Arfer effeithiol Archives - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae'r ddelwedd yn dangos murlun lliwgar ar ochr adeilad, yn darlunio dwylo amrywiol o wahanol arlliwiau croen wedi'u casglu o amgylch pêl sy'n tywynnu. O amgylch y dwylo mae elfennau artistig bywiog, gan gynnwys blodau, siapiau haniaethol, a llew. Mae'r olygfa wedi'i gosod yn yr awyr agored o dan awyr rhannol gymylog.

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Olchfa yn ysgol gyfun gymysg fawr 11-18, cyfrwng Saesneg sydd wedi’i lleoli mewn ardal faestrefol i’r gorllewin o Abertawe. Mae 1,907 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 466 yn y chweched dosbarth. Mae tua 12.02% o ddisgyblion rhwng Blynyddoedd 7 ac 11 yn cael prydau ysgol am ddim. Mae tua 40% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd pobl Ddu ac ethnig lleiafrifol, a siaredir dros 50 o ieithoedd, heblaw’r Saesneg a’r Gymraeg, yng nghartrefi disgyblion. Mae gan ychydig llai na 5% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac mae gan 9.2% ohonynt lefel o gaffael Saesneg sy’n llai na chymwys.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae hyrwyddo’i gwerthoedd craidd, sef Barod, Parchus a Diogel yn ganolog i arfer Olchfa. Mae gweledigaeth yr ysgol yn canolbwyntio ar syniad o ‘Gynefin’, gan ofyn y cwestiwn ‘Beth mae’n ei olygu i berthyn i gymuned Olchfa, byw yn Abertawe, ond gyda gwreiddiau ym mhob cwr o’r byd?’ Y nod oedd datblygu gweledigaeth ac ethos a oedd yn croesawu pob aelod o gymuned yr ysgol trwy strategaeth ymgysylltu eang.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Ym mlwyddyn gyntaf y strategaeth, sicrhawyd cytundeb cyffredin am beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o gymuned Ysgol Olchfa. Sefydlwyd hyn trwy gyfres o weithdai a grwpiau, yn cynnwys Bwrdd Cynghori’r ysgol sy’n cynrychioli disgyblion a theuluoedd, y Corff Llywodraethol a grwpiau staff amlddisgyblaethol. Bu cyfranogwyr yn ystyried cwestiynau fel ‘Beth ddylai ei olygu i fod yn rhan o gymuned Olchfa?’ a ‘Pa bethau ddylai ein huno ni?’ Cwtogwyd yr adborth yn ddeg gair a datganiadau diffiniol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ffurfio sail gweledigaeth newydd. Mae ‘Cynefin’ Olchfa yn dathlu: plant, Cymreictod, llawenydd, creadigrwydd, perthyn, arweinyddiaeth, positifrwydd, gofal, parch a llwyddiant. Ei nod yw gweledigaeth i bawb, sy’n cynnwys pawb. Rhoddodd arweinwyr yr ysgol flaenoriaeth i arweinyddiaeth hynod weladwy o fewn a’r tu hwnt i giatiau’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys perthnasoedd gwaith agos ag ysgolion cynradd partner, trwy fentrau strategol fel ‘Cynllunio Gyda’n Gilydd, Addysgu Gyda’n Gilydd’ ond hefyd trwy bresenoldeb gweladwy’r pennaeth mewn digwyddiadau partneriaid cynradd. Mae ymgysylltu â digwyddiadau cymunedol a gydag asiantaethau eraill hefyd yn weladwy ac yn cael ei ddathlu.

Roedd blwyddyn dau yn cynnwys ymgorffori’r weledigaeth mewn dwy ffordd allweddol. Un ohonynt oedd atgyfnerthu’r weledigaeth yn rheolaidd trwy hyfforddiant staff, digwyddiadau cyhoeddus a chyhoeddiadau’r ysgol. Un arall oedd datblygu deunyddiau hyrwyddo. Yn sgil cystadleuaeth ddylunio i ddisgyblion, cynhyrchwyd lefelau uchel o ymgysylltu a syniadau. Cymerodd yr enillwyr ran mewn gweithdai gydag arlunydd lleol (a chyn-ddisgybl), yn ymgorffori’r deg gair mewn deunyddiau gweledol trawiadol sy’n cael eu harddangos ar draws y safle. Darn canolog y gwaith hwn oedd creu murlun wal mewn partneriaeth rhwng yr arlunydd a’r disgyblion, yn adlewyrchu ‘Cynefin’ Olchfa, ac yn helpu ei ddyfnhau.

Mae ymrwymiad gan staff, disgyblion a theuluoedd yn sail i’r broses a’r weledigaeth, ac ymrwymiad dwfn i adlewyrchu eu ‘Cynefin’ ym mhopeth a wnânt, gan bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol, beth bynnag yw eu rôl. Mae gan grwpiau llais y disgybl rôl weithredol mewn hyrwyddo’r ymdeimlad hwn o berthyn:

  • Mae’r grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi arwain ar hyrwyddo a dathlu’r ystod amrywiol o ddiwylliannau o fewn cymuned yr ysgol trwy drefnu wythnosau diwylliant hynod lwyddiannus.
  • Mae’r ‘Ffair Les’ flynyddol, a drefnir gan grŵp llais y disgybl iechyd a lles emosiynol, yn ddigwyddiad gwerthfawr gan ei fod yn helpu codi ymwybyddiaeth am gymorth sydd ar gael gan elusennau ac asiantaethau yn y gymuned leol.
  • Mae mentoriaid CHAT Blwyddyn 10 (cyfrinachedd (confidentiality), help (help), cyngor (advice) ac ymddiriedaeth (trust)) yn cynnig cymorth ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 pan maent yn ymuno â’r ysgol, i sicrhau eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu hintegreiddio’n llawn yng nghymuned Ysgol Olchfa cyn gynted ag y bo modd.
  • I ymateb i’r twf cyflym yn y chweched dosbarth, mae swyddogion wedi sefydlu dydd Mercher lles i hyrwyddo ymdeimlad o gymuned.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r weledigaeth drosfwaol ar gyfer yr ysgol wedi cael effaith gadarnhaol ar feysydd allweddol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae presenoldeb wedi cynyddu, mae deilliannau arholiadau yn cyd-fynd yn fras â lefelau cyn Covid, ac me gwaharddiadau wedi disgyn. Mae’r nifer sy’n cofrestru yn y chweched dosbarth ar ei lefel uchaf yn hanesyddol. Mae arweinwyr yn credu bod ‘Cynefin’ Olchfa yn gorwedd yn ei diwylliant, sy’n wresog, yn flaengar ac yn gynhwysol. Mae perthnasoedd ar gyfer dysgu yn gryf. Mae adborth rhieni yn dangos lefelau uchel o foddhad ag ymgysylltu a gwelededd. Mae’r ysgol yn teimlo bod pawb yn cael eu huno y tu ôl i weledigaeth i bawb sy’n rhoi Ysgol Olchfa yng nghanol ei chymuned.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Ysgol Olchfa yn cynnal ymweliadau gan staff o ysgolion eraill yn rheolaidd, ac mae wedi ymrwymo i bartneriaeth traws system a phŵer gwelliant ysgolion rhwng cymheiriaid.   

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Grŵp o fyfyrwyr mewn stiwdio ddawns yn sefyll mewn llinell gyda breichiau wedi’u codi, yn gwisgo dillad dawns du a llwyd.

Gwybodaeth am yr ysgol  

Mae Ysgol Olchfa yn ysgol gyfun gymysg fawr 11-18, cyfrwng Saesneg sydd wedi’i lleoli mewn ardal faestrefol i’r gorllewin o Abertawe. Mae 1,907 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 466 yn y chweched dosbarth. Mae tua 12.02% o ddisgyblion rhwng Blynyddoedd 7 ac 11 yn cael prydau ysgol am ddim. Mae tua 40% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd pobl Ddu ac ethnig lleiafrifol, a siaredir dros 50 o ieithoedd, heblaw’r Saesneg a’r Gymraeg, yng nghartrefi disgyblion. Mae gan ychydig llai na 5% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac mae gan 9.2% ohonynt lefel o gaffael Saesneg sy’n llai na chymwys.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Ar ôl cyhoeddi ‘Dyfodol Llwyddiannus’ ac i baratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru, llwyddodd Ysgol Olchfa i ennill statws Ysgol Arloesi. Sefydlodd hyn ddiwylliant arloesi o amgylch strwythur a chynllun y cwricwlwm,  gan orffen ag ‘iLearn’, sef cwricwlwm ar gyfer Blynyddoedd 7, 8 a 9. Mae gan arweinwyr weledigaeth ar gyfer eu cwricwlwm fel y ‘profiad bywyd’ a ddylai roi’r wybodaeth, y medrau a’r profiadau i fod yn ddisgyblion uchelgeisiol, creadigol, moesegol a hyderus yn ystod eu cyfnod yn Ysgol Olchfa, a thu hwnt. 

