cwricwlwm eang a chytbwys iddynt.  Mae angen i bob un ohonynt ganfod rhywbeth y maent yn dda yn ei wneud, a thrwy ystod o gyfleoedd dysgu, cawsant gyfle i ymateb yn llwyddiannus i her a chyflawni llwyddiant.  Fe wnaeth y staff herio disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn briodol, a’u cynorthwyo i gyflawni llwyddiant.  Mae llawer o ddisgyblion sy’n llwyddo’n hawdd mewn tasgau darllen ac ysgrifennu yn teimlo rhwystredigaeth yn aml pan na fyddant yn cael pethau’n iawn y tro cyntaf.  Fe wnaeth y prosiect hwn ddatblygu’u lefelau dyfalbarhad a dealltwriaeth ymhellach.

Roedd y disgyblion yn gweld hwn fel prosiect aeddfed iawn i raddau helaeth, ac roeddent yn ymhyfrydu yn yr her.  Fe wnaethant ddatblygu medrau aeddfed a meithrin perthnasoedd gydag ystod o gynulleidfaoedd gwahanol.  Bydd creu’r pentref hwn yn darparu amgylchedd dysgu awyr agored estynedig, eithriadol i’r holl ddisgyblion yn Ysgol y Bynea. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer dda hon gyda llawer o ysgolion eraill ar draws yr awdurdod lleol ac awdurdodau cyfagos.  Mae nifer o ysgolion wedi defnyddio’r pentref dysgu trwy ddod â dosbarthiadau o ddisgyblion i ddefnyddio’r adnodd gwych hwn fel hwb i ddysgu annibynnol. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am y lleoliad/ysgol/darparwr

Mae Ysgol Pen Coch yn ysgol arbennig ddydd sy’n darparu addysg i ddisgyblion ag amrywiaeth eang o anghenion dysgu.  Mae’r rhain yn cynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol, anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, anhwylder ar y sbectrwm awtistig, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac anghenion dysgu cymhleth.  Ar hyn o bryd, mae 94 o ddisgyblion yn yr ysgol, rhwng dwy ac 11 oed.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Fel ysgol arloesi ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae Ysgol Pen Coch yn ymwneud â datblygu a phrofi cwricwlwm newydd i Gymru.  Yn Ysgol Pen Coch, mae hyn yn cynnwys datblygu dysgu wedi’i bersonoli i fodloni anghenion cymhleth disgyblion, trwy ymyriadau ffocysedig a chymorth sydd wedi’i addasu’n unigol. 
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ysgol yn defnyddio amrywiaeth eang o weithgareddau i fynd i’r afael ag anghenion penodol disgyblion unigol a gwneud yn siŵr bod disgyblion yn datblygu’r medrau y mae arnynt eu hangen i wneud cynnydd a llwyddo yn unol â’u hanghenion.  Mae hyn yn cynnwys ffocws cadarn ar ddatblygiad emosiynol ac ymddygiadol disgyblion a’u medrau cyfathrebu. 

Mae gwefan yr ysgol yn darparu gwybodaeth gyfredol am y therapïau a’r ymyriadau a ddefnyddir yn yr ysgol.  Un ymyrraeth lwyddiannus iawn yw’r ystafell rithwir.
Mae’r ysgol yn defnyddio’i hystafell rithwir i leihau gorbryder a pharatoi disgyblion ar gyfer y byd tu hwnt iddi.  Mae’r ystafell yn caniatáu i ddisgyblion brofi a wynebu sefyllfaoedd anodd y maent yn aml yn dod ar eu traws yn ystod eu bywyd a’u harferion bob dydd.

Mae rheolyddion a synwyryddion llaw yn rhoi ymdeimlad cwbl newydd o’r profiad realiti artiffisial.  Mae trosglwyddyddion a derbynyddion ar y waliau ac mae’r profiad trochi yn real iawn.  Mae hyn yn caniatáu i ddisgyblion archwilio a phrofi sefyllfaoedd fel pe baent yn bresennol go iawn yn yr amgylchedd neu’r lle hwnnw.

