Arfer effeithiol Archives - Page 27 of 68 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Cathays yn ysgol amlddiwylliannol, amlieithog ac aml-ffydd yng nghanol Caerdydd. Mae tua 42% o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. Cynrychiolir dros 50 o wahanol fathau o ethnigrwydd yng nghymuned yr ysgol, a siaredir 67 o ieithoedd gwahanol. Mae tua 27% o ddisgyblion wedi eu categoreiddio yn rhai sydd ‘islaw cymwys’ yn Saesneg. Mae cyfraddau symudedd gryn dipyn yn uwch nag ydynt bron ym mhob ysgol arall yng Nghymru, a daw tua 60% o ddisgyblion o’r tu allan i’r dalgylch.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Er bod arweinwyr Ysgol Uwchradd Cathays yn canolbwyntio’n glir ar gydnabod a dathlu amrywiaeth eu hysgol, maent hefyd yn sicrhau eu bod yn creu ymdeimlad o berthyn i un gymuned. Mae’r ymdeimlad hwn o ‘gynefin’ yn treiddio trwy bob agwedd ar y gwaith a wnânt i gynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd, y cynnig cwricwlwm a’r ddarpariaeth ar gyfer lles y disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Trwy ymarfer ymgynghori trylwyr gyda rhanddeiliaid, sefydlodd arweinwyr ddiwylliant eglur yr ysgol yn canolbwyntio ar y genhadaeth i ddarparu ‘Cyfleoedd i Bawb’. Nodon nhw dri gwerth craidd ar gyfer disgyblion, sef: Bod yn Barod, Parch a Balchder. Mae’r gwerthoedd hyn yn rhoi disgwyliadau clir i’r holl ddisgyblion fod yn aelodau cadarnhaol o gymuned yr ysgol. Defnyddir y genhadaeth a’r gwerthoedd yn eglur yn y polisi perthnasoedd cadarnhaol, ac mae staff yn cyfeirio atynt yn gyson ar draws yr ysgol. O ganlyniad, cânt eu deall a’u harddangos yn dda gan ddisgyblion. Mae’r gwerthoedd yn ffurfio rhan allweddol o weledigaeth yr ysgol ar gyfer y cwricwlwm newydd, a datblygu safle’r ysgol newydd. Mae disgyblion yn myfyrio arnynt bob chwe mis trwy’r arolwg lles disgyblion.

Roedd llais y disgybl yn elfen allweddol wrth ddatblygu cenhadaeth a gwerthoedd yr ysgol. Hefyd, mae wedi helpu creu a chynnal amgylchedd cynhwysol a difyr lle mae barn disgyblion yn cael effaith ar wella’r ysgol, er enghraifft ar ddatblygu’r ddarpariaeth lles. Mae prosesau sicrhau ansawdd yr ysgol wedi ymestyn hyn ymhellach. Mae’r prosesau hyn yn ymgorffori’r adborth i ddisgyblion wrth gasglu tystiolaeth yn uniongyrchol, er enghraifft adborth ar ddysgu fel rhan o’r broses craffu ar waith. Yn ychwanegol, gofynnir i ddisgyblion sut beth ddylai diwylliant addysgu ac ystafell ddosbarth rhagorol fod, ac mae eu hymatebion wedi helpu datblygu arferion ystafell ddosbarth. Mae ymgynghori â disgyblion a rhanddeiliaid eraill wedi cyfrannu’n bwysig at yr ymdeimlad o berthyn a pherthynas lle mae pob aelod o’r gymuned yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u trin fel unigolion. Mae’r wybodaeth a gasglwyd hefyd wedi helpu dylanwadu ar y cynnig dysgu proffesiynol teilwredig ar gyfer pob aelod o staff.

Mae’r ysgol wedi datblygu cynnig cwricwlwm effeithiol a helaeth sy’n gwerthfawrogi ac yn diwallu anghenion pob un o’r disgyblion, o’r disgyblion mwyaf abl i’r rhai mwyaf bregus. Mae’r ysgol wedi canolbwyntio’n ddiwyd ar ddatblygu profiadau cwricwlwm ar draws pob maes profiad dysgu sy’n adlewyrchu ei chymuned tra’n sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn meddu ar y wybodaeth a’r medrau sydd eu hangen arnynt i fod yn llwyddiannus yn yr ysgol, ac mewn bywyd ar ôl yr ysgol. Er enghraifft, mae ganddi ddarpariaeth deilwredig ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio neu dangyflawni yng Nghyfnod Allweddol 4, sy’n darparu cymorth a chyfleoedd ychwanegol, ond yn bwysig, yn eu cadw’n rhan o’r brif ffrwd. Er y gallai’r disgyblion a nodwyd ar gyfer y ddarpariaeth hon ddilyn cymwysterau gyda darparwyr allanol a chael amserlen fwy teilwredig, maent yn mynychu gwersi pynciau craidd a sesiynau tiwtorial dosbarth gyda’u cyfoedion o hyd. Yn ychwanegol, mae disgyblion sy’n newydd-ddyfodiaid i’r DU ac y mae eu Saesneg yn gyfyngedig, yn cael cynnig cwricwlwm hynod effeithiol sy’n cefnogi eu datblygiad o ran y Saesneg, yn eu harwain at deimlo eu bod yn rhan o ysgol yng Nghymru, ac yn eu hintegreiddio’n gyflym ac yn llawn mewn dosbarthiadau prif ffrwd pan fyddant yn barod. O ganlyniad i natur gynhwysol eu cynnig cwricwlwm, mae cynnydd a deilliannau pob grŵp o ddysgwyr yn gryf beth bynnag yw eu mannau cychwyn, a phryd bynnag y maent yn ymuno â chymuned yr ysgol.

Mae perthnasoedd effeithiol gydag athrawon yn hanfodol wrth ddatblygu dysgwyr gwydn a medrus. Mae hon yn elfen bwysig o feithrin cynefin yr ysgol. Mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu yn yr ystafell ddosbarth, sy’n cyfrannu at amgylchedd gweithio cadarnhaol ac ymdeimlad cryf o berthyn. Mae gan Ysgol Uwchradd Cathays brosesau a darpariaeth hynod effeithiol i gefnogi anghenion unigol pob un o’r disgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol a’r rhai sydd angen cymorth ar gyfer heriau emosiynol. Er enghraifft, defnyddir yr arolygon lles i nodi unigolion a grwpiau sydd angen cymorth emosiynol gan ddarpariaeth “Tŷ Diogel” yr ysgol. Ceir cymorth i wella cynnydd academaidd a/neu gymdeithasol myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol tra byddant yn parhau i fynychu cymaint o wersi prif ffrwd â’r hyn sy’n briodol. Mae’r cymorth hwn yn bwrpasol ac yn cyfrannu at deimladau’r disgyblion o gael eu parchu a’u gwerthfawrogi gan yr holl oedolion yn yr ysgol, ac ymdeimlad eu bod yn perthyn i gymuned y mae eu cynnydd academaidd a’u lles yn bwysig iddi.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae disgyblion yn cydnabod gwerth y ddarpariaeth a’i heffaith ar eu cynnydd a’u lles. Mae llawer o ddisgyblion yn nodi bod ymdeimlad cryf o falchder mewn perthyn i Ysgol Uwchradd Cathays.

Roedd deilliannau cyn y pandemig yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 yn gryf ac yn gwella bron ym mhob dangosydd, ac yn enwedig mewn mesurau gwerth ychwanegol.

Roedd presenoldeb disgyblion yn gryf am dair blynedd cyn y pandemig, ac mae’n gwella’n dda ers dychwelyd i fod yn yr ysgol amser llawn.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi bod yn rhan o Grŵp Gwella Ysgolion y consortiwm rhanbarthol, ac wedi rhannu ei harferion gydag ysgolion eraill trwy’r fforwm hwn.

