Arweiniad atodol: Arolygu agweddau at ddysgu


Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru.  Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:

  • ysgolion a safleoedd meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion pob oed
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • addysg bellach
  • colegau arbenigol annibynnol
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • Cymraeg i oedolion
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder

Rydym hefyd:         

  • yn adrodd i Senedd Cymru ac yn darparu cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
  • yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu

Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi.  Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:

Yr Adran Gyhoeddiadau

Estyn

Llys Angor

Heol Keen

Caerdydd

CF24 5JW   neu drwy anfon e-bost at 

Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan:  www.estyn.llyw.cymru

*  Hawlfraint y Goron 2021:  Gellir ailddefnyddio’r adroddiad hwn yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei ailddefnyddio’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.  Rhaid cydnabod y deunydd fel hawlfraint y Goron a rhaid nodi teitl yr adroddiad/y cyhoeddiad penodol.

Ynglŷn â’r arweiniad hwn

Arweiniad atodol

Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Yn ychwanegol, rydym yn llunio arweiniad atodol i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach.

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai eu bod yn datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ehangu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ar ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion ffydd).

Nid yw’r dogfennau arweiniad atodol yn hollgynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth gwmpasu unrhyw agwedd ar arolygiad. Fodd bynnag, gallai arolygwyr eu gweld yn ddefnyddiol wrth ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg sy’n codi yn ystod arolygiadau, neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.

Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i ddeall trefniadau arolygu Estyn. Gallent fod yn fuddiol hefyd i ddarparwyr wrth werthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.

Mae ein gwaith arolygu yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  • Bydd arolygwyr yn arolygu â meddylfryd cadarnhaol i sicrhau bod y staff ym mhob darparwr yn cael y profiad dysgu proffesiynol gorau posibl
  • Bydd arolygwyr yn defnyddio dull arolygu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr
  • Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Bydd arolygwyr yn ceisio arfer arloesol dra ystyriol
  • Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd ag y bo modd
  • Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymatebol i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, a byddant yn defnyddio ystod gynyddol yr offer a’r dulliau arolygu sydd ar gael
  • Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr

Cyflwyniad

Diben yr arweiniad hwn yw cynorthwyo arolygwyr i lunio barnau cywir ar gryfder agweddau disgyblion at ddysgu fel rhan o arolygiadau o ysgolion a gynhelir (ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion) ac ysgolion annibynnol.

Mae datblygu agweddau ac ymddygiadau cadarnhaol, fel gwydnwch, hunanreolaeth a chreadigrwydd, yn hanfodol i gynorthwyo disgyblion â’u dysgu trwy gydol eu bywydau ac wrth ddatblygu eu lles meddyliol ac emosiynol. Mae’n bwysig fod adroddiadau arolygu yn adlewyrchu’n gywir y cryfderau a’r gwendidau yn agweddau disgyblion at ddysgu er mwyn i ysgolion allu adeiladu ar arfer effeithiol, a’u rhannu, a mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion.

Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r ffynonellau tystiolaeth y bydd angen i arolygwyr eu hystyried yn ystod arolygiadau, a’r gweithgareddau y dylent ymgymryd â nhw i lunio eu barnau. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd trafodaethau tîm wrth gyfosod tystiolaeth a llunio casgliadau, ac yn darparu esboniadau defnyddiol am y mathau o agweddau ac ymddygiadau y mae arolygwyr yn chwilio amdanynt. 

Dylid darllen yr arweiniad hwn ar y cyd â’r llawlyfrau arweiniad perthnasol ar gyfer pob sector ac arweiniad ychwanegol sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan Estyn.