Wrth ddewis y profiadau mwyaf priodol, fe wnaeth yr ysgol gydweithio’n agos â rhieni ynghylch y sefyllfaoedd a oedd yn peri’r pryder mwyaf iddynt.  Un o’r rhain oedd croesi’r ffordd.  Ymwelodd un o’r staff addysgu â chroesfan leol i gerddwyr, tynnu ffotograffau a recordio’r holl seiniau a gafwyd yno.  Yna, trosglwyddodd y rhain i raglen ar y cyfrifiadur, sydd wedi’i gysylltu â’r offer rhithwir, gan greu fersiwn 3D o’r groesfan.  Cafodd seiniau eu taflunio i dair wal yn yr ystafell, gan roi profiad 360 gradd i ddisgyblion.

Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiynau wythnosol unigol o rhwng 10 a 15 munud am gyfnod o wyth wythnos.  Mae sesiynau’n cynnwys tri cham.  Yn ystod y cam cyntaf, mae’n rhaid i ddisgyblion chwilio am, a gwrando ar, yr holl olygfeydd a seiniau sy’n gysylltiedig â chroesi’r ffordd gan ddefnyddio croesfan cerddwyr.  Maent yn dysgu sut i bwyso botwm i weithio’r dyn coch a gwyrdd ac maent yn dysgu bod yn amyneddgar ac edrych a gwrando’n barhaus am y dyn coch a gwyrdd.  Pan fyddant yn hyderus ynghylch cam cyntaf y profiad, bydd disgyblion yn symud ymlaen i’r ail gam yn yr ystafell rithwir.  Mae hyn yn cynnwys goleuadau traffig go iawn ar gyfer cerddwyr, sydd ag amserydd yn rhan o’r offer.  Gan ddefnyddio’r amserydd, mae’n rhaid i ddisgyblion sefyll yn llonydd wrth y groesfan hyd nes bod y goleuadau’n newid ac mae’r dyn gwyrdd yn ymddangos. 

Yn y trydydd cam, mae’r disgyblion yn mynd allan i’r groesfan cerddwyr.  Roedd pob un o’r 30 disgybl a gymerodd ran yn yr ymyrraeth hon yn ddiweddar yn gallu cyrraedd y groesfan, pwyso’r botwm i weithio’r dyn coch a gwyrdd, ac aros yn amyneddgar hyd nes bod hi’n amser croesi heb ddechrau cynhyrfu na theimlo pwysau arnynt.  Roedd pob disgybl yn gallu croesi’r ffordd yn hyderus. 

Yn ddiweddar, addaswyd yr ystafell rithwir i fod yn ysgol uwchradd y byddai disgyblion Blwyddyn 6 yn mynd iddi ym mis Medi.  O’r blaen, nid oedd rhai disgyblion yn gallu cymryd rhan ym mhrosiectau pontio arferol yr ysgol oherwydd eu lefelau uchel o bryder.  Trwy’r ystafell rithwir, mae disgyblion yn gallu ymarfer ‘mynd’ i’r ysgol uwchradd i baratoi ar gyfer eu pontio go iawn ar ddiwedd tymor yr haf.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae disgyblion sy’n profi’r ystafell rithwir yn gallu cyflawni gweithgareddau penodol gyda llawer mwy o hyder.  Mae hyn wedi cael effaith arwyddocaol ar barodrwydd disgyblion i ddysgu ac ar eu lles a’u hymgysylltiad.  

Nododd adroddiad arolygu diweddar Estyn: “Mae’r ymagwedd arloesol at y cwricwlwm yn gryfder yn yr ysgol.  Mae staff yn canolbwyntio’n ddi-baid ar ddeall anghenion unigol disgyblion a darparu ystod briodol o weithgareddau cyfoethogi i’w symbylu a’u hymgysylltu”

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi ysgrifennu a chyfrannu at amrywiaeth eang o ymchwil a chyhoeddiadau, y mae wedi rhannu ei harfer dda ynddynt. 
 
Yn ogystal, mae’r ysgol wedi rhannu’r gwaith hwn gydag ysgolion arloesi eraill.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Pen Coch yn ysgol arbennig ddydd sy’n darparu addysg i ddisgyblion ag amrywiaeth eang o anghenion dysgu.  Mae’r rhain yn cynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol, anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, anhwylder ar y sbectrwm awtistig, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac anghenion dysgu cymhleth.  Ar hyn o bryd, mae 94 o ddisgyblion yn yr ysgol, rhwng dwy ac 11 oed.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Agorwyd Ysgol Pen Coch yn 2009 ar ôl cau adeiladau tair ysgol arbennig.  Yna, unodd yr ysgolion yn un ysgol arbennig gynradd ac un ysgol arbennig uwchradd.

