Beth yw ein hadnoddau gwella?
About our improvement resources
Here you’ll find resources to support those working in education and training in raising standards for learners.
Our resources consist of thematic reports, effective practice, additional resources, as well as our annual reports.
Arfer Effeithiol
Pan welwn arfer ddiddorol ac arloesol yn ystod arolygiad, rydym bob amser yn awyddus i’w rhannu. Rydym yn gwahodd ysgolion a darparwyr eraill i ysgrifennu astudiaethau achos pan fyddwn yn meddwl bod ganddynt rywbeth pwysig i'w rannu.
O fesurau arbennig i lwyddiant: taith wella.
Gwybodaeth am yr ysgol Mae Ysgol Gynradd Trelái wedi’i lleoli mewn ardal â lefel uchel o ddifreintedd, yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, mae 381 o ddisgyblion yn yr ysgol. Mae 77% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan yr ysgol leoliad Dechrau’n Deg ar y safle sy’n cefnogi addysg … Continued
Diwallu anghenion cymuned amrywiol
Gwybodaeth am yr ysgol Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Cil-maen wedi’i lleoli ar gyrion Penfro, yn Sir Benfro. Mae’r gymuned ymhlith 10% o’r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Daw 33% o ddisgyblion o gefndir Sipsiwn a Theithwyr, ac mae 60% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae llawer o ddisgyblion yn wynebu … Continued
Effaith dysgu proffesiynol ar wella ansawdd yr addysgu yn Ysgol Gyfun Radur
Gwybodaeth am yr ysgol Mae Ysgol Gyfun Radur yng Nghaerdydd yn ysgol cyfrwng Saesneg sydd â 1,409 o ddisgyblion, y mae 1,157 ohonynt o oedran ysgol statudol. Mae tri phwynt pump y cant o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae tua 14.3% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd … Continued
Gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o asiantaethau i gefnogi teuluoedd a hybu lles disgyblion
Gwybodaeth am yr ysgol Mae Ysgol Golwg y Cwm yn ysgol fro, sy’n gwasanaethu pentref Penrhos a rhan o dref Ystradgynlais ym Mhowys. Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol 187 o ddisgyblion rhwng pedwar ac 11 oed ar y gofrestr. Yn ogystal â chwe dosbarth prif ffrwd oed cymysg, mae gan yr ysgol … Continued
Gweithio mewn partneriaeth er mwyn hyrwyddo profiadau dysgu a lles plant
Gwybodaeth am y lleoliad Agorwyd drysau Meithrinfa Canolfan Deulu y Bala yn 2022 ac mae wedi ei lleoli mewn hen ysgol yng nghanol tref y Bala. Mae’r ymarferwyr yn gofalu am 72 o blant rhwng 0 a 13 oed yn ddyddiol. Fel rhan o’r ddarpariaeth mae’r lleoliad yn cynnig sesiynau Addysg Gynnar, Clwb Brecwast, Clwb … Continued
Sicrhau cydweithredu effeithiol ar draws ffederasiwn o ysgolion
Gwybodaeth am yr ysgol/darparwr Mae Rainbow Federation yn cynnwys ysgolion cynradd Bryn Hafod a Glan yr Afon. Mae’r ffederasiwn yn gwasanaethu cymuned yn nwyrain Caerdydd, gyda llawer o ddisgyblion yn dod o aelwydydd ag incwm isel. Roedd yr holl randdeiliaid wedi cymryd rhan mewn creu datganiadau gweledigaeth unigol i bob ysgol a gweledigaeth gyffredinol i’r … Continued
Sut mae’r ysgol yn cynllunio profiadau creadigol i ddwysau dysgu’r disgyblion am hanes a diwylliant eu cymuned leol.
Gwybodaeth am yr Ysgol Mae Ysgol Gynradd Nefyn wedi ei lleoli yn nhref fechan Nefyn, ar arfordir gogleddol Pen Llŷn yng Ngwynedd. Mae’n gwasanaethu’r dref a’r ardaloedd gwledig cyfagos gan ddarparu addysg i ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae disgyblion o Ysgol Morfa Nefyn yn ymuno â’r ysgol ym Mlwyddyn 4. Mae 137 o … Continued
Sut gall cwricwlwm yn seiliedig ar ymholi gefnogi ysgol mewn cymuned amrywiol i baratoi disgyblion ar gyfer bywyd fel dinasyddion yn y Gymru fodern.
Gwybodaeth am yr ysgol neu’r darparwr Mae Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul yn ysgol amrywiol sydd wedi’i lleoli yng nghanol Grangetown. Mae’r ysgol o fewn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymru. Mae Saesneg yn ail iaith i ryw 48% o’r disgyblion, roedd gan 9% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol … Continued
Arwain y Sector o fewn Sectorau Bwyd, Diod a Lletygarwch
Gwybodaeth am yr ysgol/darparwr Mae gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian hanes hir o gyflwyno rhaglenni prentisiaeth dysgu yn y gwaith ar draws Cymru. Mae eu Pencadlys yn y Canolbarth a lleoliadau ar draws Cymru, ac maent yn gweithio gyda 10 is-gontractwr ac yn cefnogi tua 2,000 o ddysgwyr. Y darparwr sydd â’r nifer fwyaf o ddysgwyr … Continued
Datblygu medrau llafar Cymraeg disgyblion
Gwybodaeth am yr ysgol Mae Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae’r ysgol yn gymuned hapus, gynhwysol a gofalgar sy’n rhoi pwyslais cryf ar ddathlu Cymreictod. Mae’r Gymraeg yn ganolog i holl waith yr ysgol ac mae bron bob disgybl yn falch o’u gallu i ddefnyddio’r iaith tu fewn a … Continued
Adroddiadau thematig
Bob blwyddyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gofyn i’n Prif Arolygydd am gyngor ar ystod o themâu mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant. Mae ein hadroddiadau thematig yn helpu i lywio datblygiad polisi ac i fonitro cynnydd.
Adroddiad Thematig: Pontio a chynnydd disgyblion
Crynodeb gweithredol Mae’r adroddiad hwn yn ystyried pa mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi cyfnod pontio disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae’n canolbwyntio ar ba mor dda y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod eu cwricwla a’u haddysgu yn datblygu gwybodaeth, medrau, dealltwriaeth ac ymddygiadau … Continued
Adroddiad Thematig: Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed
Crynodeb gweithredol Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar fedrau darllen Saesneg disgyblion 10-14 oed gan Estyn yn Mai 2023, fe aethom ati i lunio adroddiad ar sut mae ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion ar draws y cwricwlwm. Yn Hydref 2023, fe wnaethom ymweld ag ugain o ysgolion cynradd, uwchradd a phob … Continued
Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd – deunydd hyfforddiant
Mae'r cyflwyniad PowerPoint hwn yn ffordd i ddarparwyr rhannu brif ganfyddiadau'r adroddiad a adolygu eu perfformiad eu hunain mewn maes thematig penodol. Mae'r cyflwyniadau yn crynhoi'r adroddiad ac yn cynnwys cyfres o gwestiynnau gall darparwyr ystyried wrth edrych i wella.
Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y strategaethau a’r camau gweithredu yr oedd ysgolion uwchradd yn eu defnyddio er mwyn gwella presenoldeb disgyblion. Mae hefyd yn ystyried y cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol. Mae’r adroddiad yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn ymarferol a’r rhwystrau a nododd arweinwyr ysgolion i ddisgyblion yn mynychu’r ysgol, ac felly’n gwella presenoldeb. Mae hefyd yn cynnwys cameos ac astudiaethau achos arfer effeithiol.
Y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd – deunydd hyfforddiant
Mae'r cyflwyniad PowerPoint hwn yn ffordd i ddarparwyr rhannu brif ganfyddiadau'r adroddiad a adolygu eu perfformiad eu hunain mewn maes thematig penodol. Mae'r cyflwyniadau yn crynhoi'r adroddiad ac yn cynnwys cyfres o gwestiynnau gall darparwyr ystyried wrth edrych i wella.
Cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn rhaglenni prentisiaeth
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn prentisiaethau dysgu yn y gwaith. Ym mis Mai a mis Mehefin 2023, ymwelodd arolygwyr â naw o’r deg darparwr arweiniol sy’n cynnig rhaglenni prentisiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliom gyfarfodydd a siarad gyda dysgwyr, rheolwyr, staff cyflwyno a chyflogwyr. Arsylwom sesiynau addysgu grŵp ac adolygiadau un-i-un. Cynhaliom arolwg ar-lein dienw i ddysgwyr, staff cyflwyno a chyflogwyr yn ymchwilio i agweddau ymatebwyr at gymwysterau SHC a datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ar raglenni prentisiaeth.
Rhaglen ieuenctid Twf Swyddi Cymru+: Mewnwelediadau hydref 2023
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o bedwar ymweliad monitro rhanbarthol â Twf Swyddi Cymru+ a gynhaliwyd rhwng Hydref 2022 a Mehefin 2023. Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar y wybodaeth a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru, darparwyr arweiniol ac is-gontractwyr, cyfranogwyr, cyflogwyr, Cymru’n Gweithio, a staff allweddol mewn awdurdodau lleol.
Y system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd
Ysgrifennir yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith at Estyn ar gyfer 2022-2023. Hwn yw’r cyntaf o ddau adroddiad, o leiaf. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o ba mor dda y mae’r ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd a gynhelir a gymerodd ran yn yr adolygiad yn gweithredu agweddau allweddol ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r Cod ADY cyfatebol. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan wedi cefnogi ysgolion.
Cefnogi’r Gymraeg yn Addysg Gychwynnol Athrawon: Sut mae sefydliadau addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn cynorthwyo athrawon dan hyf-forddiant i wella eu medrau Cymraeg, gan gynn-wys addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol Gweinidog y Gymraeg ac Addysg at Estyn 2022-2023. Nod yr adroddiad yw rhoi trosolwg o sut mae partneriaethau addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu eu medrau Cymraeg, gan gynnwys addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Gohiriwyd yr adolygiad hwn yn sgil y pandemig o Lythyr Cylch Gwaith y Gweinidog Addysg 2020-2021.