Arfer effeithiol wrth arolygu agweddau at ddysgu

Ffynonellau tystiolaeth

Wrth lunio barn am agweddau disgyblion at ddysgu, dylai arolygwyr ystyried tystiolaeth o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys:

  • gwerthusiadau’r ysgol ei hun
  • arsylwadau gwersi
  • teithiau dysgu
  • ymweliadau â gwasanaethau ysgol gyfan, grwpiau blwyddyn a dosbarthiadau
  • craffu ar ystod eang o waith disgyblion, gan gynnwys cyflwyniad gwaith a pha mor dda y mae disgyblion yn ymateb i adborth ysgrifenedig
  • cyfarfodydd gyda disgyblion, a’u gwaith, gwrando ar ddisgyblion yn darllen, a thrafod agweddau disgyblion at ddysgu
  • arsylwi ansawdd ymgysylltiad disgyblion mewn clybiau a gweithgareddau amser cinio ac ar ôl yr ysgol
  • ymddygiad disgyblion mewn gwersi ac o gwmpas yr ysgol, ac ansawdd eu rhyngweithio
  • gwybodaeth o holiaduron disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr
  • cyfarfodydd â staff
  • trafodaethau tîm
  • unrhyw werthusiadau ychwanegol a gwybodaeth ategol o arolygon eraill

Dylai arolygwyr ystyried yn ofalus ganlyniadau holiaduron disgyblion i helpu llywio eu gweithgareddau arolygu mewn perthynas ag agweddau disgyblion at ddysgu. Yn benodol, bydd y tîm eisiau mynd i’r afael â materion sydd wedi codi o holiaduron fel rhan o’u cyfweliadau gyda disgyblion. Mae’n ddefnyddiol i’r arolygydd cofnodol arwain trafodaeth gyda’r tîm, neu lunio ymlaen llaw y cwestiynau penodol y bydd y tîm yn eu gofyn yn ystod eu cyfarfodydd gyda disgyblion. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb a bod y tîm yn casglu tystiolaeth berthnasol sy’n effeithiol wrth gefnogi trafodaethau ynglŷn ag unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg.

Cyfarfodydd tîm

Mae’n bwysig fod arolygwyr cofnodol yn cynllunio digon o amser yn ystod cyfarfodydd tîm i drafod agweddau disgyblion at ddysgu. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i’r agweddau a awgrymwyd gan y cwestiynau a restrir isod a’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan y tîm. Dylai’r drafodaeth fod yn bwrpasol, yn ddigonol o fanwl ac nid yn ychwanegiad brysiog at drafodaethau am safonau neu addysgu. Dylai’r tîm ystyried pa mor sefydledig y mae agweddau cadarnhaol at ddysgu ymhlith disgyblion, ac ar draws pob dosbarth. Mae’r tabl yn Atodiad 1 yn cynnig esboniad defnyddiol o’r mathau o ymddygiadau y dylai’r tîm fod yn chwilio amdanynt. Dylai’r arolygydd sy’n arwain ar MA2 ystyried defnyddio detholiad o gwestiynau o’r rhestr isod, sy’n seiliedig ar y tabl, fel sbardunau ar gyfer y drafodaeth tîm.

I ba raddau, a pha mor dda, y mae disgyblion:

  • yn barod i ymgymryd â thasgau, ac yn dyfalbarhau i’w cwblhau, gan ddal ati i ganolbwyntio ac osgoi rhywbeth sy’n tynnu eu sylw oddi ar eu gwaith?
  • yn symud yn hawdd rhwng gwahanol wersi a gweithgareddau ac yn ymdawelu’n gyflym i wneud eu gwaith?
  • yn ymgymryd â phrofiadau a syniadau newydd ac anghyfarwydd, ac yn ymdrin â thasgau mewn ffyrdd creadigol i archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer eu dysgu?
  • yn ymgysylltu â thasgau a gyflwynir o bell gan athrawon? Beth yw eu hagwedd tuag at y cynnig dysgu o bell a ddarperir gan yr ysgol?
  • yn dangos chwilfrydedd, yn canfod pleser mewn heriau ac yn fodlon â pheidio â gwybod yr ateb?
  • yn gweithio i ddarganfod atebion eraill a defnyddio ystod o ddulliau pan fydd eu ffordd gyntaf o ddatrys problem yn aflwyddiannus, neu pan fyddant eisiau mynd â’u dysgu ymhellach ar eu pen eu hunain neu gyda’u cyfoedion?
  • yn gweithredu fel dysgwyr hunanhyderus sy’n myfyrio’n feddylgar ar eu dysgu, ac yn dangos dealltwriaeth o’u cryfderau a’u gwendidau?
  • yn dangos diddordeb yn eu gwaith, a brwdfrydedd drosto, gan gynnwys agwedd gadarnhaol tuag at ddarllen, a mwynhad ohono?
  • yn dangos gwerthfawrogiad am y cyfleoedd dysgu y mae’r ysgol yn eu darparu?
  • yn arddangos synnwyr o uchelgais a dyhead am y dyfodol?
  • yn dangos creadigrwydd yn eu dysgu, a gallu i roi cynnig ar syniadau newydd, a meddwl yn ehangach?
  • yn gweithio mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft ar eu pen eu hunain, mewn grwpiau bach ac mewn lleoliadau dosbarth cyfan?
  • yn dangos parch am gyfraniadau disgyblion a phobl eraill ac yn aros yn bwyllog pan fydd anghytuno?
  • yn dangos ymddygiad da mewn gwersi, ac o gwmpas yr ysgol?
  • yn uniaethu’n dda â’i gilydd ac oedolion?
  • yn cymhwyso eu gwybodaeth am eu hardal eu hunain, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o faterion byd-eang o ran eu dysgu?

