Estyn yn Fyw
Bob mis, rydym yn cynnal digwyddiad byw ar-lein ac yn eich gwahodd i ymuno â ni am drafodaeth am bwnc y mis. Byddwch yn cael cyfle i glywed gan aelodau o’n tîm arolygu ac i glywed yn uniongyrchol gan ddarparwyr sy’n rhannu arfer orau yn y meysydd hyn. Byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y digwyddiad neu i gyflwyno cwestiynau’n ddiweddarach, os byddai’n well gennych.
Mae’r digwyddiadau’n para tua 30 munud a byddwch yn gallu cofrestru eich presenoldeb ar-lein yn ystod y mis.