Erthyglau Newyddion Archive - Page 3 of 18 - Estyn

Archives: Erthyglau Newyddion


Archives: Erthyglau Newyddion


Ymunwch â ni’n fyw am 4pm ar 21 o Dachwedd 2024 am drafodaeth ynglŷn ag arfer effeithiol a chanfyddiadau allweddol o’n hadroddiad thematig diweddar Adroddiad Thematig: Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed – Estyn 

Bydd awdur yr adroddiad, Heledd Thomas AEF yn cael cwmni cynrychiolwyr o Ysgol Gynradd Gymraeg Llangennech ac Ysgol Dyffryn Ogwen i rannu eu profiadau. Bydd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â’r adroddiad, neu’r pwnc yn ehangach.  

Cofrestrwch nawr!

Archives: Erthyglau Newyddion


A group of secondary school children working around a desk, with one student smiling at the camera

Heddiw, mae Estyn yn cyhoeddi ei fewnwelediadau cynnar o Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2023–24, gan roi crynodeb amserol o beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei wella ar draws pob sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Nod Estyn yw sicrhau bod canfyddiadau Prif Arolygydd Ei Fawrhydi yn hygyrch ac yn ddefnyddiol i ddarparwyr addysg a hyfforddiant trwy adroddiad blynyddol ar-lein sy’n hawdd ei ddarllen a’i ddeall ac sydd ar gael i bawb cyn gynted ag y bo modd.

Heddiw, mae Estyn wedi cyhoeddi crynodebau yn benodol i sector ar draws un ar bymtheg o sectorau, gan gynnwys ysgolion, colegau, dysgu yn y gwaith, gwasanaethau addysg llywodraeth leol, gwaith ieuenctid athrawon ac addysg yn y sector cyfiawnder, ymhlith eraill, gan amlinellu beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd angen ei gryfhau. 

Mae’r mewnwelediadau cynnar, sydd wedi’u tynnu ynghyd o ganfyddiadau arolygiadau Estyn yn ystod 2023-2024, yn myfyrio ar y prif heriau a’r llwyddiannau ym mhob sector. I gynorthwyo darparwyr i wella yn eu lleoliadau eu hunain, mae’r crynodebau sector yn cyfeirio at adroddiadau arolygu ac astudiaethau achos gan ddarparwyr a arolygwyd ac y canfuwyd eu bod yn gwneud yn arbennig o dda.  

Cyn ei Adroddiad Blynyddol llawn, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr, dywedodd y Prif Arolygydd, Owen Evans:

“Wrth i ni gwblhau ein hail fis yn arolygu dan ein trefniadau newydd, mae’n bwysig ein bod yn myfyrio ar y dirwedd addysg a hyfforddiant yn ei chyfanrwydd ac yn amlygu’r meysydd sy’n cynnig heriau a chyfleoedd i ddarparwyr ledled Cymru.

“Mae fy adroddiad mewnwelediadau cynnar yn dwyn ynghyd y wybodaeth werthfawr rydym wedi’i chasglu o arolygu mwy na 400 o ddarparwyr addysg a hyfforddiant dros y deuddeng mis diwethaf. Mae’n fraint cael golwg genedlaethol ar nifer o sectorau addysg a hyfforddiant ledled Cymru a chaiff ein mewnwelediadau eu cyflwyno mewn ffordd sy’n nodi themâu a heriau cyffredinol er mwyn ceisio cefnogi gwelliant.

“Bydd fy adroddiad blynyddol llawn yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr a bydd yn cynnig mewnwelediad pellach i’n blaenoriaethau addysg a hyfforddiant cyfredol yma yng Nghymru, gan roi mwy o fanylion am ganfyddiadau ein harolygiadau, ynghyd â dadansoddiad o nifer o themâu ehangach gan gynnwys addysgu a’r cwricwlwm, recriwtio a chadw, a gwrth-hiliaeth.”  

Darllenwch grynodebau’r sectorau yma.

Archives: Erthyglau Newyddion


Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (Lynne Neagle AS) ar y gwaith da a wneir yn ein canolfannau trochi hwyr ledled Cymru yng Nghyfarfod Llawn y Senedd yr wythnos hon.