Adrodd am agweddau at ddysgu

O fewn MA2, dylai’r adroddiad ddisgrifio pa mor dda y mae disgyblion yn datblygu’r agweddau a’r ymddygiadau allweddol a fydd yn cefnogi eu dysgu trwy gydol eu bywydau. Dylai amlinellu’n glir pa mor dda y mae disgyblion yn ymgymryd â gweithgareddau dysgu a ph’un a ydynt yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd a ddarperir gan yr ysgol. Bydd angen i arolygwyr ystyried pob agwedd ar y gofynion arolygu, fel yr amlinellir yn rhan 2 y llawlyfr arweiniad arolygu ar gyfer y sector perthnasol. Fodd bynnag, dylent adrodd ‘trwy eithriad’ yn eu prif werthusiadau, h.y. adrodd ar rai agweddau dim ond pan fydd cryfderau penodol neu wendidau sylweddol. 

Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar yr hyn y mae’r disgyblion yn ei wneud, a pha mor dda y maent yn ei wneud. (Mae MA3 ac MA4 yn canolbwyntio mwy ar ansawdd darpariaeth yr ysgol, a’r cyfleoedd ar gyfer datblygu agweddau at ddysgu y mae’r ysgol yn eu darparu.) Fel arfer, dylai fod cysylltiad agos rhwng y ddau. Dylai prif werthusiadau ynglŷn ag agweddau disgyblion at ddysgu gysylltu’n dda â chynnwys yr adroddiad yn MA4. Yn yr un modd, ceir cysylltiadau agos rhwng agweddau disgyblion at ddysgu, ac ansawdd yr addysgu. Bydd agweddau disgyblion at ddysgu hefyd yn effeithio ar y safonau y maent yn eu cyflawni, fel y disgrifir yn MA1. Pan fydd anghysondebau amlwg yn y barnau rhwng meysydd arolygu, dylai’r Arolygydd Cofnodol sicrhau bod y prif werthusiadau yn esbonio’r rhesymau am hyn, a dylai cynnwys y dystiolaeth ategol gynnig cyfiawnhad addas.

Wrth lunio casgliadau am gryfder agweddau disgyblion at ddysgu, dylai’r tîm ystyried cyd-destun yr ysgol a’r cynnydd a wna’r holl ddisgyblion wrth ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu o’u mannau cychwyn. Er enghraifft, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion yn ymateb i weithgareddau sy’n herio eu syniadau, a pha mor dda y maent yn dyfalbarhau pan na fyddant yn llwyddo ar y dechrau. 

Dylai cynnwys yr adroddiad roi enghreifftiau defnyddiol sy’n rhoi synnwyr o agweddau disgyblion yn yr ysgol benodol, ac ni ddylai fod yn generig. Bydd enghreifftiau effeithiol yn egluro’r cysylltiad rhwng y gweithgarwch y mae’r disgyblion yn ymgymryd ag ef a’r agweddau penodol y mae’n eu datblygu.

