Cynorthwyo anghenion disgyblion drwy weithio amlddisgyblaethol
Ar draws yr ysgol, ceir ystod o dimau cymorth ysgol gyfan sy’n darparu cymorth ar gyfer anghenion lleferydd ac iaith, llythrennedd corfforol, cyfathrebu estynedig ac amgen, meddygol ac ymddygiadol disgyblion. Mae’r staff hyn yn cydweithio’n effeithiol ag athrawon, cynorthwywyr addysgu a gweithwyr proffesiynol eraill i gefnogi addysgu a dysgu ar gyfer pob disgybl. Er enghraifft, mae’r ysgol yn cofnodi ac yn monitro pob digwyddiad ymddygiadol yn effeithiol iawn, gan gynnwys digwyddiadau sy’n cynnwys ymyriadau corfforol. Mae’r arbenigedd gwerthfawr hwn yn cynorthwyo’r tîm addysgu i ddeall y rhesymau dros ymddygiadau sy’n herio, swyddogaeth yr ymddygiadau hyn i’r disgybl, ac yn rhoi strategaethau rhagweithiol iddynt i gynorthwyo staff a disgyblion yn y dosbarth. O ganlyniad i arfer fyfyriol ystyriol gan staff, ynghyd â chymorth gwerthfawr y tîm ymddygiad, dros gyfnod mae llawer o ddisgyblion yn dangos gwelliant sylweddol o ran nifer y digwyddiadau o ymddygiad sy’n herio.