Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai awdurdodau lleol a thimau troseddau ieuenctid:
- A1 Asesu’r cynnydd y mae pobl ifanc yn ei wneud wrth ddatblygu medrau meddal, fel hyder, medrau cymdeithasol, a hunanbarch, ac wrth wella eu medrau llythrennedd a rhifedd
- A2 Sicrhau bod cydlynydd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth (addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant) penodedig gan yr holl wasanaethau
- A3 Sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hawl i addysg mewn modd amserol, ac adrodd i fyrddau rheoli ynglŷn â’r cyfnod amser y mae pobl ifanc yn ei dreulio heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
- A4 Datblygu strategaethau effeithiol sy’n cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd
- A5 Arfarnu ansawdd, effeithiolrwydd ac effaith eu gwasanaeth yn well er mwyn gwella ansawdd, a llywio cynllunio strategol er mwyn gwella cyfleoedd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc
- A6 Ehangu ystod aelodau anstatudol y bwrdd rheoli i gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant lleol allweddol
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Agymhellion
Dylai ysgolion a cholegau:
- A1 Wella deilliannau Safon Uwch, yn enwedig ar lefel UG, ac yn enwedig deilliannau bechgyn
- A2 Gwella’r cyngor a’r arweiniad a roddir i ddysgwyr trwy:
- a. ystyried lefelau cyrhaeddiad addysgol dysgwyr mewn TGAU yn ofalus wrth roi cyngor ac arweiniad
- b. rhoi gwybodaeth gywir a chyfoes i ddysgwyr am ystod lawn y cyfleoedd chweched dosbarth, addysg bellach a phrentisiaeth sy’n agored iddynt
- c. rhoi cyngor ar y cyfuniadau gorau o bynciau iddynt
- ch. datblygu polisi clir ar ddilyniant o UG i Safon Uwch
- d. ystyried yn ofalus nifer y cymwysterau a ddilynir gan bob dysgwr, gan ystyried llwybr dilyniant tebygol pob dysgwr
- A3 Gwella medrau dysgu annibynnol dysgwyr cyn-16 er mwyn eu paratoi ar gyfer astudiaethau Safon Uwch
- A4 Gweithio gyda’i gilydd i wella cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig ag addysgu Safon Uwch
- A5 Rhoi sylw priodol i ddeilliannau a darpariaeth mewn Safon Uwch ac UG mewn prosesau hunanarfarnu a chynllunio gwelliant
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A6 Hwyluso rhwydweithiau dysgu proffesiynol sy’n gysylltiedig â Safon Uwch ar draws ysgolion a cholegau
- A7 Helpu ysgolion i arfarnu effeithiolrwydd eu darpariaeth Safon Uwch
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A8 Fonitro llwyddiant y setiau data mesurau cyson newydd ar draws ysgolion a cholegau
- A9 Sicrhau bod newidiadau i’r cwricwlwm a chymwysterau yn rhoi parhad a dilyniant
- A10 Adolygu’r fformiwla cyllid ar gyfer cyrsiau Safon Uwch mewn ysgolion a cholegau, a’i gymhwyso ar draws awdurdodau, gyda’r nod i ddileu canlyniadau anfwriadol, fel annog dysgwyr nad ydynt yn addas ar gyfer astudio cyrsiau Safon Uwch i wneud hynny
- A11 Datblygu ffordd o gyfleu i ddysgwyr a’u rhieni wybodaeth glir am gyrhaeddiad a darpariaeth Safon Uwch mewn canolfannau unigol
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhelliad
Dylai awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol ac ysgolion:
- A1 Sicrhau eu bod yn cael yr holl ddeunyddiau arweiniad a hyfforddiant a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru a chefnogi staff i weithredu’r diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn effeithiol.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith sicrhau:
- A1 Bod pob dysgwr yn cwblhau fframwaith ei gymhwyster yn amserol i wella cyfraddau cwblhau yn llwyddiannus
- A2 Bod pob dysgwr yn dilyn y rhaglen prentisiaeth uwch gywir er mwyn gostwng nifer uchel y rhai sy’n rhoi’r gorau i’w rhaglen yn gynnar
- A3 Bod gan bob dysgwr fentor i’w gefnogi yn y gweithle
- A4 Bod cyflogwyr yn cynorthwyo dysgwyr i fynychu gweithdai a sesiynau hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith
- A5 Eu bod yn ymgysylltu â chyflogwyr newydd ac yn eu recriwtio i gymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddiant er mwyn lleihau’r orddibyniaeth ar gyflogwyr presennol
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A6 Wneud yn siwr bod pob darparwr yn deall sut gellir achredu cymwysterau presennol dysgwyr ar gyfer cymwysterau medrau hanfodol
- A7 Paru nifer y prentisiaethau uwch mewn meysydd sector pwnc gwahanol yn agosach â galwadau cyflogwyr ac economi Cymru