Hefyd, mae wedi meithrin perthnasoedd gydag ysgolion eraill y mae wedi rhannu ei systemau a’i phrosesau â nhw.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Cathays yn ysgol amlddiwylliannol, amlieithog ac aml-ffydd yng nghanol Caerdydd. Mae tua 42% o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. Cynrychiolir dros 50 o wahanol fathau o ethnigrwydd yng nghymuned yr ysgol, a siaredir 67 o ieithoedd gwahanol. Mae tua 27% o ddisgyblion wedi eu categoreiddio yn rhai sydd ‘islaw cymwys’ yn Saesneg. Mae cyfraddau symudedd gryn dipyn yn uwch nag ydynt bron ym mhob ysgol arall yng Nghymru, a daw tua 60% o ddisgyblion o’r tu allan i’r dalgylch.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan Ysgol Uwchradd Cathays ffocws clir ar gefnogi datblygiad gyrfa pob un o’u staff. Mae arweinwyr yn sicrhau eu bod yn datblygu pobl sydd â’r gwerthoedd cywir ac sy’n credu yn niwylliant yr ysgol, ac yn ei hyrwyddo. Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar ansawdd yr addysgu a dysgu disgyblion. Mae cyflwyno dysgu proffesiynol teilwredig, wedi’i seilio ar dystiolaeth, ar gyfer staff ar draws pob rôl yn yr ysgol, wedi helpu pob aelod o staff i ddatblygu eu medrau a’u profiad, ac fe gaiff effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgu a lles myfyrwyr.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Trwy ymgynghori â’r holl randdeiliaid, datblygodd Ysgol Uwchradd Cathays weledigaeth eu hysgol ar sail y genhadaeth ‘Cyfleoedd i bawb’ a thri gwerth craidd y staff, sef: cydweithio, perchnogaeth a thîm yn gyntaf. Trwy hyn, datblygon nhw ymagwedd effeithiol at ddysgu proffesiynol. Cynorthwyodd hyn yr ysgol yn dda i osod disgwyliadau clir ar gyfer pob aelod o staff. Fe wnaeth y diwylliant hwn, lle mae pob aelod o staff yn ystyried datblygiad yr ysgol gyfan fel mater o drefn, hefyd fireinio gweledigaeth yr ysgol, a’i hymagwedd at y Cwricwlwm i Gymru. Yn ychwanegol, mabwysiadodd yr ysgol strwythur arweinyddiaeth i ehangu cwmpas ac arbenigedd yr uwch dîm arweinyddiaeth ehangach i roi golwg fwy cyfannol iddynt ar yr ysgol.  

Ar y cychwyn, canolbwyntiodd yr uwch dîm arweinyddiaeth ar wella medrau arwain yr holl arweinwyr canol ac uwch arweinwyr. Fe wnaethant ailfodelu diben cyfarfodydd yr uwch dîm arweinyddiaeth ehangach o rannu gwybodaeth i weithgareddau datblygu ysgol gyfan trwy brofiad. Er enghraifft, maent yn gweithio mewn grwpiau llai i adolygu a gwerthuso cynnydd tuag at y blaenoriaethau yn y cynllun datblygu ysgol. Hefyd, maent yn cynnal sesiynau ar ddatblygu medrau arwain ar gyfer yr holl ddeiliaid cyfrifoldeb addysgu a dysgu i sicrhau bod y gwaith gyda’u tîm yn canolbwyntio ar wella’u heffaith yn yr agweddau craidd ar eu rôl, h.y. addysgu a dysgu neu les. Mae’r Arweinwyr Codi Safonau (penaethiaid cyfadrannau) wedi eu hyfforddi mewn arwain ar ddatblygu addysgu a dysgu, sy’n rhoi’r medrau a’r hyder iddynt arwain sesiynau mewn cyfarfodydd tîm. O ganlyniad, mae strwythur a ffocws newydd cyfarfodydd ehangach uwch arweinwyr yn helpu pob aelod o staff i ennill dealltwriaeth well o’r ysgol a’r cynnydd a wneir tuag at flaenoriaethau’r ysgol trwy gydol y flwyddyn.

Mae prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant gwell yn sicrhau bod arweinwyr yn monitro effaith gwaith yr ysgol yn barhaus. Caiff tystiolaeth uniongyrchol ei dadansoddi gan uwch arweinwyr, yr uwch dîm arweinyddiaeth ehangach ac ar lefel tîm maes fel bod pawb yn cymryd rhan mewn nodi a rhannu’r cryfderau a’r meysydd y mae angen eu gwella. O ganlyniad, mae staff ym mhob rôl yn rhan o’r broses i nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer gwella, ac mae arweinwyr tîm yn deall y meysydd y maent yn eu harwain yn fanwl. Mae hyn yn sicrhau bod arweinwyr tîm yn nodi’n gywir y gwelliannau sydd eu hangen gan bob unigolyn, ac o ganlyniad yn sicrhau bod pob aelod o staff yn cyflawni ei rôl yn fwy effeithiol.

Mae dysgu proffesiynol yn cyd-fynd yn agos ag anghenion ysgol gyfan, tîm a staff unigol. Mae hyn yn galluogi’r ysgol i ddarparu ystod eang o gymorth teilwredig. Hefyd, mae arweinwyr yn paru staff yn agos â’i gilydd i rannu a datblygu arferion cryf ar draws yr ysgol. Mae dysgu proffesiynol i ddatblygu arweinyddiaeth ar draws yr ysgol yn hynod effeithiol. Mae’r ysgol yn datblygu capasiti arwain yn gynhwysfawr trwy ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gylch dwy flynedd ar gyfer darpar arweinwyr canol ac uwch arweinwyr, a’r rhai presennol. O ganlyniad, mae llawer o arweinwyr wedi ymgymryd â chyfrifoldebau cynyddol dros gyfnod. Mae’r Grwpiau Datblygu Strategol, sy’n cael eu harwain fel arfer gan ddeiliad cyfrifoldeb addysgu a dysgu, yn cefnogi’r gwaith hwn trwy ddarparu cyfleoedd i bob aelod o staff weithio ar flaenoriaeth ysgol gyfan.

Mae arweinwyr yn effeithiol o ran nodi a chynorthwyo staff i wneud cyfraniad sylweddol at wella’r ysgol. Mae nifer o aelodau staff wedi cael eu cynorthwyo i ymgymryd â rolau addysgu, trwy amrywiaeth o lwybrau, ar ôl dechrau fel cynorthwywyr addysgu neu mewn rolau bugeiliol. Mae’r ysgol yn mynd ati i gynorthwyo staff i ymgymryd â swyddi arwain ar draws ystod o rolau i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r ysgol gyfan. O ganlyniad, mae nifer o aelodau’r uwch dîm rheoli sydd â chyfrifoldebau cwricwlwm hefyd wedi cael cyfrifoldebau blaenorol yn y strwythur bugeiliol. O ganlyniad, mae’r uwch dîm arweinyddiaeth a’r uwch dimau arweinyddiaeth ehangach yn gweithio mewn ffordd gyfunol ac empathig iawn i oresgyn y rhwystrau rhag dysgu i’r holl ddisgyblion.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Cafwyd gwelliant yng nghyfraddau recriwtio a chadw staff, sydd wedi cyfyngu effaith y pandemig ar les a dysgu disgyblion. O ganlyniad, mae’r ysgol wedi ailsefydlu arferion a phrosesau yn gyflym, ac mae disgyblion wedi gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu eleni.

Cyn y pandemig, roedd deilliannau yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 yn gryf iawn ac yn parhau i wella, yn enwedig wrth edrych ar berfformiad gwerth ychwanegol.

Mae addysgu, paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, a’r ddarpariaeth i gefnogi dysgu a lles dysgwyr yn gryf, ac yn golygu bod Ysgol Uwchradd Cathays mewn sefyllfa dda i ddatblygu’n effeithiol fel cymuned.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi bod yn rhan o Grŵp Gwella Ysgolion y consortiwm rhanbarthol, ac wedi rhannu ei harferion gydag ysgolion eraill trwy’r fforwm hwn.

Hefyd, mae wedi meithrin perthnasoedd gydag ysgolion eraill y mae wedi rhannu ei systemau a’i phrosesau â nhw.
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Clwyd wedi’i lleoli ar ymyl ardal fawr Cymunedau yn Gyntaf Penlan, sy’n rhan o ardal Penderi.

Cyd-destun yr ysgol:

  • 382 disgybl ar y gofrestr
  • 56% yn cael prydau ysgol am ddim, o gymharu â chyfartaledd Cymru, sef 21%
  • 93% o ddisgyblion o’r 30% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru
  • 17% o ddisgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY)
  • 49 datganiad a phedwar Cyfleuster Addysgu Arbenigol (STF) i blant ag anhwylderau’r sbectrwm awtistiaeth ac anhwylderau dysgu cymedrol

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn ceisio datblygu ac ysbrydoli disgyblion trwy ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd ychwanegol i gyfoethogi’u profiad ysgol. Yn 2016, sylwodd staff yn yr STF fod diddordeb gan lawer o ddisgyblion mewn pêl-droed, ond roedd ymuno â’u cymheiriaid prif ffrwd yn her. O ganlyniad i hyn, bu’r staff yn chwarae pêl-droed gyda’r disgyblion yn ystod amser chwarae. Sylwodd staff yn fuan fod hyn yn cael effaith amlwg ar lefelau ymgysylltiad disgyblion. Roedd disgyblion yn mwynhau chwarae a thyfodd eu hyder.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn sgil hyn, datblygodd y staff y syniad o ddatblygu cynghrair bêl-droed yn benodol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Gweledigaeth ‘Cynghrair Pêl-droed Super Teams’ oedd rhoi cyfle i ddisgyblion gynrychioli eu hysgol wrth chwarae pêl-droed cystadleuol yn erbyn timau eraill â gallu a dealltwriaeth debyg. Daeth y syniad gwreiddiol i sefydlu’r gynghrair gan aelod o’r staff cymorth dysgu yn y cyfleuster addysgu arbenigol, a oedd â brwdfrydedd penodol am chwaraeon, cynhwysiant a chynorthwyo disgyblion ag ADY. Mae’r syniad cychwynnol hwn wedi cael canlyniadau pellgyrhaeddol a chadarnhaol i lawer o blant a’u teuluoedd.

