Arfer effeithiol Archives - Page 67 of 69 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae ysgol y Fair Ddihalog yn ysgol gyfun Gatholig fach i ddysgwyr 11-16 oed ar gyrion gorllewinol Caerdydd, ac mae dros 700 o fyfyrwyr ar y gofrestr ar hyn o bryd.  Mae dros 30% o ddysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, gyda rhyw 10% yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol, 30% o ddysgwyr ag AAA ac mae rhyw ddwy ran o dair o fyfyrwyr yn dod o’r 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gan gynnwys canol Caerdydd, Butetown a Threlái.

Mae’r mesurau difreintedd sy’n wynebu’r cymunedau a wasanaethir yn golygu bod rhwystrau amrywiol rhag dysgu a allai effeithio’n hawdd ar gynnydd.  Mae’r ysgol wedi wynebu materion yn ymwneud â phresenoldeb a’r angen am ymddygiad effeithiol iawn ar gyfer strategaethau dysgu.  Mae llawer o ddysgwyr yr ysgol yn wynebu materion cymdeithasol anodd a chymhleth sydd wedi mynnu cymorth helaeth; mae ymgysylltiad rhieni yn fater i’r ysgol hefyd.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Yn 2011, wynebodd yr ysgol lawer o heriau oherwydd demograffeg benodol, difreintedd cymdeithasol a diffyg ymgysylltiad rhieni. Roedd y rhain yn cynnwys lefelau uchel o driwantiaeth ac absenoliaeth, gwaharddiadau cyfnod penodol ymhlith yr uchaf yng Nghymru, tlodi o ran uchelgeisiau a diffyg ymgysylltiad rhieni.  Roedd mesurau a roddwyd ar waith i fynd i’r afael â materion ymddygiad amlwg yn rhannol lwyddiannus.  Fodd bynnag, teimlai’r ysgol mai bregusrwydd sylfaenol oedd wrth wraidd y materion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Sefydlwyd cyfleuster anogaeth 11-16 yn 2012.  Rhoddwyd ymyriadau pwrpasol ar waith i bontio’r bwlch rhwng rhwystrau personol neu academaidd a chyflawni rhagoriaeth.  Fe’i bwriadwyd fel gwasanaeth cyfryngol cyffredinol rhwng y cartref a’r ysgol, a rhwng problemau ac atebion.  Mae’r diben yn cael ei adlewyrchu yn ei enw, “Y Bont” / “The Bridge”.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r broses o nodi angen unigol yn un strwythuredig a rhagweithiol.  Mae systemau rheoli llinell, hunangyfeirio a phrosesau trosglwyddo, gan ddefnyddio proffilio Boxall, yn uno gydag ymyriadau mwy penodol, teilwredig.  Mae dull amlasiantaeth (gyda dros 50 o ddarparwyr) yn sicrhau ymateb priodol.  Caiff cysondeb ei oruchwylio gan bennaeth cynorthwyol, sy’n gweithredu fel “Gwarchodwr” trwyadl yr holl atgyfeiriadau a phrosesau. Mae briffiau bugeiliol yn esbonio manylion yn ymwneud â’r holl atgyfeiriadau, a rhennir hyn gyda phob un o’r timau (ar sail angen gwybod).  Mae data gwaelodlin yn tanlinellu datblygiad rhaglenni personoledig a chynlluniau cymorth ymddygiadol, presenoldeb, dysgu a bugeiliol cysylltiedig. Defnyddir prawf gwydnwch i fonitro cynnydd disgyblion a rhaglenni fel cyfanrwydd. Mae ymgysylltiad rhieni ym mhob cam yn allweddol i nodi a chwalu rhwystrau ac i lwyddiant yn y pen draw.

Mae Y Bont yn amgylchedd diogel, strwythuredig iawn sy’n noddfa ar adeg dyngedfennol ym mywyd plentyn a / neu yn gyfle i ddatrys sefyllfaoedd neu amgylchiadau sy’n effeithio ar botensial disgyblion i ddysgu.  Caiff ei staffio gan ddau aelod o staff amser llawn, un ohonynt yn weithiwr ieuenctid profiadol gydag arbenigedd mewn datrys gwrthdaro, Arferion Cyfiawnder Adferol a chyflwyno rhaglenni pwrpasol.  Mae’r llall yn athro cymwysedig gyda phrofiad helaeth yn y pynciau craidd a phrosesau pontio.  Mae’r penodiadau allweddol hyn yn gwbl hanfodol i lwyddiant y Bont.

Mae’r cyfleuster mewn rhan dawel o’r ysgol.  Mae ei gynllun yn adlewyrchu amgylcheddau cartrefol ac academaidd, gan roi ymdeimlad o sefydlogrwydd a pharhad i ddisgyblion sydd â bywydau cwbl ddi-drefn.  Defnyddir ardal gegin i baratoi a rhannu prydau bwyd ac i greu awyrgylch cefnogol i’w gilydd.  Mae clybiau brecwast a chinio yn denu disgyblion sy’n agored i niwed, yn unig neu’n ofnus, ac mae “Gwrandawyr Myfyrwyr” ar gael ar rota i sgwrsio a chefnogi disgyblion eraill.  Mae soffas a chadeiriau esmwyth ar gael ar gyfer rhannu llyfrau, gemau a chyfarfodydd grŵp.  Mae ardal ar wahân wedi’i dynodi hefyd fel man gweithio a defnyddio TG.  Caiff ymdeimlad o deulu ei feithrin ac mae disgyblion yn cael eu hannog i ddysgu, rhannu a chwarae gyda’i gilydd yn adeiladol.  Mae bwyta a siarad gydag oedolion a rhai eraill yn ganolog i’r profiad hefyd.  Mae gweithgareddau grŵp bach yn mynd i’r afael â thargedau a nodwyd mewn cynlluniau personol, er enghraifft, trwy gynlluniau ymddygiad unigol.  Caiff moesau ac iaith briodol eu modelu gan staff, sy’n dangos ymddygiad cadarnhaol, cefnogol ac anogol fel modelau rôl.  Maent yn dangos anwyldeb ac yn creu cydbwysedd rhwng dysgu, addysgu a threfn. Mae cynlluniau “Pont i lwyddo” / “Bridge to success” yn bersonol iawn ac yn cael eu monitro gan Arweinwyr Cyfnodau Allweddol, yn yr un modd â rhaglenni ailintegreiddio hefyd.

Mae rhaglenni pwrpasol yn cynnwys:

  • medrau cyfathrebu
  • gwrthfwlio
  • ysgogwyr emosiynol neu gymdeithasol
  • ymddygiadau heriol
  • datblygu arweinwyr gwydn