Enghreifftiau sy’n cysylltu gweithgareddau ac agweddau at ddysgu yn llwyddiannus

Mae bron pob un o’r disgyblion yn cydweithio’n effeithiol iawn o oedran ifanc. Er enghraifft, mae disgyblion yn y dosbarth derbyn yn gweithio gyda’i gilydd yn bwrpasol wrth adeiladu llong torri’r iâ o flychau cardfwrdd, sef eu syniad nhw eu hunain.

Mae disgyblion hŷn yn parchu cyfraniadau disgyblion eraill ac yn myfyrio o ddifrif ar syniadau a gynigir gan eu cyfoedion. Er enghraifft, mae disgyblion Blwyddyn 6 yn cymryd rhan yn feddylgar mewn trafodaeth soffistigedig am ganlyniadau’r gêm bêl-droed ym 1914 ar dir neb yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae gan ddisgyblion lefelau uchel o ymddiriedaeth yn y staff ac maent yn credu’n gryf y byddan nhw bob amser yn gwneud eu gorau drostynt. Mae hyn yn magu hyder a hunan-barch ymhlith disgyblion, ac yn eu helpu i ddysgu a meddwl yn annibynnol. Er enghraifft, yn y cyfnod sylfaen, mae disgyblion yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain yn hyderus ynglŷn â beth maent yn ei ddysgu a sut, wrth iddynt archwilio pob agwedd ar eu hamgylchedd.

Mae lleiafrif o ddisgyblion yn araf wrth ymdawelu mewn gwersi, ac maent wedi ymddieithrio am gyfnodau hir. Mae’r disgyblion hyn yn dangos agweddau gwael at ddysgu, ac yn dangos diddordeb cyfyngedig yn eu gwaith. O ganlyniad, gwnânt gynnydd annigonol.

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn ystod gwersi ac amser chwarae. Fodd bynnag, mae ychydig o ddisgyblion, yn enwedig bechgyn yn y cyfnod sylfaen, yn colli diddordeb mewn tasgau yn hawdd ac yn tarfu ar ddysgu disgyblion eraill. Mae hyn yn aml am nad ydynt yn ddigon gweithgar, neu ni chânt ddigon o gyfleoedd i roi cynnig ar weithgareddau newydd neu arwain eu dysgu eu hunain.

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn hynod effeithiol mewn gwaith pâr neu waith grŵp. Mewn gweithgareddau ar y cyd fel trafodaethau dosbarth am faterion byd-eang, maent yn gwrando’n ofalus ac yn barchus ar ei gilydd, ac yn cynnig cymorth a her aeddfed a sensitif i syniadau eu cyfoedion. 

Mae llawer o ddisgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu. Maent yn cynorthwyo ei gilydd yn dda ac yn gweithio’n gynhyrchiol mewn parau a grwpiau, er enghraifft pan fyddant yn cydweithio i werthuso manteision ac anfanteision gwahanol fathau o lwyfannau theatr mewn drama. Mae llawer o ddisgyblion yn cynnal eu diddordeb a’u hymgysylltiad â gweithgareddau i ddatblygu eu medrau a’u dealltwriaeth yn llwyddiannus. Mewn cerddoriaeth, er enghraifft, maent yn cynnal ffocws ac yn dyfalbarhau er mwyn gwella cywirdeb ac ansawdd eu perfformiad ensemble trwy amrywio elfennau fel soniaredd a thempo. Fodd bynnag, mae lleiafrif o ddisgyblion yn rhy oddefgar ac nid ydynt yn ymgymryd â’u gwaith yn ystyrlon.

Mae disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol iawn tuag at yr ysgol a’u haddysg. Mae bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn yn eithriadol o gwrtais ac maent yn barchus iawn tuag at ei gilydd, pob aelod o staff ac ymwelwyr, yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Mae llawer ohonynt yn cynrychioli’r ysgol yn rhagorol wrth siarad ag ymwelwyr, ac maent yn ymfalchïo’n fawr wrth siarad am eu gwaith ac am fywyd ysgol. Mae ganddynt fedrau cymdeithasol cryf, ac yn trafod materion ac yn mynegi eu safbwyntiau’n aeddfed gydag oedolion.

