Arweiniad atodol ar gyfer arolygu llythrennedd Cymraeg a Saesneg mewn ysgolion
Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:
- ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
- ysgolion cynradd
- ysgolion uwchradd
- ysgolion pob oed
- ysgolion arbennig
- unedau cyfeirio disgyblion
- ysgolion annibynnol
- addysg bellach
- colegau arbenigol annibynnol
- dysgu oedolion yn y gymuned
- gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
- addysg a hyfforddiant athrawon
- Cymraeg i oedolion
- dysgu yn y gwaith
- dysgu yn y sector cyfiawnder
Rydym hefyd:
- yn adrodd i Senedd Cymru ac yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
- yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu.
Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:
Yr Adran Gyhoeddiadau
Estyn
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW neu drwy anfon e-bost at
Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan: www.estyn.llyw.cymru
Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).
Arweiniad atodol
Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried agweddau pellach penodol ar addysg a hyfforddiant.
Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai bod y dogfennau’n datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).
Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.
Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i gael dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn hefyd. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran arfarnu agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.
Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:
- Bydd arolygwyr yn mynd ati i arolygu’n gadarnhaol, i sicrhau mai’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl fydd hwn ar gyfer y staff ym mhob darparwr
- Bydd arolygwyr yn arolygu ar sail dull sy’n cael ei arwain gan y dysgwr
- Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
- Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol, graff
- Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd â phosibl
- Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymateb i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac yn defnyddio ystod gynyddol yr adnoddau a dulliau arolygu sydd ar gael
- Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr
Arolygu llythrennedd
Mae llythrennedd yn fedr hanfodol sy’n galluogi disgyblion i ddeall iaith ysgrifenedig ac iaith lafar, dehongli’r hyn sydd wedi cael ei ysgrifennu neu’i ddweud, a llunio casgliadau o dystiolaeth. Mae llythrennedd yn cyfeirio at y gallu i gyfathrebu’n rhugl, yn gymhellol ac yn berswadiol hefyd.
Y tasgau allweddol ar gyfer arolygwyr yw gwerthuso:
- pa mor dda y mae disgyblion yn datblygu’r medrau llythrennedd sydd eu hangen arnynt i elwa ar y cwricwlwm cyfan a dysgu’n effeithiol
- pa mor dda y mae addysgu a phrofiadau dysgu yn datblygu medrau llythrennedd disgyblion
- ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth o ran cydlynu’r ddarpariaeth i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion
Dylai arolygwyr adrodd ar fedrau llythrennedd disgyblion ym mhob arolygiad, a phan fo’n briodol, adrodd ar unrhyw ddeilliannau neu ddangosyddion sy’n ymwneud â’r medrau hyn.
- Bwriad yr arweiniad canlynol yw cynorthwyo arolygwyr i werthuso ac adrodd ar safonau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu disgyblion ac ar eu gallu i ddefnyddio eu medrau llythrennedd mewn gwaith ar draws y cwricwlwm. Er bod yr arweiniad yn cynnwys gwybodaeth am ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer llythrennedd, dylai arolygwyr gofio y dylai’r prif ffocws fod ar yr effaith a gaiff ar ddysgu a chynnydd disgyblion. Yn ychwanegol, wrth arolygu’r Gymraeg, dylai arolygwyr gyfeirio at yr Arweiniad Atodol: Y Gymraeg mewn lleoliadau nas cynhelir, ysgolion ac UCDau cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg.
Casglu ac adolygu tystiolaeth arolygu
Bydd y tîm yn cynllunio’r arolygiad er mwyn iddynt allu casglu tystiolaeth am lythrennedd o fewn y pum maes arolygu. Bydd yr Arolygydd Cofnodol yn sicrhau bod gan y tîm ddigon o amser i adolygu’r dystiolaeth allweddol sydd ei hangen arno i lunio ei farnau. Dyma’r prif ffurfiau tystiolaeth:
- samplau o waith disgyblion mewn gwaith iaith, llythrennedd a chyfathrebu a Chymraeg / Saesneg (yn cynnwys gwaith sy’n cael ei gwblhau ar-lein)
- samplau o waith disgyblion o feysydd dysgu a phynciau eraill
- gwrando ar weithgareddau disgyblion, er enghraifft gwrando arnynt yn darllen ar goedd ac yn trafod testunau, trafodaethau gyda nhw am eu gwaith llythrennedd
- trafodaethau gyda staff, arweinwyr, llywodraethwyr, rhieni a phobl eraill
- arsylwi addysgu a gweithgareddau eraill, gan gynnwys tystiolaeth a gasglwyd trwy deithiau dysgu sy’n canolbwyntio ar agwedd benodol ar waith llythrennedd, er enghraifft siarad â disgyblion am eu darllen
- tystiolaeth ddogfennol, gan gynnwys gwybodaeth am ddysgu a chynnydd disgyblion (fel dadansoddi sgorau darllen safonedig grwpiau penodol, a chynnydd disgyblion ar raglenni ymyrraeth llythrennedd), a gwerthusiadau o gynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu llythrennedd
Bydd y tîm yn defnyddio arsylwadau uniongyrchol o waith disgyblion, ble bynnag y bo modd, i gasglu tystiolaeth i gefnogi ei farnau. Gallai arolygwyr ddewis sampl ychwanegol o waith disgyblion, os bydd angen, i ymestyn eu hymchwiliad mewn agwedd benodol ar lythrennedd. Byddant yn arsylwi addysgu a gweithgareddau eraill.