Y nod oedd datblygu’u hunan-barch, yn ogystal â’u medrau corfforol a chymdeithasol. Trwy ddathlu perfformiadau a chanlyniadau’r disgyblion, gallai’r ysgol weld bod proffil a statws disgyblion STF yn yr ysgol yn cynyddu. Hefyd, mae’r gynghrair yn rhoi cyfle i rieni disgyblion wylio’u plant yn cystadlu ar ran yr ysgol.

Roedd rhai pethau ymarferol i’w hystyried. Yn gyntaf, bu’n rhaid i’r ysgol ddod o hyd i leoliad addas. Nid oedd chwarae ar gaeau agored wedi’u marcio bob amser yn briodol i’r rhan fwyaf o’r disgyblion. Penderfynwyd llogi caeau yn y cyfleuster pêl-droed lleol i ochrau bach. Roedd hyn yn ddelfrydol, gan fod y bêl bob amser ar y cae ac, unwaith roedd y disgyblion i mewn, roeddent yn gwbl ddiogel. O hyn, dechreuodd STF cyfnod allweddol 2 Clwyd chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn STFau eraill yn Abertawe. Amlygodd yr arsylwadau a’r adborth gan ysgolion eraill fod lleoliad a chysyniadau’r gemau yn llwyddiannus a bod potensial i’w tyfu.  

Yn nes ymlaen yn 2016, lansiodd staff o’r STF y gynghrair mewn Cyfarfod Rhwydwaith STF. Gwahoddont athrawon i ymuno â grŵp ar HWB. Cafwyd ymateb da a dechreuodd y gynghrair. Aeth y gynghrair o nerth i nerth. Cyn Covid, roedd 200 o blant o 14 ysgol yn cymryd rhan. Ar hyn o bryd ac ers COVID, mae’r gynghrair wedi ailddechrau ac mae nifer gynyddol yn cymryd rhan.

Mae’r holl staff yn arsylwi disgyblion yn chwarae yn rheolaidd. Mae hyn wedi arwain at adborth defnyddiol i staff yr STF, sydd wedi gwneud diwygiadau ac addasiadau, er enghraifft i drefn digwyddiadau a ‘rheolau’, i fodloni anghenion yr holl ddisgyblion. Bellach, mae dwy adran i ddisgyblion 7-11 oed a chae ‘profiad pêl-droed’ i wneud y mwyaf o gyfleoedd cynhwysiant a chymryd rhan. Mae Adran 1 i ddisgyblion sy’n deall cysyniad gêm a sut i gymryd rhan. Mae ar gyfer plant sy’n hyderus yn gorfforol. Mae’r gemau’n gystadleuol heb fawr o ymyrraeth gan oedolion. Mae adran 2 i ddisgyblion sydd â gwybodaeth ddatblygol am sut i gymryd rhan mewn gem bêl-droed. Gall oedolion cefnogol fod ar y cae i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cymryd rhan ac yn cicio pêl feddalach. Mae’r Cau Profiad Pêl-droed yn gae heb strwythur gyda pheli o amryw faint gwahanol ac offer synhwyraidd. Mae ar gyfer plant sydd heb gysyniad o gêm eto. Mae oedolion yn eu helpu i archwilio’r offer a sgiliau sy’n gysylltiedig â phêl-droed. Mae unrhyw ddisgyblion yn gallu’i ddefnyddio unrhyw bryd. Mae hyn yn ddefnyddiol os oes angen amser a lle i ddisgybl ‘ymbwyllo’.

Hefyd, mae staff wedi datblygu rhan y cyfnod sylfaen i’r gynghrair, i ddisgyblion iau. Y rheolau yn syml, er enghraifft, yw stopio pan fydd y chwiban yn cael ei chwythu, ceisio peidio cyffwrdd â’r bêl a siglo llaw wedyn. Y dyfarnwyr yw’r hyfforddwyr hefyd. Nhw sy’n rhedeg y gemau ond sydd hefyd yn addysgu elfennau o’r gêm i’r disgyblion (yn dibynnu ar eu gallu). Cyn pob sesiwn, mae’r staff yn dangos y rheolau a sgil. Mae pwyslais ar chwarae’n deg, gwaith tîm ac ennill a cholli’n dda. Mae’r gemau’n para tua 10 munud ac mae’r ysgol yn anelu at gael 6 disgybl bob ochr. Mae’r ddau beth yn hyblyg, yn dibynnu ar nifer y disgyblion a lefel y blinder.

Caiff y gynghrair ei dathlu bob mis Gorffennaf yn ystod gŵyl cyfnod allweddol 2. Mae hyn yn cynnwys gemau pêl-droed, gemau parasiwt, crefftau, Kerling a chastell naid. Hefyd, mae’n amser i bob disgybl gael medal ac mae tlws i enillwyr yr adran. Yn ogystal â gŵyl flynyddol cyfnod allweddol dau, mae gan yr ysgol gemau bob hanner tymor, gan olygu bod chwe digwyddiad bob blwyddyn. Mae’n gysylltiedig â Chymdeithas Pêl-droed Ysgolion Abertawe. Wrth edrych tua’r dyfodol, hoffai’r ysgol helpu siroedd eraill i sefydlu cynghreiriau tebyg a sefydlu tîm cynrychioliadol o ‘STF Abertawe’ i chwarae timau cynrychioliadol eraill.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae staff Ysgol Gynradd Clwyd o’r farn bod y prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae disgyblion yn edrych ymlaen at yr holl ddigwyddiadau pêl-droed. Mae’r profiadau wedi’u gwahaniaethu yn helpu’r ysgol i fodloni anghenion unigol ac maent wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol iawn ar hyder y disgyblion, eu hymgysylltiad, eu gwydnwch a datblygiad eu medrau.

Adborth gan athro STF Ysgol Gynradd Cadle, Abertawe.

Rydych chi wedi creu rhywbeth gwirioneddol gyffrous, sy’n hybu cynhwysiant i’n plant a, hefyd, sy’n gwneud i ni fel staff deimlo’n rhan o rywbeth mwy o faint…mae’r effaith yn aruthrol. Roedd gen i blentyn yn fy nosbarth i’r llynedd a wnaeth grïo drwy’r cyfan o’i gêm gyntaf yn y gynghrair gan nad oedd e’n ‘cael tro’; erbyn hyn, mae’n chwarae rygbi a phêl-droed yn ei ysgol uwchradd…wir i chi, mae fy nosbarth i ond yn chwarae pêl-droed yn y gynghrair a dydw i erioed wedi’u gweld nhw’n gweithio gyda’i gilydd fel maen nhw’n gwneud ar y cae’.  

Rhai dyfyniadau gan ddisgyblion:

  • ‘Rwy’n gwneud ffrindiau newydd.’
  • ‘Rwy’n hoffi…rwy wrth fy modd yn cymryd rhan.’
  • ‘Ciciais i’r bêl i fy ffrindiau.’
  • ‘Rwy’n caru pêl-droed oherwydd dysgoch chi fi i chwarae pêl-droed.’
  • ‘Sgoriais i 3 gôl.’
  • ‘Rwy’n caru gwisgo cit yr ysgol.’
  • ‘Rwy’n teimlo’n hyderus yn y gemau a does dim ots gen i os ydyn ni’n ennill neu’n colli’.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer da?

Mae’r ysgol yn defnyddio’i chyfrif Twitter i ddathlu’r gynghrair, ac mae ganddi’r hashnod #superteamsfootball. Gwahoddwyd staff i siarad am y gynghrair yng nghynhadledd ‘Cau’r Bwlch’ 2017 ERW. Y ffocws oedd rhannu arfer dda a oedd yn cynyddu lefelau ymgysylltiad rhanddeiliaid ac yn codi safonau cyrhaeddiad disgyblion. Cafodd cysyniad y gynghrair ei groesawu gan y mynychwyr. Mae’r gynghrair wedi cael sylw ym mhapurau newyddion y Swansea Evening Post a’r Western Mail hefyd. Dyfarnwyd Athro Ymarfer Corff y Flwyddyn De Cymru i athro ymarfer corff yn yr ysgol yn 2018. Roedd y wobr hon yn cydnabod effaith y gynghrair a’r gwaith a wnaed gan sylfaenwyr y gynghrair.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i’r arfer

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Clwyd wedi’i lleoli ym Mhenlan, Abertawe. Mae’n gwasanaethu ardal â lefel uchel o amddifadedd a diweithdra. Mae dros 90% o’r 365 o ddisgyblion yn yr ysgol yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae tua 56% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ystadegau hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaleddau cenedlaethol. Mae’r ysgol hefyd yn lletya pedwar cymhwyster addysgu arbenigol i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o bob rhan o’r awdurdod lleol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch a nodwyd fel arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu ac annog dyheadau disgyblion ar gyfer cyflawniadau a chyflogaeth yn y dyfodol. Mae’r dyhead hwn yn arwain at staff yn trefnu profiadau dysgu pwrpasol, go iawn yn rheolaidd, sy’n ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’r cyfleoedd y gallant ddod ar eu traws yn y dyfodol.