Yn y rhan fwyaf o wersi, mae bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn yn dda, yn canolbwyntio trwy gydol y wers ac yn dyfalbarhau pan fyddant yn wynebu tasgau cymhleth. Mae llawer ohonynt yn dangos lefel uchel o wydnwch wrth ddatrys problemau ac yn cymryd perchnogaeth o’u dysgu eu hunain. Maent yn gweithio’n ddiwyd i gwblhau tasgau yn annibynnol yn y lle cyntaf, neu’n trafod gyda chyfoedion cyn gofyn i’r athro am gymorth. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd sylweddol wrth ddatblygu fel dysgwyr annibynnol.


Atodiad: Nodweddion agweddau cadarnhaol at ddysgu

Mae disgyblion yn benderfynol

A yw disgyblion yn barod i ymgymryd â thasgau, a’u cwblhau?

A yw disgyblion yn dyfalbarhau ac yn aros yn bwrpasol pan fyddant yn wynebu anawsterau?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Penderfynoldeb, gwydnwch, cadernid

Bydd disgyblion:

  • Yn gorffen tasgau a ddechreuwyd ac yn deall gwerth eu gwaith; er enghraifft, mae disgyblion yn cwblhau gweithgareddau gyda’r anogaeth leiaf gan oedolion, a gallant siarad am ba fedr y maent wedi’i wella
  • Yn dysgu mynd â’r elfennau cadarnhaol o gamgymeriadau, a gwerthfawrogi sut bydd hyn yn eu helpu i gyrraedd nod; er enghraifft, mae disgyblion yn disgrifio ble maent wedi gwneud camgymeriadau yn eu gwaith a sut gallant eu hosgoi yn y dyfodol, neu esbonio sut maent wedi gwella ar eu gwendidau
  • Yn rhoi cynnig ar syniadau heb fod yn sicr o’r canlyniad terfynol tebygol
  • Yn dangos y medrau a’r wybodaeth i weithio mor annibynnol ag y gallant, a cheisio arweiniad a chymorth pellach pan fydd angen yn unig
  • Yn wynebu a goresgyn heriau fel y maent yn codi, trwy addasu eu dulliau a’u strategaethau; er enghraifft, trwy ddarganfod a rhoi cynnig ar atebion gwahanol i ddatrys problem pan fyddant yn methu i ddechrau

A yw disgyblion yn dal ati i ganolbwyntio ac osgoi unrhyw beth sy’n tynnu eu sylw?

A yw disgyblion yn barod i ddysgu ar ddechrau gwersi? A ydynt yn symud yn hawdd rhwng gwahanol wersi a gweithgareddau?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Hunanreolaeth, Hunangyfeiriad

Bydd disgyblion:

  • Yn talu sylw ac yn ymwrthod ag unrhyw beth sy’n tynnu eu sylw, er enghraifft yn dal ati i ganolbwyntio ar dasg er gwaethaf ymyriadau amgylcheddol posibl, er enghraifft gan ddisgyblion eraill
  • Yn cofio ac yn dilyn cyfarwyddiadau, ond yn gwneud addasiadau pan fyddant yn wynebu anawsterau, er enghraifft yn dod o hyd i ffyrdd eraill o gofnodi canlyniadau arbrawf gwyddonol pan fydd technoleg yn methu
  • Yn dangos medrau hunandrefnu da ac yn dechrau tasgau ar unwaith, yn hytrach na gohirio pethau, er enghraifft casglu’r offer neu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt, a dechrau ar eu gwaith yn gyflym ar ddechrau gweithgaredd
  • Yn aros yn bwyllog hyd yn oed pan gânt eu beirniadu, er enghraifft wrth gymryd rhan mewn trafodaethau fel rhan o weithgareddau dosbarth cyfan neu grŵp bach, neu dderbyn adborth fel rhan o asesu cyfoedion
  • Yn caniatáu i bobl eraill siarad heb dorri ar eu traws, ac yn ymateb yn briodol

Pa mor dda y mae disgyblion yn ymgymryd â phrofiadau a syniadau newydd ac anghyfarwydd?