Cedwir at holl bolisïau’r ysgol ac mae gwaith cyfwerth â chyfoedion yn cael ei ddarparu ar sail profion SCYA ac offer asesu eraill.  Fodd bynnag, mae gwaith yn adlewyrchu oedran datblygiadol, nid cronolegol disgyblion, ac mae cynllunio ar y cyd yn allweddol i lwyddiant, fel y mae cysylltu yn allweddol gyda Chynhwysiant.  Mae gweithgareddau a ddefnyddir ar gyfer ymgysylltu yn cynnwys deunyddiau testun, deunyddiau seiliedig ar fedrau neu ddeunyddiau trawsgwricwlaidd.  Mae sesiynau’n rheolaidd ac yn rhagweladwy, a gallant fod yn wythnosol neu fel bloc yn dilyn trafodaeth gydag Arweinwyr Cyfnodau Allweddol.  Hefyd, mae pwyslais ar ddatblygu iaith, medrau cyfathrebu, hunan-barch a llythrennedd emosiynol.  Ceir cyswllt rheolaidd rhwng y cartref a’r ysgol, ac mae bob amser yn gadarnhaol, ac mae’r gwaith partneriaeth hwn yn golygu y cynhelir ymweliadau mynych â’r cartref.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae Ysgol y Fair Ddihalog yn ysgol lwyddiannus iawn ac mae cynnydd y disgyblion ymhlith y gorau yng Nghymru.  Mae L1 a L2 yn gyson dros 97% ac mae ffigurau L2+ yn uwch nac amcangyfrifon D Ymddiriedolaeth Teulu Fischer a deilliannau wedi’u modelu.  Mae 85% o bynciau yn cael canlyniadau yng nghyfnod allweddol 4 sydd uwchlaw amcangyfrifon 5 Ymddiriedolaeth Teulu Fischer.  Rydym yn chwartel 1 ym mhob maes bron, gan gynnwys grwpiau fel disgyblion sy’n gymwys i gael PYDd a disgyblion ag AAA; mae hyn yn wir hefyd ar L5+ a L6+ yng nghyfnod allweddol 3.  Mae’r ysgol yn perfformio uwchlaw cyfartaleddau Cymru a’r awdurdod lleol yn aml.  Am y ddwy flynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi bod yn y categori 1A Gwyrdd.  Mae presenoldeb hefyd yn gosod yr ysgol yn y chwartel cyntaf, a’r ffigurau gwaharddiadau yw’r pedwerydd isaf yng Nghaerdydd, lle mae gan ysgolion â demograffeg debyg rai o’r ffigurau gwaharddiadau uchaf yng Nghymru.  Nid ydym wedi cael unrhyw waharddiadau parhaol ers dros bedair blynedd.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer ar draws yr awdurdod mewn cyfarfodydd.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Haberdashers’ Monmouth School for Girls, a sefydlwyd ym 1892, yn ysgol ddydd a phreswyl annibynnol i ferched rhwng 11 a 18 oed, gydag ysgol baratoi, Inglefield House, i ferched rhwng 7 ac 11 oed. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae disgyblion a rhieni yn rhannu eu barn gyda’r ysgol yn rheolaidd fel rhan o ddiwylliant hunanarfarnu cadarn yr ysgol, ac mae’r farn hon yn dylanwadu ar drefniadau’r ysgol ar gyfer gwella gofal, cymorth ac arweiniad.  Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y camau gweithredu a gymerwyd gan yr ysgol ers i Estyn roi Gradd 1 i’r farn arolygu ar gyfer Cwestiwn Allweddol 4 ‘Pa mor dda yw’r gofal, y cymorth a’r arweiniad i ddysgwyr?’ yn 2009.  Er bod y farn hon wedi golygu bod agweddau ar waith yr ysgol yn y maes hwn yn rhagorol, roedd yr ysgol eisiau gwella’i darpariaeth ymhellach fyth. 

I wneud hyn, fe wnaeth yr ysgol gomisiynu arolwg annibynnol o foddhad rhieni â’i darpariaeth fugeiliol, ynghyd â chynnal arolygon blynyddol o ddisgyblion.  Gyda’i gilydd, fe wnaeth y canfyddiadau hyn amlygu meysydd i’w datblygu yn narpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu iechyd a lles disgyblion, yn benodol yr angen i wella llais y disgybl fel rhan o’u datblygiad cymdeithasol, fel y gallai disgyblion gymryd mwy o gyfrifoldeb a dangos blaengaredd, a gwella’r ddarpariaeth ar gyfer hybu byw’n iach ac effaith y ddarpariaeth hon.

Ymhlith y camau gweithredu a gymerwyd gan yr ysgol i wella ansawdd y ddarpariaeth yr oedd adolygiad ac archwiliad mewnol llawn o ofal bugeiliol.  Rhan allweddol o’r broses hon oedd grwpiau ffocws bugeiliol o staff a disgyblion a roddodd eu barn a’u hatebion eu hunain i’r cwestiwn: ‘sut olwg sydd ar ofal bugeiliol rhagorol ar gyfer ein hysgol ni?’  Defnyddiwyd yr ymatebion o’r grwpiau hyn yn ysgogiadau allweddol ar gyfer llywio gwelliannau yn y ddarpariaeth.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae gwelliannau yn ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer iechyd a lles wedi’u cyflawni i raddau helaeth trwy ganolbwyntio ar dair agwedd allweddol: y cwricwlwm, trefniadau preswylio a bugeiliol, a gweithgareddau allgyrsiol.

Fe wnaeth y grwpiau ffocws nodi meysydd i’w gwella yn ansawdd rhaglen gwricwlwm addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd yr ysgol.  I fynd i’r afael â hyn a chynllunio ar gyfer gwelliannau, gofynnodd y pennaeth addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd i ddisgyblion o wahanol grwpiau oedran beth roeddent eisiau ei gael ohono.  Yna, aethant ati i weithio gyda thimau o ddisgyblion i ail-frandio addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd ar ffurf rhaglen ‘Hyder am Oes’ yr ysgol.  Ar ôl ei lansio, fe wnaeth disgyblion barhau i helpu i benderfynu ar gwricwlwm y rhaglen trwy flychau awgrymiadau, system swyddogion a phrosesau adborth gweithredol ar ôl pob modiwl astudio.  Mae’r rhaglen bellach yn rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol ddynamig, sy’n sicrhau brwdfrydedd disgyblion ac yn hoelio’u sylw wrth ystyried materion ysbrydol, moesol a chymdeithasol.  Mae cymryd rhan mewn cynllunio’r agwedd hon ar y cwricwlwm yn galluogi disgyblion i sicrhau perchenogaeth ac mae’n ysgogi eu diddordeb.  Maent yn nodi pynciau o werth penodol sy’n bodloni eu hanghenion ac mae’r ysgol yn ymateb yn dda i’w syniadau.  Er enghraifft, mae staff yn canolbwyntio ar weithgareddau drama i godi hyder disgyblion Blwyddyn 8, yn helpu disgyblion Blwyddyn 9 i ddatblygu eu dealltwriaeth o gamddefnyddio alcohol ac maent yn pwysleisio cymryd cyfrifoldeb, dangos blaengaredd a ffyrdd iach o fyw ymhlith yr holl ddisgyblion.

Yn ogystal, roedd yr ysgol eisiau galluogi’r trefniadau preswylio a bugeilio i gyfrannu tuag at wella’r ddarpariaeth ar gyfer iechyd a lles. 

Canolbwyntiodd yr ysgol ar sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn ategu’r rhaglenni cwricwlaidd ac allgyrsiol, gyda’r nod o wella’r effaith gyffredinol ar ddeilliannau disgyblion.  Cyflawnwyd hyn drwy amrywiaeth o gamau gweithredu, er enghraifft trwy gynnal archwiliad ac yna trwy greu swydd uwch reoli newydd i fonitro, symleiddio a gwella’r ddarpariaeth i breswylwyr.  Un o’r sgil-effeithiau yw bod preswylwyr yn cymryd llawer mwy o ran mewn gweithgareddau, gan gynnwys gweithgareddau chwaraeon a ffitrwydd, sy’n gwneud cyfraniad hynod gadarnhaol at eu lles.

Mae’r ysgol yn disgrifio rhan o’i hethos a’i nodau fel ‘ehangu’r meddwl a phrofiadau sy’n cyfoethogi’.  Rhan ganolog o’r cyfoethogi hwn yw darpariaeth yr ysgol ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol, a rhan disgyblion ynddynt, er mwyn datblygu’u hyder a’u medrau cymdeithasol a bywyd.  Roedd cynyddu ystod y gweithgareddau a nifer y disgyblion a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol wedi’i nodi’n faes i’w wella.  Ar draws yr ysgol, cyflawnwyd hyn mewn gwahanol ffyrdd.  Er enghraifft, yng nghyfnod allweddol 2, yn Inglefield House, cyflwynodd staff ‘St Catherine’s Diploma’.  Bwriad hwn yw cydnabod a gwobrwyo holl gyflawniadau disgyblion, nid yn unig cyrhaeddiad ac ymdrech mewn gwersi, ond hefyd y medrau a enillant y tu allan i’r ystafell ddosbarth, boed hynny mewn chwaraeon, cerddoriaeth, helpu ei gilydd neu lu o fedrau bywyd hanfodol eraill.  Mae’r pwys a roddir ar yr holl agweddau gwahanol ar y ‘St Catherine’s Diploma’ yn rhoi llwyfan eithriadol i ddisgyblion adeiladu arno wrth iddynt symud drwy’r ysgol uwch, yn sgil cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol a mentrau yn seiliedig ar fedrau.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae trefniadau diwygiedig yr ysgol i gryfhau ei darpariaeth ar gyfer iechyd a lles wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau disgyblion.  Mae hyn yn cynnwys cynnydd cadarn yn nifer y disgyblion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.  Yn 2014-2015, roedd bron pob un o’r disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau corfforol a chwaraeon allgyrsiol.  Mae hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth o’r radd flaenaf y disgyblion o bwysigrwydd cadw’n iach, sydd i’w gweld yn eu gweithredoedd.