Bob blwyddyn, mae’r ysgol yn cynnig cyfle i ddisgyblion gael profiad o weithio â chynghorwyr cyflogaeth o’r Ganolfan Byd Gwaith. Maent yn cynnig gweithdy yn y bore, cynllunio curriculum vitae a chyfweliadau ffug. Mae hyn yn galluogi disgyblion i gael profiadau uniongyrchol o ran cynllunio gyrfa bosibl, chwilio am swydd a dyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cysylltu’n uniongyrchol â digwyddiad ‘Cyfarfod â’r Gweithiwr’ yr ysgol. Digwyddiad trefnedig yw hwn lle y gofynnir i ddisgyblion awgrymu gyrfaoedd posibl y maent yn dyheu i gael profiad ohonynt. Yna, mae’r ysgol yn gwahodd cynrychiolwyr o’r gyrfaoedd hynny i’r ysgol ac mae’r disgyblion yn gofyn cwestiynau sydd o ddiddordeb iddynt ar ffurf ‘gron’. Mae hyn wedi datblygu’n ddigwyddiad mawr sy’n cael ei gydnabod fel arfer arloesol ac sydd wedi galluogi disgyblion yn Ysgol Clwyd i gyfarfod â dwsinau o weithwyr o ystod eang o broffesiynau, gan gynnwys: meddyg, diffoddwr tân, cyfreithiwr, actor, weldiwr, peiriannydd, swyddog yr heddlu, bydwraig, milfeddyg, gwyddonydd, pêl-droediwr, briciwr, triniwr gwallt, entrepreneur, parafeddyg, aelod o’r lluoedd arfog, llyfrgellydd, gweithiwr banc, cyfrifydd a llawer mwy.  

Mae disgyblion yn cael cyfle i wneud cais am rai o’r swyddi hyn a chael profiad o gyfweliad un-i-un o flaen eu cyfoedion. Mae adborth o’r cyfweliad yn cael ei roi i’r ymgeiswyr gan staff yr ysgol, y cyflogwyr ac aelodau eraill o’r panel. Bu hyn yn ffordd rymus iawn o baratoi disgyblion ar gyfer yr heriau y gallant eu hwynebu yn y dyfodol. Mae hefyd wedi amlygu iddynt y medrau y gall fod eu hangen i ddod o hyd i waith yn y dyfodol.

Rhoi’r medrau ar waith fu’r ffocws. Mae Siop ‘Pop-yp’ Clwyd yn cael ei threfnu, ei chyflenwi a’i goruchwylio gan ddisgyblion. Mae hwn yn gyfle iddynt redeg a gweithio mewn uned siop fach yn y gymuned. Maent yn dylunio ac yn gwneud y rhan fwyaf o’r stoc ac yn gweithio’r tiliau, yn creu amserlenni gwaith, yn datrys problemau ac yn hysbysebu. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion feddwl yn greadigol i ddylunio cynhyrchion. Wrth gynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, mae disgyblion yn cyfrifo cyllidebau, elw a newid ac yn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd pwrpasol, go iawn. Bob blwyddyn, mae hyn wedi datblygu ystod o fedrau bywyd gwahanol a hanfodol sy’n cyd‑fynd yn berffaith â’r medrau sy’n cael eu trafod yn ystod y diwrnod ‘Cyfarfod â’r Gweithiwr’. Mae’r gwobrau a’r elw o’u gwaith caled yn y Siop Pop-yp yn golygu bod yr ysgol wedi gallu fforddio prynu bws mini. Mae hyn yn enghraifft ymarferol, ddilys o waith caled disgyblion yn talu ar ei ganfed.

Yn ogystal, ac yn flynyddol, mae disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 yn cymryd rhan ym Mhartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De Orllewin Cymru. Mae’r bartneriaeth hon yn cael ei hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Nod y rhaglen yw codi dyheadau ac ymwybyddiaeth pobl ifanc sydd wedi’u tangynrychioli mewn addysg uwch ar hyn o bryd o addysg bellach ac addysg uwch. Gwneir hyn drwy weithgareddau a gweithdai sy’n cael eu cynnal mewn sefydliadau addysg uwch, colegau, ysgolion a lleoliadau cymunedol. Mae disgyblion yn mynychu diwrnodau ‘ACE’ Iau a Diwrnodau Blas ar Bynciau yng Nghampws Singleton, Prifysgol Abertawe. Mae disgyblion yn gweithio â myfyrwyr arweiniol hefyd i gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau grŵp.

Er mwyn helpu penderfynu a yw’r gweithgareddau’n helpu cyfranogwyr i symud ymlaen o’r ysgol i addysg bellach, addysg uwch a chyflogaeth, mae’r rhaglen yn cofnodi gwybodaeth am y gweithgareddau allgymorth a’r disgyblion sy’n cymryd rhan ynddynt er mwyn iddynt allu olrhain taith addysgol y cyfranogwyr allgymorth i’r brifysgol a’r tu hwnt i gyflogaeth.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Roedd yr holl ddisgyblion a holwyd yn cytuno eu bod wedi elwa ar y diwrnod ‘Cyfarfod â’r Gweithiwr’ a’i fod wedi datblygu eu meddylfryd tuag at ddewisiadau gyrfa yn y dyfodol.
  • Mae gan bron pob un o’r disgyblion ddealltwriaeth gliriach o’r posibiliadau sydd ar gael o ran addysg a chyflogaeth yn y dyfodol yn eu hardal leol a’r byd ehangach.
  • Mae gan bron pob un o’r disgyblion ddealltwriaeth well o’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gyflawni eu dyheadau. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar agweddau at ddysgu ar draws yr ysgol.
  • Mae pob disgybl yn cael cyfle i brofi gweithgarwch sy’n gysylltiedig â’r byd gwaith.
  • Mae dadansoddiad yn nodi bod dyheadau disgyblion ar gyfer y dyfodol wedi codi’n sylweddol
  • Mae gan yr ysgol bartneriaethau cadarnhaol, parhaus a buddiol ag ystod o gyflogwyr a sefydliadau addysgol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Prif nod DCGO yw cynhyrchu defnyddwyr y Gymraeg a hwyluso’r broses o gymathu’r defnyddwyr hynny â’r gymdeithas Gymraeg leol. Oherwydd hynny mae pwyslais cyrsiau DCGO ar ddatblygu sgiliau llafar a rhoi hyder i’r dysgwyr ddefnyddio’r iaith.

Datblygu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y dosbarth

Yr ystafell dosbarth yw man cychwyn datblygu hyder y dysgwyr i defnyddio’r Gymraeg ac mae tiwtoriaid DCGO yn llwyddo i greu naws Cymraeg a Chymreig yn eu dosbarthiadau. Mae’r Saesneg yn cael ei gollwng yn raddol fel cyfrwng cyfathrebu yn y dosbarth a thrwy ddefnyddio iaith sydd o fewn gafael y dysgwyr a defnydd creadigol o ystumiau a iaith y corff, llwyddir i gael gwersi cyfrwng Cymraeg yn fuan iawn.

Datblygu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned

Ynganu a thafodiaith

Rhaid wrth sicrhau bod hyder y dysgwyr yn eu gallu ieithyddol yn caniatáu iddynt ddeall yr hyn mae trigolion y gogledd-orllewin yn ei ddweud yn y Gymraeg, ac i efelychu’r dafodiaith honno.

Ceisir cyflwyno’r dafodiaith yn bennaf trwy sicrhau bod yr ynganiad a ddefnyddir gan y tiwtor wrth gyflwyno geirfa yn gyson ag yr hyn a glywir yn y cymunedau lleol. Gwelir hyn yn bennaf trwy ynganu nifer o ddeuseiniaid yn unsain er enghraifft – gwybod – gwbod, chwarae – chwara

Cyflwynir geirfa leol yn ogystal megis ‘hercan’ am ‘doriad gwallt’. 

Mae’r dysgwyr yn canmol bod yr iaith gymunedol yn cael ei chyflwyno iddynt.

Sesiynau allgyrsiol

Mae defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth yn gam allweddol er mwyn i’r dysgwyr fagu’r hyder i’w defnyddio yn y gymuned. Roedd y cyfnod clo yn her o ran gallu cynnig cyfleodd i’r dysgwyr fentro gyda’u hiaith yn allgyrsiol.  

Er mwyn rhoi elfen o normalrwydd i’r dysgwyr darparwyd nifer o sesiynau ar-lein i’r dysgwyr gan gynnwys nifer o sesiynau llesol e.e.  

  • Paned/llymed a sgwrs  
  • Clwb Darllen 
  • Clwb Garddio 
  • Cwis  
  • Gŵyl Haf Dysgwyr Dwyfor (efo cystadlaethau ‘sgwennu ayb)  

Hefyd yn ystod Gwanwyn a Haf 2021, llwyddwyd i gynnal rhai digwyddiadau cefnogi dysgwyr wyneb yn wyneb e.e.  