Cyflwynodd Ysgol Olchfa ‘iExplore’ i ymateb i angen a nodwyd gan ddisgyblion i deilwra a chyfoethogi darpariaeth cwricwlwm ‘iLearn’ ym Mlwyddyn 9, gan gydnabod y byddai’r disgyblion hyn yn gwneud dewisiadau ar gyfer astudio ym Mlwyddyn 10 cyn bo hir. Mae gwersi ‘iExplore’ yn cyfrif am 4 o’r 50 gwers a gaiff disgybl Blwyddyn 9 bob pythefnos. Maent yn darparu cyfle i ddisgyblion ddatblygu medrau a diddordebau newydd, yn ogystal â chryfhau rhai presennol, ochr yn ochr â dysgu parhaus o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh) yr oeddent yn gyfarwydd â nhw ym Mlynyddoedd 7 ac 8. 

Bob blwyddyn, mae arweinwyr y chwe MDPh yn cynllunio ystod o gyrsiau ‘dewisol’ i ehangu neu ddyfnhau profiad y cwricwlwm i ddisgyblion Blwyddyn 9. Dylai fod gan bob cwrs ‘iExplore’ y potensial i feithrin angerdd disgybl mewn maes a ddewiswyd, dylent alluogi cymhwyso gwybodaeth bwnc yn ystyrlon mewn cyd-destunau byd go iawn a dilys, neu gynnig llawenydd mewn dysgu rhywbeth newydd, mewn ffordd newydd, gyda phobl newydd.  

Mae’r ysgol yn cynnig 24 o gyrsiau ‘iExplore’ i gyd, ac o’r rhain, mae disgyblion Blwyddyn 9 yn astudio dau gwrs; un yn hanner cyntaf y flwyddyn ac un yn yr ail hanner. Dyma enghreifftiau o gyrsiau ‘iExplore’ a gynhelir: 

  • Fforenseg 
  • Ysgrifennu creadigol 
  • Y Gyfraith a Throseddeg 
  • Arweinyddiaeth Chwaraeon 
  • Chwarae â rhaglennu 
  • Theatr gerddorol 
  • Dod yn ddatryswr problemau 

Mae ‘iExplore’ yn chwarae rhan bwysig mewn cyflawni gweledigaeth yr ysgol ar gyfer ‘Cynefin’ Ysgol Olchfa, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr fod yn arweinwyr arnyn nhw eu hunain a dysgu mwy am ddiwylliant a chefndir Cymru. Mae ‘iExplore’ yn darparu cyfle i astudio rhywbeth yn gysylltiedig â llwybr gyrfa, rhywbeth creadigol neu wreiddiol. Mae’r ysgol yn archwilio’r syniadau hyn gyda dysgwyr wrth iddynt wneud eu dewisiadau ‘iExplore’ ym Mlwyddyn 8. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Cynhelir ehangder y cynnig ‘iExplore’ trwy baru pynciau ar draws y flwyddyn i uchafu effeithlonrwydd staffio. Yn ystod Blwyddyn 8, mae dysgwyr yn dewis pum cwrs ‘iExplore’, yn nhrefn eu dewis. Yn y rhan fwyaf o achosion, dyrennir y cwrs ‘iExplore’ o’u dewis cyntaf a’u hail ddewis i ddisgyblion ac mae arweinwyr yn ymateb trwy gynnal amryfal ddosbarthiadau os oes galw i wneud hynny. Mae’r dull hwn nid yn unig yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i arweinwyr ar ddewisiadau pwnc dysgwyr, gan gefnogi cwricwlwm tymor hir a chynllunio staffio, ond hefyd yn sicrhau bod cynnig ‘iExplore’ yn parhau’n gost effeithiol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?  

Mae cofnodion data tair ‘Agwedd at Ddysgu’ yr ysgol dros Flwyddyn 9 yn dangos lefelau arbennig o uchel o ymgysylltu ar draws ystod o bynciau ‘iExplore’. Dywed rhai disgyblion fod ‘iExplore’ yn gyfle i arbenigo mewn pwnc sydd o ddiddordeb iddyn nhw, tra bod disgyblion eraill yn croesawu’r effaith gyfoethog a gaiff ar eu profiad a’u lles ym Mlwyddyn 9. Mae’r ffaith fod diwrnodau ysgol yn dod â llawenydd yn ganolog i weledigaeth yr ysgol ar gyfer Olchfa, ac mae adborth gan ddisgyblion a theuluoedd yn awgrymu mai dyna’n union beth mae ‘iExplore’ yn ei wneud ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9. Mae rhai disgyblion yn newid eu dewis o lwybr o Flwyddyn 9 i Flwyddyn 10 o ganlyniad i brofi eu diddordeb mewn pwnc trwy eu dewisiadau cyrsiau ‘iExplore’. Mae llais y disgybl wedi helpu mireinio ‘iExplore’, ac mae Bwrdd Cynghori’r ysgol (grŵp rhanddeiliaid o rieni, disgyblion, llywodraethwyr a staff) wedi gofyn i ‘iExplore’ barhau trwy Flynyddoedd 10–13, sy’n rhywbeth y mae arweinwyr yn ei archwilio erbyn hyn. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?  

Mae Ysgol Olchfa yn cynnal ymweliadau gan staff o ysgolion eraill yn rheolaidd, ac mae wedi ymrwymo i bartneriaeth ar draws system a phŵer gwelliant ysgolion rhwng cymheiriaid. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae plant yn eistedd o amgylch bwrdd crwm mewn ystafell ddosbarth lliwgar, yn ymwneud â theganau addysgol. Mae oedolyn yn eistedd gyda nhw, yn gwenu. Mae'r ystafell yn llachar, gyda silffoedd yn llawn teganau a llyfrau amrywiol. Mae un plentyn yn sefyll ger y bwrdd yn dal tegan wedi'i stwffio.

Gwybodaeth am y lleoliad  

Mae Cae’r Ffair yn Feithrinfa Ddydd sydd wedi’i leoli ym mhentref Gorslas, Sir Gaerfyrddin. Mae’n feithrinfa cyfrwng Cymraeg sy’n darparu gofal ac addysg o ansawdd uchel i blant ers 22 mlynedd. Mae’r lleoliad yn cynnig amgylchedd cynnes ac ystyriol lle caiff plant eu cefnogi i ddatblygu’n emosiynol, yn gymdeithasol ac yn wybyddol trwy brofiadau chwarae o safon uchel. Mae’r arferion yn seiliedig ar arweinyddiaeth arloesol, perthnasoedd cryf a gwaith tîm effeithiol.  Mae’r lleoliad hefyd yn cynnal partneriaeth agos â theuluoedd a pherthynas ystyrlon gyda’r gymuned ehangach. Mae’r tîm yn ymrwymedig i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn ddiogel, ac yn annog plant i archwilio, darganfod a thyfu. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol  

O dan arweinyddiaeth flaengar a ragweithiol, mae’r lleoliad wedi mabwysiadu dull cydweithredol sy’n canolbwyntio ar anghenion y plentyn. Mae arweinwyr yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygiad proffesiynol parhaus, ymarfer adlewyrchol a meithrin perthnasoedd cryf a hyderus ar draws y tîm. Mae’r diwylliant hwn yn sicrhau bod ymarferwyr yn teimlo’n hyderus ac yn cael eu galluogi i ddefnyddio eu barn proffesiynol, gan arbrofi â dulliau ac arferion newydd sy’n seiliedig ar anghenion a diddordebau’r plant.  

Mae’r nod cyfunol yn sicrhau profiadau o ansawdd cyson uchel  sy’n meithrin datblygiad y plant. Mae cydweithrediad agos â rhieni a’r gymuned leol yn cryfhau’r dull hwn, gan greu ymdeimlad clir o bwrpas a pherthyn. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd  

Mae hyn yn cynnwys cyflwyno dulliau newydd o edrych ar ddatblygiad plant a dysgu drwy chwarae, yn ogystal â chryfhau cysondeb ar draws unedau’r feithrinfa trwy arferion, gwerthoedd a chynllunio cydweithredol a rennir. Mae arweinwyr hefyd yn darparu datblygiad proffesiynol wedi’i dargedu i gryfhau hyder, gwybodaeth a medrau ymarferwyr, tra’n meithrin amgylchedd cynhwysol lle mae plant yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn annog eu lles a’u datblygiad. Mae ymarferwyr yn ganolog i’r weledigaeth hon, gan ddefnyddio perthnasoedd cryf â’r person allweddol a gweithgarwch adlewyrchol i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ystyrlon ac yn ymatebol. Maent yn cydweithio ar draws unedau i gynnal safonau uchel, addasu’r amgylchedd dysgu a rhannu syniadau effeithiol.  