Mae llais disgyblion yn ffynhonnell dystiolaeth allweddol ar gyfer arolygwyr. Bydd trafodaethau gyda disgyblion yn rhoi cyfle i archwilio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u gwaith. Bydd hefyd yn helpu arolygwyr i gael amcan o ba mor dda y mae’r ysgol yn cynorthwyo disgyblion ac yn cyfrannu at eu cynnydd.
Dylai ysgolion drefnu bod gwybodaeth ar gael i’r tîm arolygu am y safonau llythrennedd a gyflawnir gan ddisgyblion, yn enwedig canlyniadau unrhyw brofion sgrinio cychwynnol ac unrhyw asesiadau eraill. Bydd hyn yn helpu arolygwyr i werthuso cynnydd disgyblion, llunio barn am y safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni o gymharu â’u mannau cychwyn, a’r ffordd y mae athrawon yn defnyddio’r wybodaeth o asesu i lywio eu cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol.
Bydd angen i’r tîm ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid am yr ysgol a phrofi dilysrwydd y safbwyntiau hynny yn ystod yr arolygiad.
Pwyntiau i’w hystyried:
- A yw disgyblion yn amgyffred ystyr, yn datblygu dealltwriaeth ac yn ymestyn eu geirfa trwy wrando ar bobl eraill?
- A yw disgyblion yn dysgu’r wybodaeth a’r medrau sy’n cefnogi cyfathrebu effeithiol ar lafar mewn ystod o gyd-destunau a lleoliadau?
- A yw disgyblion (mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn defnyddio medrau cyfryngu i gefnogi cyfathrebu effeithiol?
- A yw disgyblion yn elwa ar destunau sy’n ddigon cyfoethog a sylweddol i ennyn eu diddordeb yn ddeallusol ac yn emosiynol?
- A oes tystiolaeth o ddisgyblion yn datblygu eu medrau darllen trwy dasgau wedi eu seilio ar: ddealltwriaeth lythrennol a chasgliadol, gwerthuso a gwerthfawrogi, adalw gwybodaeth, dadansoddi a chyfosod?
- A yw disgyblion (mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn defnyddio eu medrau trawsieithu, er enghraifft i ddarllen yn Saesneg a chyfosod eu canfyddiadau yn Gymraeg?
- A yw disgyblion yn llunio rhagdybiaethau, yn crynhoi ac yn llunio casgliadau o’u darllen?
- A yw disgyblion yn ysgrifennu ar draws y cwricwlwm i’r un safonau y maent yn eu cyflawni mewn sesiynau iaith, llythrennedd a chyfathrebu neu wersi Cymraeg / Saesneg?
- A ydynt yn ysgrifennu ar draws ystod o genres ar gyfer gwahanol ddibenion a chynulleidfaoedd, gan strwythuro eu gwaith yn briodol?
- A ydynt yn cynllunio, yn ailddrafftio ac yn golygu eu gwaith yn effeithiol?
- A yw sillafu ac atalnodi yn briodol i oedran?
- A yw llawysgrifen a chyflwyniad yn glir?
- A yw gweithgareddau dysgu yn fwriadus ac a ydynt yn adeiladu’n llwyddiannus ar beth mae disgyblion yn ei wybod ac yn gallu ei wneud?
- A oes tystiolaeth glir o her briodol i’r holl ddisgyblion?
- A yw adborth yn helpu disgyblion i wella eu medrau llythrennedd?
