Anghysondebau mewn Addysgu Mathemateg yn Rhwystro Cynnydd Disgyblion Ledled Cymru - Estyn

Anghysondebau mewn Addysgu Mathemateg yn Rhwystro Cynnydd Disgyblion Ledled Cymru

Erthygl

Mae athrawes yn ysgrifennu problem adio ffracsiynau ar fwrdd gwyn mewn ystafell ddosbarth.

Mae ansawdd addysg fathemateg ledled Cymru yn parhau i fod yn rhy amrywiol, ac mae llawer o ddisgyblion yn tanberfformio o ganlyniad i addysgu anghyson a chymorth annigonol sy’n benodol i bwnc, yn ôl adroddiad thematig newydd gan Estyn.

Mae’r adroddiad, Datgloi potensial: Mewnwelediadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg’, yn defnyddio tystiolaeth o arolygiadau ysgolion diweddar, ymweliadau thematig ag ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed, ac ymatebion i arolygon cenedlaethol. Er bod yr adroddiad yn adnabod pocedi o arfer effeithiol mewn addysgu mathemateg a chynllunio’r cwricwlwm, yn gyffredinol mae gormod o ysgolion yn ddiffygiol mewn meysydd allweddol, gan gynnwys gwybodaeth bynciol, addysgeg, a defnyddio asesu i arwain addysgu.

Pan roedd yr addysgu’n fwyaf effeithiol, canfu arolygwyr fod gan athrawon ddisgwyliadau uchel, roeddent yn defnyddio ystod o dechnegau asesu ymatebol, ac yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth ddofn o gysyniadau mathemategol. Mewn cyferbyniad, roedd addysgu llai effeithiol yn aml nid yn ddigon heriol, ac nid yn mynd i’r afael â chamdybiaethau yn effeithiol.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu dirywiad pryderus mewn dysgu proffesiynol sy’n benodol i bwnc a chymorth ar gyfer athrawon, sy’n cyfrannu at fylchau mewn hyder a chymhwysedd, yn enwedig o ran Cwricwlwm i Gymru. Mewn rhai achosion, roedd athrawon yn dibynnu’n ormodol ar gynlluniau gwaith wedi eu prynu i mewn, heb ddigon o addasu i ddiwallu anghenion disgyblion.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Owen Evans:

“Mae gormod o ddisgyblion yng Nghymru nad ydyn nhw’n cyrraedd eu llawn botensial mewn mathemateg oherwydd bod ansawdd yr addysgu a’r arweinyddiaeth yn amrywio mor eang rhwng ysgolion. Mae angen i ni godi disgwyliadau ar gyfer pob un dysgwr a darparu hyfforddiant a chymorth sy’n benodol i bwnc ar gyfer ein hathrawon sydd eu hangen arnynt i helpu pob disgybl i lwyddo. Mae addysg fathemateg gref yn hanfodol, nid yn unig i ddyfodol unigolion, ond i ffyniant Cymru yn y dyfodol.

“Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar sut y gallwn ni wella addysgu mathemateg yng Nghymru, ac yn darparu nifer o enghreifftiau o arfer orau ac adnoddau i gefnogi athrawon yn eu hymarfer o ddydd i ddydd.”

Mae’r adroddiad yn nodi bod angen cwricwlwm mathemateg cydlynus a chynhwysfawr sy’n adeiladu’n raddol ar ddysgu disgyblion, ac yn cynnwys cyd-destunau dilys ar gyfer eu cymhwyso. Yn aml, roedd ysgolion â’r deilliannau cryfaf yn dangos cynllunio cwricwlwm cydweithredol, modelau dilyniant clir, a chydbwysedd rhwng cyfarwyddyd eglur a chyfleoedd i ddisgyblion archwilio a rhesymu yn annibynnol. Mae enghreifftiau o arfer effeithiol gan ysgolion yn cael eu hamlinellu drwy’r adroddiad, yn ogystal ag adnoddau fideo ymarferol ar gyfer athrawon dosbarth.

Mae Estyn wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, ac arweinwyr ysgolion i gryfhau ansawdd addysgu mathemateg a sicrhau bod pob un o’r disgyblion, ni waeth ble maent yn byw, yn cael addysg fathemateg o ansawdd uchel.