Mae arolygon diweddar o ddisgyblion yn dangos bod y cyfle iddynt gymryd cyfrifoldeb, dangos blaengaredd a chyfrannu at wneud penderfyniadau yn yr ysgol, trwy weithgareddau fel llunio’r rhaglen ‘hyder am oes’, yn cynyddu eu cred bod yr ysgol yn gwrando ar eu barn.  Er enghraifft, yn 2015, roedd nifer y disgyblion a ymatebodd yn gadarnhaol i’r dangosydd hwn 12 pwynt canran yn uwch nag yn 2012.  Mae gwaith y cyngor ysgol wedi derbyn dwy wobr canmoliaeth uchel gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin fel rhan o gynllun Gwobr Cynghorau Ysgol y Llefarydd.  Mae gwaith y cyngor ysgol ac amrywiaeth o fentrau eraill yn gwneud cyfraniad rhagorol at ddatblygiad cymdeithasol disgyblion.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gynradd ddinesig amlddiwylliannol fawr gerllaw canol Caerdydd yw Ysgol Gynradd Kitchener.  Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned sydd ymhlith y 10% uchaf o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Cyfran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 33%, ceir cyfraddau uchel o symudedd, a siaredir 27 o ieithoedd yn yr ysgol ar hyn o bryd.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol (SIY) i 86% o ddisgyblion.  Bengaleg ac Arabeg yw’r ieithoedd mwyaf cyffredin a siaradir.  Mae symudedd disgyblion yn uchel, ac mae nifer sylweddol o blant yn ymuno â’r ysgol yng nghanol cyfnod.  Nid yw llawer o’r disgyblion hyn yn siarad llawer o Saesneg, os o gwbl.  Mae gan ryw 22% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae bron pob un o’r disgyblion SIY yn cyflawni’n eithriadol o dda yn eu medrau siarad, darllen ac ysgrifennu er gwaethaf eu mannau cychwyn.  Mae’r ysgol yn elwa ar dîm cryf o gynorthwywyr cymorth dwyieithog.  Fodd bynnag, nid yw’n bosibl i’r ysgol ddarparu ar gyfer yr holl ieithoedd, felly mae’n defnyddio dull generig i gynorthwyo pob disgybl SIY, beth bynnag fo iaith yr aelwyd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ysgol yn gweithio mewn ffordd amlweddog i sicrhau bod yr holl ddisgyblion sy’n ymuno ag Ysgol Kitchener yn cael y cyfleoedd gorau posibl i ddatblygu eu medrau llythrennedd.  Wrth wraidd hyn y mae cwricwlwm sy’n canolbwyntio’n dda ar wireddu llawn botensial pob cyfle i ddatblygu medrau llefaredd disgyblion.

Mae athrawon yn sicrhau bod dysgu’n aml yn dechrau â phrofiad uniongyrchol, sy’n sbardun ar gyfer  gwaith geirfa, a gweithgareddau llefaredd sy’n tanategu ysgrifennu.  Mae’r ysgol yn ffodus ei bod o fewn pellter cerdded o lawer o leoliadau diwylliannol a hanesyddol yng Nghaerdydd, ac mae’r ymweliadau addysgol hyn yn darparu cyd-destun cyffrous ar gyfer dysgu.

Mae’r holl athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu yn fodelau rôl ar gyfer iaith, gan ddefnyddio ystumiau, goslef a mynegiant i greu effaith. 

Nid yw athrawon byth yn rhagdybio, ac maent yn achub ar bob cyfle i gyflwyno geiriau newydd mewn cyd-destun sy’n ei gwneud yn ystyrlon i ddisgyblion – nid oes unrhyw air yn cael ei wastraffu.  Mae staff yn defnyddio arwyddion gweledol allweddol yn effeithiol i ategu gweithgareddau sydd wedi eu gwahaniaethu’n ofalus, a chaiff disgyblion eu ‘cyfeillio’ fel bod gan newydd-ddyfodiaid ddelfryd ymddwyn gref i gydweithio â nhw.  Mae adrodd storïau’n rhan annatod o’r ddarpariaeth.  Mae chwarae rôl, ymarferion cadair goch a ‘throi at eich partner’ yn weithgareddau dyddiol sy’n sicrhau ei bod yn ofynnol i bob disgybl siarad ym mhob gwers.

Mae cynllun gwaith trylwyr ar waith ar gyfer ffoneg, a chaiff ei gyflwyno gan bob aelod staff.  Mae arweinwyr yn sicrhau y caiff staff hyfforddiant manwl rheolaidd er mwyn i ddarpariaeth fod yn gyson.  Mae staff yn olrhain cynnydd disgyblion bob hanner tymor ac yn addasu’r grwpiau, lle bo hynny’n briodol, er mwyn i’r dysgu symud ymlaen yn gyflym.  Mae athrawon y Cyfnod Sylfaen yn sicrhau eu bod yn datblygu medrau ffoneg disgyblion yn rheolaidd trwy gyfleoedd ysgrifennu estynedig. 

Mae’r ysgol yn rhoi cynllun ffoneg ar waith ochr yn ochr â rhaglen ar gyfer llythrennedd, sy’n uchelgeisiol iawn o ran y gofynion ar gyfer cymhwyso gramadeg.  Mae staff yn addysgu iaith dechnegol i ddisgyblion ac yn darparu gweithgareddau ystyrlon, rheolaidd iddynt sy’n gofyn iddynt gymhwyso’r wybodaeth hon.

Mae’r prosesau monitro yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar ddatblygu llefaredd, a chaiff ansawdd arfer ei sicrhau er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn gyson ar draws yr ysgol.  Mae amcanion rheoli perfformiad yn cysylltu’n agos ag agweddau ar addysgu, fel adborth llafar i ddisgyblion a holi sydd, yn eu tro, yn ffocws ar gyfer arsylwi gwersi.  Mae’r ysgol wedi addasu ei ffurflen arsylwi gwersi i annog staff i gofnodi dyfyniadau o ddeialog rhyngddynt hwy a disgyblion, a’r effaith y mae wedi’i chael.  Mae staff yn olrhain cynnydd disgyblion bob hanner tymor ar sail ystod eang o ddata, gan gynnwys continwa caffael iaith.  Mae disgwyliadau’n uchel – mae staff yn disgwyl i bob disgyblion wneud cynnydd o ddwy is-lefel bob blwyddyn.  Mae’r ysgol yn coladu proffiliau disgyblion i ddisgyblion sy’n gwneud cynnydd sylweddol o’u mannau cychwyn, ond efallai na fyddant yn cyflawni’r disgwyliadau cenedlaethol.

Mae’r cwricwlwm wedi’i amgylchynu gan ethos ysgol cryf, cadarnhaol a chynorthwyol.  Mae llais y dysgwr yn hollbwysig.  Mae oedolion yn buddsoddi amser mewn meithrin perthynas ragorol â phob disgyblion, sy’n meithrin hyder ac uchelgais.  Mae disgyblion yn siarad oherwydd eu bod yn gwybod y bydd rhywun yn gwrando arnynt.  Mae darpariaeth allgyrsiol, fel clwb adrodd storïau a chlwb dadlau, yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i ddisgyblion ymarfer eu medrau llafar, a byddant yn aml yn perfformio o flaen cynulleidfaoedd mewn digwyddiadau a chystadlaethau proffil uchel.  