Rydym yn llwyr gefnogi’r ffocws ar rôl bwysig canolfannau trochi mewn datblygu medrau darllen Cymraeg ac yn amlygu hyn yn ein hadroddiad thematig diweddar: Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed

Mae’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’w weld isod:

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn heddiw i amlygu a dathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud yn ein canolfannau trochi hwyr ledled Cymru, a’r rhan rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn ei chwarae o ran cefnogi’r gwaith hwnnw…

Mae dros 4,000 o ddysgwyr wedi elwa ar raglenni trochi hwyr dwys er 2021. Mae arferion addysgu trochi hwyr hefyd wedi’u defnyddio i atgyfnerthu medrau Cymraeg ymhlith dysgwyr llai hyderus, yn enwedig ar ôl y pandemig.

Fe wnaeth adroddiad thematig Estyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddatblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed gydnabod y rôl y mae canolfannau trochi hwyr yn ei chwarae mewn datblygu medrau Cymraeg effeithiol ymhlith dysgwyr sy’n trosglwyddo o’r sector cyfrwng Saesneg. Mae’r cyllid i awdurdodau lleol hefyd wedi cynorthwyo i gadw a recriwtio dros 60 o ymarferwyr trochi hwyr, yn ogystal â galluogi defnydd creadigol o dechnoleg i gyfoethogi’r profiad dysgu. Mae Cyngor Gwynedd, er enghraifft, wedi arwain y gwaith o ddatblygu pentref rhithwir ‘Pentref Aberwla’, gan ddefnyddio technoleg realiti rhithwir, a fydd yn cael ei chyflwyno’n genedlaethol dros gyfnod.” 

Mae manylion llawn am gyfeiriad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’w gweld yma: Agenda Y Cyfarfod Llawn ar Dydd Mawrth, 8 Hydref 2024, 13.30 (senedd.cymru)

I ddarganfod mwy am ein hymagwedd at arolygu trefniadau trochi Cymraeg mewn awdurdodau lleol, cliciwch yma.

Mae ein hadroddiad arolygu diweddar ar drefniadau trochi Cymraeg yng Nghyngor Dinas Casnewydd i’w weld yma.

Am ragor o enghreifftiau o arfer da yn y sector hyn, darllenwch ein hadroddiad thematig diweddar: Addysg Drochi Cymraeg – Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed – Estyn (llyw.cymru)

Archives: Erthyglau Newyddion


Plant mewn ysgol feithrin yn ymgynull gyda athro ar gyfer amser stori.

Mae Estyn yn cydnabod yr angen i flaenoriaethu gwella medrau darllen dysgwyr yng Nghymru. Mae Estyn hefyd yn cydnabod bod yr addysgu a’r dysgu gorau mewn darllen yn gallu cynnwys ystod o fethodolegau ac arferion, gyda ffoneg fel bloc adeiladu allweddol. Er y byddem yn disgwyl gweld arfer yn seiliedig ar ffoneg yn cael ei chynnwys mewn ysgolion, nid yw Estyn yn cymeradwyo unrhyw un ymagwedd benodol at addysgu darllen, ond mae’n defnyddio ystod o dystiolaeth i werthuso pob ymagwedd gyda ffocws ar ei heffaith ar gynnydd dysgwyr.

Yn ein profiad ni, mae’r ysgolion mwyaf effeithiol yng Nghymru yn defnyddio ymagwedd gytbwys at addysgu darllen. Mae’r ysgolion hyn yn defnyddio ystod o strategaethau fel bod bron pob un o’r dysgwyr yn darllen â rhuglder a dealltwriaeth. Mae gan yr ysgolion hyn ymagwedd ysgol gyfan at ddatblygu medrau darllen dysgwyr ac mae ganddynt ddiwylliant darllen sefydledig. Pan fydd plant yn dechrau yn yr ysgol, mae’r athrawon gorau yn rhoi pwyslais ar ddatblygu medrau cyn-darllen ac wedyn yn adeiladu ar hyn trwy addysgu ffoneg yn eglur ac yn raddol. Mae athrawon yn annog dysgwyr i ddefnyddio ystod o strategaethau fel rhan o’r ymagwedd gytbwys hon. Wrth i ddysgwyr symud trwy’r ysgol, mae athrawon yn eu cynorthwyo i gaffael medrau darllen a dilyniant geirfa uwch trwy barhau i ddatblygu eu dealltwriaeth fel y sylfaen ar gyfer yr holl ddysgu.

Archives: Erthyglau Newyddion


Mae angen i ysgolion gydweithio’n fwy effeithiol i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd mwy cyson wrth iddynt symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, yn ôl adroddiad newydd gan Estyn. Mae’r adroddiad, Pontio a chynnydd disgyblion, yn edrych ar ba mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi dysgu a lles disgyblion yn ystod y cyfnod pontio pwysig hwn.  

Er bod ysgolion i raddau helaeth yn llwyddiannus yn cefnogi llesiant disgyblion yn ystod trefniadau ymsefydlu, mae’r adroddiad newydd hwn yn amlygu eu bod yn aml yn ei chael yn anodd sicrhau bod dysgu disgyblion yn parhau’n llyfn wrth iddynt symud o addysg gynradd i addysg uwchradd.  

Mae’r adroddiad yn canfod bod lleiafrif o glystyrau ysgol wedi dechrau datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd dysgu, er enghraifft trwy ffurfio grwpiau o athrawon i adolygu gwaith disgyblion. Fodd bynnag, megis dechrau y mae’r mentrau hyn ac nid ydynt eto wedi cael effaith gref ar wella parhad dysgu rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.  

Mae arweinwyr ysgol wedi nodi heriau, megis cydlynu gwaith amryfal ysgolion cynradd gydag un ysgol uwchradd, gwahanol ddehongliadau o’r cwricwlwm, a pheidio â chael digon o amser nac adnoddau i gydweithio’n effeithiol. Mae’r adroddiad yn nodi, er gwaethaf potensial ysgolion pob oed (sy’n addysgu disgyblion o 3 i 16 oed) i ddarparu profiad dysgu parhaus, mae lleiafrif yn dal i drin cyfnodau cynradd ac uwchradd ar wahân yn hytrach nag fel profiad unedig.  

Er gwaethaf yr heriau hyn, mae’r adroddiad yn amlygu enghreifftiau o arfer dda lle mae rhai clystyrau o ysgolion wedi amlinellu’n llwyddiannus yr hyn y dylai disgyblion ei wybod, ei ddysgu a’i brofi ar draws meysydd dysgu a phrofiad. Mae hefyd yn dangos sut mae clystyrau yn dechrau defnyddio hyn i gefnogi cynnydd disgyblion rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.  

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:

“Mae ein hadroddiad yn dangos er bod ysgolion yn ymdrechu i gefnogi disgyblion wrth iddynt bontio o addysg gynradd i addysg uwchradd, mae angen gwneud mwy i sicrhau profiad dysgu llyfn. Mae cryfhau cydweithrediad rhwng ysgolion yn hanfodol i helpu disgyblion i barhau i symud ymlaen yn eu dysgu wrth iddynt symud o un cyfnod i’r llall. 

“Mae’n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru eisoes yn cydnabod hyn, gyda’r cyhoeddiad ym mis Gorffennaf eu bod am gyflwyno cymorth symlach, ac yn fwy hygyrch i helpu ysgolion i gynllunio eu cwricwlwm.  

“Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn annog arweinwyr ysgolion, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i wella strategaethau pontio. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod disgyblion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo drwy gydol eu haddysg.” 

Mae’r adroddiad yn cynnwys sawl argymhelliad ar gyfer arweinwyr ysgolion, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys clystyrau’n gweithio’n agosach i sicrhau bod dulliau o rannu gwybodaeth, addysgu, a’r cwricwlwm yn cefnogi disgyblion i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, profiadau ac ymddygiadau dysgu yn gynyddol o 3 i 16 oed, a darparu mwy o gyfleoedd hyfforddi i gefnogi cydweithio rhwng ysgolion. Mae hefyd yn cynnig offer ymarferol ac enghreifftiau o arferion da i helpu ysgolion i wella eu prosesau pontio a sicrhau bod disgyblion yn parhau i ddatblygu’n effeithiol wrth iddynt symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. 

