Adroddiad thematig Archives - Page 28 of 31 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • weithio gydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i egluro sut y gall darparwyr dysgu yn y gymuned ysgogi gwelliant i wasanaethau;
  • hyrwyddo astudiaethau hydredol o weithgarwch dysgu wedi’i greu gan y dysgwr i gofnodi deilliannau a hyrwyddo arfer dda; a
  • chreu panel cenedlaethol i ddysgwyr ar ddatblygu rhaglenni dysgu oedolion yn y gymuned

Dylai rhwydweithiau Dysgu Cymunedol:

  • ddefnyddio ymgynghori â dysgwyr yn fwy cyson i greu dinasyddion mwy ymgysylltiedig a gwybodus er mwyn hyrwyddo mwy o falchder, uchelgais ac atebolrwydd lleol yn eu cymunedau lleol.

Dylai darparwyr unigol:

  • wella cysondeb digwyddiadau ymgynghori ar gyfer dysgwyr; a
  • nodi cysylltiadau â’r rhwydwaith lleol er mwyn cydlynu gweithgareddau ymgynghori â dysgwyr gyda sefydliadau lleol eraill ac adrannau awdurdodau lleol.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau bod holl wasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol yn defnyddio system gwybodaeth reoli gyson (SGR) neu un set o safonau cytûn y maent i gyd yn adrodd yn eu herbyn.

Dylai gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol:

  • ddatblygu systemau gwybodaeth reoli effeithiol i gasglu data ar y nifer sy’n manteisio arnynt, cyrhaeddiad, cyfraddau tynnu’n ôl a chynnydd pobl ifanc mewn addysg ffurfiol ac addysg nad yw’n ffurfiol;
  • datblygu ymhellach systemau ar gyfer mesur datblygiad personol pobl ifanc; a
  • gwella’r arfer o gasglu a dadansoddi data a gwybodaeth berthnasol, yn cynnwys y data a’r wybodaeth sy’n ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol.

Dylai partneriaethau lleol:

  • ddadansoddi’r data sydd ar gael sy’n ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol er mwyn nodi heriau lleol ac atebion lleol; a
  • chefnogi cyflwyno defnydd effeithiol o SGR i asiantaethau partner sy’n cyfrannu at wasanaethau cymorth ieuenctid lleol.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • gynllunio rhaglen gydlynus a dilyniadol o weithgareddau addysg ariannol ar draws y cwricwlwm; a
  • monitro ac arfarnu cynnydd dysgwyr mewn datblygu a chymhwyso eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth ariannol.

Dylai awdurdodau lleol:

  • weithio gydag Uned Addysg Ariannol Cymru a sefydliadau ariannol i ddarparu cymorth addysg ariannol gwell ar gyfer ysgolion; ac
  • annog ysgolion i rannu arfer orau.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatblygu cronfa ddata ranbarthol o sefydliadau a all gefnogi a rhannu arfer dda gydag ysgolion ac awdurdodau lleol; a
  • pharhau i gefnogi datblygiad adnoddau addysg ariannol Cymraeg.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sefydlu arweiniad strategol cenedlaethol ar gyfer dysgwyr ag anghenion caffael Saesneg;
  • datblygu cynllun strategol ag amcanion a blaenoriaethau clir ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion caffael Saesneg; a
  • phenodi swyddog arbenigol ar gyfer gweithredu’r amcanion a’r blaenoriaethau hyn.

Dylai darparwyr:

  • wella medrau athrawon rheng flaen i gefnogi dysgwyr ag anghenion caffael Saesneg; a
  • chryfhau’r adnoddau i sicrhau bod digon o staff cymwys arbenigol i fodloni anghenion dysgwyr.

Dylai Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc:

  • ddatblygu polisi ar gyfer rhannu gwybodaeth yn effeithiol rhwng partneriaid allweddol;
  • arfarnu a gwella cynllunio trosglwyddo ar gyfer dysgwyr ag anghenion caffael Saesneg; a
  • datblygu a gweithredu strategaeth i sicrhau bod dysgwyr bregus yn cael cymorth targedig.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion uwchradd:

  • ddarparu hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon gwyddoniaeth nad ydynt yn arbenigwyr mewn gwyddoniaeth ffisegol i wella eu gwybodaeth bynciol ac addysgeg; a
  • chynyddu’r cydweithio gyda phartneriaid eraill i sicrhau eu bod, gyda’i gilydd, yn cynnig ystod lawn o ddewisiadau gwyddoniaeth i fodloni anghenion pob dysgwr 14-19 ac yn gwneud defnydd mwy effeithiol o athrawon arbenigol.

Dylai rhwydweithiau 14-19:

  • annog mwy o gydweithio rhwng darparwyr i gynnig ystod eang o lwybrau mewn gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr 14-19, yn cynnwys llwybrau cymhwysol a galwedigaethol; a
  • gwneud yn siŵr bod cydlynwyr Llwybrau Dysgu 14-19 ac anogwyr dysgu yn deall y llwybrau posibl mewn gwyddoniaeth yn llawn a’u bod yn rhoi cyngor llawn a diduedd i ddysgwyr.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatblygu strategaeth addysg wyddoniaeth i Gymru a fydd yn cynnig symbyliad arwyddocaol i wella safonau ac ansawdd yr addysgu a’r arweinyddiaeth mewn gwyddoniaeth ac yn y gwyddorau ffisegol yn arbennig; a
  • chefnogi datblygu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer penaethiaid gwyddoniaeth ac ar gyfer athrawon gwyddoniaeth nad ydynt yn arbenigwyr mewn gwyddoniaeth ffisegol.

Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn cynnwys arfer orau o ysgolion amrywiol.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Mae angen i Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â TUC Cymru:

  • ymestyn prosiectau CDdUC hyd at dair blynedd i wneud yn siŵr bod cyflogeion yn cael o leiaf ddwy flynedd lawn o addysg a hyfforddiant;
  • gwella’r broses gwneud cynigion i wneud yn siŵr bod undebau llafur a dysgwyr yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd addysg a hyfforddiant a ariennir gan CDdUC sydd ar gael; a
  • gweithio gyda chyflogwyr ac undebau i wella cynaliadwyedd rhaglenni CDdUC ar ddiwedd eu cyfnod ariannu.

Mae angen i TUC Cymru:

  • wella gweithio mewn partneriaeth ar draws undebau i’w galluogi i rannu arfer dda ac adnoddau yn effeithiol.

Mae angen i reolwyr prosiect CDdUC:

  • wneud yn siŵr bod pob cyflogai yn cael cymorth medrau sylfaenol ar lefel addas; ac
  • ymgysylltu’n llawn â chyflogwyr i wneud y gorau o argaeledd a chynaliadwyedd cyfleoedd dysgu ar gyfer cyflogeion a’u teuluoedd pan fydd cyllid CDdUC wedi dod i ben.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • ddyfnhau dealltwriaeth staff o fathemateg er mwyn iddynt allu nodi’r hyn y mae angen i ddisgyblion ei ddysgu nesaf yn well;
  • cynnig cyfleoedd gwell a mwy rheolaidd i ddisgyblion ‘ddefnyddio a chymhwyso’ mathemateg yn eu gwaith bob dydd, yn cynnwys gwella lefel yr her i’r disgyblion mwy abl ddatblygu eu medrau meddwl a datrys problemau; a
  • chynnwys pob un o’r staff, yn cynnwys y staff cymorth, wrth lunio cynlluniau datblygu mathemategol a chynlluniau tymor byr ar gyfer addysgu mathemateg a rhifedd.

Dylai awdurdodau lleol:

  • wneud defnydd gwell o ddadansoddi data i dargedu cymorth ar gyfer ysgolion y mae angen i’w perfformiad mewn mathemateg wella; a
  • darparu mwy o addysgu ar gyfer athrawon mewn mathemateg ac mewn sicrhau asesiadau athrawon mwy cywir a chyson ar ddiwedd Blwyddyn 2.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • sicrhau bod gan uwch reolwyr rôl allweddol mewn arwain a chydlynu datblygu’r rhaglen yn eu hysgolion;
  • rhoi digon o amser cynllunio ac arfarnu ar gyfer y tîm sy’n cyflwyno’r rhaglen;
  • sefydlu systemau hylaw i safoni’r safonau a gyflawnir at ddibenion asesu;
  • sefydlu systemau cynhwysfawr ac ymarferol i gynllunio, amlinellu a monitro cyflwyno medrau allweddol; a
  • threfnu grwpiau tiwtor o faint rhesymol fel bod tiwtoriaid personol yn gallu cyflawni eu rôl.

Dylai CBAC:

  • ddarparu arweiniad a hyfforddiant pellach i athrawon ar safonau’r gwaith a ddisgwylir ar lefelau 1 a 2; a
  • pharhau â’r gwaith i wella dibynadwyedd a chysondeb asesiadau ar bob lefel trwy drefniadau safoni gwell.

Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn cynnwys arfer orau o ysgolion amrywiol.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau bod digon o leoedd hyfforddiant yn y gwaith i fodloni anghenion yr holl bobl ifanc;
  • casglu data cenedlaethol ar gyrhaeddiad a chyflawniadau plant a phobl ifanc sy’n cael eu goruchwylio gan TTIau yn y gymuned; a
  • monitro’r defnydd o gynlluniau dysgu unigol ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc sy’n troseddu, fel sy’n ofynnol gan Strategaeth Troseddwyr Ifanc Cymru Gyfan.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gymryd rhan mewn byrddau rheoli TTI ar lefel ddigon uchel, gan sicrhau bod cynrychiolaeth ar lefel ddigon uchel gan wasanaethau addysg; ac
  • adolygu lefel y cyfraniad cyllid at TTIau.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai cwmnïau Gyrfa Cymru:

  • sicrhau bod Rhwydweithiau Dysgu yn glir ynglÅ·n â’r gwasanaethau y mae cwmnïau Gyrfa Cymru yn eu darparu yn eu cyllid craidd;
  • gwella dealltwriaeth partneriaid o’r ffiniau rhwng rolau anogwyr dysgu ac ymgynghorwyr gyrfaoedd; ac
  • adolygu, ar lefel strategol, y modd y gall cynlluniau busnes a modelau adnodd ymateb yn well i ddatblygiadau Llwybrau Dysgu.

Dylai Rhwydweithiau Dysgu:

  • wneud y defnydd gorau o wybodaeth am y farchnad lafur a’r wybodaeth am gyrchfannau dysgwyr y mae cwmnïau Gyrfa Cymru yn eu llunio er mwyn cynllunio darpariaeth.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau bod cyfatebiaeth briodol rhwng anghenion dysgwyr ac argaeledd dysgu yn y gwaith addas; a
  • sefydlu canllawiau clir i egluro rôl anogwyr dysgu a gwella cysondeb y ddarpariaeth.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.