Deallusrwydd Artiffisial - Estyn

Deallusrwydd Artiffisial


Ein huchelgais

Trwy osod amgylchedd diogel ar gyfer deallusrwydd artiffisial (AI), byddwn yn defnyddio AI i ategu gweithio mwy effeithlon. Bydd y buddion o ran effeithlonrwydd a’r mewnwelediadau yn rhyddhau adnoddau i wella ein gwasanaethau ymhellach. Bydd cael trefniadau llywodraethu cadarn ar waith yn helpu i gynnig arweiniad clir i’n staff a’n rhanddeiliaid.

Byddwn yn gwireddu ein huchelgais trwy ymgysylltu â’n rhanddeiliaid a’n partneriaid ac yn creu’r gofod a’r amgylchedd i drafodaethau ffynnu ar amrywiaeth o feysydd pwysig. Mae ein safiad wedi’i ddatgan isod a bydd yn parhau i esblygu wrth i ni barhau i ymhél ag arbenigedd ar AI a thrafodaethau â’n partneriaid.

AI: egwyddorion arweiniol

Defnydd Pwrpasol:
Ni fyddwn yn mabwysiadu AI er ei fwyn ei hun. Bydd ei ddefnydd yn bwrpasol – ategu a gwella ein gwaith i yrru gwelliannau dros ddysgwyr, dros Gymru.

Llywodraethu Cyfrifol:
Byddwn yn diweddaru ein Hasesiadau Effaith Diogelu Data (DPIA) yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth ac arfer orau ym maes diogelu data.

Goruchwyliaeth Gadarn:
Bydd AI yn cyfrannu at ein gwaith ond ni fydd yn disodli ein gwaith. Bydd yr holl allbynnau sydd wedi’u cynhyrchu gan AI yn cael eu hadolygu a’u cymeradwyo gan staff trwy ein prosesau sicrhau ansawdd.

Addasol ac Effro:
Wrth i AI esblygu, felly hefyd y bydd ein hymagwedd. Byddwn yn archwilio cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, ond yn effro i risgiau posibl – yn enwedig mewn addysg, hyfforddiant, arolygu, a gweithgarwch sefydliadol ehangach.

AI a data

Mae cydymffurfio â deddfwriaeth ac arfer orau o’r pwys mwyaf. Mae defnydd diogel a phriodol o’n data yn brif ystyriaeth. Byddwn yn cyflawni hyn trwy flaenoriaethu defnyddio data’n ddiogel yn hytrach nag arloesi.

Yn rhan o’n hasesiadau effaith diogelu data, byddwn yn ymchwilio’n drylwyr i offer AI, trwyddedau a pholisïau preifatrwydd newydd cyn symud ymlaen i dreialu ac arbrofi. Bydd gwybodaeth yn gysylltiedig ag arolygu yn cael ei chadw’n ddiogel.

AI ac arolygu

Wrth i ni arolygu darparwyr sydd, eu hunain, yn archwilio AI, mae ein safiad ynghylch AI yn adlewyrchu ein hymagwedd ehangach at arolygu – nid ydym yn rhagnodi unrhyw ddulliau neu offer (gan gynnwys AI) sy’n well gennym. Mae ein harolygiadau yn parhau i ganolbwyntio ar yr effaith y gallai’r offer hyn ei chael, ai peidio, ar arweinyddiaeth, lles, addysgu neu ddysgu.

AI, rhagfarn a thryloywder

Mae ein gwaith arolygu a’n gwaith arall yn destun prosesau sicrhau ansawdd trylwyr. Wrth i ni barhau i ddatblygu’r defnydd o AI, byddwn yn dryloyw am sut rydym wedi defnyddio AI mewn unrhyw rai o’n prosesau.

Mae ein sicrwydd ansawdd hefyd yn gwarchod yn erbyn rhagfarn fel rhan o’r ddyletswydd statudol i sicrhau bod arolygwyr yn cyflawni arolygiadau o ansawdd uchel cyson.

AI, cydraddoldeb a’r Gymraeg

Byddwn yn mabwysiadu ac yn defnyddio unrhyw offeryn AI yn unol â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016. Bydd y Gymraeg wedi’i gwreiddio yn ein cynllunio o’i gam cychwynnol. Byddwn yn profi unrhyw ddatblygiadau AI newydd gan ddefnyddio ein hasesiadau effaith cydraddoldeb integredig.

Byddwn yn sicrhau bod nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cael eu hystyried.

AI a’r amgylchedd

Wrth i AI gael ei fabwysiadu’n gynyddol, mae’r galw am seilwaith ynni dwys yn parhau i godi, gan waethygu’r newid yn yr hinsawdd a disbyddu adnoddau. Byddwn yn defnyddio AI yn ddarbodus ac yn archwilio ffyrdd o leihau effeithiau niweidiol yn rhan o reolaeth amgylcheddol effeithiol e.e. defnyddio canolfannau data sy’n defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy a defnyddio offer AI sy’n effeithlon o ran ynni lle bo modd e.e. GPT ‘mini’.

Ein blaenoriaethau ar gyfer 2025-2026

Yn ystod y flwyddyn i ddod, byddwn yn hoelio sylw ein gwaith ar dri phrif faes:

  • Gwaith Estyn ar AI: Byddwn yn parhau i arbrofi’n ddiogel â sut gall AI ategu effeithlonrwydd a gwella ein gwaith ein hunain, gan gynnwys ymgorffori meysydd rydym wedi bod yn eu rhoi ar brawf yn ein busnes arferol
  • Adolygiad cyflym o AI mewn addysg a hyfforddiant: Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth gyfunol o sut mae darparwyr addysg a hyfforddiant yn defnyddio AI ac yn rhannu arfer effeithiol
  • Cydweithredu rhyngwladol: Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i werthuso sut gall AI wella gwaith arolygu, gan fanteisio ar arfer orau ryngwladol

AI a’n llywodraethiant

Byddwn yn sicrhau bod gan ein trefniadau llywodraethu oruchwyliaeth briodol ar ein gwaith cyflawni yn erbyn yr uchelgais hon o ran AI. Yn ogystal, rydym wedi sefydlu grŵp goruchwylio AI, gyda chynrychiolaeth traws-sefydliad i arwain yn uniongyrchol ar ein gwaith yn y maes hwn. Wrth i ni wireddu potensial AI yn ein gwaith, byddwn yn ymrwymo i adolygu ein hymagwedd yn erbyn ein 4 maes allweddol.