Yn ystod yr arolygiad
MA1 Dysgu
Dylai arolygwyr adrodd yn glir ar ba mor dda y mae disgyblion yn gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu wrth werthuso datblygiad eu gwybodaeth, medrau a chyflawniadau mewn llythrennedd. Dylent ystyried i ba raddau y mae disgyblion yn meddu ar y medrau sydd eu hangen i elwa ar y cwricwlwm cyfan a pha mor dda y mae’r cwricwlwm ehangach ei hun yn datblygu medrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu disgyblion, yn briodol i’w hoedrannau a’u mannau cychwyn.
Wrth werthuso cynnydd grwpiau penodol o ddisgyblion, er enghraifft y rhai sydd â’r Gymraeg / Saesneg yn iaith ychwanegol, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai sy’n fwy abl, dylai arolygwyr ystyried p’un a ydynt yn gwneud cymaint o gynnydd ag y gallent. Mae’n bwysig fod arolygwyr yn ystyried lefel yr her y mae disgyblion yn ei hwynebu a’u dysgu blaenorol, wrth ddefnyddio eu medrau llythrennedd.
Dylai arolygwyr nodi sefyllfaoedd lle caiff disgyblion anhawster â’u medrau llythrennedd, a ble mae hyn yn rhwystro eu dysgu ar draws y cwricwlwm. Bydd angen i arolygwyr nodi achosion posibl hyn, er enghraifft anallu disgyblion i wahaniaethu rhwng seiniau, eu diffyg ymwybyddiaeth ffonemig, geirfa gyfyngedig a gwybodaeth gyfyngedig am strategaethau ar gyfer sillafu.
Gwrando a siarad
Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion:
yn gwrando i ddeall, galw i gof, dehongli’r hyn y maent yn ei glywed, ac yn dod i gasgliad ynglŷn ag ef
yn gwahaniaethu seiniau, ac yn datblygu ac addasu eu geirfa a’u strwythur brawddeg wrth siarad (trwy wrando)
- yn gwrando i ddatblygu eu dealltwriaeth o gysyniadau a syniadau allweddol, ac yn cymhwyso’r ddealltwriaeth hon i sefyllfaoedd newydd
- yn cymryd eu tro mewn sgwrs, yn dilyn y testun, ac yn rheoli eu cyfraniadau a rhyngweithio yn briodol
- yn gwrando ar bobl eraill (er enghraifft i gael gwahanol safbwyntiau a syniadau) ac yn defnyddio technegau i gofio prif bwyntiau eu sgwrs (er enghraifft gwneud nodiadau, crynhoi)
- yn ymateb yn briodol i bobl eraill mewn ffordd sy’n gweddu i’r pwnc, y cyd-destun, y gynulleidfa a’r diben (er enghraifft herio’r hyn sy’n cael ei glywed ar sail rheswm, tystiolaeth neu ddadl i lunio eu casgliadau eu hunain)
- yn gofyn ac yn ateb cwestiynau i egluro eu dealltwriaeth o’r hyn sydd wedi cael ei glywed, ac yn ymateb i bobl eraill trwy roi sylwadau ac awgrymiadau (er enghraifft i adeiladu ar farn pobl eraill mewn gwaith ar y cyd)
- yn ynganu geiriau’n gywir ac yn siarad yn glir mewn cywair priodol
- yn defnyddio strwythurau brawddeg yn gywir, ac yn gwneud dewisiadau priodol o ran geirfa
- (mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn cyfleu ystyr o un person i un arall, yn yr un iaith neu o un iaith i un arall, er enghraifft trwy drosglwyddo, esbonio neu gyfieithu gwybodaeth neu syniadau?