A yw disgyblion yn chwilio am atebion eraill pan fydd eu dull cyntaf o ymdrin â phroblem yn aflwyddiannus?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Chwilfrydedd ac awydd i ddatrys problemau

Bydd disgyblion:

  • Yn awyddus i archwilio pethau newydd; er enghraifft, mae disgyblion yn awgrymu syniadau am destunau newydd i’w hastudio neu’n ymateb gyda diddordeb a brwdfrydedd pan fyddant yn wynebu themâu newydd neu dasgau anghyfarwydd
  • Yn gofyn ac yn ateb cwestiynau i ddyfnhau eu dealltwriaeth; er enghraifft, mae disgyblion yn gofyn cwestiynau tra ystyriol, neu’n defnyddio gwybodaeth yn fedrus i ateb cwestiynau
  • Yn mwynhau datrys problemau; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos brwdfrydedd dros ddod o hyd i atebion fel rhan o ymchwiliad mathemateg ac yn rhoi cynnig ar nifer o ddulliau
  • Yn meddwl yn greadigol ac yn ehangach i ail-lunio a datrys problemau; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos amrywiaeth o ddulliau i’w hystyried ac yn datrys problemau trawsgwricwlaidd, er enghraifft sut i leihau’r defnydd o blastig
  • Yn fodlon â pheidio â gwybod yr ‘ateb’ ond yn dangos chwilfrydedd a holgarwch

A yw disgyblion yn deall eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain?

Pa mor dda y mae disgyblion yn myfyrio ar eu dysgu eu hunain?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Dysgwyr hunanymwybodol

Bydd disgyblion:

  • Yn dangos dealltwriaeth glir o’r hyn y maent yn ei wneud yn dda, a’r hyn y mae angen iddynt ei wella; er enghraifft, maent yn siarad am ba mor llwyddiannus y buont mewn dysgu blaenorol, y meysydd y mae angen iddynt eu datblygu ymhellach, a sut byddant yn gwneud gwelliannau
  • Yn esbonio’r syniadau a’r cysyniadau y maent yn dysgu amdanynt, ac yn deall sut mae’r rhain yn cyd-fynd â gweddill eu dysgu; er enghraifft, maent yn disgrifio’r medrau y maent wedi eu gwella, neu wybodaeth y maent wedi’i dysgu yn ystod y wers, ac yn cysylltu hyn â dysgu blaenorol neu bynciau/testunau eraill
  • Yn rhannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu neu’r medrau newydd y maent wedi’u datblygu yn effeithiol a hyderus, gyda’u cyfoedion neu’r gymuned ehangach; er enghraifft, ar ddiwedd testun gwaith, mae disgyblion yn cynllunio a chyflwyno gwasanaeth er mwyn i rieni rannu eu dysgu

Mae disgyblion yn optimistaidd

A yw disgyblion yn dangos diddordeb yn eu gwaith, a brwdfrydedd drosto?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Brwdfrydedd ac arddeliad

Bydd disgyblion:

  • Yn cymryd rôl weithredol yn eu dysgu; er enghraifft, mae disgyblion yn awyddus i ddarganfod mwy am eu testun a chyfrannu eu meddyliau a’u syniadau eu hunain, gan gynnwys cynllunio gweithgareddau neu wersi penodol
  • Yn dangos brwdfrydedd a diddordeb yn eu dysgu, ac ymgysylltiad cryf â dulliau newydd a chreadigol; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos hunangymhelliant yn eu tasgau, nid oes angen rhyw lawer o ymyrraeth gan oedolyn arnynt i wneud cynnydd, ac maent yn meddwl am syniadau newydd gydag ychydig iawn o anogaeth gan oedolion, os o gwbl
  • Yn adnabod ac yn achub ar gyfleoedd ac yn chwilio’n annibynnol am ffyrdd i ymestyn eu dealltwriaeth; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos annibyniaeth wrth ddewis gweithgareddau y maent yn credu y byddant o fudd i’w dysgu, fel dewis gwahanol ddulliau o gynnal arbrawf gwyddonol neu ymgymryd ag ymchwil bellach ar destun dosbarth gartref
  • Yn helpu bywiogi disgyblion eraill yn eu dysgu; er enghraifft, mae agweddau cadarnhaol y disgyblion eu hunain tuag at eu dysgu yn helpu cynorthwyo ac annog dysgu disgyblion eraill
  • Yn gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain, ac yn rhoi cynnig ar her a’i mwynhau; er enghraifft, o gael cyfle, bydd disgyblion yn ceisio ymgymryd â thasgau sy’n eu herio, ac o bryd i’w gilydd, yn mynd â nhw y tu hwnt i sefyllfa y maent yn gyfarwydd â hi