  • Teithiau Cerdded  
  • Paned a sgwrs mewn caffi

Clybiau darllen

Mae darllen Cymraeg yn atgyfnerthu datblygiad yr iaith lafar. Mae’r dysgwyr yn dod ar draws geirfa newydd, ei gweld mewn cyd-destun ac yn dod yn fwy cyfarwydd â chystrawen y Gymraeg. Wrth gynllunio’r rhaglen ar gyfer 2020-21, gwelwyd yr angen i gynnig rhagor o gyswllt i’r dysgwyr â’r Gymraeg. Cynlluniwyd cyfres o glybiau rhithiol ar bob lefel, i redeg am gyfnodau byrion.

Cynigwyd 9 clwb darllen yn nhymor yr hydref, a llenwyd pob un bron yn syth. Gwelwyd yr angen i gynyddu’r ddarpariaeth, a chynigwyd 14 clwb ym mis Ionawr. Yn 2020-21, ymrestrodd 346 i fynychu’r clybiau darllen.

Bellach, mae tîm penodol o diwtoriaid yn gyfrifol am gynnal y clybiau darllen, ac am rannu adnoddau electronig a syniadau ar gyfer cynnal clwb darllen effeithiol ymhlith y staff.

Rhannu arferion da

Mae’r  tiwtoriaid yn rhannu arferion da o ran dysgu ac addysgu mewn fforymau ardal sy’n cael eu cynnal yn dymhorol, yn ogystal â thrwy gyfrwng cyfarfodydd ar-lein ble mae grwpiau trafod ar gyfer pob lefel.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

The greatest effect is on learners’ willingness to use the Welsh language in their community. LWNW’s emphasis on conversation and understanding and emulating local pronunciation helps learners to assimilate into Welsh-speaking society effectively.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng wedi’i lleoli ar yrion tref y Trallwng ac fe’i hagorwyd ym Medi 2017 ar ôl uno disgyblion o bedair o ysgolion y dref. Ar ôl gweithredu ar draws tri chyn safle ers ei hagor, symudodd yr ysgol i adeilad newydd ym mis Ionawr 2021.

Mae 280 o ddisgyblion ar y gofrestr, sy’n cynnwys 25 yn y ddarpariaeth cyn-ysgol. Mae 38% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (21%). Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned sydd wedi’i lleoli mewn ardal sydd ymhlith y 10-20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (MALlC).

Mae gan 39% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae tri dosbarth ychwanegol yn yr ysgol, sef dau i ddisgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol a Rhaglen Anogaeth i ddisgyblion ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol, y mae pob un ohonynt yn gwasanaethu ardal ehangach o ysgolion. Mae tuag 20% o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae’r ysgol hefyd yn lletya cyfleusterau Dechrau’n Deg a lleoliad i blant tair a phedair oed.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol wedi cydnabod rôl gofalwyr ifanc bob amser a chafodd ei gwahodd yn flaenorol i gymryd rhan mewn cynllun peilot gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Fodd bynnag, arweiniodd y pandemig at ymwybyddiaeth ddwysach o sut roedd y plant hyn dan anfantais ddwbl, yn enwedig yn ystod y cyfnodau clo. Amlygodd system yr ysgol o gysylltu â dysgwyr bregus yn ystod y cyfnodau hyn nad oedd rhai gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod o hyd. Roedd yr ysgol yn benderfynol o roi gweithdrefnau ar waith i sicrhau y byddai gofalwyr ifanc yn cael eu galluogi i fwynhau eu hawliau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn bob amser, yn ystod y pandemig ac ar ei ôl.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Roedd angen i’r ysgol sicrhau bod gweithdrefnau cadarn ar waith i adnabod gofalwyr ifanc ac annog diwylliant ehangach yn yr ysgol y dylai dysgwyr sydd â rôl ofalu yn y cartref gael eu cydnabod a’u cefnogi. Enwebodd yr ysgol aelod o’r tîm bugeiliol i fod yn bennaf gyfrifol am y maes gwaith hwn ac yn fod yn gyswllt i ofalwyr ifanc. Byddai’r unigolyn hwn yn hyrwyddo eu hangenion ac yn cysylltu â llywodraethwr penodedig i sicrhau bod ymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid.

Dechreuodd yr arweinydd gweithredol hwn drwy godi ymwybyddiaeth o rôl gofalwyr ifanc ymhlith yr holl ddisgyblion, fel y byddai unrhyw ofalwyr ‘cudd’ yn gallu dod i’r amlwg. Roedd yn bwysig gwneud hyn yn ofalus er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw stigma yn gysylltiedig â hunanadnabod, ac y gellid sefydlu ethos cadarnhaol yn yr ysgol lle byddai gofalwyr ifanc a’u teuluoedd yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.

Ar ôl hynny, gweithiodd yr arweinydd gweithredol â’r uwch dîm rheoli i sicrhau bod yr holl staff addysgu a chynorthwyol, ynghyd â’r llywodraethwyr, yn deall cyfrifoldebau’r ysgol i ofalwyr ifanc ac yn gwybod pwy oeddent ar draws yr ysgol. Nodwyd gofalwyr ifanc ar gofrestrau dosbarth a thrwy Broffiliau Un Dudalen er mwyn i athrawon llanw fod yn ymwybodol o’u statws hefyd a’r angen i ganiatáu amgylchiadau arbennig, fel galwad ffôn i’r cartref, cymorth â gwaith cartref neu er mwyn osgoi unrhyw gwestiynau diangen.

Sefydlodd yr ysgol grŵp cefnogi cymheiriaid i ofalwyr ifanc sy’n cyfarfod bob dydd Gwener ag aelod o elusen gofalwyr ifanc ym Mhowys, sef Credu, a’r llywodraethwr cyswllt enwebedig. Mae hyn yn galluogi disgyblion i rannu eu hanesion a chael amser i fod yn blant yn hytrach na gofalwyr.

Gofynnodd y gofalwyr ifanc eu hunain a fyddai modd iddynt sefydlu grŵp Llais y Disgybl i gynnwys gofalwyr a’r rhai nad ydynt yn ofalwyr. Erbyn hyn, mae’r grŵp hwn yn cyfarfod i ailysgrifennu fersiynau o bolisïau allweddol sy’n addas i blant, ynghyd â Llysgenhadon Gwych yr ysgol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu hawliau gofalwyr ifanc. Buont yn weithredol hefyd o ran sicrhau cardiau adnabod gofalwyr ifanc i’r rhai sydd eisiau cario un ohonynt.

Mae’r ysgol yn olrhain cynnydd gofalwyr ifanc fel grŵp o ddysgwyr ym mhob agwedd ar eu bywyd ysgol, gan gynnwys lles, cyrhaeddiad a phresenoldeb. Caiff tueddiadau eu dadansoddi i sicrhau bod unrhyw newidiadau y gellir eu priodoli i’w statws gofalu yn cael eu nodi a’u cefnogi, yn ôl yr angen. Roedd yr ysgol am sicrhau, wedi i ofalwyr ifanc drosglwyddo i ysgol uwchradd, bod eu hawliau fel gofalwyr ifanc yn cael eu bodloni o hyd, felly sefydlwyd grŵp pontio â’r ysgol uwchradd leol. Trwy’r grŵp hwn, amlygwyd y gallai brodyr a chwiorydd prif ofalwyr gael eu ‘cuddio’ yn y sector uwchradd, felly sefydlwyd ffurflen hysbysu ar y cyd lle y gallai’r ysgol gynradd ac uwchradd weithio mewn partneriaeth i nodi lle y gallai fod gan frodyr a chwiorydd gyfrifoldebau gofalu ar y cyd. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r gofalwyr ifanc yn yr ysgol yn falch o’u statws gofalu ac mae’r ysgol wedi nodi, ers i hunanadnabod gael ei annog ac ers dod yn rhan o grŵp cefnogi cymheiriaid, bod gan lawer ohonynt fwy o hunan-werth a hunan-barch.

