Cyngor Bwrdeisdref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr/Bridgend County Borough Council - Estyn
Gwasanaethau addysg llywodraeth leol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

Cyngor Bwrdeisdref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr/Bridgend County Borough Council

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 3

Cipluniau

Cysylltu buddsoddiad cyfalaf â gwelliannau i ddulliau addysgu

Mae’r awdurdod lleol wedi datblygu dull hynod effeithiol o ddefnyddio grantiau cyfalaf bach i wella darpariaeth y blynyddoedd cynnar. Mae swyddogion yn sicrhau bod cyllid yn cyd-fynd yn agos â’r anghenion a nodwyd, gan arwain at welliannau pwrpasol fel mannau synhwyraidd ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac amgylcheddau sy’n hyrwyddo chwarae a dysgu parhaus. Un o gryfderau nodedig y gwaith hwn yw'r cysylltiad cryf rhwng buddsoddiad cyfalaf ac addysgeg. Mae'r tîm blynyddoedd cynnar a gofal plant yn cynorthwyo lleoliadau ar bob cam, gan gynnwys nodi blaenoriaethau, datblygu ceisiadau, darparu dysgu profesiynol perthnasol a monitro'r effaith ar brofiadau plant.Mae'r broses gydlynus hon, o'r decharu i'r diwedd, yn sicrhau bod datblygiadau wedi'u seilio'n gadarn ar arfer effeithiol ac egwyddorion y cwricwlwm, yn enwedig wrth greu amgylcheddau sy'n galluogi dysgu a chefnogi rhyngweithio o ansawdd uchel rhwng oedolion a phlant.

Manylion

Cyfeiriad

Civic Offices
Angel Street
Bridgend
CF31 4WB