Mae gan yr ysgol nifer o bartneriaethau sy’n ategu ei nod craidd o ddatblygu llefaredd, gan gynnwys cysylltiadau â theuluoedd trwy ddosbarthiadau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE) yn yr ysgol a chlybiau ar ôl ysgol i deuluoedd, lle mae’n annog rhieni i rannu eu profiadau a’u diwylliannau eu hunain.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae safonau mewn llythrennedd ar draws yr ysgol wedi codi bob blwyddyn ar gyfer y tair blynedd diwethaf.  Mae’r ysgol yn perfformio’n well nag aelodau’r teulu sydd â niferoedd llai o lawer o ddisgyblion SIY.  Yn aml, mae disgyblion sy’n ymuno â’r ysgol yng nghanol cyfnod, efallai na fyddant yn cyrraedd y lefel ddisgwyliedig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, yn mynd ymlaen i gyflawni o leiaf y lefel ddisgwyliedig ar ddiwedd cyfnod allweddol 2.  Mae bron pob un o’r disgyblion sy’n ymuno â’r ysgol yng nghanol cyfnod yn gwneud o leiaf ddwy is-lefel o gynnydd yn ystod y flwyddyn – mae llawer o’r disgyblion hyn wedi ymuno â’r ysgol heb unrhyw Saesneg.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi croesawu athrawon o bob rhan o Gaerdydd ac o’i grŵp gwella ysgolion i arsylwi’r arfer hon.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd San Helen yng nghanol dinas Abertawe.  Mae 228 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed yn yr ysgol.  Mae wyth dosbarth prif ffrwd, gan gynnwys darpariaeth feithrin ran-amser.

Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned ethnig amrywiol, ac mae 22 o ieithoedd gwahanol sy’n cael eu siarad gan ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i wyth deg wyth y cant o ddisgyblion.  Mae un deg tri y cant o ddisgyblion yn wyn – ethnigrwydd Prydeinig.  Mae tua 16% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol (20%).  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn cael gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 32% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer Cymru (25%).  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Arwyddair yr ysgol yw ‘Pawb yn Wahanol, Pawb yn Gyfartal’ (‘All Different, All Equal’), a datganiad cenhadaeth yr ysgol yw ‘Disgwyl y gorau, rhoi’r gorau, bod y gorau’ (‘Expect the best, give the best, be the best.’)  Mae Ysgol Gynradd San Helen yn ymdrechu’n barhaus i wella darpariaeth, cymorth a chyfleoedd ar gyfer ei theuluoedd sydd mewn angen, ac mae’n credu ei bod yn bosibl gwella cyflawniadau academaidd a hunan-barch er mwyn torri’r cylch tlodi ac adeiladu ar yr agweddau cadarnhaol y mae hyn yn ei greu.

Un o ffactorau pwysicaf y Grant Amddifadedd Disgyblion (PDG), sydd wedi arwain at nodi, gweithredu a datblygu nifer o fentrau, fu’r nod i sicrhau bod Ysgol Gynradd San Helen yn ganolbwynt i’r gymuned.  Gan fod cefndiroedd ieithyddol a diwylliannol mor amrywiol ymhlith ei disgyblion, teimlai arweinwyr ei bod yn bwysig cryfhau cysylltiadau â’r gymuned gynhenid i sicrhau dealltwriaeth gliriach o’r gwerthoedd ar y cyd.  Roedd yr angen i wella medrau Saesneg i annog cyfathrebu yn flaenoriaeth pan gyflwynwyd y grant gan y llywodraeth.  Yn ychwanegol, nododd yr ysgol nifer o ddosbarthiadau dysgu oedolion, a fyddai’n annog rhagor o ryngweithio. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

I ddechrau, nododd yr ysgol fod angen ymgysylltu â’i disgyblion a gwella ei phartneriaethau â rhieni a’r gymuned amrywiol y mae’n ei gwasanaethu.  Wrth lwyddo i gyflawni hyn, hysbysebodd yr arweinwyr ddosbarthiadau, a fyddai’n annog rhagor o ryngweithio rhwng yr ysgol a’r rhieni yn yr ardal gyfagos, yn ogystal â rhieni disgyblion presennol.  Wedyn, cyflwynodd yr ysgol fentrau ar gyfer y disgyblion mewn angen, er mwyn sefydlu rhaglen gynhwysfawr i ymgysylltu â theuluoedd.

Mae tîm yr ysgol ar gyfer Ymgysylltu â Theuluoedd wedi gallu cefnogi a chynnal darpariaeth ar ôl yr ysgol.  Mae hyn yn cynnwys Clwb Cylchgronau, sy’n creu rhifyn misol, Clwb Darllen wythnosol i ysbrydoli darllenwyr sy’n cael trafferth, Clwb Awduron Ifanc sy’n ymestyn medrau llythrennedd disgyblion, a rhaglen fathemateg ar gyfer y disgyblion hynny y mae staff wedi nodi eu bod yn fwy abl a thalentog.  Yn y dosbarth, mae’r tîm yn cefnogi mathemateg yng nghyfnod allweddol 2 ac yn addysgu disgyblion mewn grwpiau gallu ar gyfer llythrennedd.  Mae’r ysgol yn cynnal sesiynau dysgu un i un ar gyfer dysgwyr sy’n ‘dal i fyny’ ac yn cynnal sesiynau grŵp i wella ymddygiad, hyder a lles disgyblion.  Yn ychwanegol, mae pob un o’r disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael sesiwn anogaeth lle mae staff yn canolbwyntio ar unrhyw bryderon neu gryfderau a allai fod ganddynt am yr unigolyn hwnnw.

Mae ymgysylltu â theuluoedd yn datblygu’n barhaus, ac mae staff wedi dechrau hyfforddi rhieni i’w galluogi i gefnogi a rhannu eu medrau â rhieni eraill.  Yn y dyfodol, mae’r ysgol yn bwriadu hyfforddi oedolion sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o ieithoedd, i’w galluogi i gyrraedd cynifer o deuluoedd ag y bo modd y mae angen arweiniad arnynt.

Mae’r rhyngweithio cadarnhaol â theuluoedd y mae’r ysgol wedi ei feithrin wedi galluogi iddi fynd i’r afael â phresenoldeb a chymryd gwyliau yn ystod y tymor. 

Mae rhieni wedi gweithredu’n gadarnhaol yn unol â chyngor a gynigiwyd yn ystod y cyfweliadau gwyliau ysgol gyda thîm y Grant Amddifadedd Disgyblion.  O ganlyniad, mae disgyblion yn cymryd llai o wyliau yn ystod y tymor, ac mae presenoldeb yn gryfder sylweddol yn yr ysgol erbyn hyn.  Mae darpariaeth ar ôl yr ysgol yn canolbwyntio ar les a hyder disgyblion.  Mae staff yn targedu disgyblion penodol i ddarparu ar gyfer eu hanghenion penodol.  O ganlyniad, mae’r effaith yn amlwg yn gymharol gyflym.  Mae hyn yn galluogi staff i gefnogi nifer dda o ddisgyblion trwy gydol y flwyddyn, gan barhau i fonitro’r disgyblion hynny nad ydynt yn cael darpariaeth dargedig mwyach, a sicrhau eu bod yn parhau i wneud cynnydd da.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau disgyblion?