Mae’r lleoliad yn cynnal cysylltiadau cryf ac ystyrlon gyda’r gymuned leol, gan gynnwys partneriaethau ac ysgolion lleol, Gorslas Welfare, elusennau, gwasanaethau brys, cartrefi gofal a grwpiau cymunedol. Trwy ddigwyddiadau a chyfleoedd ar y cyd, nid yn unig y mae plant yn archwilio amgylcheddau go iawn, ond maent hefyd yn datblygu medrau ymarferol, hyder cymdeithasol ac ymdeimlad cryf o berthyn, gan gryfhau eu dealltwriaeth o’r byd ac yn cyfoethogi eu profiadau dysgu. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r dull cyfunnol o arweinyddiaeth arloesol, ymarferwyr medrus, cymorth gan deuluoedd a chysylltiadau cryf â’r gymuned wedi gwella ansawdd y ddarpariaeth yn sylweddol ar draws y lleoliad. O ganlyniad, mae’r plant yn elwa o amgylchedd emosiynol gadarn ac ysgogol, lle caiff eu chwilfrydedd a’u hymrwymiad eu meithrin. Mae’r ymarferwyr yn teimlo’n hyderus, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ysbrydoli, ac mae hyn  yn cael ei adlewyrchu mewn rhyngweithiadau o ansawdd uchel a gweithgarwch ystyriol ac ymatebol.  

Mae plant yn datblygu hyder, gwytnwch, chwilfrydedd ac annibyniaeth trwy brofiadau deniadol a gynllunnir yn effeithiol. Mae teuluoedd yn adrodd eu bod yn teimlo’n rhan o’r lleoliad ac yn cael eu parchu, gan sicrhau cymorth cyson rhwng y cartref a’r lleoliad. Mae cyfranogiad y gymuned yn cyfoethogi dysgu’r plant ymhellach, gan Feithrin empathi, ymwybyddiaeth a synnwyr o gyfrifoldeb cymdeithasol. Mae bron pob plentyn yn dangos ymdeimlad cryf o les ac maent yn awyddus i archwilio, ymgysylltu ac i ddysgu. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?  

Mae’r lleoliad yn rhannu ei arfer effeithiol yn rheolaidd â rhieni, partneriaid cymunedol a sefydliadau lleol. Trwy gyfathrebu parhaus, digwyddiadau a chyfranogiad mewn gweithgareddau cymunedol, mae’r ymarferwyr yn tynnu sylw at fanteision eu dull cydweithredol a chanolbwyntio ar y plentyn. Mae’r lleoliad hefyd wedi rhannu ei arfer rhagorol mewn digwyddiad a drefnwyd gan yr Awdurdod Lleol, oedd yn canolbwyntio ar arfer effeithiol ar draws y sector Blynyddoedd Cynnar mewn lleoliadau ac ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin. Roedd hyn yn darparu cyfle i ddangos effaith gadarnhaol ei dulliau i gynulleidfa broffesiynol ehangach. Mae partneriaethau a gwasanaethau lleol ac ysgolion yn cefnogi’r broses o rannu arfer da ymhellach ac yn helpu cryfhau cydweithio a pharhad i blant wrth iddynt symud ymlaen i’r cam nesaf o’u haddysg. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Tri phlentyn ifanc yn chwarae gyda bwrdd dŵr mewn parc heulog.

Gwybodaeth am y lleoliad   

Mae Beach House Day Nursery wedi’i leoli yn Y Rhyl, Gogledd Cymru, ac yn darparu gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar i blant o’r adeg y cânt eu geni hyd nes byddant yn 12 oed. Nod y timau yn Beach House yw darparu gofal o ansawdd da ar gyfer pob un o’r plant mewn amgylchedd cartrefol, diogel ac ysgogol. Prif iaith y lleoliad yw Saesneg, ond mae staff yn ymgorffori’r defnydd o’r Gymraeg mewn arferion a gweithgareddau o ddydd i ddydd. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Ailagorodd Beach House o dan reolaeth newydd ym mis Tachwedd 2024. Mae’r lleoliad yn deall pwysigrwydd cael tîm arwain a rheoli cryf sy’n gweithio’n agos ac yn gyson gydag asiantaethau allanol (e.e. tîm Dechrau’n Deg, tîm Addysg Gynnar, ac ati) a’r gymuned leol.  

Mae arweinwyr yn canolbwyntio ar rymuso ymarferwyr i wneud penderfyniadau ac yn eu cynorthwyo trwy oruchwyliadau ac arfarniadau, i’w galluogi i hyrwyddo dysgu’r plant yn llwyddiannus. Crëwyd gweledigaeth a diben clir a chryno trwy adolygu a gwella polisïau a gweithdrefnau. Caiff y rhain eu deall yn glir a’u gweithredu’n gyson gan reolwyr ac ymarferwyr, gan arwain at arferion dyddiol strwythuredig ac effeithlon.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Cynhaliodd y tîm rheoli gyfarfod ar ôl newid perchnogaeth y lleoliad, a chynnwys pob aelod o staff mewn trafodaethau am ddatblygu agweddau ar y ddarpariaeth. Rhoddodd arweinwyr flaenoriaeth i weithredu’r newidiadau, fel y trafodwyd a’i gytuno gyda staff. Er enghraifft, trefnwyd hyfforddiant i gefnogi cynllunio, a defnyddiodd arweinwyr grantiau lleol i wella’r amgylchedd dysgu a chyflwyno adnoddau fel creu wal ddŵr a gardd flodau. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant? 

Mae’r gwaith hwn wedi cynyddu hyder ymarferwyr a gwella lles cyffredinol y plant. Mae monitro cyson a chyfathrebu agored ymhlith arweinwyr ac ymarferwyr hefyd wedi cael eu cyflawni trwy weithio’n agos gyda’i gilydd.  

Mae’r plant yn defnyddio’r ardal awyr agored yn fwy effeithiol oherwydd y newidiadau a wnaed gan y tîm rheoli, fel cyflwyno ffrâm ddringo, ardal gardd a defnyddio’r sied y tu allan. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Mae presenoldeb y lleoliad ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu, ac mae’r gwelliannau hyn wedi cael eu rhannu trwy ap y lleoliad. Mae arweinwyr hefyd wedi gwahodd rhieni i’r lleoliad i weld y gwelliannau yn uniongyrchol.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Plentyn yn dal llusern â phatrwm seren ar bolyn, yn gwisgo siaced felen a sgarff las, yn sefyll y tu allan.

Gwybodaeth am y lleoliad  

Mae Cylch Meithrin Machynlleth yn lleoliad blynyddoedd cynnar a reolir yn wirfoddol sy’n cynnig darpariaeth addysg, gofal plant a Dechrau’n Deg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r lleoliad yn nhref Machynlleth, o fewn tir Ysgol Bro Hyddgen. Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru i ofalu am hyd at 24 o blant fesul sesiwn, rhwng dwy a phedair oed.  

Mae’r lleoliad yn croesawu plant o amrywiaeth o gefndiroedd, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn dod o deuluoedd sy’n siarad Saesneg. Mae’r dull cynhwysol hwn yn cynorthwyo plant i ddatblygu medrau Cymraeg tra’n annog eu datblygiad cyffredinol.  

Mae gweledigaeth y lleoliad wedi’i seilio ar y gred y dylai pob plentyn fod: yn llawen, yn hyderus, ac yn annibynnol (joyful, confident, and independent). Mae’r ethos yn sail i arfer ddyddiol a nodau hirdymor y lleoliad ar gyfer twf pob plentyn.  

Cefnogir y lleoliad gan dîm ymroddedig o staff profiadol, unigolyn cyfrifol ymroddgar, a phwyllgor rheoli gweithgar. Gyda’i gilydd, maent yn dod â chyfoeth o wybodaeth, gofal, a brwdfrydedd i greu amgylchedd gwresog a difyr ar gyfer pob plentyn.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Gwelir un o gryfderau allweddol Cylch Meithrin Machynlleth yn y partneriaethau cryf y mae wedi’u datblygu o fewn y gymuned leol. Mae ymarferwyr yn rhoi gwerth uchel ar y cysylltiadau hyn ac yn eu defnyddio i gynllunio profiadau cyfoethog ac ystyrlon sy’n helpu plant i ymgysylltu â’u hardal leol, a’i deall. Mae’r profiadau hyn yn rhoi ymdeimlad cryf o berthyn a balchder i blant, gan hefyd ddathlu diwylliant amrywiol y Gymru fodern a meithrin ymdeimlad dwfn o gynefin

Mae ymweliadau rheolaidd â siopau cyfagos, marchnad y dref, Gerddi Bro Ddyfi, yr eglwys leol, y llyfrgell a’r parc wedi’u gwreiddio mewn arferion. Uchafbwynt arbennig y llynedd oedd yr orymdaith llusernau, a grëwyd fel y gallai teuluoedd barhau â thraddodiad yr oeddent yn hoff iawn ohono pan gafodd y digwyddiad yn y dref ei ganslo. Gan gario’u llusernau cartref, cerddodd y plant a’u teuluoedd gyda’i gilydd trwy’r dref. Ar y ffordd, arhosodd yr orymdaith yn y cartref gofal lleol, lle bu’r preswylwyr yn codi llaw ar y plant trwy’r ffenestri wrth iddynt basio. Bu’r preswylwyr yn edmygu golau, lliwiau a siapiau’r llusernau, a diolchon nhw i’r plant am ymweld, gan greu ennyd o lawenydd ar y cyd. Wedyn, parhaodd yr orymdaith at gloc y dref, lle ymunodd y plant â’r gymuned ehangach ar gyfer cynnau’r goleuadau Nadolig, gan orffen ag ymdeimlad o lawenydd, perthyn, a dathlu. Yn yr oriau a’r dyddiau a oedd yn dilyn, bu’r plant, y teuluoedd, a’r staff yn myfyrio ar ba mor arbennig oedd y noson. 

Mae’r profiadau hyn yn cryfhau medrau cymdeithasol ac emosiynol plant, yn ymestyn eu lles, ac yn ehangu eu dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas. Trwy wreiddio bywyd cymunedol mewn arferion bob dydd, mae’r lleoliad yn helpu plant i ddatblygu’r hyder, y gwydnwch a’r ymdeimlad o hunaniaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Yng Nghylch Meithrin Machynlleth, mae cysylltiadau â’r gymuned yn ganolog i ethos y lleoliad, gan feithrin ymdeimlad o berthyn, lles a balchder. Mae ymarferwyr yn adeiladu ar brofiadau cartref plant trwy ymweld â siopau, y farchnad, gerddi, y llyfrgell, yr eglwys a’r parc, gan annog cynefin, hyder a llythrennedd emosiynol. Mae cysylltiadau rhwng y cenedlaethau yn ffynnu yn y cartref gofal preswyl, lle mae plant yn canu, yn chwarae, ac yn ffurfio cysylltiadau diffuant gyda phreswylwyr, sy’n aml yn cynnwys aelodau o’r teulu. Mae ymweliadau â’r eglwys a gweithgareddau tymhorol yn dyfnhau dealltwriaeth o draddodiadau a gofalu am bobl eraill. Mae cyfleoedd rheolaidd, fel yr orymdaith llusernau, Diwrnod Gweithredoedd Caredig Digymell, a gwaith gyda Gerddi Bro Ddyfi, yn parhau i gyfoethogi dysgu a chryfhau cysylltiadau â’r gymuned.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Caiff arfer dda yng Nghylch Meithrin Machynlleth ei rhannu ar lafar gwlad gyda theuluoedd, staff, a phartneriaid cymunedol, gan gydnabod effaith ymglymiad cymunedol ar dwf cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae cyfryngau cymdeithasol yn arddangos ymweliadau, digwyddiadau a dathliadau ymhellach, gan amlygu’r modd y mae’r profiadau hyn yn cyfoethogi dysgu a pherthyn. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae dau blentyn yn eistedd ar y llawr, yn cymryd rhan mewn chwarae creadigol gyda deunyddiau crefft lliwgar a threfn trac trên pren.

Gwybodaeth am y lleoliad  

Mae’r lleoliad yn lleoliad blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i leoli o fewn Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt, Wrecsam. Mae wedi’i gofrestru i ofalu am hyd at 57 o blant rhwng dwy a phedair oed, ac yn darparu amgylchedd cynnes ac anogol lle caiff plant eu cynorthwyo i ddatblygu trwy chwarae a phrofiadau dysgu pwrpasol. 

Mae’r lleoliad yn cynnig ystod o opsiynau gofal plant a ariennir, yn cynnwys Addysg Gynnar, Dechrau’n Deg, a Chynnig Gofal Plant Cymru, gan sicrhau hygyrchedd a hyblygrwydd i deuluoedd lleol. Mae ei ddarpariaeth yn cefnogi sylfaen gref ar gyfer dysgu, a gyflwynir yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg, ac yn darparu ar gyfer teuluoedd sy’n siarad Cymraeg a theuluoedd di-Gymraeg, fel ei gilydd. 

Mae’r lleoliad yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 08:05 a 17:10 yn ystod y tymor, gan ddarparu gofal dydd llawn i ddiwallu anghenion teuluoedd sy’n gweithio tra’n cynnal ffocws addysgol cryf. 

Mae tîm dynodedig yn gweithio mewn partneriaeth agos â rhieni, yr ysgol leol, ac asiantaethau ehangach i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl yn ei daith ddysgu gynnar. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol   

Bum mlynedd yn ôl, gwnaeth y lleoliad newid ymwybodol tuag at arferion mwy cynaliadwy gan ganolbwyntio ar y plentyn trwy ddisodli teganau plastig ag adnoddau naturiol. Roedd y newid hwn wedi’i wreiddio mewn awydd i greu amgylchedd dysgu mwy difyr ac sy’n fwy ymwybodol o’r amgylchedd. Trwy gyflenwi deunyddiau naturiol, adnoddau dilys a darnau rhydd, roedd ymarferwyr yn darparu cyfleoedd penagored ar gyfer plant, gan annog creadigrwydd, archwilio a datrys problemau. 

Mae’r dull wedi canolbwyntio’n gyson ar hyrwyddo annibyniaeth pob un o’r plant a chefnogi eu diddordebau a’u datblygiad unigol. Cyflawnir hyn trwy arsylwi plant a theilwra profiadau i’w helpu i feithrin medrau sy’n unigryw i’w taith ddysgu bersonol. 

Un o elfennau allweddol yr arfer yw’r defnydd cyson o amgylcheddau dan do ac awyr agored, fel ei gilydd. Defnyddir y cyfleusterau awyr agored bob dydd, gan alluogi plant i elwa ar awyr iach, gweithgarwch corfforol a chysylltiad â natur. Mae’r lleoliad wedi ymgorffori ymgysylltiad cymunedol yn ei gwricwlwm, gan fynd â phlant allan i’r ardal leol yn rheolaidd i gyfoethogi eu dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas. 

At ei gilydd, mae defnydd arloesol o ddeunyddiau naturiol, pwyslais ar ddatblygiad unigol, ac integreiddio dysgu dan do, yn yr awyr agored ac yn y gymuned, wedi creu lleoliad blynyddoedd cynnar dynamig ac ymatebol sy’n cefnogi datblygiad cyfannol ac yn creu cariad gydol oes at ddysgu. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch 

Mae’r amgylchedd dysgu yn gryfder allweddol yn y lleoliad. Mae ymarferwyr yn gweithio’n ddiwyd i greu mannau deniadol, croesawgar wedi’u dylunio’n bwrpasol, sy’n galluogi plant i ffynnu. Maent yn sicrhau bod y drysau i’r ardal allanol ar agor trwy gydol y sesiwn, gan roi’r rhyddid i blant ddewis ble hoffent chwarae. Mae’r llif di-dor hwn rhwng dan do a’r awyr agored yn cefnogi annibyniaeth ac yn caniatáu ar gyfer ystod ehangach o brofiadau dysgu. 

Caiff y ddarpariaeth ei ffurfio gan arsylwadau dyddiol o’r plant a’u diddordebau sy’n esblygu. Mae ymarferwyr yn addasu ac yn ymestyn yr ardaloedd dysgu’n barhaus i adlewyrchu’r hyn sy’n ymgysylltu â’r plant fwyaf. Er enghraifft, pan ddaeth diddordeb cynyddol mewn golchi gwrthrychau i’r amlwg, cyfoethogodd ymarferwyr yr ardal chwarae yn y dŵr trwy roi sebon, sbyngau a llestri budr yno – gan droi diddordeb syml yn brofiad dysgu cyfoethog a oedd yn annog chwarae rôl, cyfathrebu a datrys problemau. 

Mae’r amgylchedd dysgu’n llawn adnoddau penagored, dilys, fel offer go iawn, deunyddiau naturiol, paent, llysiau ffres, ac offer digidol. Mae’r rhain wedi’u gosod ar lefel plentyn i sicrhau bod plant yn gallu mynd atynt yn annibynnol ac yn eu defnyddio mewn ffyrdd creadigol a dychmygus. Mae ymarferwyr yn rhoi pwyslais mawr ar fentro a datblygiad corfforol, hefyd. Mae plant yn archwilio trawstiau cydbwyso, twneli, ac offer dringo’n rheolaidd, ac fe gânt eu hannog i ddefnyddio offer gwaith coed dan oruchwyliaeth – gan ddatblygu medrau motor manwl a bras mewn lleoliad diogel a chefnogol. 

Mae arddangosfeydd o gwmpas yr ystafell yn dathlu gwaith y plant ac yn helpu creu ymdeimlad o falchder a pherthyn. Mae ymarferwyr yn arddangos gwaith celf y plant a ffotograffau ohonynt gyda’u teuluoedd, gan atgyfnerthu eu hunaniaeth a phwysigrwydd eu cyfraniadau at y gymuned. 