Roedd y tair ysgol a gaeodd yn wahanol iawn.  Pan gafodd staff gyfweliadau ar gyfer swyddi yn yr ysgol newydd, mynegodd llawer ohonynt bryderon am eu hyder o ran gweithio gyda disgyblion ag ystod ehangach o anghenion.  Penderfynwyd bod angen i staff ar bob lefel ddatblygu ymagwedd hunanarfarnol at eu gwaith.  Roedd angen i’r hunanadolygiad hwn gael ei ategu gan strwythurau priodol yn yr ysgol, a oedd yn darparu adborth i unigolion a grwpiau ar eu gwaith, a’i effaith ar y disgyblion.  Roedd hi’n bwysig i’r ysgol ddatblygu cyfleoedd rheolaidd, helaeth i archwilio a rhoi sylwadau ar waith pob rhan o’r ysgol a chymryd rhan mewn deialog proffesiynol â’r staff cysylltiedig.  Byddai’r wybodaeth a gafwyd yna’n cael ei defnyddio i hyrwyddo datblygiad cyffredinol gwaith yn y maes hwnnw.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector

Er mwyn sicrhau bod y dull hwn yn effeithiol, penderfynwyd y byddai ffocws ar un adran neu faes (er enghraifft ymddygiad) bob tymor.  Datblygodd yr ysgol broses o gasglu gwybodaeth, gan gynnwys arsylwi addysgu, craffu ar ddogfennau, arsylwi cyfarfodydd, cyfweliadau a holiaduron.  Lluniodd y pennaeth bolisi monitro ac arfarnu, a roddwyd ar wefan yr ysgol. 

Ar ddiwedd monitro ac arfarnu adran neu faes penodol, caiff adroddiad ei lunio sy’n crynhoi’r wybodaeth a gafwyd.  Mae’r adroddiadau’n cynnwys sylwadau ar ba mor dda yr aethpwyd i’r afael â materion blaenorol, ansawdd yr addysgu, y safonau a gyflawnir gan ddisgyblion, arweinyddiaeth a rheolaeth adran neu ddarpariaeth, a phroblemau o ran darpariaeth ac adnoddau. 

Yna, mae cydlynydd yr adran neu’r maes yn gyfrifol am weithio gyda thîm y staff i roi cynllun ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw faterion a godir gan yr adroddiad.  Mae’r pennaeth ac uwch reolwyr yn eu cynorthwyo â hyn.  Gellir mynd i’r afael â rhai meysydd yn yr adran, ond mae angen ystyried eraill ar ffurf materion ysgol gyfan. 

Ym Medi 2016, fe wnaeth yr ysgol hefyd sefydlu prosesau ar gyfer monitro ac arfarnu meysydd dysgu a phrofiad, yn unol â’r cwricwlwm newydd.  Mae cydlynydd y cwricwlwm yn cymryd yr awenau ar y gwaith hwn a chyflwynir adroddiadau terfynol i bwyllgor cwricwlwm a safonau’r corff llywodraethol.  Lle bo’r angen, mae arweinwyr meysydd dysgu a phrofiad yn darparu adroddiadau blynyddol am gynnydd a chyflawniad disgyblion yn y maes. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r prosesau monitro ac arfarnu trylwyr wedi cael effaith arwyddocaol ar waith yr ysgol.

• Mae monitro ac arfarnu meysydd darpariaeth yn helpu’r ysgol i sicrhau ei bod yn cyflwyno’r addysg orau oll i’r disgyblion yn ei gofal. 
• Mae arweinwyr a staff yn adnabod cryfderau’r ysgol a’i meysydd i’w gwella yn dda iawn.
• Mae’r diwylliant hynod fyfyriol ac arfarnol yn yr ysgol yn galluogi iddi gynllunio ar gyfer amrywiaeth eang o ymyriadau ac addasiadau i brofiadau dysgu disgyblion, sy’n bodloni anghenion disgyblion yn dda iawn.
• Nododd yr arolygiad craidd diweddar fod safonau yn yr ysgol yn dda a bod lles disgyblion yn rhagorol

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

• Mae’r pennaeth yn rhannu adroddiadau neu grynodebau o’r adroddiadau gyda staff a rhanddeiliaid perthnasol eraill.  Mae’r rhain yn cynnwys y corff llywodraethol, rhieni a’r partner gwella ysgolion yn y consortiwm rhanbarthol.
• Mae copïau o’r adroddiadau ar gael ar wefan yr ysgol.
• Mae’r ysgol wedi rhannu’r gwaith hwn gydag ysgolion arloesi eraill.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/y bartneriaeth:

Coleg Penfro yw’r darparwr addysg a hyfforddiant ôl-16 mwyaf yn y sir.  Mae’r coleg wedi’i leoli yn Hwlffordd, ac mae ganddo ryw 1,800 o fyfyrwyr amser llawn a 12,500 o fyfyrwyr rhan-amser, gan gynnwys llwybrau galwedigaethol, Safon Uwch, prentisiaethau a graddau. 

Daw’r rhan fwyaf o ddysgwyr amser llawn y coleg o Sir Benfro, a chyfran fach ohonynt o siroedd cyfagos Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.   Mae tua 3% o’r dysgwyr sy’n cael eu derbyn yn y coleg yn ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol cymedrol i ddwys.  Mae darpariaeth y coleg ar gyfer medrau byw yn annibynnol yn amrywio o gyrsiau lefel cyn-mynediad i gyrsiau lefel 1.  Mae partneriaethau amlasiantaethol cryf yn ategu’r ddarpariaeth hon, sy’n cefnogi’r cynnig i gael profiad cwricwlwm cyfoethog a chynhwysfawr ar gyfer y dysgwyr.

Cyd-destun a chefndir yr arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector:

Mae’r coleg wedi nodi ers tro nad oedd y pwyslais ar gymwysterau o fewn y ddarpariaeth medrau byw yn annibynnol yn briodol ar gyfer anghenion a chyrchfannau llawer o’i ddysgwyr yn y dyfodol.  Yn 2015, adolygodd ei gwricwlwm i leihau nifer y credydau yr oedd angen i ddysgwyr eu cyflawni ar bob cwrs.  Mae hyn wedi galluogi’r adran i ddatblygu ac ymgorffori cwricwlwm cyfoethog ar gyfer dysgwyr, a chanolbwyntio ar ddatblygu medrau bywyd dysgwyr.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch y nodwyd ei fod yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae gan y coleg ddiwylliant o gynwysoldeb, gwaith partneriaeth, ac ymrwymiad i gynnig gofal, cyngor ac arweiniad yn seiliedig ar angen dysgwyr unigol.

Elfen ganolog i’r gwaith partneriaeth hwn yw rhaglen y coleg ar gyfer cyswllt ag ysgolion.  Fel rhan o’r rhaglen hon, daw disgyblion o Ysgol Portfield i’r coleg ar gyfer sesiynau rhagflas galwedigaethol bob wythnos.  Mae hyn yn helpu i feithrin perthnasoedd cryf rhwng disgyblion yr ysgol a staff addysgu a staff cymorth dysgu’r coleg cyn i’r disgyblion ymuno â’r coleg.  Mae cysylltiadau cryf ac effeithiol gyda’r ysgol, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol, tîm pontio’r awdurdod lleol, athrawon ymgynghorol, Gyrfa Cymru, Gweithredu dros Blant ac Uned Awtistig Penfro wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd.  Darperir cludiant, gan gynnwys cludiant arbenigol ar gyfer dysgwyr unigol, gan yr awdurdod lleol ac mae’n galluogi presenoldeb wythnosol yn y sesiynau rhagflas.  Fel rhan o’u profiad, mae dysgwyr yn aros am ginio ac yn integreiddio â chymuned y myfyrwyr yn y coleg cyfan.  Mae’r strategaeth hon yn sicrhau bod proses esmwyth pan ddaw’r amser i drosglwyddo i’r coleg.