  • Deilliannau a hyder gwell ar gyfer disgyblion targedig
  • Presenoldeb gwell a gostyngiad yn y gwyliau sy’n cael eu cymryd yn ystod y tymor
  • Hyder gwell ymhlith rhieni
  • Perthnasoedd gwell gyda rhieni a’u cyfranogiad cynyddol ym mywyd yr ysgol
  • Cysylltiadau gwell â’r gymuned ehangach ac asiantaethau eraill
  • Amgylchedd dysgu cwbl gynhwysol

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer dda hon yn anffurfiol ar lefel clwstwr ac wedi cynnal ymweliadau gan staff o ysgolion eraill.  Mae wedi rhannu ei harferion ymgysylltu â theuluoedd gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) ac asiantaethau eraill yn y gymuned fel y Tîm Cefnogi Pobl Ifanc Ethnig.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn ysgol gymunedol, benodedig ddwyieithog, cymysg i ddisgyblion 11-18 oed ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol  Sir Gaerfyrddin.  Mae wedi ei lleoli yng Nghroesyceiliog ar gyrion dwyreiniol Tref Caerfyrddin.  Mae ynddi 870 gyda 182 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth.  Mae’r ysgol yn gwasanaethu disgyblion o dref Caerfyrddin a phentrefi cyfagos yn ogystal â thalgylch eang ehangach.   Mae gan 3.4% o ddisgyblion yr ysgol yr hawl i brydau ysgol am ddim. Daw llawer (tua 79%) o ddisgyblion o deuluoedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref, ond mae’r holl ddisgyblion yn medru’r Gymraeg i safon iaith gyntaf. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn ei chyfraniad tuag at y gymuned leol ac i weithgareddau ar lefel Sirol a Chenedlaethol gan bod hyn yn sicrhau ein bod yn datblygu sgiliau cymdeithasol y disgyblion yn ein gofal.  Yn seiliedig ar gysylltiadau pontio cadarn ac effeithiol daw’r disgyblion trwy ddrysau’r ysgol ym mlwyddyn 7 yn llawn ymwybodol o’r etifeddiaeth gyfoethog sydd yno i’w gynnal trwy lu o weithgareddau cerddorol, chwaraeon, sioeau,  gweithgareddau  a chlybiau amrywiol eraill.  Arwyddair yr ysgol yw ‘Heb ddysg – heb ddeall’, ac fe ddaw hynny o’r gred nad ar sail canlyniadau academaidd yn unig y daw unigolion i ddeall eu cyfraniad yn y Gymru fodern ond ar sail eu dealltwriaeth ddiwylliannol o’r gwerth o fod yn Gymro neu’n Gymraes.  Trwy hyn y tyf unigolion yn gyfranogwyr llawn yn eu cymdeithas leol a chenedlaethol a dyma’r math o ddisgybl y mae ysgol Bro Myrddin yn dymuno ei feithrin. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Rhoddir cryn bwyslais yng ngwaith ABCh yr ysgol ar ddatblygu’r dinesydd cyflawn yng nghyd-destun academaidd a chymdeithasol a daw hynny yn amlwg wrth edrych ar ddata cyfranogiad disgyblion mewn gweithgareddau amrywiol.  Mae’r ysgol wedi datblygu llais y disgybl trwy amrywiaeth o bwyllgorau – y cyngor ysgol, cyngor blwyddyn, cyngor chwaraeon, pwyllgor dyngarol, pwyllgor gwasanaeth, pwyllgor Eco, pwyllgor y chweched a phwyllgor Prosiect4Cymraeg.  O ganlyniad mae medrau’r disgyblion yn cael eu datblygu a’u cyfraniad i fywyd ysgol yn cael ei feithrin.  Esiampl ardderchog yw natur y gwasanaethau boreol ysgol gyfan sy’n cynnwys cyfraniadau hyderus gan ddisgyblion boed hynny yn gyflwyniadau neu’n eitemau cerddorol. 

Mae gan yr ysgol gysylltiadau buddiol iawn gyda’r gymuned leol ac mae’r disgyblion yn gwneud cyfraniad hynod werthfawr i’r cymunedau hynny. 

Anogir disgyblion i gystadlu’n lleol a chenedlaethol mewn amrywiaeth o gystadlaethau megis eisteddfodau a chystadlaethau chwaraeon a dethlir eu llwyddiannau’n gyhoeddus yn ein gwasanaethau boreol. 

Mae cyfraniad y disgyblion at weithgareddau elusennol yn fawr boed hynny’n ymgyrchoedd codi arian neu’n waith cymunedol.  Mae’r pwyllgor dyngarol yn gryf, effeithiol a gweithgar ac yn casglu tua £6,000 y flwyddyn i elusennau amrywiol.  Mae’r pwyllgor Eco wedi gwneud cyfraniad mawr i amgylchedd yr ysgol ac wedi elwa o nifer o brosiectau yn ystod y flwyddyn diwethaf.  Trwy grant Erasmus+ mae disgyblion wedi cydweithio gydag ysgolion ar draws Ewrop ac wedi teithio i Denmarc, y Ffindir a Chyprus yn ddiweddar. 

Mae gennym lu o weithgareddau allgyrsiol amrywiol at ddant pawb, o’r corau i’r clwb drama i’r clybiau chwaraeon a’r clybiau megis y ‘gwarchodli odli’ a’r Urdd.  Anogir disgyblion i fynychu’r clybiau er mwyn cymdeithasu a datblygu eu sgiliau.  Mae’r holl brofiadau, yn sicr, yn fodd o sicrhau bod gweledigaeth yr ysgol o ddatblygu’r dinesydd cyflawn yn cael ei wireddu.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ar safonau dysgwyr?

Mae holiaduron disgyblion a rhieni yn dangos eu bod yn hapus gyda’r holl gyfleoedd a gynigir gan yr ysgol.  Sicrha yr amrywiol brofiadau bod pob plentyn yn cael cyfleoedd o fewn yr ysgol a’u bod hefyd yn cael eu gwerthfawrogi.   Mae’r ffaith bod yr ysgol yn hyrwyddo ac annog llais y disgybl mewn modd cadarnhaol  wedi bod yn allweddol o ran cynyddu hunanwerth, hunan-barch a sgiliau cyfathrebu y disgyblion.  Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn gwneud cynnydd arwyddocaol yn eu medrau cymdeithasol oherwydd yr holl waith. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Ar lwyfannau lleol, sirol a chenedlaethol mae enw da yr ysgol yn destun canmoliaeth boed hynny ym maes cerddoriaeth, gwaith llenyddol, perfformiadau neu chwaraeon.   Mae’r arfer dda yn cael ei rannu gyda’r holl rhyngddeiliaid trwy’r wasg leol, trwy wefannau cymdeithasol megis Twitter, Facebook a gwefan yr ysgol. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y darparwr

Consortiwm dysgu yn y gwaith yw B-wbl sy’n cael ei arwain gan Goleg Penfro, sy’n cynnwys 11 o ddarparwyr, gan gynnwys chwe choleg addysg bellach a phum darparwr hyfforddiant preifat.  Adeg yr arolygiad ym Mehefin 2015, roedd y consortiwm yn cyflwyno rhaglenni i 5,000 o ddysgwyr ar draws ystod o raglenni prentisiaeth uwch, prentisiaeth, prentisiaeth sylfaen, hyfforddeiaethau ac ymgysylltu.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Caiff dyrannu contract i aelodau consortiwm unigol ei briodoli ar sail ansawdd eu darpariaeth.  Bydd Adroddiad Deilliannau Dysgwyr (LOR) o ansawdd uwch yn arwain at niferoedd ychwanegol o leoedd i ddysgwyr ar y rhaglenni hyfforddi.  Fe wnaeth y consortiwm ddyfeisio a chytuno ar y fethodoleg ddyrannu arloesol hon sy’n canolbwyntio ar ansawdd cyn dyfarnu’r contract yn 2011 i sicrhau bod pawb yn cael dyraniad teg.  Roedd y fethodoleg ddyrannu yn sicrhau bod darparwyr â phroffiliau ansawdd uwch yn cael pwys gwell yn y ddarpariaeth ddyrannu, gan sicrhau felly y byddai dysgwyr yn cael hyfforddiant o’r ansawdd gorau.  Mae’r model wedi ei gynllunio i alluogi i’r dyraniadau amrywio’n flynyddol wrth i broffiliau ansawdd newid.  Mae aelodau newydd y consortiwm wedi cofrestru ar gyfer y model hwn hefyd.  Mae ansawdd a safonau a gyflawnir gan ddysgwyr wedi gwella o 79% i 86% yn sgil y model hwn, sydd wedi’i seilio ar ddyfarniadau.  Mae hefyd yn lleihau’r costau rheoli sy’n cael eu talu gan aelodau’r consortiwm i adlewyrchu’r ymyrraeth is a fydd yn ofynnol gan dîm rheoli’r consortiwm.

