Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion partneriaeth addysg gychwynnol athrawon:
- A1 Gysylltu eu gwaith mewn addysg gychwynnol athrawon yn gryfach â datblygu arfer a darpariaeth yn yr ysgol, ac yn enwedig â dysgu proffesiynol
- A2 Gweithio’n agosach â’u partneriaid prifysgol i sicrhau bod gan fentoriaid y medrau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth angenrheidiol ar gyfer addysgwyr athrawon
- A3 Datblygu cynlluniau trylwyr i wella medrau ymchwil staff ysgolion, gan wneud y mwyaf o’u partneriaeth â’u partner prifysgol
- A4 Sicrhau bod gan uwch fentoriaid rôl strategol o ran datblygu mentoriaid ac o ran arfarnu effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth mewn addysg gychwynnol athrawon
- A5 Gweithio ochr yn ochr â phartneriaid prifysgol i gynllunio a gweithredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon sy’n sicrhau cyfuniad llwyddiannus o theori ac arfer.
Dylai prifysgolion:
- A6 Weithio’n agosach ag ysgolion i gefnogi datblygiad medrau a strategaethau ymchwil
- A7 Gwella hyfforddiant a datblygiad mentoriaid i ganolbwyntio’n fwy ar fedrau addysg athrawon
- A8 Gweithio gydag ysgolion i ddatblygu prosesau mwy trylwyr i arfarnu ansawdd mentora
- A9 Gweithio ochr yn ochr â phartneriaid prifysgol i gynllunio rhaglenni sy’n sicrhau cyfuniad llwyddiannus o theori ac arfer
- A10 Cryfhau medrau myfyrio, arfarnu a dadansoddi beirniadol athrawon dan hyfforddiant
- A11 Ar y cyd â’u hysgolion partner, ystyried y ffyrdd mwyaf effeithiol o asesu myfyrwyr sy’n rhoi ystyriaeth dda i’w datblygiad tuag at SAC
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A12 Weithio gyda darparwyr addysg gychwynnol athrawon i gefnogi dull cenedlaethol o ddatblygu mentora mewn addysg gychwynnol athrawon
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion a cholegau:
- A1 Herio’r ystod gallu llawn a darparu tasgau ysgogol sy’n datblygu gwydnwch dysgwyr
- A2 Sicrhau bod dysgwyr yn gwella eu hysgrifennu mewn Cymraeg a Saesneg
- A3 Cael disgwyliadau uchel fod pob dysgwr yn cyfrannu’n llafar, yn enwedig yn Gymraeg
- A4 Gwella medrau datrys problemau disgyblion mewn mathemateg ac mewn mathemateg-rhifedd
- A5 Datblygu medrau darllen lefel uwch disgyblion mewn Saesneg, Cymraeg a mathemateg a Bagloriaeth Cymru
- A6 Gwella perfformiad bechgyn mewn Cymraeg, Saesneg a Bagloriaeth Cymru
- A7 Helpu mwy o ddisgyblion ennill y graddau uchaf ym Magloriaeth Cymru
- A8 Darparu cyfleoedd gwell i ddisgyblion ddatblygu’u medrau rhifedd a TGCh ym Magloriaeth Cymru
- A9 Ystyried yn ofalus eu staffio a’u hamserlennu ar gyfer Bagloriaeth Cymru a’r statws maent yn ei roi i’r cymhwyster
- A10 Darparu hyfforddiant i arweinwyr canol i’w helpu i arfarnu safonau ac addysgu yn eu hadrannau
- A11 Gweithio gyda’i gilydd yn well i sicrhau bod ganddynt drefniadau cyfreithiol, diogel a chynhwysfawr ar waith ar gyfer rhannu gwybodaeth am gyraeddiadau blaenorol disgyblion ac i ddatblygu rhwydweithiau o arfer broffesiynol
Yn ogystal:
- A12 Dylai ysgolion ystyried ehangder eu cwricwlwm, gan gynnwys cyfleoedd ac anogaeth i astudio Saesneg llenyddiaeth a Chymraeg llenyddiaeth
- A13 Dylai colegau gynyddu nifer y dysgwyr sy’n ailsefyll TGAU Cymraeg iaith
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai awdurdodau lleol:
- A1 Ymgynghori’n ystyrlon gyda phobl ifanc, fel eu bod yn gallu dylanwadu ar gynllunio ar gyfer gwasanaethau sydd ar gael iddynt ar lefel leol, a’u harfarnu
- A2 Darparu mannau diogel i bobl ifanc mewn ardaloedd lleol fel bod ganddynt fynediad at wasanaethau, a gweithgareddau, sy’n cynorthwyo’u datblygiad fel unigolion, ac fel aelodau o’u cymuned leol
- A3 Gwneud yn siŵr bod cynlluniau strategol yn cynnwys blaenoriaethau clir wedi’u llywio gan wybodaeth leol ar gyfer gwasanaethau sy’n cynorthwyo pobl ifanc
- A4 Gwneud yn siŵr bod adrannau awdurdod lleol a chyrff eraill yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, sy’n mynd i’r afael â’u hanghenion
Dylai darparwyr:
- A5 Wneud yn siŵr bod eu gwasanaethau yn galluogi pobl ifanc i nodi drostyn nhw eu hunain beth yw eu diddordebau, eu nodau, a’u hanghenion
- A6 Gweithio mewn partneriaeth ar lefel leol a rhanbarthol i wella mynediad at yr ystod o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc
- A7 Gwneud yn siŵr bod safonau ac egwyddorion gwaith ieuenctid proffesiynol yn cael eu defnyddio gan weithwyr yn yr holl brosiectau gwasanaeth cymorth ieuenctid
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A8 Ddarparu’r sylfaen polisi ar gyfer ymgorffori gwaith ieuenctid, fel ffordd o weithio gyda phobl ifanc, yn yr holl wasanaethau
- A9 Egluro’r defnydd o’r derminoleg ‘gwaith ieuenctid’, ‘gwasanaeth ieuenctid’, a ‘gwasanaethau cymorth ieuenctid’ yng Nghymru er mwyn darparu iaith a ddeellir yn gyffredinol ar gyfer datblygu a chyflawni polisi
- A10 Sefydlu ffyrdd o ddwyn awdurdodau lleol a’u partneriaid i gyfrif am ansawdd, ystod a’r mathau o wasanaethau cymorth ieuenctid a ddarparant yn eu hardal
- A11 Cynnwys cymhwyster, hyfforddiant a datblygiad parhaus gweithwyr ieuenctid yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Genedlaethol Cymru
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- A1 Gynnwys pob rhanddeiliad mewn datblygu gweledigaeth glir ar gyfer y Fframwaith
- A2 Penodi arweinydd digidol, sicrhau cefnogaeth lwyr uwch arweinwyr a monitro datblygiadau’n rheolaidd
- A3 Archwilio anghenion dysgu proffesiynol athrawon a defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio hyfforddiant, cymorth ac arweiniad dros gyfnod realistig
- A4 Mapio’r Fframwaith ar draws y cwricwlwm a sicrhau nad oes bylchau yn y ddarpariaeth a bod digon o barhad a dilyniant
- A5 Cynnal archwiliadau caledwedd a seilwaith y rhwydwaith
- A6 Sicrhau bod staff yn cydweithredu â staff eraill i rannu arfer dda
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A7 Gynorthwyo pob ysgol i fynd i’r afael â’r argymhellion uchod
- A8 Monitro pa mor dda mae ysgolion unigol yn dod yn eu blaen â gwireddu’r Fframwaith a herio cynnydd cyfyngedig
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A9 Gyfleu’r disgwyliadau ar gyfer ymgorffori’r Fframwaith, gan gynnwys amserlenni, i ysgolion yn glir
- A10 Sicrhau bod cyrsiau addysg gychwynnol athrawon yn rhoi i athrawon newydd y medrau angenrheidiol i wireddu’r Fframwaith yn llwyddiannus
- A11 Gwella’r adnodd archwilio fel ei fod yn bodloni anghenion ysgolion yn well wrth iddynt asesu hyder athrawon i gyflwyno’r Fframwaith
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2017-2018. Mae’r adroddiad yn arfarnu safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth mewn addysg grefyddol yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3. Nid yw’n cwmpasu addysg grefyddol mewn ysgolion enwadol, annibynnol nac arbennig.
Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu safonau mewn addysg grefyddol yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3, a chyfranogiad mewn dysgu ac ymgysylltiad ag ef. Mae hefyd yn ystyried y ffactorau sy’n effeithio ar safonau, gan gynnwys cynllunio’r cwricwlwm, addysgu, asesu, arweinyddiaeth a gwella ansawdd.
Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, penaethiaid a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, ac aelodau o’r Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol (CYSAGau)1. Bydd canfyddiadau’r adroddiad yn helpu llywio datblygu a gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru hefyd.
Argymhellion
Dylai ysgolion:
A1 Sicrhau bod disgyblion mwy abl yn cyflawni yn unol â’u gallu mewn addysg grefyddol
A2 Cryfhau trefniadau monitro a hunanarfarnu yng nghyfnod allweddol 2 i ganolbwyntio ar wella safonau a medrau disgyblion mewn addysg grefyddol
A3 Cryfhau trefniadau pontio fel bod profiadau dysgu yng nghyfnod allweddol 3 yn adeiladu ar y rheiny yng nghyfnod allweddol 2 ac yn osgoi ailadrodd gwaith
A4 Arfarnu eu cwricwlwm ar gyfer addysg grefyddol i baratoi ar gyfer datblygu a gweithredu Maes Dysgu a Phrofiad newydd y Dyniaethau
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A5 Weithio gyda CYSAGau i ddarparu:
a. cyfleoedd dysgu proffesiynol addas ar gyfer athrawon addysg grefyddol
b. cymorth i ysgolion arfarnu eu cwricwlwm a chynllunio ar gyfer addysg grefyddol fel rhan annatod o ddatblygu maes dysgu a phrofiad y dyniaethau
c. cyngor i ysgolion ar sut i fynd i’r afael â materion sensitif gyda disgyblion a sut i ddelio â phryderon rhieni ar ymweld â mannau addoli
A6 Sicrhau bod pob arweinydd yn cyflawni ei gyfrifoldebau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015
A7 Rhoi arweiniad i ysgolion ar leoedd addoli cymeradwy i ymweld â nhw
Dylai Llywodraeth Cymru:
A8 Weithio gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a CYSAGau i sicrhau bod eglurder ynglŷn â lle addysg grefyddol o fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau