Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai colegau AB:
- A1 Nodi medrau a galluoedd ehangach dysgwyr yn ystod asesiadau cychwynnol a chynnwys ffocws addas ar gyfathrebu, annibyniaeth, cyflogadwyedd a lles o fewn y rhain
- A2 Gwneud yn siŵr bod cynlluniau dysgu unigol yn adlewyrchu deilliannau asesiadau cychwynnol a’u bod yn cynnwys targedau penodol a mesuradwy sy’n cysylltu’n glir â nodau tymor hir a chyrchfannau tebygol dysgwyr
- A3 Cynllunio rhaglenni dysgu medrau byw yn annibynnol sydd:
- yn ddigon heriol
- yn cynnwys cyfleoedd i ddatblygu medrau sy’n berthnasol i anghenion a chyrchfannau tebygol dysgwyr pan fyddant yn gadael y coleg
- yn cynnwys cydbwysedd priodol rhwng cwblhau cymwysterau a gweithgareddau dysgu
- A4 Rhoi systemau dibynadwy ar waith i olrhain cynnydd yr holl ddysgwyr mewn perthynas â’u mannau cychwyn unigol
- A5 Olrhain cyrchfannau dysgwyr pan fyddant yn gadael y maes dysgu neu’r coleg yn gywir
Dylai awdurdodau lleol:
- A6 Rhoi gwybodaeth berthnasol i golegau am anghenion dysgwyr pan fyddant yn dechrau yn y coleg
- A7 Datblygu ystod ehangach o bartneriaethau gyda’r sector ôl-16 a’r sector gwirfoddol i ddatblygu a gwella llwybrau dilyniant yn yr ardal leol
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A8 Adolygu’r broses o gasglu gwybodaeth am ddeilliannau dysgwyr ar raglenni medrau byw yn annibynnol i sicrhau bod hyn yn rhoi darlun cywir o gyrchfannau dysgwyr ledled Cymru
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned:
- barhau i sicrhau ansawdd addysgu a dysgu i gynnig gwerth am arian i’r holl ddysgwyr sy’n oedolion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- adolygu ei pholisi a’i strategaeth ariannu ar gyfer y sector dysgu oedolion yn y gymuned
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
-
A1 Hyrwyddo’r ddogfen ‘Rheoli Presenoldeb Gweithlu Ysgolion yn Effeithiol’ yn ehangach
-
A2 Rhoi arweiniad i ysgolion ac awdurdodau lleol ar fonitro, cofnodi ac arfarnu effaith absenoldeb staff o ganlyniad i weithgareddau heblaw salwch, fel hyfforddiant, cynadleddau a chymorth o ysgol i ysgol
-
A3 Darparu arweiniad ar reoli absenoldeb penaethiaid yn effeithiol
-
A4 Sicrhau yr eir i’r afael â darpariaeth staff cyflenwi yn y sector cyfrwng Cymraeg wrth adolygu’r strategaeth gweithlu athrawon
Dylai awdurdodau lleol:
-
A5 Sicrhau bod hyfforddiant ar reoli presenoldeb gweithlu ar gael i bob pennaeth a’i fod yn ffurfio rhan o becyn ymsefydlu ar gyfer yr holl benaethiaid newydd a benodir
-
A6 Darparu data meincnodi rheolaidd i ysgolion ar bresenoldeb staff yn unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru
Dylai ysgolion:
-
A7 Fonitro gwaith athrawon cyflenwi yn rheolaidd a sicrhau bod pob disgybl yn parhau i wneud cynnydd priodol pan fydd eu hathro dosbarth arferol yn absennol
-
A8 Rhoi adborth i athrawon cyflenwi ar eu perfformiad
-
A9 Sicrhau bod athrawon cyflenwi yn gallu mynd at ddogfennau cynllunio athrawon bob amser
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- A1 Ddysgu o’r arfer orau sy’n cael ei disgrifio yn yr adroddiad hwn
- A2 Gwneud yn siŵr bod digon o gyfleoedd mewn gwersi i ddisgyblion mwy abl ymestyn eu dysgu
- A3 Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau rhifedd, lle y bo’n briodol, mewn gwersi celf
- A4 Gwneud yn siŵr bod adrannau celf yn gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd i greu gwaith celf sy’n datblygu cymwyseddau digidol disgyblion
- A5 Arfarnu perfformiad disgyblion yn fanwl, ac felly hefyd y cryfderau a’r meysydd i’w datblygu mewn addysgu yn y celfyddydau, i lywio cynllunio adrannol
- A6 Dadansoddi cyfraniad adrannau celf at fedrau disgyblion a datblygu strategaethau ar gyfer dysgu creadigol ar draws yr ysgol
- A7 Gwneud defnydd gwell o’u cyllid grant i gefnogi disgyblion difreintiedig yn y celfyddydau creadigol
- A8 Datblygu darpariaeth ac arfer yn y celfyddydau er mwyn cyfrif am argymhellion Dyfodol Cynaliadwy
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A9 Ddarparu mwy o gymorth i ysgolion ddatblygu hunanarfarnu effeithiol a chynllunio effeithiol ar gyfer gwella yn y celfyddydau
- A10 Cynnig profiadau dysgu proffesiynol i athrawon ac arweinwyr pwnc yn y celfyddydau
- A11 Cynorthwyo ysgolion i ddefnyddio cyllid grant yn effeithiol i gefnogi disgyblion difreintiedig a gweithio gydag asiantaethau’r celfyddydau ac ymarferwyr y celfyddydau
- A12 Helpu ysgolion i adolygu datblygiad a dyluniad eu cwricwlwm gyda’r nod o fodloni argymhellion Dyfodol Llwyddiannus
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig