Arweiniad atodol: cydraddoldeb, hawliau dynol a Saesneg fel iaith ychwanegol


Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:

  • ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion pob oed
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • addysg bellach
  • colegau arbenigol annibynnol
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • Cymraeg i oedolion
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder

Rydym hefyd:

  • yn adrodd i Senedd Cymru ac yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
  • yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu.

Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi.  Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:

Yr Adran Gyhoeddiadau
Estyn
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW   neu drwy anfon e-bost at 

Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan:  www.estyn.llyw.cymru

Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).

Ynglŷn â’r arweiniad hwn

Trosolwg

Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach.

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai bod y dogfennau’n datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).

Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.

Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i gael dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn hefyd. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran gwerthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.

Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  • Bydd arolygwyr yn mynd ati i arolygu’n gadarnhaol, i sicrhau mai’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl fydd hwn ar gyfer y staff ym mhob darparwr
  • Bydd arolygwyr yn arolygu ar sail dull sy’n cael ei arwain gan y dysgwr
  • Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol, graff
  • Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd â phosibl
  • Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymateb i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac yn defnyddio ystod gynyddol yr adnoddau a dulliau arolygu sydd ar gael
  • Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr

Cyflwyniad

Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn creu gofyniad statudol ar ddarparwyr i roi sylw priodol i’r angen i hyrwyddo cydraddoldeb, dileu gwahaniaethu a meithrin perthnasoedd da ar sail ‘nodweddion gwarchodedig’ fel hil, rhyw ac anabledd. Rhoddir mwy o fanylion yn adran dau, ond yn y bôn, dylai arolygwyr edrych am dystiolaeth – fel amcanion cydraddoldeb a gwybodaeth berthnasol gyhoeddedig – fod darparwyr yn mynd i’r afael â materion allweddol sy’n effeithio ar grwpiau gwarchodedig gwahanol a bod camau effeithiol ganddynt i fynd i’r afael ag anfantais bosibl y gallant ei dioddef, fel cyrhaeddiad gwahaniaethol, cyfraddau gwahardd a bwlio.

Ymdrinnir ag agweddau ar gydraddoldeb a hawliau dynol drwy bum maes arolygu’r fframwaith arolygu cyffredin.

Mae’r maes arolygu cyntaf yn canolbwyntio ar ddysgu. O dan y maes arolygu hwn, dylai arolygwyr werthuso cynnydd yr holl ddisgyblion ar draws yr ysgol, yn cynnwys cynnydd gwahanol grwpiau o ddisgyblion. Yn dibynnu ar gyd-destun yr ysgol, gallai hyn gynnwys disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, bechgyn a merched, disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (SSIY), disgyblion sy’n fwy abl, disgyblion ag amserlenni amgen neu sy’n derbyn addysg oddi ar y safle yn rheolaidd a’r rhai o grwpiau ethnig lleiafrifol.

Mae’r ail faes arolygu yn ymwneud â lles ac agweddau at ddysgu. Yn y maes hwn, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae pob un o’r disgyblion yn datblygu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus, er enghraifft trwy eu hymwybyddiaeth o degwch, cydraddoldeb, cynaliadwyedd a hawliau plant. Dylai arolygwyr ystyried tueddiadau yng nghyfradd bresenoldeb gyffredinol y darparwr a’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael, yn cynnwys unrhyw amrywiadau nodedig rhwng grwpiau penodol o ddisgyblion ac eraill, er enghraifft y rhai sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.   

Mae’r trydydd maes arolygu yn ymwneud ag addysgu a phrofiadau dysgu. Wrth werthuso cwricwlwm y darparwr, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda:  

  • y mae’r darparwr yn datblygu’r Cwricwlwm i Gymru i adlewyrchu natur cyd-destun yr ysgol yn llawn, yn cynnwys cynllunio gweithgareddau dysgu sy’n adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol, ieithyddol ac ethnig Cymru ac ardal leol yr ysgol
  • y mae cwricwlwm y darparwr yn darparu ar gyfer grwpiau penodol o ddisgyblion, er enghraifft disgyblion mwy abl, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a disgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol. (Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ffrydiau cyfrwng Cymraeg, gallai hyn gynnwys darpariaeth ar gyfer disgyblion nad oes ganddynt ryw lawer o wybodaeth flaenorol am y Gymraeg. Mewn ysgolion sydd â disgyblion yn derbyn rhan o’u haddysg oddi ar y safle neu ar y safle mewn grwpiau anogaeth neu ddarpariaeth cynhwysiant, dylai arolygwyr werthuso pa mor dda y mae’r cwricwlwm hwn yn diwallu anghenion y disgyblion hyn)

Dylai arolygwyr ystyried y graddau y mae gan athrawon ac ymarferwyr eraill ddisgwyliadau uchel o’r holl ddisgyblion. Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda mae athrawon yn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddilyniant i sicrhau bod eu hasesiadau yn ddilys, yn gywir ac yn ddibynadwy. Wrth werthuso defnydd athrawon o ddeilliannau eu hasesiadau eu hunain ac asesiadau allanol, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda maent yn defnyddio’r wybodaeth hon i:

  • asesu cynnydd a datblygiad unigolion a grwpiau penodol, er enghraifft y disgyblion hynny sydd mewn perygl o dangyflawni neu’r rhai sy’n fwy abl.

Y pedwerydd maes arolygu yw gofal, cymorth ac arweiniad. Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae’r ysgol neu’r UCD:

  • yn helpu disgyblion, gan gynnwys y rhai o wahanol grwpiau, fel y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ymgymryd â chyfrifoldebau a chwarae rhan lawn yn yr ysgol a’r gymuned ehangach
  • yn helpu disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth o’u diwylliant, y gymuned leol a’r byd ehangach
  • yn helpu disgyblion i ddeall materion yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn datblygu gwerthoedd parch, empathi, dewrder a thosturi
  • yn meithrin gwerthoedd ar y cyd, fel gonestrwydd, tegwch, cyfiawnder a chynaliadwyedd, ac yn helpu disgyblion i ddeall anghenion a hawliau pobl eraill, yn lleol ac fel aelodau o fyd amrywiol
  • yn herio ystrydebau yn agweddau, dewisiadau a disgwyliadau disgyblion a pha mor dda y mae’n hyrwyddo hawliau dynol  
  • yn hyrwyddo egwyddorion sy’n helpu disgyblion i wahaniaethu rhwng da a drwg
  • yn darparu cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion ddatblygu gwerthoedd cadarn a sefydlu eu credoau ysbrydol a moesegol
  • yn datblygu gallu disgyblion i fyfyrio ar ymatebion crefyddol ac anghrefyddol i gwestiynau sylfaenol, a myfyrio ar eu credoau neu’u gwerthoedd eu hunain

Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda mae’r ysgol neu’r UCD:

  • yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion (yn unol â’u cyfnod datblygu) o ymddygiadau sy’n niweidiol yn emosiynol neu’n anniogel, er enghraifft meithrin perthynas amhriodol ar-lein, aflonyddu, gwahaniaethu, bwlio ac eithafiaeth
  • yn cadw disgyblion yn ddiogel rhag peryglon radicaleiddio a chamfanteisio
  • yn rheoli ac yn ymateb i unrhyw achosion honedig yn ymwneud â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn gysylltiedig â rhagfarn, p’un a yw hynny gan staff neu gan gyd-ddisgyblion, yn cynnwys atgyfeirio ymhellach, ac adrodd, pan fydd yn briodol
  • yn defnyddio’i threfniadau i hyrwyddo a chefnogi diwylliant gwrthfwlio ac ymagwedd gadarnhaol at reoli ymddygiad disgyblion
  • yn cofnodi ac yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwael a mathau penodol o fwlio, yn cynnwys y rhai sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig, a pha mor dda y mae arweinwyr yn defnyddio’r cofnodion i wella’r ddarpariaeth

Mae maes arolygu pump yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth. Mae tri gofyniad adrodd, ac mae’r pedwar yn ymwneud â’r effaith a gaiff arweinwyr a rheolwyr o ran diwallu anghenion dysgwyr o grwpiau gwahanol. Dylai arolygwyr werthuso’r graddau y mae arweinwyr a rheolwyr wedi sefydlu a chyfleu gweledigaeth glir. Dylent ystyried p’un a oes nodau, amcanion strategol, cynlluniau a pholisïau priodol sy’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion yr holl ddisgyblion i sicrhau eu bod yn cyflawni cystal ag y dylent, o leiaf. Dylent ystyried y flaenoriaeth y mae arweinwyr wedi’i rhoi i sicrhau bod pob un o’r staff yn deall ac yn hyrwyddo diwylliant diogelu’r ysgol. Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn gweithredu yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, a pha mor dda maent yn gwneud penderfyniadau, er enghraifft yn ymwneud â gwario, ac yn gosod blaenoriaethau ar gyfer gwella sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr, dybryd ac anghenion tymor hir disgyblion, y gymuned leol a Chymru.

Mae’r arweiniad atodol hwn yn rhoi rhywfaint o wybodaeth ychwanegol ar gyfer arolygu’r meysydd hyn.


Gwerthuso cydraddoldeb a hawliau dynol

Amcanion cydraddoldeb a chynlluniau cydraddoldeb strategol

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn crynhoi ac yn disodli’r cyfreithiau gwrthwahaniaethu blaenorol mewn un Deddf.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus newydd (y ‘ddyletswydd gyffredinol’), gan ddisodli’r dyletswyddau ar wahân yn ymwneud â hil, anabledd a chydraddoldeb rhywiol. Daeth hon i rym ar 5 Ebrill 2011.

Beth yw’r ddyletswydd gyffredinol?

Mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus[1] (darparwyr) roi sylw priodol i’r angen i:

  1. ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithiol ac ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf
  2. hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rhai nad ydynt
  3. meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt

Mae’r arweiniad hwn yn cyfeirio at y tair elfen hon fel tri ‘nod’ y ddyletswydd gyffredinol, ac felly pan fyddwn yn trafod y ddyletswydd gyffredinol, rydym yn golygu pob un o’r tair nod.

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn cwmpasu’r un grwpiau a oedd yn cael eu gwarchod gan ddeddfwriaeth bresennol yn ymwneud â chydraddoldeb – oed, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil a beichiogrwydd a mamolaeth – ond mae’n ehangu rhai nodweddion gwarchod i grwpiau nad oeddent yn cael eu cynnwys yn flaenorol, ac mae hefyd yn cryfhau agweddau penodol ar y gyfraith cydraddoldeb. Gelwir y rhain yn fwy cyffredin erbyn hyn fel y nodweddion gwarchodedig, a chyfeirir at y grwpiau fel y grwpiau gwarchodedig.

Nodwch hefyd, mewn perthynas â’r rhestr o nodweddion gwarchodedig, nad oes rhaid i ysgolion ystyried nodwedd warchodedig oed wrth ddarparu addysg i ddisgyblion, neu wrth ddarparu buddion, cyfleusterau neu wasanaethau iddynt. Nid oes rhaid i ysgolion felly ystyried hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng disgyblion o oed gwahanol, nac ystyried sut i feithrin perthynas dda rhwng disgyblion o oed gwahanol. Eithriad cyfyngedig yw hwn sydd yn gymwys yng nghyd-destun oed yn unig. Bydd angen i ysgolion roi sylw priodol o hyd i’r ddyletswydd gyffredinol mewn perthynas â phob un o’r nodweddion gwarchodedig eraill.

[1] Mae awdurdodau cyhoeddus yn cynnwys awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir, colegau AB ac AU.

Dyletswyddau penodol yng Nghymru

Mae ystod o ddyletswyddau penodol hefyd y mae angen i ddarparwyr roi sylw iddynt. Diben bras y dyletswyddau penodol yng Nghymru yw helpu darparwyr wrth iddynt gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol ac i gynorthwyo tryloywder.

Amcanion cydraddoldeb a chynlluniau cydraddoldeb strategol

Diben cynllun cydraddoldeb strategol yw dogfennu’r camau y mae darparwr yn eu cymryd i gyflawni ei ddyletswyddau penodol.

  • Rhaid i ddarparwyr gyhoeddi amcanion strategol a bod wedi llunio cynllun cydraddoldeb strategol erbyn 2 Ebrill 2012. Dylai amcanion strategol gael eu hadolygu bob pedair blynedd, o leiaf. Felly, er enghraifft, rhaid i ddarparwyr gael cynllun cydraddoldeb strategol cyfredol yn dyddio o 2020 ymlaen.
  • Rhaid i ddarparwyr hefyd gyhoeddi adroddiad cydraddoldeb blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn sy’n cynnwys manylion ar gynnydd tuag at gyflawni pob un o’r amcanion cydraddoldeb.