Mae’r lleoliad yn credu bod amgylchedd dysgu gwirioneddol effeithiol yn un sy’n gwrando ar y plant. Mae’r tîm yn cofnodi arsylwadau’n ofalus ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio gweithgareddau yn y dyfodol sy’n parhau i fod yn berthnasol, yn heriol ac yn hwyl. Trwy wneud hynny, maent yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn tyfu ochr yn ochr â’r plant ac yn parhau i adlewyrchu eu teithiau a’u diddordebau unigol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant? 

Mae plant yn y lleoliad wedi ymgysylltu’n dda, yn llawn cymhelliant, ac yn hyderus yn eu dysgu. Trwy ffurfio darpariaeth o amgylch eu diddordebau a’u syniadau, mae ymarferwyr yn creu ymdeimlad cryf o berchnogaeth yn eu taith ddysgu. Mae hyn wedi arwain at: 

  • annibyniaeth a gwneud penderfyniadau cynyddol, wrth i blant gael eu hannog i ddewis adnoddau a chyfarwyddo’u chwarae eu hunain  
  • datblygiad corfforol a chreadigol gwell, gyda mynediad at ystod eang o adnoddau penagored a heriau awyr agored sy’n hyrwyddo medrau motor bras a manwl  
  • cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol cryfach, wrth i blant gydweithio, trafod a datrys problemau gyda’i gilydd mewn cyd-destunau yn seiliedig ar chwarae 
  • datblygu medrau’n effeithiol ar draws y cwricwlwm, gyda chyfleoedd ystyrlon i feithrin medrau llythrennedd, rhifedd, digidol a bywyd ymarferol yn eu cyd-destun 

Mae’r amgylchedd hefyd wedi cynorthwyo plant i ddod yn ddysgwyr gwydn a hyderus, sy’n fodlon mentro a rhoi cynnig ar brofiadau newydd, fel defnyddio offer go iawn neu ddringo offer heriol – i gyd mewn lleoliad diogel ac anogol. Mae ymarferwyr yn hynod ymatebol, hyblyg a chreadigol o ran sut maent yn paratoi ac yn addasu mannau dysgu. Mae hyn wedi arwain at: 

  • ddarpariaeth barhaus ansawdd uchel a phwrpasol, dan do ac yn yr awyr agored, sy’n aros yn ffres, yn berthnasol ac yn ddifyr  
  • hyder a chydweithio cryfach ymhlith ymarferwyr, er enghraifft staff yn defnyddio arsylwadau dyddiol i lywio cynllunio ac asesu datblygiad yn ystyrlon  
  • arfer gynhwysol a myfyriol, sy’n sicrhau bod pob un o’r plant, ni waeth beth yw eu gallu neu’u cefndir, yn cael eu gweld, eu clywed a’u cefnogi  

Trwy werthfawrogi llais y plentyn a dathlu ei waith ar draws y lleoliad, mae ymarferwyr yn creu ymdeimlad o falchder a phartneriaeth gyda rhieni a gofalwyr.  

O ganlyniad: 

  • mae teuluoedd yn teimlo’n fwy cysylltiedig â dysgu eu plant ac yn hyderus yn y gofal a’r addysg a ddarperir 
  • mae dull agored a thryloyw yn hyrwyddo ymddiriedaeth a chydweithio, gan helpu cefnogi anghenion unigol yn well  
  • caiff ymdeimlad plant o berthyn ei atgyfnerthu trwy arddangosfeydd a phrofiadau ar y cyd, sy’n cryfhau ymgysylltu â theuluoedd a pharhad rhwng y cartref a’r lleoliad. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?  

Mae’r lleoliad wedi mynd ati i gyfrannu at y sector trwy agor ei ddrysau i leoliadau eraill, gan wahodd ymarferwyr i ymweld ac arsylwi ei amgylchedd dysgu ar waith. Mae’r ymweliadau hyn yn cynnig cyfle i gydweithwyr weld sut mae ymarferwyr yn ymateb i ddiddordebau plant, yn hyrwyddo annibyniaeth, ac yn canolbwyntio ar les trwy chwarae wedi’i arwain gan y plentyn a mannau sy’n cael eu creu yn ofalus. 

Mae’r lleoliad wedi cymryd rhan mewn deialog sector ehangach, hefyd. Mae wedi ymddangos mewn podlediad gyda Mudiad Meithrin, lle rhannodd ei ymagwedd at hyrwyddo lles emosiynol y plant. Mae ei waith hefyd wedi cyfrannu at gyrsiau hyfforddi ledled y sir, lle mae ymarferwyr wedi cyflwyno’u strategaethau ar gyfer creu amgylcheddau cyfoethog a phwrpasol, ac yn cefnogi dysgu trwy arsylwi a chynllunio ymatebol. 

Yn ychwanegol, mae enghreifftiau o arfer dda wedi cael eu rhannu trwy hyfforddiant sirol ac astudiaethau achos, fideos a phosteri gwybodaeth Mudiad Meithrin. Mae ymarferwyr hefyd yn cyfrannu’n rheolaidd at ddatblygiad proffesiynol trwy ymuno â chyrsiau a gweithdai, lle maent yn rhannu enghreifftiau bywyd go iawn o’r lleoliad i gefnogi arfer fyfyriol ac ysbrydoli pobl eraill. 

Mae cydweithio â’r ysgol gynradd leol hefyd wedi helpu pontio arfer y blynyddoedd cynnar a’r Cyfnod Sylfaen. Trwy weithio’n agos gyda’r ysgol fwydo, mae ymarferwyr yn rhannu eu dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn, ac yn seiliedig ar chwarae, gan gyfrannu at gyfnodau pontio mwy esmwyth a disgwyliadau mwy cyson ar draws lleoliadau. 

Mae ymarferwyr yn falch fod eu gwaith wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol, ar ôl cael ei enwi’n Gylch Meithrin Gorau yng Nghymru ar gyfer 2024-2025. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn cydnabod effaith ymroddiad y tîm ac ansawdd eu darpariaeth, ac yn codi proffil y lleoliad ymhellach fel un sy’n arwain trwy esiampl. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Plant mewn gwisgoedd ysgol yn rhedeg yn hapus yng nghyntedd ysgol.

Gwybodaeth am y lleoliad  

Mae lleoliad cyn-ysgol Trefaldwyn yn lleoliad cyfrwng Saesneg sy’n darparu addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer plant tair a phedair oed. Mae wedi’i leoli ym mhentref Trefaldwyn. Mae’r lleoliad yn rhentu’r Ganolfan Weithgareddau sydd drws nesaf i’r ysgol gynradd leol, ac yn cael ei reoli gan bennaeth yr ysgol gynradd leol, sef yr unigolyn cyfrifol, a llywodraethwyr yr ysgol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Gweledigaeth y lleoliad yw: ‘Plant hapus, annibynnol a hyderus’ – sydd ag ymdeimlad o berthyn ac yn teimlo’n rhan o’r gymuned. 

Yn unol â’i weledigaeth, mae datblygu perthnasoedd cryf iawn â theuluoedd i gefnogi’r plant trwy gydol eu haddysg gynnar yn bwysig iawn i’r lleoliad. 

Mae’r ymgysylltiad â theuluoedd a’r ysgolion lleol yn hynod effeithiol o ran cynorthwyo pob un o’r plant i bontio’n llwyddiannus i’r ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Mae lleoliad cyn-ysgol Trefaldwyn yn cydnabod bod cyfnod pontio esmwyth a chefnogol i’r ysgol gynradd yn hanfodol ar gyfer lles emosiynol pob plentyn a’i lwyddiant mewn dysgu yn y dyfodol. Caiff ei ymagwedd at bontio ei chynllunio’n ofalus a’i mireinio’n barhaus ar sail adborth gan rieni, ysgolion sy’n derbyn, a’r plant eu hunain. 

Mae cymorth pontio ar gyfer plant a’u teuluoedd yn dechrau’n gynnar ac yn cynnwys haenau lluosog o gymorth, cynllunio ac ymyrraeth. Mae’r arferion canlynol yn ffurfio craidd model pontio presennol y lleoliad. 

Mae ymarferwyr yn arsylwi plant ac yn adrodd i rieni’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn eu galluogi i nodi meysydd ar gyfer cymorth yn gynnar a theilwra cynllunio pontio yn unol â hynny. 

Caiff plant cyn-ysgol eu cyflwyno’n raddol i fywyd yr ysgol trwy fynychu gwasanaethau, diwrnodau chwaraeon, a digwyddiadau arbennig. Mae’r profiadau hyn yn eu helpu i fagu hyder a theimlo’u bod yn rhan o gymuned ehangach yr ysgol cyn eu diwrnod cyntaf swyddogol. 

