Article details

By Rhidian Dafydd, Strategic Programmes Director – Estyn
Postiadau blog |

Estyn: Arolygu ar gyfer y Dyfodol (2024-2030)

Share this page

Estyn: Arolygu ar gyfer y Dyfodol (2024-2030)

Wrth i gylch arolygu newydd ddechrau ym mis Medi 2024, rydym yn awyddus i glywed eich barn chi ar sut gallwn ddylunio a chyflwyno ein trefniadau orau. Bydd y newidiadau y byddwn yn eu mabwysiadu yn adeiladu ar y gwaith rydym wedi’i wneud eisoes i esblygu ein harferion.

Ein nod yw dod â phrosesau gwerthuso arolygiadau allanol a phrosesau gwerthuso mewnol darparwyr yn nes at ei gilydd. Bydd alinio’r prosesau hyn yn well yn helpu i gefnogi ein huchelgais i wella ansawdd addysg a hyfforddiant i blant, pobl ifanc a dysgwyr gydol oes.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae cael gwared ar farnau crynodol; canolbwyntio mwy ar ddeialog broffesiynol – gan gynnwys model sefydledig yr enwebai; mwy o drafodaethau ag athrawon dosbarth a fersiwn esboniadol i rieni i gyd-fynd â’n adroddiadau arolygu yn rhai enghreifftiau yn unig o sut rydym yn esblygu ein hymagwedd. 

Gallwch ddysgu mwy am sut mae’r newidiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth trwy glicio ein rhestr chwarae Newidiadau i Arolygu ar YouTube.

Sut mae ein hymagwedd arolygu yn esblygu

Wrth i ni adeiladu ar ein cynnydd, rydym yn ystyried amryw syniadau a chynigion. Rydym yn cynllunio arolygiadau mwy rheolaidd mewn ysgolion ac UCDau ac yn edrych ar wneud hynny mewn ffordd sy’n ychwanegu gwerth ac nad yw’n ychwanegu straen at y system. Gallai model gynnwys arolygiad, ynghyd ag ymweliad ychwanegol; wedi’i deilwra i’r ysgol i werthuso cynnydd. Bydd hyn yn golygu dau ymweliad mewn cylch chwe blynedd – gyda’r nod o hyrwyddo gwelliant a rhoi gwybodaeth fwy cyfredol i rieni, gofalwyr a disgyblion.

Mae tri phrif gam i’n hymagwedd esblygiadol at arolygu:

Cynnwys: Byddwn yn casglu adborth yn eang – o uwch arweinwyr a phenaethiaid, i athrawon,  darlithwyr, cynorthwywyr dosbarth, rhieni, dysgwyr a’r gymuned ehangach.

Gwrando: Ar ôl i ni glywed yn ôl gan bob sector, byddwn yn defnyddio’r adborth i ddatblygu peilot ar gyfer yr ymagwedd arolygu newydd ar gyfer y sector hwnnw.

Arbrofi ac adolygu: Trwy gydweithio â llond llaw o ddarparwyr o bob sector, byddwn yn dechrau peilota’r ymagweddau arolygu gwahanol. Bydd adborth o’r arolygiadau peilot hyn yn llywio’r cam datblygu nesaf.

Cynnydd hyd yn hyn

Yn ystod haf 2023, cynhaliom ymgynghoriadau cyhoeddus ar ein trefniadau arolygu ar gyfer gwasanaethau ieuenctid, yn ogystal ag ysgolion ac UCDau. Roedd yn ymatebion yn dangos cefnogaeth i lawer o’n cynigion, er enghraifft arolygiadau ar wahân ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid. Ar gyfer ysgolion ac UCDau, roedd yr ymatebion yn dangos cefnogaeth ar gyfer cynigion fel gostwng nifer y meysydd arolygu o bump i dri, cadw’r cyfnod rhybudd o ddeng diwrnod ar gyfer arolygiad ac ymweld â phob ysgol annibynnol o leiaf ddwywaith yn ystod cylch arolygu.

Gallwch ddarllen yr adroddiadau llawn ar ganfyddiadau ein hymgynghoriadau yma.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae ein trefniadau arolygu drafft yn cael eu mireinio wrth i ni glywed yn ôl gan ein rhanddeiliaid trwy ein hymgynghoriadau. Yn ystod tymor yr hydref 2023, ysgolion ac UCDau fydd y sector cyntaf i beilota ein trefniadau drafft, gan gynnig cyfle arall i ni gasglu adborth a mireinio ein hymagwedd yn barod ar gyfer mis Medi 2024. 

Hefyd yn nhymor yr hydref, byddwn yn ymgynghori ar ein trefniadau arolygu drafft ar gyfer gwasanaethau addysg llywodraeth leol, Cymraeg i oedolion a’r sectorau ôl-16 (dysgu oedolion yn y gymuned, colegau arbenigol annibynnol ac addysg bellach).

Os ydych chi’n gweithio yn y sectorau hyn, rydym yn awyddus i glywed eich barn chi, felly llenwch yr holiadur byr. Bydd yr holiaduron hyn yn cael eu lansio ar 2 Hydref ac yn aros ar agor tan 30 Tachwedd 2023. Yn yr un modd â’r ymgynghoriadau cynharach, wedi i ni gasglu a dadansoddi’r adborth, byddwn yn mireinio ein cynigion ac yn cynnal arolygiadau peilot yn nhymor y gwanwyn, yn barod i’r fframwaith ddechrau ym mis Medi 2024.

Rydym yn cyhoeddi’r holl wybodaeth sy’n ymwneud ag Arolygu ar gyfer y Dyfodol (2024-2030) ar y dudalen we hon, gan gynnwys sut i fynd at ein harolygon, dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’n hymagwedd ddatblygol a’r meddylfryd ynghylch y fframwaith newydd.

Ychwanegu sylw newydd

Testun plaen

  • No HTML tags allowed.
  • Llinellau a pharagraffau yn torri'n awtomatig.
  • Web page addresses and email addresses turn into links automatically.