Archives: Erthyglau Newyddion


Mae medrau darllen llawer o ddisgyblion wedi dioddef o ganlyniad i’r pandemig. Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn yn edrych yn benodol ar sut mae ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau darllen Cymraeg ac yn dangos bod amrywiadau eang ym medrau darllen disgyblion 10 i 14 oed o hyd mewn ac ar draws ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed.

Mae adroddiad Estyn, Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed,  yn amlygu bod effaith negyddol y pandemig yn glir o hyd ar safon medrau darllen Cymraeg disgyblion yn gyffredinol, a bod rhai disgyblion wedi colli’r hyder i gyfathrebu a darllen yn Gymraeg.

Mae canfyddiadau’r adroddiad yn dangos bod y cyfleoedd mwyaf buddiol i ddatblygu medrau darllen i’w gweld mewn gwersi Cymraeg neu sesiynau iaith ac ym mhynciau’r dyniaethau. Roedd llawer o ysgolion cynradd ac ychydig o ysgolion uwchradd yn hyrwyddo darllen er pleser yn llwyddiannus. Fodd bynnag, at ei gilydd, gwelwyd bod profiadau i hyrwyddo darllen y tu allan i’r ystafell ddosbarth wedi lleihau’n sylweddol ers y pandemig, yn enwedig yn y sector uwchradd. 

Mae’r arolygiaeth yn argymell y dylai ysgolion gryfhau cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu amrywiaeth o fedrau darllen mewn pynciau ar draws y cwricwlwm, yn ogystal â’r Gymraeg.

Mae’r adroddiad yn amlygu rhai heriau, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd lle mae cydlynu datblygiad cynyddol medrau darllen yn gyson ar draws yr ystod o bynciau ac athrawon yn anoddach nag mewn ysgolion cynradd.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno nifer o argymhellion ar gyfer arweinwyr ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â’r enghreifftiau o arfer dda, mae’r adroddiad yn cynnwys awgrymiadau ym mhob pennod i helpu ysgolion i gryfhau eu gwaith wrth ddatblygu medrau darllen disgyblion, yn ogystal â chynnig cyfres o becynnau cymorth i staff addysgu i gefnogi eu gwaith o ran hyrwyddo a chyfoethogi medrau darllen disgyblion.

Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:

“Nid yw’n syndod ein bod yn gweld effaith negyddol y pandemig o hyd ar safon medrau darllen Cymraeg disgyblion, ond mae ein hadroddiad newydd yn amlygu arfer dda gan ysgolion ac yn cynnig nifer o awgrymiadau a phecynnau cymorth ymarferol i gynorthwyo athrawon i ddatblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion. 

“Mae cyfleoedd clir i wella sut gall clystyrau o ysgolion gydweithio â’i gilydd i ddatblygu medrau darllen disgyblion a chreu cyfleoedd mwy pwrpasol i ddatblygu medrau darllen Cymraeg ar draws y cwricwlwm.

“Mae gwella safon medrau darllen disgyblion yn flaenoriaeth genedlaethol ac rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cynorthwyo ysgolion i gynllunio’n strategol a strwythuro cyfleoedd i gynyddu diddordeb, gwydnwch a hyder disgyblion wrth ddarllen yn Gymraeg.”

Archives: Erthyglau Newyddion


Two young children playing with shaving foam on a table in a classroom, wearing colorful aprons.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan y Learning Partnership rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r adolygiad annibynnol hwn o’r trefniadau arolygu ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn. Mae ein cyrff arolygu yn cydweithio i arolygu lleoliadau gofal plant nas cynhelir ar y cyd. 