Ar gyfer y plant sy’n pontio i’r brif ysgol gynradd fwydo, mae ymarferwyr yn cynnal “Dyddiau Mercher Pontio” rheolaidd yn ystod tymor yr haf. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi amser i blant yn amgylchedd yr ysgol gynradd. Maent yn gwisgo gwisg ysgol, yn cyfarfod â’u hathrawon newydd, yn mwynhau cinio ysgol, ac yn cymryd rhan mewn profiadau dosbarth tra’n cael eu cynorthwyo o hyd gan eu staff cyfarwydd o’r lleoliad cyn-ysgol. Mae’r sesiynau hyn yn caniatáu i’r plant gynefino,  gan adeiladu gwydnwch ac annibyniaeth. 

Mae’r lleoliad yn cynnal boreau agored ar gyfer y rhieni ac mewn partneriaeth â’r ysgol gynradd leol, lle gall teuluoedd gyfarfod â’r staff dysgu sylfaen ac archwilio amgylchedd yr ysgol. Mae teuluoedd yn cael cyfarfodydd unigol (wyneb yn wyneb neu drwy Teams) ag arweinydd y lleoliad a’r athro dosbarth i rannu pryderon, gofyn cwestiynau, a thrafod materion ymarferol fel gwisg ysgol, arferion, a chymorth. Mae’r trafodaethau hyn yn sicrhau bod anghenion, diddordebau ac arddulliau dysgu plant yn cael eu deall yn dda cyn eu diwrnod cyntaf ac mae rhieni’n hyderus am gyfnod pontio’u plentyn. Mae pob plentyn yn cael adroddiad pontio cynhwysfawr yn amlygu ei gryfderau, ei gynnydd, ac unrhyw feysydd lle mae angen cynnal cefnogaeth. Caiff yr adroddiad hwn ei rannu â’r teulu a’r ysgol, fel ei gilydd. 

Mae tudalen weithgar y lleoliad ar y cyfryngau cymdeithasol yn arddangos profiadau dysgu bob dydd, digwyddiadau arbennig a phrofiadau pontio. Mae’r gwelededd parhaus hwn yn helpu rhieni i deimlo’u bod wedi’u cysylltu ac yn rhoi sicrwydd iddynt, ac mae’n rhoi testunau siarad iddynt drafod gyda’u plant gartref. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant? 

Mae plant yn gadael y lleoliad yn teimlo’n hyderus, yn llawn cyffro, ac wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y cam nesaf yn eu taith ddysgu. Mae rhieni’n sôn yn gyson am lefelau uchel o foddhad â’r cymorth pontio, gan nodi pa mor wybodus a pharod yn emosiynol y mae eu plant yn teimlo. Mae ysgolion sy’n derbyn hefyd wedi mynegi gwerthfawrogiad am yr adroddiadau manwl a chyfathrebu ar y cyd, sy’n cyfrannu at gychwyn esmwythach yn y dosbarth Derbyn.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r lleoliad wedi rhannu ei arfer â’i athro ymgynghorol, sydd wedi rhannu’r arfer hon â lleoliadau eraill ym Mhowys.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae dau berson, un oedolyn ac un plentyn, yn eistedd wrth fwrdd yn chwarae gyda blociau adeiladu lliwgar. Maent yn ymddangos yn brysur ac yn hapus wrth iddynt ryngweithio â'i gilydd. Mae'r cefndir yn cynnwys ystafell daclus gyda silff bren.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Mae Ysgol Feithrin y Trallwng yn lleoliad blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i gydleoli ag Ysgol Gymraeg y Trallwng. Yr ystod oedran yw 2 i 4 oed. Mae’n cynnig lleoedd i Dechrau’n Deg, y Cynnig Addysgol ar gyfer Plant 3 oed ac yn hŷn, a’r Cynnig Gofal Plant.

Maent yn defnyddio dull cyfathrebu ar y cyd gyda siarad sy’n cynnwys arwyddion, symbolau a lleferydd i helpu pobl i gyfathrebu, yn enwedig y rhai ag anawsterau cyfathrebu a dysgu, gan gynnig cymorth gweledol a chlywedol ar gyfer datblygiad iaith. 

Er eglurder, mae Iaith Arwyddo Prydeinig (BSL) yn iaith a gydnabyddir yn gyfeithiol, gyda’i ramadeg a chystrawen ei hun, yn wahanol i systemau arwyddo fel Makaton a Saesneg gefnogir gan arwyddion (SSE) sydd yn gymorth cyfathrebu ddefnyddir ar y cyd gyda’r iaith lafar.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Cyflwynwyd y dull ar ôl i arweinwyr o’r lleoliad fynychu hyfforddiant. Mae’r dull cyfathrebu  wedi’i gynllunio i gynorthwyo unigolion sy’n cael anhawster yn deall neu’n mynegi eu hunain ar lafar, gan eu helpu i gynyddu geirfa, gwella amgyffrediad, ac ymestyn eu medrau cyfathrebu cyffredinol. Gwelodd staff fod yr iaith yn hawdd i’w defnyddio ac maent wedi ymestyn eu gwybodaeth trwy DPP ac adnoddau dysgu ychwanegol. Mae staff yn hyderus o ran defnyddio’r dull, ac fe gaiff ei ymgorffori yn y drefn ddyddiol. Caiff ei ddefnyddio’n gyson ar draws pob ardal o’r lleoliad.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae carfan y plant yn dod o gefndir Saesneg yn bennaf, ac mae defnyddio’r dull cyfathrebu ieithyddol yn galluogi plant sy’n dechrau yn y lleoliad ac nad ydynt wedi cael eu cyflwyno i’r Gymraeg o gwbl i gyfleu eu hanghenion. Mae plant o amrywiaeth o ieithoedd cefndir cartref yn dechrau ar yr un lefel ieithyddol gyda’r dull hwn. Mae hyn yn helpu datblygu amgylchedd cynhwysol lle nad yw unrhyw blentyn dan anfantais oherwydd anallu i gyfathrebu’n yn Gymraeg gan fod y dull yn pontio’r bylchau cyfathrebu.

Caiff adnoddau gweledol eu harddangos ar draws y lleoliad, ac arddangosir cyfeiriadau hanfodol ym mhob ardal gweithgaredd. Pan fydd ardaloedd yn cael eu newid neu feysydd testun newydd yn cael eu cyflwyno, mae cynhyrchu adnoddau penodol yn rhan annatod o’r broses.

Caiff y dull ei integreiddio ym mhob gweithgaredd, amseroedd prydau bwyd, amser cylch, adrodd storïau, canu a chwarae yn yr awyr agored. Mae defnyddio’r dull yn helpu plant i gysylltu’r gair llafar gyda’r arwydd cysylltiedig, ac yn hynod ddefnyddiol ar yr adegau prin lle mae plentyn sy’n “ddieiriau” yn dechrau yn y lleoliad. Wedyn, mae’r dull yn galluogi cyfathrebu dwy ffordd rhwng staff a’r plentyn, a rhwng y plant. Felly, roedd yn lleihau’r rhwystredigaeth a’r teimlad o eithrio y mae plant dieiriau’n ei brofi.

Wrth asesu cynnydd plant, mae eu hyder wrth ddefnyddio arwyddion yn arwydd arall wrth i arweinwyr ystyried a oes angen asesiad llawn. Gall hefyd fod yn arwydd o oedi datblygiadol.

Sut rydych chi wedi rhannu eich arfer dda?  

Mae’r awdurdod lleol wedi rhannu elfennau o waith y lleoliad ar gyfryngau cymdeithasol, gan helpu amlygu gwerth y gwaith.

Mae’r lleoliad wedi cynnal cyfarfodydd ‘Rhwydwaith a Sgwrsio’ (‘Network & Natter’) yr awdurdod lleol. O ganlyniad, mae ymarferwyr wedi gallu arsylwi’r amgylchedd dysgu i hyrwyddo’r dull penodol hwn a’i effaith ar gyfathrebu plant.  

Mae’r lleoliad hefyd yn cynnal ac yn mynychu cyfarfodydd Mudiad Meithrin yn rheolaidd lle maent yn trafod ac yn rhannu arfer effeithiol gyda lleoliadau eraill.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Oedolion yn goruchwylio plant yn chwarae gyda theganau mewn ystafell ddosbarth cyn-ysgol fywiog.

Gwybodaeth am y lleoliad 

 Mae Standing to Grow yn lleoliad gofal dydd sesiynol sydd wedi cofrestru i ddarparu gofal plant ac addysg i 32 o blant yn ddyddiol. Mae’r lleoliad wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn. Ar hyn o bryd, mae gan y lleoliad 53 o blant. Mae 17 o’r rhain yn cael cyllid addysg, gan gynnwys pump o blant sy’n cael y pecyn cymorth addysg 12 awr ac un sy’n cael 10 awr o gymorth ychwanegol, bob un ohonynt â Chynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae’r lleoliad mewn pentref cymunedol bach ac mae’r plant yn symud i naw ysgol wahanol o hyd at 10 milltir i ffwrdd. Saesneg yw iaith gyntaf yr holl blant gartref, ond mae Standing to Grow yn cyflwyno’r Gymraeg a Makaton i’w holl blant.   

