Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- gasglu data trylwyr ar leoliadau canolfannau adnodd sydd ynghlwm wrth ysgolion a’r grwpiau o ddisgyblion y maent yn gweithio gyda nhw;
- parhau i ymestyn y system integredig i blant fel y gellir rhannu gwybodaeth ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru; ac
- annog AALlau i ddatblygu polisïau derbyn ac ymadael cynhwysfawr gyda meini prawf clir ar gyfer canolfannau adnodd.
Dylai awdurdodau lleol:
- gynnwys partneriaid allanol yn llawn wrth gynllunio darpariaeth;
- casglu a dadansoddi data am ddisgyblion y diffiniwyd mai anawsterau dysgu cymedrol yw eu prif angen, a grwpiau eraill o ddisgyblion ag anghenion penodol, yn eu canolfannau adnodd i lywio cynllunio strategol; ac
- adolygu grwpiau ac anghenion disgyblion mewn canolfannau adnodd yn rheolaidd a gwneud newidiadau priodol lle bydd angen.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- nodi data gwaelodlin a gosod targedau ar gyfer rhwydweithiau 14-19 i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a monitro cynnydd yn erbyn y targedau hynny; a
- hyrwyddo adnoddau cyfrwng Cymraeg ar-lein newydd a chodi ymwybyddiaeth darparwyr am yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.
Dylai’r rhwydweithiau 14-19:
- nodi bylchau a gwendidau mewn darpariaeth Gymraeg ar draws darparwyr a gosod targedau i fynd i’r afael â nhw; a
- hysbysu darparwyr a dysgwyr am gymwysterau sydd ar gael yn Gymraeg.
Dylai darparwyr:
- farchnata eu cyrsiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn fwy gweithredol;
- arfarnu cost-effeithiolrwydd cyrsiau, a chydweithio mwy i ddarparu cyrsiau cyfrwng Cymraeg ar y cyd â darparwyr eraill pan fydd niferoedd yn isel, er enghraifft, trwy ymestyn y defnydd o athrawon peripatetig; a
- chynyddu cymorth tiwtoriaid i ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau dysgu o bell trwy fideo-gynadledda neu e-ddysgu.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Argymhellion
Dylai darparwyr:
- sicrhau bod eu hamserlenni yn cyd-fynd â rhai darparwyr eraill ac ystyried y bylchau mewn dewislenni opsiynau lleol wrth gynllunio eu darpariaeth;
- rhoi gwybodaeth glir, gywir a diduedd i ddysgwyr am y dewisiadau sydd ar gael iddynt; a
- chynyddu’r ystod o gyrsiau galwedigaethol sydd ar gael i bob dysgwr.
Dylai rhwydweithiau:
- sicrhau bod gan bob darparwr, staff, dysgwr a rhiant ddealltwriaeth glir o Lwybrau Dysgu 14-19 ac o’r dewisiadau sydd ar gael i ddysgwyr; ac
- archwilio ffyrdd o gael ymglymiad llawn darparwyr dysgu yn y gwaith.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ddatblygu strategaeth gyfathrebu er mwyn sicrhau bod darparwyr, dysgwyr a rhieni yn cael eu hysbysu’n well am ddiben Llwybrau Dysgu 14-19 a dewislenni opsiynau.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Argymhellion
Dylai awdurdodau lleol:
- gynllunio gwasanaethau yn strategol mewn partneriaeth â phobl eraill i ddarparu cymorth effeithiol nad yw’n addysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion arbennig cymhleth a’u teuluoedd;
- gwneud yn siŵr bod ysgolion arbennig annibynnol sydd â darpariaeth breswyl gysylltiedig yn gallu bodloni ystod o anghenion cymhleth disgyblion unigol cyn eu lleoli; a
- sicrhau bod gwybodaeth unigol a chynhwysfawr am addysg a gofal yn cael ei rhoi i’r ysgol cyn lleoli’r disgyblion.