Fe wnaeth aelodau’r consortiwm lofnodi cytundebau cydweithredol yng Ngorffennaf 2010 cyn proses dendro gychwynnol Llywodraeth Cymru.  Mae aelodau newydd, wrth iddynt ymuno â’r consortiwm, wedi cofrestru ar gyfer y cytundebau hyn hefyd.  Cytunwyd ar bolisïau allweddol ar y pryd, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.  Cafodd y fethodoleg ddyrannu ei chytuno a’i chymeradwyo ar yr adeg hon hefyd, fel bod modd pennu a dyfarnu dyraniadau darparwyr unigol yn hawdd ac yn gyflym wedi i’r contract cyffredinol gael ei ddyfarnu.

Mae’r consortiwm wedi rhoi model dyraniadau ar waith, sy’n gysylltiedig â deilliannau ansawdd a lefel y ffi reoli a delir. 

Mae cost y ffi reoli yn gysylltiedig â pherfformiad darparwyr unigol a lefel y cymorth sydd ei angen i gefnogi eu gwelliant.  Os oes angen mwy o gymorth gan dîm rheoli B-wbl, yna caiff canran uwch o werth eu contract ei thalu fel ffi reoli.  Caiff aelodau’r consortiwm ystod eang o gymorth sy’n eu galluogi i wella’u perfformiad, ac mae aelodau sydd â hanes o berfformio’n dda nad oes angen rhyw lawer o gymorth arnynt, os o gwbl, yn cael dyraniad contract gwell ac yn talu’r ffi reoli isaf.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

At ei gilydd, mae cyfraddau llwyddiant cyfunol fframwaith y consortiwm yn dangos tuedd o welliant parhaus dros y pum mlynedd ddiwethaf o 73% yn 2009-2010 i 79% yn 2010-2011, 83% yn 2011-2012, 86% yn 2012-2013 ac 86% yn 2013-2014 yn erbyn cymaryddion cenedlaethol o 80% yn 2009-2010 ac 84% yn 2013-2014.  Cyflawnwyd y gwelliant cyffredinol, sef 13 pwynt canran dros y cyfnod o bum mlynedd, o ganlyniad i ymroddiad aelodau’r consortiwm; datblygiad targedig mewn meysydd allweddol; buddsoddiad parhaus mewn cymorth i ddysgwyr; gweledigaeth, ymdrech ac egni gan arweinwyr; a methodoleg contract wedi’i seilio ar ansawdd. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y darparwr

Mae B-wbl yn gonsortiwm dysgu yn y gwaith a gaiff ei arwain gan Goleg Sir Benfro, sy’n cynnwys 11 darparwr gan gynnwys chwe choleg addysg bellach a phum darparwr preifat.  Ar adeg yr arolygiad ym Mehefin 2015, roedd y consortiwm yn darparu amrywiaeth o raglenni prentisiaeth uwch, prentisiaeth, prentisiaeth sylfaen, hyfforddeiaethau a rhaglenni ymgysylltu i 5,000 o ddysgwyr.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae gan y consortiwm gynllun rhannu prentisiaethau sydd wedi hen ennill ei blwyf, a sefydlwyd gan Goleg Sir Gâr a Chyngor Sir Caerfyrddin, sy’n cynnig seilwaith cymorth cilyddol i’w aelodau, sef cwmnïau adeiladu.  Mae llwyddiant y seilwaith i’w weld yn y cyfarwyddwyd, y cymorth a’r gefnogaeth datblygu busnes ar gyfer hybu hyfforddiant ym maes adeiladu yn Sir Gâr.  Mae’r Consortiwm wedi ehangu’r rhwydwaith hwn i Geredigion.  Yn ddiweddar, mae Coleg Sir Benfro, fel arweinydd y consortiwm, wedi rhoi cynllun rhannu prentisiaethau ar waith ar sail yr un egwyddorion ar gyfer cwmnïau’r sector peirianneg ac ynni sydd â chartref ar hyd yr Aber.  Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i brentisiaid gael gwaith gan gwmnïau ar y cyd.  Mae hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu ystod eang o fedrau ac yn gwella’u cyfleoedd am waith.

Mae cwmnïau adeiladu a pheirianneg yn Sir Gâr a Sir Benfro yn elwa o ddau gynllun rhannu prentisiaethau a sefydlwyd gan aelodau o gonsortiwm B-wbl.  Sefydlwyd y cynlluniau hyn i gefnogi’r diwydiannau a dysgwyr unigol, sy’n gallu cael prentisiaeth sy’n cynnwys amrywiaeth o brofiad mewn diwydiant.

Ambell waith, bydd llawer o gwmnïau bach a chanolig, a chwmnïau mwy hefyd, yn methu cyflogi prentisiaid gan nad ydynt yn siŵr a fydd digon o waith i’w wneud i gyfiawnhau penodi gweithiwr ‘amser llawn’.  Mantais y cynlluniau rhannu prentisiaethau sydd ar waith yn y consortiwm yw ystod y profiad y mae prentisiaid yn ei hennill a’r ffaith bod dim ond angen i’r cwmnïau gyflogi’r prentisiaid ar gyfer gwaith y mae angen ei wneud. Dyma ddau gynllun llwyddiannus yn y consortiwm:

Bu gan Goleg Sir Gâr bartneriaeth hir a llwyddiannus yn gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, gan sefydlu Carmarthenshire Construction Training Association Limited (CCTAL).  Mae CCTAL yn bartneriaeth o gontractwyr amrywiol yn ardal Sir Gâr.  Nod gyffredin ei aelodau yw ymrwymiad i gynaliadwyedd a gwella busnes, gan gynnig seilwaith cymorth cilyddol i’w aelodau.  Mae’r rhwydweithio gweithgar o fewn y grŵp yn cynnig cyfeiriad, cymorth a chefnogaeth datblygu busnes er mwyn hybu hyfforddiant ym maes adeiladu yn Sir Gâr.  Mae llwyddiant y bartneriaeth hon wedi’i gydnabod yn genedlaethol, gan ennill Gwobrau Hyfforddi Cenedlaethol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ar gyfer ei gwaith yn hyfforddi a datblygu prentisiaid.

Roedd Grŵp Datblygu Gweithlu Ynni Sir Benfro yn cynnwys cynrychiolwyr allweddol yn y sector Ynni.  Fe wnaeth y grŵp hwn gael cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiect i wella medrau’r gweithlu.  Bu Coleg Sir Benfro yn gweithio gyda’r cyflogwyr hyn i deilwra’r ddarpariaeth ar gyfer y sector hwn, a osododd y seiliau ar gyfer Cynllun Rhannu Prentisiaethau Sir Benfro, a lansiwyd yn ddiweddar.  Mae cyflogwyr yn y sector ynni wedi codi bron i £50,000 i ariannu’r cynllun, sy’n galluogi prentisiaid i gael gwaith gan gwmnïau ar y cyd.  Mae hyn wedi galluogi i bum prentis gael cefnogaeth i gael gwaith; fel arall, efallai na fyddai’r cwmni bach neu ganolig y maent yn gweithio iddo wedi gallu talu’r cyflog llawn, ac ni fyddent wedi gallu cynnig swydd.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Y fantais wirioneddol i ddysgwyr yn sgil cymryd rhan yn y cynlluniau prentisiaeth hyn yw ystod y profiad y gallant ei chael, a all eu paratoi i gael gwell cyfle am gyflogaeth amser llawn yn y dyfodol.  Dim ond paratoi dysgwyr yn well a gwella’u medrau ar gyfer byd gwaith y gall gweithio i nifer o gwmnïau ei wneud.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Cas-blaidd yn gwasanaethu pentref gwledig Cas-blaidd a’r ardal gyfagos.  Fe’i cynhelir gan awdurdod lleol Sir Benfro.  Ar hyn o bryd, mae 42 o ddisgyblion ar y gofrestr, sy’n cynnwys saith disgybl oedran meithrin rhan-amser.  Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae tua 9% o ddisgyblion wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.  Daw pedwar deg tri y cant o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg.  Mae tua 21% o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol. 

Diwylliant ac ethos

Mae’r ysgol yn gymuned groesawgar sy’n annog safonau moesol uchel ac ymddygiad da ymhlith disgyblion.  Mae staff yn meithrin ethos gofalgar sy’n golygu bod disgyblion yn cael yr un cyfle i elwa ar bob agwedd ar fywyd ysgol.  Mae staff yn hyrwyddo gofal a pharch rhwng disgyblion ac oedolion a rhwng disgyblion a’u cyfoedion yn effeithiol. 

Datganiad cenhadaeth yr ysgol yw ‘galluogi pob plentyn i ddatblygu fel unigolyn cyfan o ran meddwl, ysbryd a chorff, ac i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol fod yn rhan o gymuned hapus, iach, ddiogel a gofalgar’.  Caiff y datganiad cenhadaeth ei ddeall yn dda gan bawb yn yr ysgol.

Gweithredu

Mae’r cyngor ysgol yn gweithio’n frwdfrydig gyda’r pennaeth a’r corff llywodraethol i wella lles ar draws yr ysgol.  Blaenoriaeth allweddol i’r cyngor ysgol fu datblygu dealltwriaeth disgyblion o bwysigrwydd mynd i’r ysgol.  Mae wedi canolbwyntio ar annog cyfrifoldeb am bresenoldeb da ymhlith disgyblion.

Mae presenoldeb yn eitem reolaidd ar agenda’r cyngor ysgol.  Mae’r pennaeth yn gweithio gyda’r cyngor ysgol i ddadansoddi data presenoldeb yr ysgol a nodi tueddiadau mewn absenoliaeth.  Defnyddiodd y cyngor ysgol holiaduron gyda phob un o’r disgyblion i ddarganfod eu safbwyntiau mewn perthynas â phresenoldeb.  Mae aelodau o’r cyngor ysgol yn monitro agwedd eu cyfoedion tuag at eu presenoldeb personol ar ffurf holiadur ddwywaith y flwyddyn.  O ganlyniad, mae’r ysgol wedi cyflwyno ystod eang o strategaethau i wella a chynnal presenoldeb da yn yr ysgol.  Er enghraifft, maent yn dathlu llwyddiannau disgyblion bob tymor trwy ddefnyddio systemau gwobrwyo.  Caiff hyn effaith gadarnhaol ar les ac ymddygiad disgyblion a’u hagwedd at ddysgu.

O ganlyniad i ddadansoddi deilliannau holiaduron a’r arolwg blynyddol, awgrymodd y cyngor ysgol newidiadau ac addaswyd y polisi presenoldeb sawl gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Mae’n mynd ati i ddatblygu’r cynllun gweithredu presenoldeb blynyddol hefyd.  Mae cynnwys disgyblion yn gwneud yn siŵr bod ganddynt berchnogaeth o’r polisi a’r meysydd i’w gwella yn yr ysgol.  Er mwyn ennyn diddordeb a chefnogaeth rhieni, mae’r cyngor ysgol wedi creu taflen wybodaeth ddefnyddiol am bwysigrwydd presenoldeb da.

Mae’r cyngor ysgol yn gwneud cyflwyniadau rheolaidd i’r corff llywodraethol yn amlygu pwysigrwydd presenoldeb da.  Mae’r cyflwyniadau hyn yn gwneud yn siŵr bod presenoldeb yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r ysgol. 

Deilliannau

Mae lefelau presenoldeb disgyblion yn rhagorol.  Mae canran presenoldeb yr ysgol wedi ei gosod yn y 25% uchaf yn gyson o gymharu ag ysgolion tebyg ar sail meincnodau prydau ysgol am ddim.  Mae disgyblion yn meddu ar ddealltwriaeth lawn o bwysigrwydd mynd i’r ysgol.  Mae’r cyngor ysgol wedi creu pamffled i annog a chynnal presenoldeb uchel ac wedi ei rannu ag ysgolion eraill yn y dalgylch.  Caiff hyn effaith gadarnhaol ar bresenoldeb yn Ysgol Cas-blaidd ynghyd â phresenoldeb mewn ysgolion eraill.

Mae gwella a chynnal presenoldeb wedi cyfrannu’n sylweddol at y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gilfach Fargoed yn gwasanaethu cymuned Gilfach ger Bargoed yn awdurdod lleol Caerffili.  Mae 155 o ddisgyblion amser llawn rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr.  Mae tua 30% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd uwchlaw cyfartaleddau lleol a chenedlaethol.  Mae gan ryw 15% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae bron pob un o’r disgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac yn dod o gartrefi lle siaredir Saesneg fel y brif iaith.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae gweithdrefnau hunanarfarnu trylwyr, sy’n cynnwys cymuned yr ysgol gyfan, yn sicrhau hinsawdd sy’n datblygu a gwella’n barhaus ar gyfer yr holl randdeiliaid.

Mae arweinwyr yn monitro cynnydd yn erbyn y cynllun datblygu ysgol yn helaeth ac yn rheolaidd i arfarnu llwyddiant mentrau.  Mae strategaethau trylwyr ar gyfer hunanarfarnu a chynllunio gwelliant yn nodweddion rheolaidd yng ngweithgareddau’r ysgol ac yn elfen bwysig o waith pob un o’r staff.  Mae elfennau hynod effeithiol yn cynnwys gwrando ar ddysgwyr yn rheolaidd, arsylwadau gwersi ffocysedig a theithiau dysgu, adolygu llyfrau’n drylwyr, a sylw trylwyr i ddata.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector

I ddechrau, nododd yr uwch dîm arweinyddiaeth (UDA) y meysydd allweddol canlynol sy’n gwneud hunanarfarnu effeithiol, sef:

  • Arsylwi Addysgu a Dysgu
  • Craffu ar Waith
  • Gwrando ar Ddysgwyr
  • Dadansoddi Data
  • Ystyried Barn Rhanddeiliaid
  • Cynllunio Craffu
  • Dadansoddi Ansawdd yr Amgylchedd Dysgu

Mae cynnydd dysgwyr yn cyfrannu at y meysydd allweddol hyn.  Mae arweinwyr yn rhoi sylw trylwyr i fonitro’r cynnydd hwn ac asesu effaith ymyriadau.

Mae arweinwyr yn ymgymryd â rhaglen flynyddol fanwl o weithgareddau hunanarfarnu, sy’n nodi’r camau gweithredu, yr unigolion sy’n gyfrifol a’r effaith ar hunanarfarnu.  Mae pob aelod o gymuned yr ysgol yn cymryd rhan yn y rhaglen hunanarfarnu hon, ac mae eu rolau wedi eu nodi’n glir.  Gan fod cynnydd disgyblion yn cael mwy o flaenoriaeth nag unrhyw beth arall yn y broses hunanarfarnu, mae’r rhaglen yn cynnwys gweithdrefnau asesu helaeth yr ysgol.  Mae arweinwyr yn trefnu gweithgareddau allweddol yn rheolaidd, sy’n cael effaith benodol ac ystyrlon ar y broses hunanarfarnu.  Mae pob tasg asesu y mae staff yn ymgymryd â hi, sydd naill ai’n safonedig neu’n fewnol, yn arwain at dargedau neu gamau gweithredu penodol i gefnogi gwelliant ysgol a chynnydd disgyblion.

Mae staff yn olrhain cynnydd pob disgybl yn fanwl, ac yn monitro’r rheiny sydd mewn perygl o fethu cyrraedd targedau neu y mae’r ysgol yn eu hystyried yn “Ddysgwyr sy’n Agored i Niwed” hyd yn oed yn agosach, ac yn ffurfio rhan o drafodaethau rheolaidd am gynnydd disgyblion yn ystod cyfarfodydd staff.  Mae staff yn profi pob disgybl sy’n cael ymyrraeth bob hanner tymor, ac yn defnyddio canlyniadau’r rhain, yn ogystal â gwybodaeth ynghylch cynnydd, i asesu effeithiolrwydd pob ymyrraeth a darparu targedau unigol, ychwanegol ar gyfer y disgybl hwnnw.  Mae targedau rheoli perfformiad yn cysylltu’n uniongyrchol â thargedau heriol o ran cynnydd disgyblion a gwelliant ysgol gyfan. 