Rhestr wirio arolygu

At ddibenion Estyn, y prif bwyntiau y dylech eu hystyried yw:

  • a yw’r darparwr wedi cyhoeddi amcanion strategol (rhaid eu hadolygu o leiaf bob 4 blynedd), cynllun cydraddoldeb strategol ac adroddiad cydraddoldeb blynyddol
  • a yw’r cynllun yn cynnwys disgrifiad o’r darparwr a’i amcanion cydraddoldeb
  • y camau y mae wedi’u cymryd neu’n bwriadu’u cymryd i fodloni ei amcanion, ac o fewn ba raddfa amser
  • ei drefniadau ar gyfer monitro cynnydd o ran bodloni ei amcanion cydraddoldeb ac effeithiolrwydd y camau y mae’n eu cymryd i fodloni’r amcanion hynny
  • ei drefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb; mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd drwy ymgysylltu â grwpiau gwarchodedig ynglŷn â sut gallai gwaith y darparwr ymwneud â’r ddyletswydd gyffredinol
  • ei drefniadau ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb y mae’n ei chadw ac y mae’n ystyried ei bod yn briodol i’w chyhoeddi
  • ei drefniadau ar gyfer:
  • asesu effaith debygol unrhyw bolisïau ac arferion y mae awdurdod yn eu cynnig, eu hadolygu neu’u diwygio ar grwpiau gwarchodedig
  • monitro’u heffaith wirioneddol a’u heffaith barhaus
  • cyhoeddi adroddiadau lle mae asesiad yn dangos effaith sylweddol (neu effaith debygol) ar allu awdurdod i fodloni’r ddyletswydd gyffredinol
  • manylion ynglŷn â sut bydd darparwr yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ddyletswydd gyffredinol a dyletswyddau penodol ymhlith gweithwyr, gan gynnwys drwy weithdrefnau asesu perfformiad, er mwyn nodi a mynd i’r afael ag anghenion hyfforddi

Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol

Dylai arolygwyr cofnodol sicrhau eu bod, yn yr adran am gyd-destun y darparwr, yn cynnwys manylion, lle bo’n berthnasol, am yr ieithoedd sy’n cael eu siarad, a nifer y disgyblion y mae Saesneg / Cymraeg yn iaith ychwanegol iddynt. Dylai pob arolygydd tîm sicrhau eu bod yn defnyddio’r derminoleg gywir wrth gyfeirio at ieithoedd cymunedol ac osgoi enwau sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin os ydynt yn anghywir. Byddai’r arweiniad hwn yn berthnasol hefyd i ysgolion cyfrwng Cymraeg, i’r disgyblion hynny sydd â iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg yn famiaith iddynt.

Mewn darparwyr lle mae cyfran y disgyblion y mae’r Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt yn nodwedd arwyddocaol, dylai sylwadau am faterion fel safonau, lles, profiadau dysgu ac ati, gael eu cynnwys yn yr adrannau perthnasol yn yr adroddiad llawn.

Mae cwestiynau i’w gofyn mewn perthynas â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol yn cynnwys:

  • A oes polisi darparwr cyfan i gynorthwyo disgyblion sy’n dysgu Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol, ac os oes, a yw’n cael ei weithredu’n gyson?
  • A yw’r amgylchedd yn groesawgar i ddisgyblion sydd â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol?
  • A yw’r athrawon yn defnyddio gwybodaeth am yr ieithoedd y mae’r disgyblion yn eu siarad?
  • A yw’r cwricwlwm cyfan ar gael i ddisgyblion sydd â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol? 
  • A oes unrhyw athrawon prif ffrwd wedi cael hyfforddiant i’w helpu nhw i ddeall anghenion dysgu disgyblion sydd â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol?
  • Pa mor agos yw’r cysylltiad rhwng staff cymorth Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol ac athrawon prif ffrwd?
  • Sut mae gwersi mewn dosbarthiadau prif ffrwd a, lle bo’n berthnasol, yn ystod unrhyw sesiynau tynnu allan o wersi, wedi’u trefnu i ddiwallu anghenion penodol y disgyblion sy’n dysgu Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol?
  • A yw’r darparwr yn olrhain llwyddiant ei ddarpariaeth Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol drwy werthuso cyraeddiadau’r disgyblion, ac a yw’n defnyddio’r wybodaeth i nodi targedau ar gyfer gwella?
  • Sut mae’r darparwr yn diwallu anghenion disgyblion sydd â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol pan nad oes unrhyw staff ar gael?
  • A yw’r darparwr yn darparu cyfieithiadau o lythyrau a dogfennau’r darparwr mewn ieithoedd cymunedol?  Os nad ydyw, sut mae’n cyfathrebu â rhieni sydd ag ychydig o Saesneg/Cymraeg neu ddim o gwbl?
  • Sut mae’r darparwr yn asesu anghenion disgyblion sydd â Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol os oes amheuaeth bod ganddynt anghenion addysgol arbennig hefyd?