A yw disgyblion yn werthfawrogol?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Diolchgarwch

Bydd disgyblion:

  • Yn cydnabod ac yn dangos gwerthfawrogiad o bobl eraill; er enghraifft, mae disgyblion yn disgrifio’r modd y mae gweithio gyda’u cyfoedion yn eu helpu i ddatblygu eu medrau eu hunain
  • Yn cydnabod ac yn dangos gwerthfawrogiad ar gyfer eu cyfleoedd eu hunain; er enghraifft, mae disgyblion yn siarad am y modd y mae’r gweithgareddau sy’n cael eu cynllunio gan eu hathro, fel ymweliadau â’r gymuned leol, yn gwella eu dysgu

Pa mor hyderus yw disgyblion?

A ydynt yn dangos synnwyr o uchelgais, ac a oes ganddynt uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Hyder ac uchelgais

Bydd disgyblion:

  • Yn barod i roi cynnig ar brofiadau newydd a chyfarfod â phobl newydd; er enghraifft, mae disgyblion yn gofyn cwestiynau difyr a buddiol i ymwelwyr
  • Yn mynd ar drywydd breuddwydion ac uchelgeisiau; er enghraifft, mae disgyblion yn trafod eu huchelgeisiau ac yn disgrifio pwysigrwydd eu dysgu, a sut bydd yn eu helpu yn y dyfodol
  • Yn mentro’n ofalus; er enghraifft, mae disgyblion yn deall pwysigrwydd defnyddio camau diogelwch priodol fel rhan o ymchwiliadau gwyddonol neu wersi Addysg Gorfforol, er mwyn iddynt allu mentro a datblygu eu medrau
  • Yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi; er enghraifft, mae disgyblion yn cefnogi ei gilydd ac yn canolbwyntio’n dda i gwblhau tasgau cynyddol gymhleth
  • Yn meddu ar yr hyder i gymryd rhan mewn perfformiadau; er enghraifft, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau i weddill y dosbarth i ddangos a datblygu medrau cerddorol, dramatig neu gorfforol newydd

Pa mor greadigol yw disgyblion?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Creadigrwydd, Dychymyg

Bydd disgyblion:

  • Yn dangos gwreiddioldeb a dychymyg wrth gwblhau tasgau
  • Yn profi ac archwilio sefyllfaoedd o safbwynt arall ac yn hapus i ystyried gwahanol opsiynau
  • Yn mwynhau arbrofi â phosibiliadau, diystyru rhagdybiaethau a derbyn yr anghyfarwydd, er enghraifft wrth gydweithio â disgyblion eraill i greu drama ar sail eu hastudiaethau mewn hanes; caiff disgyblion eu cymell gan dasgau nad oes iddynt ganlyniadau wedi’u pennu ymlaen llaw neu ganlyniadau penodedig
  • Yn adnabod a datblygu syniadau newydd; er enghraifft, maent yn mwynhau cymhwyso eu medrau llythrennedd i ddatblygu darnau dychmygus o ysgrifennu sy’n adlewyrchu’r hyn y maent wedi’i ddysgu ym meysydd eraill y cwricwlwm, fel hanes ac Addysg Grefyddol
  • Yn ffurfio syniadau gwreiddiol a newydd o symbyliadau; er enghraifft, mae disgyblion yn dylunio gwefan i hyrwyddo digwyddiadau cerddorol
  • Yn ymgymryd â phrosiectau dychmygus neu’n mynd i’r afael â gwaith mewn ffordd arloesol
  • Yn bod yn ddyfeisgar; yn defnyddio adnoddau presennol mewn ffordd wreiddiol, er enghraifft defnyddio offeryn mapio realiti rhithwir ar-lein i nodi’r safle gorau yng Nghymru i adeiladu maes rocedi