Caiff y gwaith partneriaeth hwn ei efelychu’n fewnol yn y coleg, gan alluogi myfyrwyr medrau byw yn annibynnol i elwa ar gwricwlwm hynod gyfoethog, ymgymryd â chyfleoedd addysg a hyfforddiant galwedigaethol mewn llwybrau fel arlwyo, gwaith saer, gwaith brics, gofal anifeiliaid, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), garddwriaeth, trin gwallt, therapi harddwch, peirianneg, celf a dylunio a chwaraeon.  Caiff y cynnig estynedig hwn ei addasu bob blwyddyn, gyda chymorth pob cyfadran, i fodloni diddordebau penodol y grwpiau o ddysgwyr sy’n dod i mewn i’r coleg.  O ganlyniad i’r profiad hwn, mae dau ddysgwr medrau byw yn annibynnol wedi cynrychioli’r coleg yng nghystadleuaeth medrau cynhwysol Worldskills y DU, a gynhelir yn yr NEC Birmingham – a llwyddodd y naill a’r llall ohonynt i ennill medal Efydd.  Mae cyflawniadau eraill yn cynnwys grŵp o ddysgwyr yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth bêl-droed 5 bob ochr, dysgwyr yn ennill cystadleuaeth Gwaith Celf 2D yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am bedair o’r pum mlynedd ddiwethaf; a dysgwyr yn cymryd rhan yn llwyddiannus yn ffeiriau a gweithgareddau menter y coleg, gan gynnal stondinau cacennau a gwerthiannau llyfrau rheolaidd.

Mae’r partneriaethau hyn yn parhau trwy gydol cyfnod y dysgwyr yn y coleg, ac maent yn cefnogi’r profiad lleoliad gwaith y mae pob dysgwr medrau byw yn annibynnol yn ymgymryd ag ef.  Mae dysgwyr yn mynd ar brofiad gwaith gydag ystod eang o gyflogwyr, asiantaethau ac elusennau lleol sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r coleg i alluogi ystod eang o gyfleoedd.  Mae adolygiadau amlasiantaethol yn helpu dysgwyr i symud ymlaen i swydd, cyrsiau pellach yn y coleg neu i ddarpariaeth a hyfforddiant i oedolion.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr:

Mae’r dull hwn yn codi ymwybyddiaeth dysgwyr am ystod y llwybrau galwedigaethol sydd ar gael iddynt, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddatblygu dyheadau realistig a chyflawnadwy.  O ganlyniad, mae llawer o ddysgwyr yn mynd ymlaen yn llwyddiannus i hyfforddeiaethau neu gyrsiau prif ffrwd yn y coleg.  Mae’r gwasanaethau cymorth mewnol, er enghraifft nyrs y coleg, y tîm diogelu, yr anogwyr dysgu a’r tîm cymorth dysgu, yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol iawn i alluogi’r dysgwyr hyn i integreiddio’n llwyddiannus â chymuned y prif goleg.

Mae rhagor o wybodaeth am y ddarpariaeth medrau byw yn annibynnol yng Ngholeg Penfro wedi’i chynnwys mewn dwy astudiaeth achos, sef: ‘Mae cynllunio cwricwlwm hyblyg yn creu profiadau dysgu pwrpasol ar gyfer dysgwyr medrau byw yn annibynnol yng Ngholeg Penfro’ a ‘Sut mae profiad gwaith yn arwain at ddeilliannau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr medrau byw yn annibynnol yng Ngholeg Penfro’ yn adroddiad thematig diweddar Estyn, sef: Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn meysydd medrau byw yn annibynnol mewn colegau addysg bellach

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Oldcastle yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae 437 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 58 o ddisgyblion yn nosbarth meithrin yr ysgol.  Mae disgyblion wedi eu trefnu yn 15 dosbarth.

Mae tua 8% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Mae rhai disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, a dim ond yn ddiweddar iawn y mae llawer o’r disgyblion hyn wedi ymuno â’r ysgol.

Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 12% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 25%.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd, ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arall.

Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf ym Mehefin 2017.  Dechreuodd y pennaeth yn y swydd ym Mawrth 2013.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae llawer o ysgolion yn mabwysiadu dulliau i gynorthwyo disgyblion trwy ymyriadau strwythuredig, hyfforddi staff a gweithio gydag ysgolion eraill i ddarparu hyfforddiant a chymorth.  Dechreuodd Oldcastle fwy neu lai yn yr un ffordd, ar ôl ymchwilio i ymyrraeth rifedd lwyddiannus iawn a gynorthwyodd staff addysgu a staff cymorth i ddatblygu lefel uchel o ddealltwriaeth fathemategol.  Adeiladodd yr ymyrraeth ar ymchwil sy’n dangos bod ymyriadau strwythuredig yn fwy tebygol o arwain at welliannau mwy arwyddocaol mewn cyrhaeddiad.  Wedyn, gwelodd staff gyfle addysgol mewn defnyddio teletherapi i gynorthwyo disgyblion ag anghenion lleferydd ac iaith.