Mae’r adolygiad yn gadarnhaol am effaith y rhaglen arolygu ar y cyd. Yn ddefnyddiol iawn, mae hefyd yn trafod ffyrdd y gellid gwella’r dull arolygu ac yn cynnwys amrywiaeth o argymhellion i’r ddwy arolygiaeth eu hystyried. 

Gallwch lawrlwytho a darllen yr adolygiad ar waelod y dudalen hon.

Gyda’i gilydd, bydd AGC ac Estyn yn llunio ymateb i’r argymhellion dros y 12 mis nesaf, gan gymryd amser i sicrhau ein bod yn ystyried y goblygiadau ar gyfer y ddau sefydliad. 

Rydym yn ymrwymedig i’r bartneriaeth rydym wedi’i meithrin dros y pum mlynedd neu fwy diwethaf, a byddwn yn cydweithio i wella ein dull mewn modd sy’n gweithio i’r ddau sefydliad. 

Pan gytunir ar newidiadau sylweddol i’r fframwaith a’r fethodoleg, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth ar gyfer y sector. 

Archives: Erthyglau Newyddion


Owen Evans stands confidently at a podium, delivering a presentation to an engaged and attentive large audience.

Yn ystod haf 2024, teithiom ledled Cymru i gyflwyno ein hyfforddiant diweddaru Arolygu 24 i dros 600 o arolygwyr, yn barod i lansio’r fframwaith arolygu newydd ym mis Medi.

Mae’r fframwaith newydd wedi’i ddatblygu trwy ymgynghori’n barhaus dros gyfnod o ddwy flynedd, gan gynnwys mewnwelediadau a phrofiadau gan ystod eang o randdeiliaid.

Ein nod yw ymgysylltu â darparwyr yn fwy rheolaidd, rhannu arfer orau a chefnogi systemau hunanwella ar draws cymunedau addysg a hyfforddiant.

Dechreuodd ein sioe deithiol yn y gogledd, lle ymunodd arolygwyr o ystod o sectorau â ni yn Ewlo ar 25 a 26 Mehefin. Ar 2 Gorffennaf, croesawom arolygwyr yn Abertawe, cyn teithio i Gaerdydd ar 3 a 4 Gorffennaf ar gyfer y digwyddiad olaf yn y gyfres.

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans: “Diolch yn fawr iawn i bawb a oedd yn rhan o sioe deithiol hyfforddiant Arolygu 24 a diolch unwaith eto i bob un ohonoch a roddoch o’ch amser i weithio â ni i ddatblygu ein trefniadau, gan ymateb i ymgynghoriadau, rhannu eich safbwyntiau a threialu arolygiadau peilot.”

Gobeithiwn fod yr hyfforddiant diweddaru yn werthfawr i chi. Yr un un modd â phob fframwaith newydd, mae’n siŵr y bydd agweddau y gallwn eu gwella, felly daliwch ati i roi adborth i ni.”

Archives: Erthyglau Newyddion


A group of children, wearing sunglasses and holding bags, stand in front of a tent at an outdoor event. They are smiling and display various colourful stickers on their clothes.

Roeddem yn falch o fod yn rhan o Eisteddfod yr Urdd eleni, yn arddangos ochr yn ochr â Cymwysterau Cymru a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru (NAEL).

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, a chofrestrwyd 100,454 o bobl, sef y nifer uchaf erioed, yn ystod yr wythnos. Roedd yr ŵyl eleni hefyd yn dathlu dychwelyd i ardal Maldwyn, sef y tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld â’r ardal er 1988.

Fel yr ŵyl ieuenctid fwyaf yng Nghymru, mae Eisteddfod yr Urdd yn dathlu’r doniau anhygoel sy’n cael eu meithrin gan y gweithlu addysg. Mae athrawon ac addysgwyr yn chwarae rhan hollbwysig mewn datblygu medrau a chreadigrwydd pobl ifanc sy’n cystadlu mewn ystod eang o gystadlaethau – o farddoniaeth, celf a llefaru, i ddawnsio, actio a chanu. Mae’r ŵyl hefyd yn anrhydeddu Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn, gan amlygu pwysigrwydd hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg.