Sut ydych wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r arweinydd gweithredol wedi siarad yng Ngweithgor Lles Pob Ysgol Powys, gan arwain at argymhellion yn cael eu rhannu â phob ysgol yn yr awdurdod.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae DCGO wedi bod yn flaengar ymysg darparwyr CiO yng Nghymru oherwydd ei bwyslais parhaus ar ymchwil fel sail i ddatblygiadau yn y maes.  Cryfder pellach y gwaith hwn yw ei fod yn seiliedig ar gydweithio gydag ysgolion academaidd amrywiol ym Mhrifysgol Bangor, gan ddwyn arbenigedd o ddisgyblaethau gwahanol at ei gilydd er lles y maes.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ymchwil academaidd diweddar sydd wedi ei gynnal yn cynnwys y canlynol:

  • Newid Ymddygiad – ymchwil PhD mewn cydweithrediad â’r Ysgol Seicoleg ar newid ymddygiad siaradwyr goddefol y Gymraeg.  Yn deillio o’r ymchwil hwn, mae DCGO wedi medru cymhwyso’r canfyddiadau i gyrsiau ‘Magu Hyder’ gyda’r cyhoedd ym Mangor ar y cyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac yn ddiweddarach gyda Menter Iaith Bangor gyda busnesau yn y ddinas.  Arweiniodd hyn at lunio canllaw ar gynnal sesiynau magu hyder i weddill darparwyr Cymraeg i Oedolion.  Ar gais y Ganolfan Genedlaethol, cynhelir peilot sesiynau magu hyder cenedlaethol yng Nghyngor Gwynedd.
  • E-Ddysgu – ymchwil PhD mewn e-Ddysgu ac effeithiolrwydd e-Ddysgu mewn cymhariaeth â’r dull wyneb yn wyneb arferol wrth gaffael iaith.  Mae’r ymchwil yn cynnwys mesur effaith Apiau dysgu Cymraeg a ddatblygwyd gan DCGO.  Bwriedir defnyddio’r canfyddiadau er mwyn bwydo i arlwy ar-lein DCGO yn 2022/2023.
  • Anawsterau ynganu – ymchwil PhD mewn Ieithyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y prif anawsterau a wynebir gan ddysgwyr y Gymraeg.  Cyfrannodd y Ganolfan Genedlaethol at nawdd yr ysgoloriaeth hon. Bydd tystiolaeth yr ymchwil hwn yn medru cyfrannu at newidiadau i gynnwys cwrslyfrau/arweiniad i diwtoriaid, yn ogystal ag at gynnwys hyfforddiant cenedlaethol i diwtoriaid.

Rheolaeth Strategol ar hyfforddiant iaith o fewn y gweithle – ymchwil PhD yn wreiddiol sydd wedi arwain at astudiaethau pellach (fel y gwelir isod).  Mae canfyddiadau’r ymchwil hwn 

  • wedi arwain at newidiadau yn y modd y mae DCGO yn trafod a chynllunio hyfforddiant iaith gyda gweithleoedd (gan gynnwys staff Prifysgol Bangor) fel bod elfen llawer iawn mwy strategol i’r modd y ‘dewisir’ dysgwyr ond hefyd y modd y rheolir yr hyfforddiant, er mwyn sicrhau defnyddwyr y Gymraeg.

 

Mae prosiectau ymchwil cymhwysol eraill yn cynnwys y canlynol:

  • Enillwyd grant Ewropeaidd gan yr NPLD (Network to Promote Linguistic Diversity) i arwain prosiect gyda phartneriaid yn yr Eidal, Sbaen a’r Alban, gan roi sylw penodol i ddysgu ar-lein.  Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn nhymor yr hydref 2022 gyda symposiwm rhyngwladol yn cael ei drefnu er mwyn rhannu canfyddiadau ac arfer da ynghyd â gwersi y gall gwahanol wledydd yn Ewrop ddysgu oddi wrth ei gilydd.  Mae’r astudiaeth hon hefyd yn cynnwys cymhariaeth o drefniadau a thechnegau rheoli ansawdd, hyfforddi tiwtoriaid a chynhyrchu deunyddiau dysgu.  Fel rhan o’r astudiaeth hon mae DCGO yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gan ymchwilio i effeithiolrwydd hyfforddiant iaith ei staff (fel rhan o gynllun Cymraeg Gwaith).
  • Cynhelir astudiaeth debyg i’r un gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyda Chyngor Sir Gwynedd hefyd, sy’n edrych ar effeithiolrwydd y cynllunio a’r cymhwyso o safbwynt y staff a’r rheolwyr.

Pwysigrwydd y gwaith hwn gyda’r gweithleoedd yw er mwyn medru darparu pecyn canllawiau i’r Ganolfan Genedlaethol a’i darparwyr ac i Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn sicrhau bod hyfforddiant iaith yn y gweithle mor effeithiol ag y gall fod i’r sefydliadau, y dysgwyr newydd a’r cyhoedd sy’n derbyn gwasanaeth Cymraeg ganddynt.

Rhannu Canfyddiadau’r ymchwil

Mae DCGO yn awyddus iawn i rannu ei ganfyddiadau gyda’r maes yng Nghymru a thu hwnt.  I’r perwyl hwn, yn ogystal â’r symposiwm a gynhaliwyd yn 2019/2020 a’r gynhadledd ryngwladol a fydd yn cael ei chynnal yn 2022, mae’r cyhoeddiadau diweddar / ar y gweill canlynol hefyd yn rhannu gwybodaeth a chanfyddiadau manwl am Gymraeg yn y Gweithle:

  • Erthygl yn Current Issues in Language Planning
  • Erthygl yn Gwerddon
  • Pennod yn Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes, cyfrol a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru

Mae DCGO hefyd wedi cyhoeddi pennod (‘Addysgu dysgwyr ail-iaith’) yn y gyfrol a gyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Genedlaethol (2020) o’r enw Cyflwyniad i ieithyddiaeth.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Yr hyn sy’n nodweddiadol o’r ymchwil ydy ei fod yn ymchwil gymhwysol sy’n golygu fod canfyddiadau’r ymchwil yn cael eu cymhwsyo a’u defnyddio fel sail i strategaethau dysgu ac addysgu yng ngwaith pob dydd DCGO a’r sector, ac o ganlyniad mae’n cael effaith uniongyrchol ar safonau dysgwyr.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl yn feithrinfa cyfrwng Cymraeg nas gynhelir yng nghanol tref Pont-y-pŵl. Cynigir gofal sesiynol a gofal dydd ynghyd â chlwb brecwast a chlwb cinio mewn adeilad hynafol cofrestredig cyferbyn ȃ chyfleusterau Parc Pont-y-pŵl ers dros 40 mlynedd. Mae’r plant yn cychwyn yn ddwy a hanner oed ac yn aros gyda’r lleoliad hyd nes iddynt symud ymlaen i ddosbarth derbyn. Mae’r rhan fwyaf o blant yn dod o gartrefi lle nad yw’r rhieni yn siarad Cymraeg. Mae’r Arweinydd yn Gymraes ac mae gan bob un o’r staff brofiad helaeth o ofal plant.

Mae’r adeilad yn cynnwys neuadd fawr agored ar y llawr cyntaf sydd yn gartref i’r feithrinfa. Mae yna fynedfa eang, groesawgar, toiledau pwrpasol a chegin ymarferol ynghyd ȃ gofod storio. Tu allan, mae ardal chwarae agored, ddiogel ac amrywiol sydd yn cynnig profiadau i’r plant ddatblygu eu medrau corfforol, creadigol ac ymchwiliol. Ar y llawr gwaelod, mae ail neuadd lle mae’r Cylch Ti a Fi yn cyfarfod yn wythnosol. 

Mae gan Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl berthynas agos ag ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ardal Pont-y-pŵl – mae’n cydweithio’n agos i sicrhau caiff y plant pedair oed gyfleoedd i gyfarfod â’r athrawon ac ymweld ȃ’r ysgolion cyn trosglwyddo i’r dosbarthiadau derbyn. 

Mae’r lleoliad yn cynnig polisi drws agored i bob plentyn sydd â diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn credu’n gryf fod angen arfer cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Nod Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl yw sicrhau fod llais y plant wrth wraidd popeth mae’n ei wneud. Mae’r lleoliad yn annog y plant i ddweud eu barn, trafod pynciau’r dydd a chydnabod pwysigrwydd eu cynefin, eu hiaith, eu teuluoedd a’u cyfeillion. Mae’r plant yn rhan annatod o ddewis yr hyn sydd yn digwydd yn ddyddiol, gan roi offer ac adnoddau y tu mewn a’r tu allan a chynorthwyo i ddatblygu ardaloedd chwarae rôl. Y nod yw darparu cyfleoedd chwarae a dysgu cyffrous i’r plant gan adael iddynt arwain a datblygu i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol sydd yn gwerthfawrogi eu cynefin.

Mae’r staff wedi

Mae pob aelod o staff wedi cael copi o’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ac wedi dilyn cyrsiau hyfforddi amrywiol. Mae’r feithrinfa’n cynllunio ei sesiynau i gyd-fynd ȃ’r llwybrau datblygu, yn arsylwi’r plant i ddeall eu sgemâu er mwyn llywio darpariaeth ac yn ymateb i ddiddordebau’r plant. Mae ymarferwyr yn ceisio bod yn ddelfryd ymddwyn da i’r plant gan eu hannog i fynegi barn, parchu eraill, cymryd diddordeb yn eu cymuned a dysgu bod yn annibynnol.

Mae’r staff yn mynd allan o’u ffordd i fagu perthynas agos gyda rhieni a theuluoedd y plant a’u hannog i deimlo’n rhan o deulu estynedig y lleoliad. Mae’r staff yn cadw mewn cysylltiad ȃ chyn rieni, yn dilyn datblygiad a hanes ein cyn ddisgyblion yn ofalus ac, erbyn hyn, mae nifer ohonynt yn rhieni gyda ni eu hunain ac yn siarad Cymraeg gyda’u plant hwythau.