Mae cyfuno dulliau o ddysgu, sy’n adeiladu ar bartneriaethau gyda phrifysgolion a’r sector preifat, wedi gwella deilliannau ar gyfer disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae defnyddio ymyrraeth strwythuredig wedi trawsnewid mathemateg ar gyfer y dysgwyr â’r cyflawniad isaf ac wedi codi safonau ar gyfer pob un o’r dysgwyr yn yr ysgol.  Yn Oldcastle, mae staff yn defnyddio strategaeth ymyrraeth ddwys ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 1 i 6 sy’n cael yr anawsterau mwyaf â mathemateg.  Defnyddiant athro sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig i gyflwyno’r ymyrraeth.  Mae’r athro hwn hefyd yn cynorthwyo staff eraill yn yr ysgol i ddatblygu dealltwriaeth fanwl a phroffesiynol o fathemateg, gan wella’r defnydd o adnoddau sylweddol a darparu amgylchedd dysgu cyfoethog.
 
Yn Oldcastle, defnyddiodd staff ran o’i Grant Amddifadedd Disgyblion i ariannu strategaeth ‘rhifau’n cyfri’.  Maent yn gweithio mewn partneriaeth â Cymunedau yn Gyntaf, nid yn unig i dargedu disgyblion yn yr ysgol ond ar draws y clwstwr o ysgolion.  Mae’r strategaeth ymyrraeth hon yn targedu disgyblion a’u rhieni neu’u gofalwyr.  Mae’n canolbwyntio ar wella cyrhaeddiad mathemategol y rhai sydd â’r cyflawniad isaf ac mae hefyd yn cyfoethogi addysgu mathemateg ar gyfer pob disgybl ym mhob dosbarth.  Mae wedi galluogi’r ysgol i gynorthwyo athro mathemateg ‘arbenigol mewnol’, sy’n helpu i godi safonau ar gyfer pob un o’r dysgwyr a’r staff.  Mae llawer o arbenigwyr yr ysgol wedi cymryd cyfleoedd dilyniant gyrfa i gefnogi ac arwain ysgolion eraill.

Mae ymyrraeth strwythuredig Oldcastle yn defnyddio athro sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig sy’n rhoi o leiaf dair gwers 30 munud i ddysgwyr bob wythnos am dymor (12 wythnos, 40 sesiwn), yn unigol neu mewn parau neu grwpiau o dri.  O bryd i’w gilydd, mae Swyddog Cymorth Dysgu yn gweithio gyda grwpiau bach o ddisgyblion targed hefyd.  Ar ôl asesiad diagnostig manwl, mae’r athro yn cynllunio rhaglen deilwredig ar gyfer pob disgybl.  Mae athrawon yn rhoi cynlluniau ac adnoddau manwl i’r staff cymorth dysgu i helpu cyflawni eu brîff.  Mae gwersi trylwyr a gweithredol yn canolbwyntio ar rif a chyfrifo, gan helpu dysgwyr i ddatblygu medrau ac agweddau a fydd yn sicrhau cynnydd da mewn gwersi dosbarth.  Mae’r athro arbenigol yn cysylltu â rhieni ac yn rhannu ei wybodaeth arbenigol gyda chydweithwyr yn anffurfiol a thrwy DPP strwythuredig, gan godi safonau ar gyfer yr holl ddysgwyr.

Mae hyfforddiant a datblygiad proffesiynol yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod yr ymyrraeth yn llwyddiannus.  Mae hyn yn cynnwys nifer o ddiwrnodau o hyfforddiant lleol gan hyfforddwr achrededig dros ddau dymor, gwybodaeth bynciol fathemategol ac addysgegol fanylach y tu hwnt i’r hyn a fyddai’n ofynnol fel myfyriwr israddedig arbenigol nad yw’n ymwneud â mathemateg.  Mae hefyd yn cynnwys datblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd uchel ar gyfer staff cymorth mewn defnyddio strategaethau ymyrraeth strwythuredig sy’n arwain at achrediad ar gyfer yr athro, y swyddog cymorth dysgu a’r ysgol.  Mae datblygiad proffesiynol parhaus a darparu adnoddau a chymorth yn parhau i adeiladu set medrau pob un o’r staff dan sylw.

