Gweinyddwr Cyllid a Chaffael
Rydym yn chwilio am ddau Weinyddwr trefnus a rhagweithiol i ymuno â’n tîm Cyllid a Chaffael. Bydd un rôl yn cefnogi ein swyddogaeth Gyllid a bydd un yn cefnogi Caffael, gan ddarparu cymorth gweinyddol o ansawdd uchel, cynnal cofnodion cywir, a helpu darparu gwasanaethau effeithlon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ar draws Estyn. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n rhoi sylw rhagorol i fanylder, yn meddu ar fedrau cyfathrebu cryf, a’r gallu i weithio’n effeithiol mewn amgylchedd prysur a chydweithredol.
Cyllid – Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
- Codi archebion prynu a phrosesu anfonebau cyflenwyr yn gywir ac yn brydlon
- Cynnal cofnodion cyflenwyr yn unol â rheolaethau
- Cefnogi adrodd ariannol achadw cofnodion
- Cefnogi archwiliadau; darparu dogfennaeth
- Ymdrin â data ariannol sensitif yn briodol
- Ymateb i ymholiadau a gohebiaeth am gyllid
Caffael – Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
- Codi archebion prynu gan sicrhau eu cywirdeb a’u cymeradwyaeth
- Cefnogi cydweithwyr â phrosesau caffael
- Cynorthwyo â gweinyddu tendrau a chontractau, yn cynnwys caffael adnoddau arolygu allanol
- Cefnogi ymgyrchoedd caffael; sicrhau y cedwir at reolau a rheoliadau caffael wrth eu cyflawni
- Ymdrin â data sensitif, ariannol, masnachol a phersonol yn briodol
- Ymateb i ymholiadau a gohebiaeth am gaffael
Bydd y ddwy rôl yn cynnwys cyfrifoldeb am:
- Reoli gofynion arolygwyr o ran llety gwesty a theithio
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel y gallent fod yn rhesymol ofynnol gan reolwyr
- Darparu cymorth ar gyfer Swyddogion Gweinyddol eraill ar y tîm
Hyd: Parhaol
Cyflog: £27,315 – £29,305 y flwyddyn
Dyddiad cau: 10yb 22 Mehefin 2026