Mae bod yn feithrinfa gymunedol yn hynod o bwysig. Mae gwahoddiad agored i bawb fynychu unrhyw gyngherddau, sioeau a digwyddiadau codi arian a threfnir ac mae sicrhau cyfleoedd i’r plant ddysgu am eu cymuned yn rhan bwysig o gynllunio. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer effeithiol neu arloesol

Gwna’r feithrinfa ddefnydd helaeth o’r parc lleol bendigedig i ddysgu am fyd natur a’r tymhorau. Caiff ymweliadau eu trefnu ȃ’r llyfrgell, y farchnad wythnosol a’r archfarchnad leol ac mae’r plant wrth eu boddau yn ymweld â chartref gofal i’r henoed lleol, gan fagu perthynas agos â’r preswylwyr yno a pharatoi gweithgareddau a dewis llyfrau i rannu gyda’u ffrindiau newydd. Yn ogystal ȃ bod yn rhan o’u cymuned leol, anogir y plant i fod yn chwilfrydig am Gymru, yr iaith Gymraeg a diwylliannau eraill. Mae’r plant wrth eu bodd yn dysgu dawnsfeydd gwerin Cymreig, caneuon a rhigymau Cymraeg, ac am Santes Dwynwen a’r Fari Lwyd. Ar yr un pryd, maent yn awyddus iawn i ddysgu am draddodiadau gwledydd eraill megis dathlu dyfodiad y flwyddyn newydd Tsieineaidd. Gyda chymorth y staff, daeth y plant o hyd i fideo yn dangos gorymdaith dathlu yn Tsieina ac, o ganlyniad, creasant benwisg draig 3D a threfnu gorymdaith o gwmpas y neuadd gyda rhai plant yn creu band offerynnol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth, lles a safonau plant?

Mae’r plant yn chwilfrydig am y cyfleoedd dysgu sydd o’u cwmpas ac maent yn ymestyn a datblygu eu syniadau eu hunain yn hyderus. Os yw’r plant yn penderfynu adeiladu cestyll yn yr ardal blociau, maent yn gwybod fod modd chwilio am syniadau mewn llyfr neu ar lechen gyfrifiadurol. Os ydynt yn gweld baner ar dŵr un o’r cestyll yn y llun, maent yn mynd draw i’r ardal gwaith coed i gynllunio a chreu eu baneri eu hunain a gweithio allan sut i’w gosod ar ben tyrau’r cestyll. Efallai byddan nhw’n penderfynu wedyn eu bod am ychwanegu ffos â dŵr o’r tap. Mae’r plant yn cydweithio’n dda fel tîm ac yn datblygu fel dysgwyr uchelgeisiol a galluog. Mae’r staff yno i annog y plant i ymestyn eu syniadau, eu perchnogi a’u symud ymlaen ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar hyder a lles y plant. Gwneir defnydd eang o offer a deunyddiau naturiol, er enghraifft cwpanau a phlatiau pren yn y gegin fwd, a nod y feithrinfa yw cynnig adnoddau go iawn ymhob ardal ddysgu, fel llysiau a ffrwythau o’r farchnad neu’r ardd yn y siop fferm, arian mân yn y til, gitâr maint llawn yn y gornel gerdd a morthwylion a llif yn yr ardal gwaith coed. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae’r lleoliad cyn-ysgol wedi’i leoli ym mhentref Benllech, yn awdurdod lleol Ynys Môn. Mae’r arweinwyr yn newydd i’w swyddi er mis Medi 2021. Mae’r lleoliad yn cyfrannu at grŵp peilota cwricwlwm newydd yr awdurdod lleol i rannu strategaethau ac arferion.
       
Mae arweinwyr ac ymarferwyr wedi sefydlu ethos cadarnhaol ar draws y lleoliad. Mae plant yn llwyddo ac yn ffynnu mewn amgylchedd cynhwysol, ac yn datblygu’r hyder i wneud penderfyniadau am eu chwarae o fewn meysydd dysgu wedi’u diffinio’n glir. Caiff eu dysgu ei werthfawrogi gan ymarferwyr. Mae llif agored i’r ddarpariaeth ac mae plant yn penderfynu ble hoffent chwarae a dysgu.  

Rhaid chwarae yn yr awyr agored gyda’r drws ar agor trwy gydol y sesiwn. Mae ystod eang o adnoddau i helpu plant i fod yn unigolion iach, hyderus a gwydn, o’r pwll tywod mawr y tu allan i’r ardal gloddio ble gallant adeiladu, symud, difrodi a chwarae rôl gwahanol senarios.

Mae plant yn gwneud cynnydd da iawn ac yn datblygu amrywiaeth o fedrau. Er enghraifft, gallant ganolbwyntio am gyfnodau estynedig tra’n chwarae. Mae medrau iaith a mathemategol yn datblygu’n naturiol trwy eu chwarae ar draws yr amgylchedd ysgogol, a thrwy ryngweithio ag ymarferwyr medrus. Mae diben i waith celf, ac mae’n dangos eu dysgu a’u datblygiad eu hunain, o’r sblashis paent y gwnaethant eu dewis a’u tywallt yn annibynnol, i’r toriadau danheddog o’u defnydd eu hunain o siswrn a sticeri y gwnaethant eu dewis a’u plicio’n ofalus eu hunain. Mae gweithio yn y modd hwn wedi meithrin medrau personol, cymdeithasol ac emosiynol y plant, fel cymryd eu tro, hunanreoleiddio ac annibyniaeth, sydd yn ei dro yn cefnogi meysydd dysgu eraill.

Mae’r plant yn wydn ac yn arwain eu chwarae eu hunain. Gosodir ‘gwahoddiadau i ddysgu’ yn y ddarpariaeth, wedi’u seilio ar wybodaeth a gasglwyd gan rieni a’r plant eu hunain. Caiff ffotograffau o’r plant gyda’u teuluoedd a’u hanifeiliaid anwes eu harddangos yn y lleoliad, sy’n cefnogi “perthyn” ac yn annog plant i ddatblygu hyder a theimlo’n dda amdanyn nhw eu hunain. Mae gan staff ymagwedd gyfeillgar a chynnes, ac maent yn ymfalchïo mewn dathlu cyflawniadau. Mae pob un o’r staff yn cydnabod anghenion unigol y plant, ac yn mynd ati i ymgysylltu â dysgu’r plant drwyddi draw. Mae’r staff yn aros i gael eu gwahodd i chwarae ochr yn ochr â’r plant, a byddant yn eistedd ar lawr i annog medrau cyfathrebu. O ganlyniad, mae plant yn dangos cydweithio da, er enghraifft wrth ysgrifennu cyfarwyddiadau am sut i ofalu am y gath, ac yn rhoi cyfarwyddiadau ar lafar tra’n tynnu llun. Mae plant yn gweithio gyda’i gilydd i ddatrys problemau, er enghraifft wrth godi adeiladau cymhleth, creu cyrsiau rhwystrau a chwarae yn yr ardal chwarae rôl. Mae ymarferwyr yn hwyluso eu dysgu trwy roi cyfarwyddyd pan fydd angen, a dal yn ôl pan fydd yn briodol. Mae plant yn parhau i ymgysylltu’n llawn ac yn chwilfrydig am gyfnodau hir, er enghraifft wrth ymchwilio ac ymgolli â phowlen o allweddi, cludo a phwyso.

Mae’r strategaeth “Plentyn Ffocws” yn sicrhau bod pob un o’r plant yn cael cyfleoedd cyfartal a bod y plant tawelach yn datblygu hyder trwy arweiniad cefnogol yn hytrach na chyfarwyddiadau uniongyrchol. Mae’r plant mwy bywiog yn fwy pwyllog ac yn dangos mwy o ddiddordeb gan eu bod yn gallu dilyn eu diddordebau eu hunain. Trwy wneud eu dewisiadau eu hunain, mae plant yn ymestyn eu dysgu ar eu cyflymdra eu hunain. Trwy nodi sgemâu, mae ymarferwyr wedi galluogi plant i fynegi eu hanghenion mewn amgylchedd meithringar a chefnogol. Er enghraifft, pan fydd plentyn yn dangos tystiolaeth o sgema trywydd, mae staff wedi sicrhau bod adnoddau ar gael i ddiwallu anghenion y plentyn.
    