Mae disgyblion yn emosiynol ddeallus

A yw disgyblion yn aros yn bwyllog pan fydd disgyblion eraill yn anghytuno â nhw?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Gwyleidd-dra

Bydd disgyblion:

  • Yn dod o hyd i atebion yn ystod achosion o wrthdaro â disgyblion eraill; er enghraifft, wrth gydweithio â’u cyfoedion, mae disgyblion yn dangos y gallu i gyfaddawdu, cymathu syniadau disgyblion eraill ac addasu eu hatebion
  • Yn cydnabod bod gwahanol safbwyntiau, sydd weithiau’n gwrth-ddweud ei gilydd, yn gallu eu helpu i ffurfio eu safbwynt eu hunain
  • Yn sensitif i deimladau ac emosiynau pobl

Pa mor dda y mae disgyblion yn dangos parch at gyfraniadau disgyblion eraill, er enghraifft trwy ganiatáu i ddisgyblion eraill siarad?

A yw disgyblion yn dangos ymddygiad da mewn gwersi ac o gwmpas yr ysgol?

A yw disgyblion yn ymddwyn yn dda amser cinio ac amser egwyl?

A yw disgyblion yn ystyriol, ac a ydynt yn uniaethu’n dda â’i gilydd ac oedolion?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Parch a moesau da

Bydd disgyblion:

  • Yn dangos parch at deimladau pobl eraill, er enghraifft yn cydnabod pan fydd disgyblion eraill yn cael trafferth â chysyniadau newydd ac yn rhoi cymorth pan fo’n briodol
  • Yn gwybod pryd a sut i gynnwys disgyblion eraill; er enghraifft, fel rhan o drafodaethau dosbarth cyfan neu grŵp bach, mae disgyblion yn gofyn am gyfraniadau gan ddisgyblion eraill, ac yn gwerthfawrogi hyn
  • Yn gwrtais at oedolion a’u cyfoedion

A yw disgyblion yn cymhwyso eu gwybodaeth gefndirol a’u hymwybyddiaeth o faterion byd-eang i’w dysgu?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Sensitifrwydd i bryderon byd-eang, cyfrifoldeb cymdeithasol

Bydd disgyblion:

  • Yn dangos ymwybyddiaeth gynyddol o faterion byd-eang a’u heffaith ar fywydau pobl; er enghraifft, mae disgyblion yn codi pryderon ynglŷn â’r effaith amgylcheddol wrth baratoi ar gyfer trafodaeth ar ddatblygiad arfaethedig archfarchnad newydd yn eu tref

Pa mor dda y gall disgyblion weithio mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft yn annibynnol, mewn grwpiau bach ac mewn lleoliadau dosbarth cyfan?

Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:

  • Cydweithio’n effeithiol

Bydd disgyblion:

  • Yn arwain ac ymgymryd â rolau gwahanol mewn timau yn effeithiol ac yn gyfrifol
  • Yn gweithio’n hyblyg mewn grŵp, gan ddiystyru dewisiadau personol weithiau i dderbyn syniadau disgyblion eraill
  • Yn defnyddio eu hegni a’u medrau er mwyn i bobl eraill elwa; er enghraifft, mae disgyblion yn barod i gynorthwyo eu cyfoedion i’w helpu i wella eu medrau a’u gwybodaeth
  • Yn ffurfio perthnasoedd cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch ar y ddwy ochr; er enghraifft, mae disgyblion yn cydweithredu’n dda â disgyblion eraill, gan gynnwys y rheiny o wahanol gefndiroedd cymdeithasol, rhywedd, ethnigrwydd a grwpiau ffrindiau
  • Yn gwrando ar ddisgyblion eraill, gan dderbyn eu syniadau neu ddarparu her feirniadol adeiladol