- yn cyfleu syniadau a gwybodaeth yn fanwl gywir, yn effeithiol ac yn hyderus (er enghraifft yn pwysleisio pwyntiau allweddol, gan roi esboniad yn ei drefn)
- yn amrywio tôn, cyflymdra eu siarad ac yn taflu eu llais i weddu i’r gynulleidfa a’r diben
- yn dangos ymwybyddiaeth o’r gwrandäwr ac yn ystyried lefel dealltwriaeth y gynulleidfa (er enghraifft trwy dalu sylw i osgo, ystum, mynegiant yr wyneb, cyswllt llygad a defnyddio technegau rhethregol)
- yn ymgymryd ag ystod o gyfrifoldebau i strwythuro a datblygu trafodaethau grŵp (er enghraifft cynnal ffocws ar y dasg, rheoli amser, crynhoi)
- yn archwilio eu syniadau eu hunain a syniadau pobl eraill yn feirniadol ac yn sensitif
- yn cynnal rôl neu safbwynt argyhoeddiadol
Darllen
Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion:
- yn datblygu medrau cyn-darllen ac ymddygiadau darllen cynnar fel sylfeini hanfodol ar gyfer darllen (er enghraifft gwrando ar stori, trin a thrafod llyfrau fel darllenydd, canu caneuon a rhigymau, ac adnabod eu henwau eu hunain)
- yn datblygu dealltwriaeth ffonolegol ac ymwybyddiaeth ffonemig
- yn darllen ystod eang o destunau ar goedd â mynegiant, yn rhoi sylw i atalnodi, ac yn amrywio tonyddiaeth, llais a chyflymdra i gyfleu ystyr
- yn dal ati i ganolbwyntio i ddarllen testunau yn annibynnol, yn cynnwys nofelau cyflawn
- yn defnyddio ystod o strategaethau i wneud synnwyr o eiriau, brawddegau a thestunau cyfan (er enghraifft gwybodaeth ffonemig neu ffonolegol, bonion geiriau, teuluoedd geiriau, strwythur brawddeg, trefniadaeth testun, gwybodaeth flaenorol)
- yn defnyddio eu darllen eu hunain, a bod rhywun yn darllen iddynt, i ddatblygu eu geirfa a strwythurau brawddeg, yn cynnwys geiriau yn benodol i ddisgyblaeth (er enghraifft condensation, tundra, modulation) a geiriau sy’n digwydd mewn testunau ar draws y cwricwlwm (er enghraifft reasoned, decline, integrate, entity), sy’n tueddu i beidio â digwydd mor aml wrth sgwrsio
- yn nodi testun neu thema testun (print neu weledol) ac yn dangos eu dealltwriaeth o brif syniadau’r testun
- yn defnyddio ystod o strategaethau i ddod o hyd i wybodaeth, dewis a defnyddio gwybodaeth o ystod eang o ffynonellau (er enghraifft darllen agos, anodi, crynhoi, cyfosod, dadansoddi)
- yn defnyddio rhesymu a dod i gasgliad i ddeall testunau, ac ystyried dibynadwyedd yr hyn y maent yn ei ddarllen neu’n ei weld, gan wahaniaethu rhwng ffeithiau, damcaniaethau, barn a rhagfarn
- yn darllen yn werthfawrogol (er enghraifft ystyried pa mor effeithiol y mae testunau yn cyfleu gwybodaeth, syniadau a barn, ac yn ennyn sylw’r darllenydd)
- yn ymateb i’r hyn y maent yn ei ddarllen neu’n ei weld, yn gofyn cwestiynau, gwneud cymariaethau, a mynegi safbwyntiau a ffafriaethau
- yn gwerthuso gwahanol safbwyntiau yn feirniadol i lunio casgliadau ystyriol
- yn deall ac yn archwilio’r modd y gellid dehongli testunau, gan nodi sut maent yn amrywio o ran diben ac effaith
- yn ymateb (ar lafar neu yn ysgrifenedig) yn hyderus i syniadau a gwybodaeth y maent wedi eu darllen, gan ddefnyddio eu medrau darllen datblygedig
- (cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn defnyddio medrau trawsieithu pan fyddant yn darllen (er enghraifft i esbonio syniadau cymhleth yn Gymraeg ar ôl ymchwilio i erthyglau a ysgrifennwyd yn Saesneg)
- yn defnyddio eu medrau darllen i allu dysgu ar draws y cwricwlwm
Ysgrifennu
Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion
- threbu trwy greu marciau, darlunio symbolau neu ysgrifennu llythrennau a geiriau mewn ystod o gyd-destunau
- yn ffurfio llythrennau, ac yn defnyddio eu gwybodaeth am lythrennau a’r seiniau y maent yn eu cynrychioli, i ysgrifennu geiriau ac ymadroddion
- yn defnyddio ystod o strategaethau i geisio sillafu geiriau dieithr (er enghraifft teuluoedd geiriau, bonion, patrymau llythrennau, morffoleg, gwybodaeth graffig, gwybodaeth ffonemig)