Gweledigaeth y lleoliad yw cynnig gofal o’r ansawdd gorau am gost fforddiadwy i deuluoedd. Mae’r lleoliad yn gynhwysol ac yn sensitif i ddymuniadau ac anghenion pawb. Mae ymarferwyr yn darparu byrbryd am ddim i’r holl blant ac yn cynnig polisi drws agored i’r holl rieni / gwarcheidwaid.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Mae Standing To Grow wedi’i leoli mewn un ystafell fawr, sydd wedi’i rhannu’n dair ardal ar wahân i sicrhau bod holl ddymuniadau ac anghenion yr holl blant yn cael eu bodloni, ac mae’r holl adnoddau wedi’u teilwra i fodloni oedran a chyfnod pob plentyn. Mae ardal y Gwenyn yn un ardal. Dyma ofod tawelach llawn adnoddau synhwyraidd i fodloni anghenion a sgemâu plant unigol. Mae yno ffrâm ddringo, cadair droi, cadair siglo, chwarae meddal a bwrdd gweithgareddau ar y wal a ddefnyddir i helpu plant â rheoleiddio. Mae tîm o dri aelod staff wedi’u lleoli yn yr ardal hon bob dydd. Mae staff yn gyfrifol am ddarparu cymorth ychwanegol i blant unigol ac maent yn cynllunio gweithgareddau sydd wedi’u teilwra i CDUau a thargedau plant unigol. Mae ymarferwyr yn casglu’r wybodaeth hon o arsylwadau dyddiol, asesiadau Wellcomm a Threfniadau Asesu Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir. Mae’r un gweithwyr allweddol â phrofiad a gwybodaeth sylweddol yn cefnogi plant yn ôl eu hanghenion datblygu cyfannol. Mae’r gweithwyr allweddol yn ardal y Gwenyn wrth law bob amser i gynorthwyo ymarferwyr eraill i ddatblygu iaith a dealltwriaeth gyffredin o ran sut i gefnogi anghenion unigol plant orau. Gall hyn fod trwy gymorth â gwybodaeth a safbwyntiau damcaniaethol, neu drwy syniadau a strategaethau ymarferol i gefnogi plant pan fyddant yn dewis mynd i’r brif ystafell chwarae. Mae staff yn teilwra’r ymyriadau a’r dysgu a chwarae sydd wedi’u hysgogi gan oedolion a’u harwain gan y plant. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd  

Mae’r tîm yn cydnabod bod llawer o blant yn dod i’r lleoliad gydag anghenion sy’n dechrau dod i’r amlwg, anghenion ymddygiad, anghenion synhwyraidd ac oedi o ran iaith a lleferydd. Sefydlodd ymarferwyr ardal y Gwenyn i gefnogi pob plentyn, yn ôl yr angen. Mae ardal y Gwenyn yn ardal lai, i’r naill ochr i brif ystafell chwarae’r lleoliad. Mae’r grŵp chwarae yn rhoi rhwydd hynt i symud, gyda’r holl blant yn gallu defnyddio ystafell y Gwenyn os byddant yn dymuno. Mae’r ardal o fewn golwg y brif ystafell chwarae drwy’r adeg, felly gall plant barhau i weld eu cyfoedion ac arferion y brif ystafell chwarae. Fodd bynnag, mae ymarferwyr yn sylwi ei bod hi’n well gan blant â CDUau dreulio amser yn yr ardal hon a’u bod yn setlo’n dda i arferion dyddiol. Mae’r plant yn cael amser i archwilio a datblygu mewn ffordd sy’n briodol i oedran a chyfnod. Nid oes brys o ran y ffordd mae plant yn cael cymorth i ddatblygu. Mae’r plant yn cael cyfleoedd o hyd i gymryd rhan yn yr holl weithgareddau chwarae a dysgu, y tu mewn a’r tu allan, y mae’r lleoliad yn eu darparu i’r holl blant. Mae ymarferwyr yn addasu eu dulliau yn ôl anghenion plant unigol ac maent yn annog ac yn cefnogi eu hyder a’u dysgu. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?  

Mae gan y lleoliad enghreifftiau grymus o blant yn trosglwyddo i ysgol arbennig leol gyda chymaint yn fwy o fedrau bywyd a ddatblygwyd gyda Standing to Grow. Roedd plentyn yn ddibynnol ar ddefnyddio cadair wthio pan gafodd ei drosglwyddo. Ar ôl defnyddio cadeiriau gwthio yn unig i gludo rhai o’n plant i’r awyr agored, trafododd ymarferwyr â rhieni y byddent yn dechrau heb gadair wthio ac yn defnyddio cadair siglo plentyn yn lle hynny i’w cynorthwyo â rheoleiddio. Flwyddyn yn ddiweddarach, ar ôl defnyddio’r un drefn, gweithgareddau a gwrthrychau go iawn i annog cyfathrebu a dealltwriaeth, mae plant yn eistedd yn y gadair siglo dim ond pan fydd angen iddynt reoleiddio. Maent yn gadael y gadair ac yn archwilio’r amgylchedd. Maent yn deall mai’r lliain bwrdd yw arwydd y ‘gwrthrych go iawn’ ar gyfer amser byrbryd ac yn eistedd wrth y bwrdd i fwyta’u byrbryd eu hunain wrth ymyl ffrindiau. Maent yn cerdded i mewn ac allan o’r grŵp chwarae, gan gwrdd â’u rhieni wrth y drws. Mae ymarferwyr o’r farn bod hyn yn gynnydd arwyddocaol iawn ac mae rhieni’n rhannu sut mae ein gwaith yn cefnogi eu harferion gartref. 

Mae plant yn dysgu eu bod yn gallu mynd i ystafell y Gwenyn pan fydd pethau wedi mynd yn ormod iddynt, i reoleiddio, a mynd yn ôl at eu ffrindiau yn eu hamser eu hunain. I ddechrau, roedd staff yn eu helpu i adnabod eu hemosiynau, ond ar ôl blwyddyn, maen nhw nawr yn adnabod eu hunain pan mae angen iddynt fynd i ystafell y Gwenyn.  

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda? 

Mae’r lleoliad yn rhannu ei waith gyda thîm cynghori’r awdurdod lleol ac mae’n cael ymwelwyr yn rheolaidd sy’n arsylwi ac yn rhoi sylwadau am y ffordd gadarnhaol y mae plant yn datblygu trwy’r cymorth a’r profiadau a gânt yn y lleoliad.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Grŵp o oedolion a phlant yn ymgymryd ag astudiaeth natur yn yr awyr agored, yn archwilio planhigion a phryfed gyda'i gilydd.

Gwybodaeth am y lleoliad  

Mae Meithrinfa Plas Gogerddan wedi’i lleoli mewn man gwledig prydferth ar gyrion Aberystwyth. Caiff y feithrinfa ei hamgylchynu gan fywyd cefn gwlad gydag ardaloedd awyr agored penigamp i’w harchwilio, gan gynnwys gofod coetir datblygedig lle mae’r ymagwedd at ddysgu awyr agored yn meithrin chwilfrydedd a datblygiad medrau plant mewn amgylchedd naturiol. Mae ei hathroniaeth yn pwysleisio pwysigrwydd natur mewn datblygiad plant, gan annog archwilio a darganfod trwy brofiadau ymarferol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Sicrhaodd y lleoliad grant ar gyfer profiad cysgodi a chyfnewid yn y Ffindir, lle arsylwodd ymarferwyr yn uniongyrchol ar yr effaith gadarnhaol y gallai dysgu yn yr awyr agored ym mhob tywydd ei chael ar blant. Yn dilyn yr ymweliad ysbrydoledig hwn â’r Ffindir, roeddent yn benderfynol o wneud defnydd llawn o’r amgylchedd naturiol sydd ar garreg eu drws. Cyflogodd y lleoliad Arweinydd Ysgol Goedwig Lefel 3, a gynorthwyodd â symud pethau ymhellach yn eu blaen. I ddechrau, dechreuodd ymarferwyr archwilio’u hamgylchedd naturiol eu hunain, gan arsylwi a monitro’r effaith gadarnhaol roedd yr awyr agored yn ei chael ar grwpiau bach o blant. 

Y cam nesaf oedd sefydlu safle gerllaw’r lleoliad y gellid ei ddatblygu i’w ddefnyddio gyda’r plant. Gweithiodd y lleoliad yn agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n berchen ar y coetir o gwmpas y feithrinfa, i ddod o hyd i ardal addas. Mae ymarferwyr yn parhau i weithio’n agos gyda CNC, gyda’r lleoliad yn gwneud cais am ganiatâd i ddefnyddio’u coetir yn flynyddol ac yn cael caniatâd.  

I ddatblygu’r gofod ymhellach, gan ei wneud yn hygyrch a diogel, fe wnaeth yr ymarferwyr gais am gyllid grant a datblygont brosiect cymunedol lle gweithion nhw’n agos gyda grwpiau coedwigaeth lleol, grŵp MIND a chontractwyr lleol. O’r dechrau’n deg, roedd y plant yn ymwneud yn weithgar â datblygu ardal y coetir. Arsylwodd yr ymarferwyr yn fanwl sut y defnyddion nhw’r gofod naturiol a wnaeth, yn ei dro, gynorthwyo’r lleoliad i ddatblygu’r safle. Maent yn parhau i chwarae rhan wrth i ymarferwyr wella a datblygu’r ardal. Nid yn unig y mae cymryd rhan yn ymarferol fel hyn yn grymuso’r plant, mae hefyd yn meithrin ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb. Trwy gyfrannu at greu a chynnal a chadw’r gofod naturiol, mae plant yn dysgu medrau corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol gwerthfawr, ac yn datblygu cysylltiad dyfnach â’r amgylchedd a gwerthfawrogiad dyfnach ohono. 

Mae’r plant yn chwarae rhan hanfodol mewn sefydlu’r rheolau. Maent yn cymryd rhan mewn trafodaethau i greu canllawiau ac atgoffa’i gilydd i gadw at y rheolau hyn sydd, o ganlyniad, yn meithrin ymdeimlad o barch tuag at ei gilydd. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ym Mhlas Gogerddan, mae ymarferwyr yn sicrhau bod medrau a chwilfrydedd plant yn cael eu hysbrydoli trwy greu amgylcheddau ysgogol sy’n cael eu defnyddio ym mhob tywydd ac am gyfnodau estynedig. Mae’r plant yn troi am safle’r coetir yn y bore ac yn aros yno am sesiynau estynedig ym mhob tywydd bron, heblaw pan fydd hi’n stormus neu’n wyntog am resymau diogelwch. Yn ystod y misoedd cynhesach, mae’r plant yn treulio hyd at ddiwrnodau llawn ar y safle, gan gael byrbryd, cinio ac amser cysgu yn y coetir. Mae’r amlygiad cyson hwn yn caniatáu i blant ddod yn gyfforddus ac yn gyfarwydd â’r amgylchedd naturiol ac addasu a gwerthfawrogi natur, ni waeth am y tywydd.  

Wrth i’r plant ddod yn barod yn ddatblygiadol, mae ymarferwyr yn eu hannog i baratoi ar gyfer y coetir trwy baratoi eu hunain a newid i ddillad priodol. Mae ymarferwr yn defnyddio bwrdd dilyniannu i’w cynorthwyo i ddeall pa ddillad y mae eu hangen yn ôl y tywydd, a pha eitemau i’w gwisgo gyntaf. Hefyd, maen nhw’n helpu’r staff i bacio’r troli gydag unrhyw eitemau y mae eu hangen ar gyfer y sesiwn, gan gynnwys dŵr i olchi dwylo. Mae hyn yn helpu’r plant i feithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb ac annibyniaeth. 

Pan fyddant yn y coetir, mae’r plant yn cael rhyddid i archwilio’r ardal yn llawn, wrth eu pwysau. Mae ymarferwyr wedi gwella ac addasu’r amgylchedd naturiol trwy roi mwy o gyfleoedd heriol i rolio, cydbwyso, siglo, dringo coed, cerdded ar arwynebau anwastad, cloddio, gwthio a hongian, trwy ychwanegu llinellau slac, pontydd crog ac amrywiaeth o setiau o siglenni gwahanol ar amrywiol uchderau, a rhwydau sgrialu, rhawiau â handlenni hir a berfâu. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu’r plant i ddysgu rheoli eu corff, asesu a rheoli eu risgiau eu hunain, gwneud penderfyniadau a datblygu craidd cadarn. Mae’r plant yn aml yn mwynhau gwneud lloches lle maen nhw’n hoffi ymlacio gyda blancedi, clustogau a sachau cysgu. Ar safle’r coetir, gallant ddefnyddio hamogau a llochesi a mannau tawel i ‘fod’. 

Yn ystod ein sesiynau coetir, mae ymarferwyr yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu ymddygiad cadarnhaol trwy gyflwyno gweithgareddau sy’n gofyn am rannu, trafod a chydweithredu. Maent yn annog plant yn weithgar i gymryd cyfrifoldeb am ofalu am eraill yn ogystal â’r amgylchedd naturiol, sy’n cynnwys parch tuag at blanhigion ac anifeiliaid. Mae’r plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel chwilio am chwilod, helfeydd trysor, sesiynau creadigol, cloddio ar raddfa fawr, coginio ar y tân a defnyddio amrywiaeth o offer. Mae’r gweithgareddau hyn yn tanio’u chwilfrydedd ac yn eu hannog i ofyn cwestiynau a cheisio atebion. Mae straeon yn aml yn dod yn fyw wrth i’r plant ail-greu ac ailadrodd straeon gan ddefnyddio’u dychymyg, a hynny’n llawn cyffro. Mae’r plant yn gweithio gyda’i gilydd yn naturiol i ddatrys problemau yn weithgar; er enghraifft pan gwympodd plentyn dros fonyn bach yn y coetir, ystyrion nhw beth y gallent ei wneud i atal hyn rhag digwydd eto. Rhannon nhw syniadau a gweithion nhw gyda’i gilydd i gloddio’r bonyn. Fe wnaethant ganolbwyntio ar y dasg hon am gyfnod hir ac roedd yr ymdeimlad o gyflawniad a llwyddiant pan ddaeth y bonyn allan o’r diwedd yn wych i’w weld.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae buddion dirifedi i ddefnyddio’r coetir a’r amgylchedd awyr agored naturiol. Er enghraifft, yn ystod sesiynau chwarae di-dor hir, bydd y plant yn dyfalbarhau â thasgau, hyd yn oed pan fydd pethau’n mynd yn eithaf heriol. Mae ymarferwyr wedi dysgu bod rhoi i’r plant yr amser y mae ei angen arnynt i gwblhau tasgau yn hanfodol.  

Gydag amser, mae arsylwyr wedi arsylwi’n uniongyrchol yr effaith gadarnhaol y mae’r sesiynau coetir wedi’i chael ar feithrin ac adeiladu gwydnwch y plant. Er enghraifft trwy reoli eu medrau corfforol mewn amgylchedd heriol, mae’r plant yn aml yn baglu neu gwympo wrth iddynt anelu at gyrchfan. Yn sydyn, byddant yn codi, yn tacluso’u hunain ac yn parhau ar eu taith, heb ddeigryn i’w gweld.  

Hefyd, mae ymarferwyr wedi gweld nad yw’r plant yn sylwi ar y tywydd mwyach, gan sefyll wrth y drws, mewn dillad gwrth-ddŵr, a hithau’n arllwys y glaw, yn barod i droi am y goedwig.  

Dros y blynyddoedd, mae’r lleoliad wedi gwneud cais am grantiau pellach i sicrhau bod ei ymagwedd at ddysgu yn yr awyr agored yn parhau i ddatblygu a thyfu yn y dyfodol. Mae hyder tîm y staff a’u hymgysylliad ag arwain sesiynau yn yr awyr agored wedi tyfu wrth iddynt weld cymaint o fuddion i’r plant.  

Sut rydych chi wedi rhannu eich arfer dda?  

Mae’r lleoliad yn rhannu ei arfer yn rheolaidd gyda theuluoedd, y gymuned leol, myfyrwyr, lleoliadau, athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae’n cynnal ffair feithrin flynyddol, gyda phob teulu a’r gymuned ehangach yn cael eu gwahodd i’r lleoliad am ddiwrnod llawn hwyl. Yn rhan o’r ffair, mae ymarferwyr yn cynnwys llwybr trwy’r coetir, lle gall teuluoedd archwilio’r gofod gyda’u plant, gan ddarganfod holl anifeiliaid y coetir ar y ffordd. 

Mae’r lleoliad yn arwain sesiynau rhannu i grwpiau o fyfyrwyr a thiwtoriaid TAR o Brifysgol Aberystwyth, grwpiau o athrawon ac arweinwyr o leoliadau eraill o fewn y sir, myfyrwyr o wledydd eraill a gweithwyr proffesiynol eraill.  

Mae ymarferwyr wedi cael adborth gwych o’r sesiynau hyn, sydd wedi cynnig ysbrydoliaeth i eraill a’u symbylu i fynd â dysgu i’r awyr agored; bydd hyn, yn ei dro, yn cael effaith gadarnhaol ar gymaint mwy o blant yn y dyfodol.