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans: “I ni, roedd yr Eisteddfod yn gyfle gwerthfawr i ymgysylltu ag athrawon, rhieni a phlant, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i gefnogi addysg Gymraeg. Roeddem yn gallu ymgysylltu’n uniongyrchol ag ymwelwyr a thrafod ein rôl o ran ffurfio addysg ledled Cymru.”

Mae Eisteddfod yr Urdd yn dathlu diwylliant ffyniannus ac iaith Cymru ac edrychwn ymlaen at barhau i gymryd rhan.”

Archives: Erthyglau Newyddion


Mae adroddiad newydd gan Estyn a gyhoeddwyd heddiw yn archwilio effaith y rhaglen prentisiaethau iau yng Nghymru. Mae’n amlygu nifer o ddeilliannau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys cyfraddau llwyddo uchel iawn mewn cymwysterau galwedigaethol, lefelau gwell o ymgysylltu a phresenoldeb, a chyfraddau dilyniant cryf i addysg bellach a hyfforddiant. Fodd bynnag, mae niferoedd y dysgwyr yn fach, ac nid yw pobl ifanc mewn llawer o ardaloedd o Gymru yn gallu manteisio ar y cyfleoedd trwy ddarparwyr lleol. 

Mae rhaglenni prentisiaethau iau wedi’u cynllunio i helpu awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau i weithio gyda’i gilydd i gynnig dysgu amser llawn â ffocws galwedigaethol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 o fewn colegau AB. Mae’r rhaglen, a gyflwynwyd yn 2017, wedi hen ennill ei phlwyf erbyn hyn mewn 5 o’r 12 coleg yng Nghymru, yn cynnwys tua 150 o ddysgwyr. Fodd bynnag, nid yw dysgwyr mewn llawer o ardaloedd o Gymru yn cael cyfleoedd tebyg oherwydd nad oes trefniadau cydweithredol lleol ar waith o fewn eu hardaloedd i gefnogi’r cyflwyno. 

Dywed Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans: 

Mae ein hadroddiad yn amlygu’r effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen prentisiaethau iau yn ei chael wrth ymestyn cyfleoedd galwedigaethol cyn 16 oed i ddysgwyr sy’n ei chael yn anodd ymgysylltu â’r cwricwlwm ysgol brif ffrwd. Fodd bynnag, gan mai 5 yn unig o’r 22 awdurdod lleol ledled Cymru sy’n cyflwyno’r rhaglen, gallwn weld yn glir beth yw cyfyngiadau’r ddarpariaeth a’r anghydraddoldeb mewn cyfleoedd dysgu rhwng rhanbarthau ac ardaloedd lleol yng Nghymru ar hyn o bryd. 

“Pan mae rhaglenni prentisiaethau iau ar gael, maen nhw’n gwneud cyfraniad pwysig at helpu cynorthwyo pobl ifanc a allai fod mewn perygl o fod yn bobl NACH (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), a goresgyn ymddieithrio â dysgu, ond mae gwaith i’w wneud i sicrhau bod y cyfleoedd yn cael eu cynnig yn fwy cyson. 

“Mae’r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad i gyd, a byddwn i’n annog Llywodraeth Cymru, colegau addysg bellach, ysgolion ac awdurdodau lleol i fyfyrio ar y rhain wrth iddyn nhw ddatblygu’r rhaglen ymhellach i sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn gallu dilyn y llwybr unigryw hwn o ddysgu galwedigaethol strwythuredig.” 

Dywedodd awdur yr adroddiad, Ian Dickson: 

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi llais i arweinwyr a staff colegau, cynrychiolwyr o ysgolion ac awdurdodau lleol dysgwyr a dysgwyr prentisiaethau iau ym Mlwyddyn 10 ac 11. Rydym ni wedi amlygu arfer dda ac wedi nodi rhwystrau rhag cyflwyno’r rhaglen prentisiaethau iau gan golegau addysg bellach. Rydym ni’n canolbwyntio ar effaith y rhaglen ar ddeilliannau dysgwyr ac yn nodi nifer o argymhellion i gefnogi datblygu a chyflwyno yn y dyfodol.”