Polisi Sicrhau Gwybodaeth

Mae’r polisi hwn yn rhan o fframwaith polisïau a gweithdrefnau Estyn ar reoli gwybodaeth ac mae’n berthnasol i’r holl gyflogeion a phobl sy’n gweithio ar ran Estyn. Er mwyn i sicrhau gwybodaeth weithredu’n effeithiol, rhaid i staff a phobl eraill sy’n gweithio i Estyn gydweithredu â’r rheolau, y polisïau a’r canllawiau a ddatblygwyd gan Estyn a rhaid iddynt ddeall eu cyfrifoldebau personol wrth greu, rhannu a storio gwybodaeth mewn perthynas â gwaith Estyn.

Yr aelod o staff Estyn sy’n gyfrifol am reoli’r unigolyn/unigolion neu’r contract priodol fydd â chyfrifoldeb am sicrhau bod staff achlysurol, staff asiantaethau, staff ar gontract, arolygwyr ychwanegol, arolygwyr lleyg ac arolygwyr cymheiriaid yn cydymffurfio â'r polisi hwn. 

Summary

Mae gan Estyn ddyletswydd i gynnal diogeledd y wybodaeth y mae’n ei thrin - mae hyn yn golygu diogelu data rhag mynediad anawdurdodedig, gan sicrhau ei chywirdeb a’i huniondeb, a threfnu bod y wybodaeth ar gael i’r rhai sydd ei hangen.

Document thumbnail
Document type size date

pdf, 277.71 KB