Erthyglau newyddion |

Annog athrawon i ddefnyddio mwy ar yr iaith asesedig mewn gwersi ieithoedd tramor modern

Share this page

Er gwaethaf gwelliannau parhaus yn neilliannau disgyblion ac mewn canlyniadau TGAU a Safon Uwch, mae nifer y myfyrwyr sy’n astudio iaith dramor fodern yng Nghymru’n parhau i ostwng.

Mae adroddiad Estyn ar ‘Ieithoedd Tramor Modern’ yn bwrw golwg ar ansawdd addysgu a dysgu mewn ieithoedd tramor modern.  Yn ogystal, mae’n bwrw golwg ar ddatblygiadau a materion mewn addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru ers adroddiad diwethaf Estyn, a gyhoeddwyd yn 2009.

Meddai Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

“Mae gormod o ddysgwyr, hyd yn oed y rhai mwy abl, yn methu siarad iaith dramor fodern yn rhugl.  Mae’r graddau y mae athrawon yn addysgu trwy gyfrwng yr iaith asesedig wedi dirywio. 

“Hefyd, gall gofynion craidd y cwricwlwm a dewis cyfyngedig o opsiynau atal myfyrwyr rhag astudio ieithoedd modern hyd at lefel TGAU a thu hwnt.  Gall arweinwyr ysgol wrthbwyso hyn trwy amserlennu’n hyblyg ac yn greadigol.”   

Y canfyddiadau

  • Er gwaethaf canlyniadau da ac arweinwyr ysgol cefnogol, mae nifer y myfyrwyr sy’n dysgu iaith dramor fodern hyd at lefel TGAU neu Safon Uwch yn parhau i ostwng

  • Mae gramadeg ac ymarferion ysgrifenedig yn aml yn cael blaenoriaeth ar draul siarad a gwrando.  O ganlyniad, mae hyd yn oed y dysgwyr abl yn gwneud camgymeriadau sylfaenol yn eu goslef a’u hynganiad.

  • Mae paratoi pynciau sgwrs yn ysgrifenedig a defnyddio Saesneg i esbonio hyd yn oed gyfarwyddiadau syml yn y dosbarth yn rhwystro disgyblion rhag datblygu rhuglder go iawn.

  • Mae’r defnydd ar dechnoleg ddigidol i ennyn diddordeb a symbylu dysgwyr yn dangos canlyniadau calonogol

  • Yn nodweddiadol, mae dysgwyr yn cael 3 awr yn unig o ddysgu ieithoedd tramor modern dros amserlen bythefnos – llai na’r 2 awr yr wythnos y mae Estyn yn ei argymell

  • Mae goruchafiaeth pynciau craidd a strwythur dewisiadau opsiwn yn atal llawer o ddisgyblion rhag dewis iaith dramor fodern yng nghyfnod allweddol 4

Yr argymhellion

Dylai athrawon ac ysgolion:

  • gynyddu’r defnydd o’r iaith asesedig i gyflwyno gwersi

  • cadw cydbwysedd priodol rhwng addysgu gramadeg a’r pedwar medr iaith, yn enwedig siarad a gwrando

  • annog datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon trwy hyfforddiant a rhwydweithiau rhanbarthol

  • adolygu trefniadau ar gyfer cynllunio ac amserlennu’r cwricwlwm er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i astudio iaith dramor fodern ochr yn ochr â phynciau craidd y cwricwlwm.

Nodiadau i’r Golygyddion:

Ynghylch yr adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Ieithoedd Tramor Modern’ gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae ar gael yn llawn ar https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig
  • Comisiynwyd yr adroddiad cyn i Grŵp Llywio Dyfodol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ddechrau ar ei waith ym Medi 2015.  Felly, mae’n rhy gynnar eto i roi sylwadau ar effaith unrhyw fentrau y mae Grŵp Llywio Dyfodol Cynaliadwy yn eu rhoi ar waith yn ystod 2015 – 2016)
  • Mae’n ystyried:

    • ansawdd yr addysgu a’r dysgu mewn ieithoedd tramor modern

    • datblygiadau a materion mewn addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru ers 2009

    • ymweliadau ag 20 ysgol ledled Cymru a ddewiswyd ar hap

    • cyfweliadau â phenaethiaid, uwch arweinwyr sy’n gyfrifol am y cwricwlwm, penaethiaid adrannau ieithoedd tramor modern ac ymgynghorwyr gyrfaoedd

    • cyfweliadau â dysgwyr o gyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4

    • arolygiadau o addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth ym maes ieithoedd tramor modern

    • ymchwil ac adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar

    • arolwg o rieni

    • cynrychiolwyr arweiniol ar gyfer ieithoedd tramor modern yn y consortia rhanbarthol.

Ymgeisiadau TGAU a Safon Uwch ar gyfer ieithoedd tramor modern ar draws Cymru (Llywodraeth Cymru 2015):

  • cyflawnodd 77% o ymgeisiadau TGAU raddau A*-C

  • enillodd 82% o ymgeisiadau Safon Uwch raddau A*-C

  • dim ond 28% o ddysgwyr a gyflawnodd y lefelau disgwyliedig yng nghyfnod allweddol 3 aeth ymlaen i sefyll o leiaf un iaith dramor fodern ar lefel TGAU

  • mae ymgeisiadau Safon Uwch yn parhau i ostwng, gyda dim ond 700 o ymgeisiadau ar draws Cymru