Dylai ysgolion arbennig preswyl sydd â darpariaeth breswyl gysylltiedig:
- sicrhau eu bod yn derbyn disgyblion y mae ganddynt arbenigedd i’w haddysgu yn unig; a
- pheidio â derbyn disgyblion nes eu bod wedi cael gwybodaeth unigol a chynhwysfawr am addysg a gofal gan yr awdurdod lleoli.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- wneud yn siŵr bod trefniadau cytundebol ar waith gyda darparwyr dysgu yn y gwaith i sicrhau ennill fframweithiau cymhwyster;
- parhau i ddarparu cymorth a hyfforddiant parhaus ar gyfer medrau allweddol ar lefel genedlaethol i helpu darparwyr dysgu yn y gwaith i wella ansawdd eu hyfforddiant a chynyddu nifer y dysgwyr sy’n cyflawni’r fframweithiau cymhwyster; a
- gwella’r ffordd y caiff data ei gasglu, ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i alluogi darparwyr dysgu yn y gwaith i feincnodi eu perfformiad yn gywir a nodi meysydd o’u gwaith y mae angen eu gwella.
Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith:
- ddatblygu strategaethau ymhellach i gynyddu cyrhaeddiad dysgwyr mewn medrau allweddol a fframweithiau cymhwyster; a
- gwneud yn siŵr bod hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith, yn cynnwys medrau allweddol, yn rhan orfodol o raglenni dysgu.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ystyried ceisio gwneud trefniadau ffurfiol gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i adrodd yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru lle nad yw pobl ifanc mewn cartrefi plant yn cael eu haddysgu mewn darpariaeth a gynhelir; a
- sicrhau bod ysgolion annibynnol cofrestredig yn cynnal cofrestrau presenoldeb dyddiol sy’n cydymffurfio â rheoliadau, ac yn cyflawni gofynion Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cymru) 2003.
Dylai awdurdodau lleol:
- roi cofnodion addysg disgyblion i ysgolion annibynnol cofrestredig yn fwy prydlon a sicrhau eu bod yn cynnwys gwybodaeth gyfoes; a
- chymryd rôl fwy cadarnhaol fel rhieni corfforaethol.
Dylai ysgolion annibynnol cofrestredig:
- gynnal asesiad cychwynnol o ddisgyblion newydd, monitro eu cynnydd yn effeithiol a defnyddio’r wybodaeth i gynllunio’n briodol i fodloni anghenion dysgu disgyblion; ac
- arfarnu a monitro’r rhaglenni astudio addysg yn fwy trylwyr ar gyfer disgyblion sy’n mynychu sefydliadau eraill am ran o’u haddysg.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ddarparu arweinyddiaeth ac adnoddau yn y mannau hynny lle nad oes data ar gael;
- cefnogi datblygiad mesurau deilliannau defnyddiol gan adeiladu ar ddangosyddion perfformiad presennol; a
- datblygu arweiniad ar gwmpas data i’w ddefnyddio ar gyfer dadansoddi angen i gael cysondeb gwell ledled Cymru.
Dylai awdurdodau lleol a’u partneriaid:
- wneud yn siŵr bod y data sy’n cael ei gasglu ar gyfer dadansoddi anghenion a mesurau deilliannau yn cael ei ddefnyddio i lywio dyrannu adnoddau a chynllunio strategol;
- defnyddio mesurau deilliannau effeithiol a chasglu’r wybodaeth hon yn drefnus; a
- defnyddio gwybodaeth fanwl i ganolbwyntio gwasanaethau cymorth ac addysg ar y rhai sydd eu hangen fwyaf.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- roi arweiniad clir i awdurdodau lleol am y mathau o ddarpariaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu cofrestru; a
- rhoi gwybodaeth flynyddol i Estyn am yr holl safleoedd y mae awdurdodau lleol yn eu cofrestru.
Dylai awdurdodau lleol:
- gofrestru gyda Llywodraeth Cymru yr holl safleoedd lle maent yn cynnal darpariaeth ar gyfer disgyblion o oedran ysgol heblaw’r rhai sydd mewn ysgolion prif ffrwd, arbennig neu feithrin;
- hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau i’r ddarpariaeth gofrestredig yn flynyddol; a
- gofyn am gydweithio agosach rhwng gweithwyr addysg, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu a gweithwyr ieuenctid i nodi plant nad ydynt yn mynychu ysgolion neu ddarpariaeth addysgol gymeradwy arall.
Dylai ysgolion:
- sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004.