Gwella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg - Estyn

Gwella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg


Pupils in a mathematics lessons

Rydym bob amser yn awyddus i rannu dulliau wedi’u seilio ar dystiolaeth sy’n cefnogi addysgu mathemateg o ansawdd uchel, yn cryfhau arweinyddiaeth adrannol ac yn gwella deilliannau i ddysgwyr.

Yn 2025, cyhoeddom adroddiad thematig sy’n canolbwyntio ar ansawdd addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth mewn mathemateg mewn ysgolion ledled Cymru. Er i ni arsylwi agweddau ar addysgu ac arweinyddiaeth effeithiol mewn mathemateg, ar y cyfan, gwelom fod ansawdd addysgu mathemateg yn rhy amrywiol a bod safonau disgyblion mewn mathemateg yn rhy isel. Mae’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd dulliau addysgu effeithiol, holi o ansawdd uchel, amgylchedd dysgu cefnogol, dysgu proffesiynol a chyfranogiad rhieni mewn gwella addysg fathemateg. 

Rydym wedi datblygu ystod o adnoddau i adeiladu ar y canfyddiadau hyn a chefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau ysgol. Gallwch weld yr adroddiad llawn, cyfres o fideos ategol sy’n amlygu arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth, a mewnwelediadau a myfyrdodau gan athrawon mathemateg.