Beth a sut rydym ni'n ei arolygu Archives - Page 4 of 6 - Estyn

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn yn arolygu gofal ac addysg mewn lleoliadau a reoleiddir, heblaw ysgolion, sy’n gymwys am gyllid ar gyfer addysg ran-amser. Bydd yr arolygiadau hyn ar y cyd yn gwerthuso’r gofal a ddarperir ar gyfer pob plentyn hyd at 12 oed ac addysg plant tair a phedair oed nad ydynt yn derbyn addysg mewn lleoliad a gynhelir.

Diben arolygu ar y cyd yw:

  • Cynnig gwerthusiad am ansawdd i ddefnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill trwy adroddiadau a gyhoeddir
  • hybu gwelliant mewn gofal ac addysg
  • llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru
  • profi p’un a yw’r gwasanaeth yn addas i fod wedi’i gofrestru o hyd
  • rhoi sicrwydd digonol bod y gwasanaeth yn ddiogel ac yn cydymffurfio

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Nod yr arweiniad atodol hwn yw cefnogi arolygwyr i:

  • werthuso i ba raddau y mae arweinwyr a rheolwyr yn cynllunio cyfleoedd pwrpasol yn strategol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau Cymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, a rhoi’r cynlluniau hyn ar waith yn effeithiol
  • gwerthuso graddau ac ansawdd darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu medrau cyfathrebu yn Gymraeg mewn gweithgareddau addysgu ffurfiol ac mewn sefyllfaoedd anffurfiol
  • gwerthuso pa mor dda y mae’r ysgol yn addysgu disgyblion am fanteision dysgu Cymraeg a bod yn ddwyieithog
  • lle y bo’n briodol, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae cyfran yr addysgu yn Gymraeg yn cyd-fynd â chategori iaith swyddogol yr ysgol
  • gwerthuso gallu disgyblion i siarad Cymraeg ac ymateb i Gymraeg llafar o gymharu â disgyblion mewn ysgolion mewn cyd-destunau tebyg a’u mannau cychwyn
  • gwerthuso’r cynnydd a wna disgyblion o ran datblygu eu medrau cyfathrebu yn Gymraeg ar gyfer eu dysgu ar draws y cwricwlwm, ac mewn cyd-destunau mwy anffurfiol.

Wrth arolygu medrau llythrennedd (Cymraeg) mewn ysgolion ac UCDau cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg, dylech chi hefyd gyfeirio at yr arweiniad atodol: Arweiniad atodol ar gyfer arolygu llythrennedd Cymraeg a Saesneg mewn ysgolion ac UCDau sydd i’w weld ar wefan Estyn hefyd.

Mae’r Fframwaith Arolygu diwygiedig (Medi 2021) yn gosod gofyniad i arolygwyr werthuso a rhoi sylwadau ar y Gymraeg yn y canlynol:

5.1 (Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr, yn cynnwys y corff llywodraethol),

3.1 (Ehangder, cydbwysedd a phriodoldeb y cwricwlwm), ac mewn

1.1 (Safonau a chynnydd mewn dysgu a medrau [gwrando a darllen, siarad ac ysgrifennu]).

Cyflwynwyd yr adroddiad fel hyn am fod 5.1 yn ymgorffori gweledigaeth strategol arweinwyr ar gyfer y Gymraeg yn eu lleoliadau yn ogystal â phrosesau hunanwerthuso, blaenoriaethau a dysgu proffesiynol er mwyn cefnogi’r addysgu (3.1) a’r dysgu (1.1). Yn ychwanegol, mae arolygwyr yn rhydd i adrodd ar agweddau yn gysylltiedig â’r Gymraeg mewn perthynas â maes arolygu 2 (Lles ac agweddau at ddysgu) a maes arolygu 4 (Gofal, cymorth ac arweiniad).

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o golegau annibynnol arbenigol o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer colegau annibynnol arbenigol ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, gallai’r arolygiaeth drefnu cynnal ymweliad monitro cynnar i gefnogi gwelliant.

Gall colegau annibynnol arbenigol ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gyflawni eu hunanasesiad a’u prosesau gwella eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o UCDau o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer UCDau ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yr arolygiaeth yn trefnu cynnal gweithgarwch dilynol yn yr UCD i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall UCDau ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o ysgolion pob oed o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer ysgolion pob oed ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yr arolygiaeth yn trefnu cynnal gweithgarwch dilynol yn yr ysgol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall ysgolion pob oed ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o ysgolion uwchradd o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer ysgolion uwchradd ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yr arolygiaeth yn trefnu cynnal gweithgarwch dilynol yn yr ysgol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall ysgolion uwchradd ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o ysgolion cynradd o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer ysgolion cynradd ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yr arolygiaeth yn trefnu cynnal gweithgarwch dilynol yn yr ysgol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall ysgolion cynradd ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o ysgolion annibynnol o Fedi 2017 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer ysgolion annibynnol ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, bydd yr arolygiaeth yn trefnu cynnal gweithgarwch dilynol yn yr ysgol i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall ysgolion annibynnol ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanwerthuso a gwella eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o ddarparwyr Cymraeg i Oedolion o Fedi 2019 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer darparwyr ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Gall darparwyr Cymraeg i Oedolion ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gyflawni eu hunanwerthusiad eu hunain.

Math o Arweiniad Arolygu: Beth a sut rydym ni'n ei arolygu


Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu’r ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cynnal arolygiadau o golegau addysg bellach o Fedi 2019 ymlaen. Mae’n amlinellu’r trefniadau arolygu ar gyfer colegau ac yn cynnig arweiniad i arolygwyr ar lunio barnau arolygu.

Pan fydd yr arolygiad yn nodi pryderon pwysig mewn perthynas â safonau, ansawdd yr addysg a’r hyfforddiant neu arweinyddiaeth a rheolaeth, yna bydd yr arolygiaeth yn cynnal gweithgarwch dilynol yn y coleg i gefnogi gwelliant. Mae arweiniad ar y gwahanol fathau o weithgarwch dilynol ar gael ar wefan Estyn.

Gall colegau addysg bellach ddefnyddio’r arweiniad hwn i weld sut mae arolygiadau yn gweithio a’u helpu i gryfhau eu prosesau hunanasesu a gwella eu hunain.