Yn ogystal â’r strategaeth ymyrraeth mathemateg hon, mae’r ysgol yn dweud mai hi oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i ddefnyddio teletherapi i gefnogi therapi lleferydd ac iaith disgyblion.  Gan ddefnyddio llwyfan ar-lein a adeiladwyd yn bwrpasol, “Speech Deck”, a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth, nodwyd disgyblion i gymryd rhan mewn sesiynau wythnosol yn gysylltiedig â thargedau clir.  Ar ôl cyfnod byr iawn, sylwodd Oldcastle fod ei disgyblion yn uniaethu â’r system newydd hon yn dda, mewn sesiynau penodol ac yn ôl yn eu dosbarthiadau arferol.  Mae’r system yn galluogi’r ysgol i olrhain a defnyddio data yn fwy effeithlon mewn perthynas â thargedau lleferydd ac iaith, ac yn bwysicach, mae disgyblion yn cael deilliannau gwell.
 
Mae gwasanaeth Lleferydd ac Iaith Oldcastle wedi newid y ffordd y mae’n cyflwyno therapi lleferydd ac iaith, gan symleiddio cyfathrebu rhwng yr athro, y therapydd a’r rhieni a chyflwyno ymyrraeth yn seiliedig ar dystiolaeth nad yw nid yn unig yn swyddogaethol ond hefyd yn llawn hwyl!  Nod yr ysgol yw creu profiadau therapiwtig cofiadwy ar gyfer disgyblion a phob un o’r staff addysgu.

Mae lefelau uchel o ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer staff cymorth yn cyd-fynd â’r pecyn cymorth, sy’n sicrhau eu bod yn magu hyder ac yn gallu cymhwyso’r medrau a ddysgwyd mewn gwahanol gyd-destunau.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r ymyriadau strwythuredig hyn wedi galluogi athrawon i gynllunio cwricwlwm perthnasol a difyr sy’n bodloni anghenion pob dysgwr.  Mae athrawon wedi sicrhau eu bod yn defnyddio amgylchedd dysgu cyfoethog yr ysgol yn effeithiol i ddarparu cyd-destunau heriol i ddatblygu medrau rhifedd, iaith a chyfathrebu disgyblion.  Mae’r ysgol yn datgan bod disgyblion yn cymhwyso ystod o fedrau rhifedd yn hyderus i safon dda iawn erbyn hyn, yn enwedig mewn gwersi mathemateg, ac mae bellach yn cymhwyso’r rhain ar draws y cwricwlwm.  Mae arweinwyr yn teimlo bod yr effaith hon yn amlwg yn yr ysgol ac ar draws yr ysgolion partneriaeth.  Mae’r ysgol yn datgan bod disgyblion ar yr ymyrraeth dan arweiniad athro yn nodweddiadol yn gwneud gwerth 14 mis a mwy o gynnydd dros bedwar mis, ac mae llawer ohonynt yn gwneud gwerth tua 20 mis o gynnydd yn y cyfnod hwn.  Mae dysgwyr ar yr ymyriadau gan y Swyddog Cymorth Dysgu yn gwneud tua 12 mis o gynnydd dros dri mis.  Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion hyn yn cadw’r enillion a wnaed ar yr adegau gwirio bob tri a chwe mis.  Mae arweinwyr yn Oldcastle yn teimlo bod disgyblion ag anghenion lleferydd a chyfathrebu wedi gweld mantais sylweddol wrth ddefnyddio’r system teletherapi.  Mae llawer o ddisgyblion ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig yn cynnal eu lle mewn darpariaeth prif ffrwd a dywed rhieni ei bod wedi newid eu bywydau nhw.  Mae’r ysgol yn teimlo bod yr holl ddisgyblion sy’n cael eu targedu yn gwneud cynnydd rhagorol yn eu hasesiadau llafaredd.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae staff yn y ddau brosiect wedi rhannu eu harfer â nifer o ysgolion lleol a grwpiau o athrawon.  Mae athrawon, uwch arweinwyr a staff cymorth wedi ymweld â’r ysgol i gysgodi staff, ac arsylwi gweithgareddau a strategaethau yn ymarferol.  Maent wedi arsylwi’r modd y mae’r ysgol yn datblygu ei darpariaeth ar gyfer defnyddio adnoddau sylweddol mewn mathemateg.  Maent wedi rhannu’r arfer â phrifysgolion partner hefyd, yng Nghymru ac yn Lloegr, a gyda gweithwyr proffesiynol eraill a rhieni.