Ffocws ar fathemateg yn Estyn – Blog gan arolygydd Estyn, Gari Jones
Mae medrau rhifedd cryf yn dibynnu ar addysgu mathemateg o ansawdd uchel.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn hynod brysur i’r tîm mathemateg yn Estyn. Er nad ydym yn arolygu mathemateg yn bwnc ar ei ben ei hun, mae rhifedd yn rhan allweddol o bob arolygiad. Rydym yn credu’n gryf fod medrau rhifedd cryf yn dibynnu ar addysgu mathemateg o ansawdd uchel. O’r herwydd, yn ystod ein hymweliadau ag ysgolion, rydym yn edrych yn fanwl ar ba mor dda mae disgyblion yn gwneud cynnydd mewn gwersi mathemateg a pha mor effeithiol maent yn cymhwyso’r medrau hyn i ddatrys problemau, o fewn mathemateg ac ar draws y cwricwlwm ehangach.
Yn Estyn, mae arbenigedd pwnc yn bwysig. Mae hyn yn ystyriaeth allweddol wrth recriwtio arolygwyr, ac o fewn y tîm uwchradd, mae gennym sawl cydweithiwr sydd â chefndir cryf mewn mathemateg. Ein nod yw sicrhau cydbwysedd o ran arbenigedd pwnc ar dimau arolygu, lle bo modd. Er bod ein gwaith arolygu craidd bob amser yn cynnwys ystyriaeth o fathemateg a rhifedd, bu ffocws cynyddol ar addysgu mathemateg yn benodol yn y 18 mis diwethaf.
Darlun cenedlaethol o addysg fathemateg:
Mae gormod o ddisgyblion nad ydynt yn gwneud y cynnydd y dylent ei wneud mewn mathemateg.
Y llynedd, gofynnodd Llywodraeth Cymru i ni gynnal arolwg thematig o ansawdd addysg fathemateg ar gyfer dysgwyr rhwng 9 ac 16 oed. Ymwelodd tîm o arolygwyr, dan arweiniad Nicola Thomas AEF, ag ysgolion ledled Cymru, a defnyddiwyd tystiolaeth o arolygiadau craidd i greu darlun cenedlaethol.
Roedd yr hyn a ganfuom yn gymysg. Mewn rhai ysgolion, roedd disgyblion yn amlwg yn mwynhau mathemateg ac yn elwa ar addysgu hyderus a difyr. Fodd bynnag, at ei gilydd, mae gormod o ddisgyblion nad ydynt yn gwneud y cynnydd y dylent. Mae hyn yn adlewyrchu’r hyn rydym yn ei weld yn aml yn ystod arolygiadau arferol.
Un o’r agweddau mwyaf gwerthfawr ar yr ymweliadau oedd y cyfle i siarad yn agored ag athrawon a phenaethiaid mathemateg. Roedd y sgyrsiau proffesiynol hyn yn onest ac yn ystyriol, yn enwedig ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael ar gyfer addysgu mathemateg yng Nghymru. Nodom hefyd enghreifftiau o arfer effeithiol y gellid eu rhannu’n ehangach, ac fe wnaethom gynnwys y rhain yn astudiaethau achos manwl yn yr adroddiad terfynol.
Canfyddiadau allweddol ac arfer a rennir:
Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod safonau mewn mathemateg yng Nghymru yn rhy isel, er gwaethaf ymroddiad athrawon. Daeth tri mater allweddol i’r amlwg, sef:
- amrywioldeb yn ansawdd yr addysgu,
- diffyg disgwyliadau cenedlaethol clir,
- a dysgu proffesiynol annigonol yn benodol i fathemateg.
Mae’r adroddiad, sydd ar gael ar ein gwefan, yn amlinellu nodweddion effeithiol a llai effeithiol o ran addysgu mathemateg, ac yn cynnwys astudiaethau achos ymarferol. Fe wnaethom ailymweld â rhai ysgolion i ffilmio enghreifftiau o arfer gref. Mae’r fideos hyn yn dangos strategaethau fel holi diagnostig, defnydd effeithiol o fyrddau gwyn bach, holi pwrpasol i ddyfnhau meddwl, a defnyddio amrywiad i helpu disgyblion i adnabod patrymau a strwythurau.
Parhau â’r sgwrs:
Gyrru safonau mewn addysgu mathemateg.
Ym mis Rhagfyr, cynhaliom ddigwyddiad Estyn yn Fyw lle bu ysgolion yn rhannu arfer effeithiol mewn addysgu mathemateg, a nodwyd yn ystod arolygu. Fe wnaethom hefyd recordio podlediadau yn Saesneg ac yn Gymraeg gydag athrawon ac arbenigwyr yn trafod negeseuon allweddol yr adroddiad.
Ym mis Chwefror, bydd Nicola a minnau yn arwain digwyddiadau dysgu proffesiynol ledled Cymru ar gyfer athrawon uwchradd a phenaethiaid mathemateg ar ein ‘Sioe Deithiol Mathemateg’ mewn partneriaeth â Dysgu. Bydd y sesiynau hyn yn archwilio canfyddiadau’r adroddiad, yn rhannu strategaethau effeithiol ac yn cynorthwyo athrawon wrth werthuso medrau mathemategol disgyblion.
Mae amser o hyd i gofrestru am le os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.
Bu’n gyfnod dwys ond boddhaus. Mae canolbwyntio ar fathemateg wedi atgyfnerthu pa mor hanfodol yw addysgu o ansawdd uchel wrth godi safonau a gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith o fewn y system i gefnogi ymarferwyr a gyrru safonau mewn addysgu mathemateg.
Dolenni perthnasol:
Datgloi potensial: Mewnwelediadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg – Estyn
Adnoddau Fideo Mathemateg – Estyn
‘Sioe Deithiol Mathemateg’ mewn partneriaeth â Dysgu
Podlediad Sgwrs: Meddyliau ar addysgu Mathemateg yng Nghymru – Estyn
Estyn yn Fyw: Mewnwelediadau i wella addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg fathemateg