Swyddog Gweinyddu Arolygu
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, rhagweithiol ac sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid i ymuno â’n tîm Cymorth Arolygu. A chithau’n Swyddog Gweinyddu Arolygu, bydd gennych rôl allweddol yn cefnogi prosesau arolygu a gweithgarwch dilynol Estyn trwy ddarparu cymorth gweinyddol a thechnegol o ansawdd uchel. Byddwch yn rheoli Ystafelloedd Arolygu Rhithwir (YARau), yn cefnogi darparwyr addysg a thimau arolygu, yn gweinyddu gweithgareddau dilynol, ac yn sicrhau bod gwybodaeth a dogfennaeth yn gywir a chyfoes. Mae hwn yn gyfle rhagorol i rywun sy’n mwynhau datrys problemau, cydweithio, a chyflwyno gwasanaeth effeithlon mewn amgylchedd prysur ac sy’n esblygu.
Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
- Darparu Ystafelloedd Arolygu Rhithwir, paratoi dogfennaeth ar gyfer arolygu a sicrhau mynediad at y system arolygu
- Darparu cymorth technegol i ddarparwyr a thimau arolygu, gan ddefnyddio’r system arolygu a datrys unrhyw broblemau
- Rheoli cyfieithu a chyhoeddi gweithgarwch yn seiliedig ar arolygu
- Paratoi dogfennau yn seiliedig ar arolygu ar gyfer eu cyhoeddi
- Gweinyddu’r broses gweithgarwch dilynol ar gyfer darparwyr yn unol ag arweiniad Estyn, cynnal cofnodion cywir, monitro gweithgarwch darparwyr a sicrhau bod yr holl gamau dilynol yn cael eu cwblhau o fewn graddfeydd amser angenrheidiol
- Cydlynu gweithgareddau cyhoeddi gwefannau, gan sicrhau bod adroddiadau arolygu yn cael eu lanlwytho’n gywir ac o fewn graddfeydd amser cytûn
- Cynnal cofnodion tudalennau gwe darparwyr a chefnogi cyhoeddi cynnwys yn gysylltiedig ag arolygiadau, a thynnu’r cynnwys yn ôl, yn unol â’r angen
- Creu a chynnal systemau ffeilio electronig ac olrhain gwybodaeth yn ymwneud â chyflwyniadau Arfer Ragorol
- Darparu cymorth gweinyddol i Gydlynwyr Arolygu a chydweithwyr, yn cynnwys trefniadau cyflenwi, mewnbynnu data a chymorth ar gyfer gweithgareddau ehangach y tîm.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel y gallai rheolwyr ofyn amdanynt yn rhesymol, i gefnogi anghenion busnes a blaenoriaethau sefydliadol
Hyd: Parhaol
Cyflog: £27,315 – £29,305 y flwyddyn
Dyddiad cau: 10yb ar 24 Gorffennaf 2026