Cyhoeddir Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd bob mis Ionawr ac mae’n darparu dadansoddiad a sylwebaeth ar berfformiad addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol.
Mae Adroddiad Blynyddol 2012-2013 yn cynnwys canfyddiadau o drydedd flwyddyn y cylch arolygu presennol ac mae hefyd yn myfyrio ar ganfyddiadau o hanner cyntaf y cylch, a gychwynnodd ym Medi 2010. Mae’r arolygiadau a gynhaliwyd dros y tair blynedd diwethaf yn cynrychioli hanner yr ysgolion a’r darparwyr addysg a hyfforddiant eraill yng Nghymru, ac mae’r adroddiad yn cyflwyno’r pum prif argymhelliad a roddwyd i ysgolion a darparwyr ôl-16 yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar addysgu a chanfyddiadau o adroddiadau ar ysgolion a darparwyr ôl-16 dros y tair blynedd diwethaf. Caiff ffactorau sy’n hybu addysgu da a rhagorol eu hamlygu. Yn ogystal, mae diweddariad ar ddysgu Cymraeg fel ail iaith ac, ym mlwyddyn canlyniadau diweddaraf PISA, mae dadansoddiad manwl o safle Cymru yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig, a’i ystyr a’i oblygiadau i addysg yng Nghymru.
Cyflwynir astudiaethau achos arfer dda ar draws yr adroddiad, ac mae dogfen ar wahân yn cyflwyno data ar ddeiliannau arolygiadau ar gyfer pob darparwr a arolygwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sef 2012-2013, ynghyd â chrynodeb ar gyfer y cyfnod tair blynedd 2010-2013.
pdf, 5.32 MB