Gweithio gyda'n gilydd i greu cenedl o ddarllenwyr hyderus; ffocws manylach Estyn ar ddarllen. - Estyn

Gweithio gyda’n gilydd i greu cenedl o ddarllenwyr hyderus; ffocws manylach Estyn ar ddarllen.


Plentyn mewn gwisg ysgol yn dal llyfr i fyny mewn llyfrgell, gyda phlentyn arall a silffoedd llyfrau yn llawn llyfrau yn y cefndir.

Blog gan AEF Anthony Jones.

P’un a ydych chi’n gweithio mewn ysgolion neu wedi bod yn dilyn y newyddion, byddwch yn gwybod bod gwella medrau darllen yn flaenoriaeth allweddol ledled Cymru. O’r blynyddoedd cynnar, hyd at addysg ôl-orfodol, mae darllen yn hollbwysig i wella cyfleoedd bywyd a llwyddiant pobl Cymru ac mae’n rhan annatod o’n gwaith yn Estyn. 

O’n gwaith arolygu, rydym yn gwybod bod arfer effeithiol ym mhob sector, ond mae amrywioldeb mewn darpariaeth yn golygu bod gormod o ddysgwyr nad ydynt yn ddarllenwyr rhugl neu’n ddarllenwyr uwch erbyn iddynt afael yr ysgol neu addysg bellach.  

Mae ymchwil yn dweud wrthym fod hyn yn effeithio ar fywyd unigolyn ifanc mewn sawl ffordd, gan gynnwys: 

  • Caledi economaidd hirdymor 
  • Mwy o risg o ymglymiad â’r system cyfiawnder troseddol 
  • Rheoli iechyd yn waeth 
  • Parhau â’r cylch tlodi 
  • Colli annibyniaeth ac ymgilio’n gymdeithasol 
  • Atal cynnydd ym mhob cyfnod addysg 

Mae Estyn wedi ymrwymo i chwarae rôl weithredol mewn gwella safonau darllen ac, o fis Medi 2026 ymlaen, bydd ganddo ffocws manylach tair blynedd ar ddarllen.  

Beth mae Estyn yn ei wneud yn wahanol yn y ‘ffocws manylach tair blynedd’? 

I gefnogi Cymru ac addysg i dorri’ch cylchred hwn, mae Estyn wedi addasu ein gweithgareddau yn y ffyrdd canlynol: 

  1. Mae darllen yn flaenoriaeth ym mhob arolygiad craidd ar gyfer bron pob darparwr 

Mae Estyn wedi ystyried ansawdd darllen yn y sectorau gwahanol rydym yn eu harolygu erioed, a byddwn yn parhau i edrych yn ofalus ar y cynnydd mae dysgwyr yn ei wneud ym mhob cyfnod. Byddwn yn gwella’r ffordd rydym yn edrych ar hyn ac yn datblygu gweithgareddau arolygu i’n cynorthwyo i gasglu tystiolaeth ac adrodd yn gliriach ar safonau medrau darllen plant a phobl ifanc.  

  1. Bydd ffocws craffach ar ansawdd darpariaeth ar gyfer darllen 

Rydym yn deall bod yr enghreifftiau mwyaf effeithiol o addysgu a dysgu mewn darllen yn cynnwys ystod o fethodolegau gwahanol. Yn sgil hyn, bydd ein ffocws manylach yn edrych ar y dulliau y mae darparwyr wedi’u dewis i ddatblygu darllen a pha mor dda mae’r rhain yn cael eu cefnogi mewn gwersi Cymraeg a Saesneg ac ar draws y cwricwlwm. Byddwn yn edrych ar ba mor dda y mae darparwyr yn hybu a chefnogi diwylliant o ddarllen er pleser a llwyddiant.   

  1. Byddwn yn ystyried pa mor dda mae arweinwyr yn sicrhau gwelliannau i’r ddarpariaeth ar gyfer darllen a safonau darllen 

Byddwn yn cael trafodaethau ag arweinwyr am sut maent wedi blaenoriaethu a chynllunio i wella darllen a byddwn yn ystyried yr effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar wella darpariaeth a safonau.   

  1. Amlygu arfer gref a chymorth i wella darllen 

Ochr yn ochr â gweithgarwch arolygu, bydd Estyn yn rhannu mewnwelediadau o’r hyn sy’n gweithio ledled Cymru ac yn parhau i gyhoeddi deunyddiau, podlediadau, canfyddiadau o adroddiadau thematig ac enghreifftiau o arfer effeithiol i gynorthwyo darparwyr i wella. 

Felly beth sy’n gweithio hyd yn hyn i wella darllen? 

Lle gwelwn arfer gref ar gyfer darllen wrth arolygu:  

Mae arweinwyr… 

  • Yn rhoi blaenoriaeth i wella agweddau penodol ar ddarllen ar sail anghenion eu disgyblion 
  • Yn gwerthuso darpariaeth ar gyfer darllen ar sail ei heffaith ar ddysgwyr 
  • Yn targedu ac yn addasu adnoddau a chamau gweithredu dilynol ar y meysydd y mae angen eu gwella fwyaf 
  • Yn canolbwyntio’n gryf ar wella addysgu darllen mewn Cymraeg, Saesneg a meysydd perthnasol ar draws y cwricwlwm 
  • Yn sicrhau bod dysgu proffesiynol yn helpu athrawon i ddatblygu medrau darllen dysgwyr 
  • Yn hybu diwylliant cadarnhaol o ddarllen er pleser ac er mwyn dysgu 
  • Yn sicrhau bod yr holl staff yn deall eu cyfrifoldeb wrth ddatblygu darllen 

Mae athrawon… 

  • Yn cynllunio cyfleoedd dilys a phwrpasol i ddysgwyr ddatblygu a gwella eu medrau darllen 
  • Yn defnyddio deunyddiau darllen heriol a pherthnasol sy’n cefnogi datblygiad pynciol a medrau 
  • Yn defnyddio ystod o ddulliau darllen gwahanol sydd wedi’u haddasu yn ôl anghenion eu dysgwyr 
  • Yn cynorthwyo i ddatblygu diwylliant darllen cadarnhaol trwy fodelu llawenydd darllen 

Mae’r ffactorau hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd mewn darllen a bod gan staff ddealltwriaeth gref o ddulliau addysgu effeithiol sy’n cyfateb i anghenion unigol. Bydd Estyn yn parhau i rannu diweddariadau ac enghreifftiau o hyd yn y dyfodol.  

Parhau â’r sgwrs – ble nesaf? 

Darllen yw sylfaen pob dysgu ac mae Estyn wedi ymrwymo i gefnogi ysgolion a lleoliadau â hyn. Gallwch ymweld â’n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymagwedd Estyn at ddarllen a defnyddio deunyddiau gwahanol i wella eich ymagweddau tuag at ddarllen. 

Dolenni defnyddiol 

Podlediad – Goresgyn heriau wrth addysgu darllen 

Estyn yn Fyw – Y daith ddarllen yn y sector cynradd

Medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned – Estyn  

Cydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn raddol – Estyn  

‘Popeth, yn llythrennol’ – cyflawni potensial llawn llyfrgell ysgol – Estyn   

Iaith a llythrennedd Saesneg mewn lleoliadau ac ysgolion cynradd (Estyn, 2021)   

Caffael yr iaith Gymraeg (Estyn, 2021)   

Datblygu medrau darllen Saesneg disgyblion o 10-14 mlwydd oed (Estyn, 2023)   

Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed (Estyn, 2024)