Mae cynllunio ymatebol wedi chwyldroi’r ffordd y mae’r lleoliad yn gweithio, gan roi’r plentyn yn ganolog i’r dysgu. Mae ymarferwyr wedi ymgymryd â’r newid hwn yn gadarnhaol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Canolfan Addysg Tai yn uned cyfeirio disgyblion (UCD) ar gyfer hyd at 56 o ddisgyblion oedran cynradd y mae eu prif anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn ymwneud ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Yn fwy diweddar, bu nifer gynyddol o ddisgyblion sydd ag ADY hefyd o ganlyniad i anawsterau niwroddatblygiadol.  Mae gan ryw 52% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, mae 40% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a  29% wedi eu cofrestru fel plant sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn aml, mae disgyblion yn dechrau eu taith yn yr UCD wedi ymddieithrio o addysg ar ôl cael yr hyn y maent yn eu hamgyffred yn brofiadau negyddol mewn ysgolion blaenorol.  Pan fyddant yn dechrau yn yr uned, mae pob un o’r disgyblion yn elwa ar ddarpariaeth gyffredinol sy’n cwmpasu system ymddygiad cadarnhaol gyfannol ar draws yr ysgol. 

Yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf yn yr UCD, mae pob un o’r disgyblion yn cymryd rhan mewn asesiadau gwaelodlin ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ac yn cwblhau arolygon lles i archwilio graddau eu hanghenion cymdeithasol, emosiynol a lles.  Yn dilyn cyfnod o arsylwi, ac ar y cyd ag ysgolion partner, cytunir ar darged llythrennedd, rhifedd, lles ac ymddygiad gyda phob disgybl.  Mae’r targedau hyn yn ffurfio sylfaen eu cynllun datblygiad personol, sy’n cael ei fonitro a’i adolygu’n rheolaidd.  

Mae asesiad cychwynnol yr UCD yn dangos yn aml y bydd angen lefel ddwysach o ymyrraeth ar ddisgybl i gefnogi ei ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol.  Yn amlach na pheidio, mae hyn oherwydd bod y disgyblion hyn yn ei chael yn anodd cyfleu eu meddyliau a’u teimladau, gwneud ffrindiau, a’u cadw, a rheoleiddio eu hymddygiad yn annibynnol.  Er mwyn ymateb i’r angen hwn, hyfforddodd yr UCD ei staff ei hun i ddarparu rhaglen ymyrraeth deilwredig ar gyfer y disgyblion hyn i ddatblygu eu medrau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Mae’r rhaglen wedi’i seilio yn bennaf ar raglen fasnachol, sydd wedi ei chynllunio i weddu i gyd-destunau’r UCD a disgyblion unigol.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Fel arfer, yn rhaglen yr UCD, mae dau grŵp o chwe disgybl sy’n elwa ar sesiynau ymyrraeth dwy awr bob wythnos dros gyfnod o ugain wythnos.  Ar hyn o bryd, mae un grŵp yn cynnwys plant y cyfnod sylfaen a dechrau cyfnod allweddol 2, a’r grŵp arall yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6.  Cynhelir sesiynau mewn ystafell ar wahân sy’n darparu ar gyfer gweithgareddau fel dysgu ar sail fideo a defnyddio pypedau i fodelu a chwarae rôl medrau cymdeithasol ac emosiynol, yn cynnwys rheoli ‘teimladau mawr’, cymryd tro, rhannu, datrys problemau ac archwilio cyfeillgarwch. Mae pob sesiwn yn cynnig cyfleoedd strwythuredig i ddisgyblion ymarfer y medrau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn cynnwys amser byrbryd iach.  

Yn ystod pob sesiwn, mae disgyblion yn ennill ‘marblis’ yn wobrau am ymgysylltu cadarnhaol, sy’n cyfrannu tuag at gymhelliant gweithgaredd cymunedol wythnosol, fel chwarae yn y parc lleol neu ymweld â chaffi neu siop leol.  Wedyn, caiff y medrau cymdeithasol ac emosiynol y mae disgyblion yn eu datblygu yn ystod y rhaglen eu hymarfer ymhellach mewn cyd-destunau go iawn yn y gymuned.  

Fel arfer, mae disgyblion yn cael tasgau gwaith cartref syml sy’n rhoi cyfle i rieni gymryd rhan yng ngweithgareddau’r rhaglen hefyd.  Hefyd, mae’r UCD yn cynnig cymorth i rieni i helpu eu dealltwriaeth o’r modd y mae ymgysylltu cydweithredol â’r ymyrraeth yn cynyddu ei llwyddiant. Caiff gweithgareddau yn yr ysgol ac yn y cartref eu cynllunio i fod yn fywiog, yn rhyngweithiol ac yn hwyl. 

Ar ddiwedd rhaglen 20 wythnos yr UCD, cynhelir seremoni raddio ddathliadol lle caiff rhieni, gofalwyr, ysgolion partner ac asiantaethau partner eu gwahodd i rannu llwyddiant ‘graddedigion’ y rhaglen. 

Yn ystod y cyfnod dysgu o bell yng nghyfnod clo cenedlaethol cyntaf y pandemig, defnyddiodd arweinydd UCD y rhaglen ddull creadigol, hyblyg ac ymatebol i barhau i ddiwallu anghenion ymddygiadol, emosiynol ac anghenion dysgu penodol disgyblion ar ôl y rhaglen.  Er enghraifft, gwnaeth staff fideos byr gan ddefnyddio pypedau i ganolbwyntio ar faterion a dilemâu penodol y gallai disgyblion eu hwynebu yn ystod y cyfnod hwn. Atgoffodd y pypedau’r disgyblion am yr ‘awgrymiadau gorau’, offer, technegau a’r medrau yr oeddent wedi eu dysgu tra’n mynychu’r UCD i fynd i’r afael â’r materion hyn.  Roedd gweithgareddau’n cynnwys cyfle i archwilio emosiynau, ac aeth staff i’r afael â’r rhain wedyn fel rhan o alwadau lles wythnosol bugeiliol yr UCD i ddisgyblion a’u teuluoedd. Anfonodd staff fideos ddwy neu deirgwaith yr wythnos. 

Dywed arweinwyr yn yr UCD fod parhau â’r rhaglen hon yn ystod y cyfnod clo yn hanfodol i gynnal a gwella ymddygiadau’r disgyblion hyn.  Pan gafodd yr UCD ei hailagor yn llawn, dathlodd pob grŵp y cyfle i gyfarfod gyda’i gilydd cyn parhau â’r rhaglen wyneb yn wyneb arferol, ac ymgysylltodd bron pob un o’r disgyblion yn dda mewn cyfnod byr.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Ceir tystiolaeth o gynnydd cadarnhaol disgyblion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ymyrraeth trwy:

  • bresenoldeb cynyddol
  • ymgysylltiad a chynnydd gwell mewn gwersi ar draws y cwricwlwm
  • ‘pwyntiau dyddiol’ uwch ar gyfer ymgysylltiad ac ymddygiad
  • ennill mwy o dystysgrifau wythnosol

O ganlyniad i welliannau mewn ymddygiad ac agweddau at eu dysgu, mae’r disgyblion hyn wedi gwneud cynnydd mesuradwy yn eu medrau llythrennedd, rhifedd a’u medrau ehangach ar draws y cwricwlwm. Hefyd, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu medrau hunanreoleiddio gwell, a gwelir tystiolaeth o hyn trwy lai o ymweliadau ag ardaloedd tawel dynodedig yr UCD, a llawer llai o achosion o ymddygiad difrifol. Mae cofnodion yr UCD yn dangos y bu gostyngiad sylweddol mewn achosion o fwlio a gwaharddiadau cyfnod penodol o ganlyniad i roi’r ymyrraeth hon ar waith yn llwyddiannus. 

Yn ehangach, gwelir effaith gadarnhaol y rhaglen mewn perthnasoedd adeiladol a chydweithredol cynyddol rhwng cyfoedion, yn cynnwys medrau sy’n dod i’r amlwg o ran rheoli chwarae heb gefnogaeth gyda chyfoedion, yn ogystal â chyfathrebu mwy priodol gyda staff. Mae’r materion cyfunol hyn wedi cyfrannu at lwyddiant cynyddol wrth ailintegreiddio disgyblion yr UCD mewn lleoliadau ysgolion prif ffrwd.  Yn ychwanegol, bu cynnydd amlwg yn ymgysylltiad rhieni â’r UCD. 
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae arweinwyr a staff o’r UCD yn cyfathrebu’n amlach â rhieni a gofalwyr am strategaethau’r rhaglen ymyrraeth, sy’n eu helpu â chefnogi a gwella ymddygiad eu plentyn gartref.  

Hefyd, caiff y strategaethau a ddefnyddir yn y rhaglen ymyrraeth eu rhannu’n ffurfiol ac yn anffurfiol ag ysgolion prif ffrwd ac asiantaethau allanol.  Er enghraifft, caiff staff addysgu prif ffrwd eu gwahodd yn aml i ymuno â’r sesiynau yn yr UCD.  Yn aml, caiff ymweliadau eu gwneud gan staff o sefydliadau eraill, fel seicolegwyr addysg dan hyfforddiant a’r cydlynwyr addysg ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol.  Hefyd, mae staff o wasanaethau cymorth ymddygiad awdurdod lleol yr UCD a darpariaethau arbenigol mewn awdurdodau lleol cyfagos yn ymweld â’r UCD i arsylwi a thrafod y gwahanol agweddau ar y rhaglen ymyrraeth.