Mae’r ysgol wedi ymdrechu i wella rôl llywodraethwyr yn y broses hunanarfarnu, ac mae bellach yn cynnal diwrnod blynyddol lle caiff yr holl staff a llywodraethwyr gyfle i gyfarfod i adolygu’r cynllun datblygu ysgol, gan sicrhau bod llywodraethwyr yn cymryd rhan weithredol mewn hunanarfarnu’r ysgol. 

Mae’r rhaglen fanwl ‘Gwrando ar Ddysgwyr’, sy’n dadansoddi ymatebion ac yn darparu data ystyrlon i gefnogi hunanarfarnu, yn ogystal â’r gwaith arall ar farn rhanddeiliaid, yn sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn llywio hunanarfarnu yn effeithiol.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau disgyblion?

Gwnaed gwelliannau sylweddol mewn safonau llythrennedd a rhifedd dros y flwyddyn ddiwethaf.  Er enghraifft, ym Medi 2014, roedd oedran darllen tua 24% o ddisgyblion islaw eu hoedran cronolegol.  Erbyn Medi 2015, roedd y ffigur hwn yn llai na hanner hyn. 

Gwnaed gwelliannau sylweddol gan ddisgyblion ar ymyriadau:

Y Cyfnod Sylfaen

Yn nhymor yr hydref, o’r disgyblion hynny sy’n cael ymyriadau llythrennedd, gwnaeth 65% gynnydd gwell na’r disgwyl o ran eu hoedrannau darllen.  Gwnaeth cant y cant o ddisgyblion gynnydd gwell na’r disgwyl mewn rhifedd. 

Cyfnod Allweddol 2

Yn nhymor yr hydref, o’r disgyblion hynny sy’n cael ymyriadau llythrennedd, gwnaeth 77% gynnydd gwell na’r disgwyl o ran eu hoedrannau darllen.  Gwnaeth naw deg y cant o ddisgyblion gynnydd gwell na’r disgwyl mewn rhifedd. 

Yn sgil ymdrechu i sicrhau bod gan ddysgwyr o leiaf lefelau da o gymhwysedd mewn llythrennedd a rhifedd, roedd canlyniadau’r ysgol mewn profion cenedlaethol gryn dipyn yn uwch na’r disgwyl.  Mae uwchlaw lefel yr awdurdod lleol, y teulu o ysgolion tebyg a Chonsortiwm De Ddwyrain Cymru ar gyfer sgorau safonedig >95 ym mhob grŵp blwyddyn heblaw un, sydd wedi cael ei dargedu’n benodol ar gyfer ymyrraeth ychwanegol. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer dda o fewn ei chlwstwr o ysgolion tebyg.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol ddydd gymunedol arbennig sy’n darparu ar gyfer 167 o ddisgyblion 3-19 oed yw Ysgol Hen Felin.  Mae gan ddisgyblion amrywiaeth o anawsterau, gan gynnwys anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ASA), anawsterau dysgu difrifol (ADD), anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl), nam ar y clyw (NC) ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).

Cenhadaeth yr ysgol yw darparu amgylchedd diogel a meithringar lle gall pob disgybl gyflawni ei botensial.

Mae’r ysgol wedi’i threfnu’n bedair adran: y Cyfnod Sylfaen; sector cynradd; sector uwchradd ac ymadawyr (ôl-16).  Caiff y dysgu ei addasu yn unol ag anghenion dysgu unigol pob plentyn.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Yn sgil cynnydd yn nifer y disgyblion sydd wedi cael diagnosis ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig sydd ag anawsterau ymddygiadol a synhwyraidd difrifol, mae’r ysgol wedi ailystyried ei methodoleg ar gyfer addysgu a rheoli ymddygiad.  Er bod yr ysgol wedi gweithio’n effeithiol gyda phlant sydd ag anghenion addysgol arbennig, roedd angen dull gwell er mwyn cynnal amgylchedd dysgu hapus a gwella safonau disgyblion.  Felly, bu’r ysgol yn gweithio gydag un o’i phartneriaid, sef arbenigwr ymddygiad annibynnol, ar ddull newydd ar gyfer rheoli ymddygiad disgyblion.  Mae’r dull yn gwerthfawrogi pob plentyn ac yn teilwra rhyngweithio a phrofiadau dysgu â’u hanghenion unigol, gan gynnwys eu gallu i hunanreoleiddio a rhannu sylw â phlant eraill. 

Caiff y bartneriaeth ei hariannu trwy’r Grant Amddifadedd Disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn Ysgol Hen Felin, rydym wedi lleihau ymddygiadau amhriodol disgyblion ac wedi cynyddu eu cyfle i elwa ar ddysgu, trwy ein dull newydd sy’n cael ei ymgorffori yn ein harfer ddyddiol yn yr ysgol.  Trwy weithio i ddechrau ar allu disgyblion i reoleiddio eu hymddygiad a rhannu sylw, rydym yn datblygu eu gallu i barhau i ymgysylltu â rhywun arall.  Mae’r ddau allu cychwynnol hyn yn hanfodol i’n harfer.  Wrth i bob disgybl feistroli’r rhain, mae wedyn yn bosibl iddynt gymryd rhan mewn gwersi a chynnal eu hymddygiad am gyfnodau hwy yn y dosbarth.

Datblygodd yr ysgol dîm cymorth ymddygiad o aelodau staff a phartneriaid o’r darparwr annibynnol.  Mae’r tîm yn canolbwyntio ar nodi ymddygiadau amhriodol disgyblion ac yn dyfeisio strategaethau i reoli’r rhain a’u lleddfu.  Mae hyfforddi staff ynglŷn â’r strategaethau ymddygiad unigol yn agwedd bwysig ar waith y tîm.  Dros gyfnod, mae’r tîm wedi tyfu ac yn parhau i gynnal rheolaeth ymddygiad effeithiol dros nifer y plant ag ymddygiadau anodd sy’n dechrau yn Ysgol Hen Felin sy’n cynyddu o hyd.

Yn 2012, sefydlodd y tîm grwpiau symud dyddiol i wella ymwybyddiaeth disgyblion o’u corff, galluoedd gofodol gweledol a medrau symud.  Yn ychwanegol, sefydlwyd grwpiau medrau cymdeithasol ar gyfer cyfnod allweddol 4 a’r grŵp ymadawyr ysgol.  Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar gymryd tro, datrys problemau a chyfathrebu â chyfoedion.  Nod ein grwpiau yw hyrwyddo medrau a rhyngweithio disgyblion, cefnogi datblygiad eu hunanofal a datblygu perthnasoedd a chyfeillgarwch.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r dull hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb disgyblion a’u lles ac mae wedi lleihau nifer yr achosion yn ymwneud ag ymddygiad.  Mae defnyddio’r dull hwn sy’n seiliedig ar berthynas wedi rhoi cyfle i aelodau staff ddod i adnabod pob plentyn yn well, a deall eu proffil unigol, trwy gofnodi a dadansoddi trylwyr.  Mae’r ddealltwriaeth gynhwysfawr hon o bob disgybl yn ategu lleihau’r ymddygiadau a ddangosir.

Mae lefelau ymgysylltu â disgyblion mewn gwersi wedi gwella’n sylweddol ers cyflwyno’r dull hwn yn 2010.  Mae hyn oherwydd bod yr ysgol bellach yn llwyddo i gynorthwyo pob disgybl i feistroli hunanreoleiddio a medrau sylw ar y cyd.  Yn benodol, mae perthynas disgyblion â staff a phobl eraill yn datblygu’n berthynas well o ddealltwriaeth a pharch ar y ddwy ochr.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae gwaith gyda’r bartneriaeth hon wedi cael ei gyfleu a’i rannu’n effeithiol gydag ysgolion eraill yn Ne Cymru.