- yn ysgrifennu’n gywir ac yn eglur (er enghraifft, defnyddio ffurfiau safonol iaith a sillafu, yn cynnwys treiglo pan fydd yn briodol yn Gymraeg)
- yn defnyddio ystod o atalnodi yn gywir i amrywio cyflymdra, egluro ystyr, osgoi amwysedd a chreu effeithiau bwriadol
- yn ysgrifennu gan ddefnyddio geirfa ddychmygus, amrywiol a manwl gywir yn gynyddol, ac amrywio strwythurau brawddeg i greu effaith
- yn addasu eu harddull ysgrifennu i weddu i’r gynulleidfa, y diben a’r cyd-destun
- yn ysgrifennu mewn ystod eang o fathau o destun yn annibynnol ac yn estynedig, heb ddibynnu’n ormodol ar gymorth oedolyn neu sgaffaldiau
- yn cynllunio, trefnu a chyflwyno syniadau a gwybodaeth yn briodol (er enghraifft trwy drefnu eu hysgrifennu mewn dilyniant rhesymegol, gan strwythuro eu hysgrifennu mewn paragraffau)
- yn myfyrio ar, ailddrafftio a golygu eu hysgrifennu i wella ei gynnwys a’i gywirdeb, gan ymateb yn adeiladol i adborth, pan fydd yn briodol
- yn ysgrifennu yn holl feysydd y cwricwlwm a ph’un a ydynt yn ysgrifennu i’r un safon ag y maent yn eu gwaith yn Gymraeg / Saesneg
MA2 Lles ac agweddau at ddysgu
Wrth ystyried lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu, dylai arolygwyr ystyried:
- pa mor dda y mae disgyblion yn defnyddio eu medrau llythrennedd i gefnogi a gwella eu lles a’u hunan-barch, er enghraifft p’un a ydynt yn gallu siarad ac ysgrifennu am eu teimladau a’u hemosiynau, a dangos empathi a pharch at bobl eraill
- agweddau disgyblion at eu gwaith llythrennedd, er enghraifft p’un a ydynt yn gallu dal ati i ganolbwyntio yn ystod tasgau ysgrifenedig i fireinio a gwella ansawdd eu hysgrifennu
- pa mor dda y mae disgyblion yn cynllunio, yn monitro ac yn gwerthuso datblygiad eu llythrennedd
- p’un a yw disgyblion yn mwynhau darllen ac yn gwneud dewisiadau gwybodus am yr hyn y maent yn ei ddarllen
- pa mor dda y mae disgyblion yn defnyddio hunanreoleiddio os ydynt yn wynebu anawsterau wrth ddarllen ac ysgrifennu yn annibynnol
MA3 Addysgu a phrofiadau dysgu
Nid oes gan Estyn unrhyw ddulliau y mae’n eu ffafrio ar gyfer addysgu llythrennedd. Dylai athrawon fod yn ystyriol o ddatblygiad llythrennedd disgyblion a strwythuro sesiynau yn y ffordd sydd fwyaf priodol i’r disgyblion gyflawni’r deilliannau dysgu bwriadedig, yn eu barn nhw, a’r amcanion dysgu yr hoffent i’r dysgwyr eu cyflawni.
Dylai arolygwyr werthuso addysgu mewn perthynas â llwyddiant y dysgu a’r cynnydd a wna dysgwyr, ac yng nghyd-destun eu dysgu a’u cynnydd dros gyfnod, nid ar y dulliau a ddefnyddir na’r math o arddull addysgu.
Dylai arolygwyr nodi a yw dulliau yn rhwystro datblygiad medrau disgyblion, er enghraifft:
- lle mae’r addysgu yn rhy gyfarwyddiadol oherwydd bod gan ddisgyblion amgyffrediad digon da o’r cynnwys neu’r medrau i fynd ymlaen ar eu pennau eu hunain
- defnydd diangen o daflenni gwaith sy’n cyfyngu ar gyfleoedd i ddisgyblion ysgrifennu’n annibynnol neu’n estynedig
- peidio â darparu sgaffaldio digonol yn ddigon hir i ddisgyblion â medrau darllen ac ysgrifennu gwannach, neu
- pan mae disgwyliad y bydd athrawon yn defnyddio dull penodol o gynllunio a chyflwyno gwersi, er nad yw bob amser yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu medrau llythrennedd yn ddigon da
Dylai arolygwyr werthuso p’un a yw’r cwricwlwm yn adeiladu’n systematig ac yn gydlynus ar wybodaeth, dealltwriaeth a medrau llythrennedd presennol disgyblion i sicrhau dilyniant wrth iddynt symud trwy’r ysgol.
Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae addysgu llythrennedd:
- yn darparu modelau rôl iaith cryf ar gyfer disgyblion, sy’n dylanwadu ar ddatblygiad eu medrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu
- yn bodloni anghenion datblygiadol disgyblion mewn iaith a llythrennedd, er enghraifft trwy beidio â’u cyflwyno i addysgu ffoneg ffurfiol cyn iddynt fod ar gam datblygiadol addas
- yn sicrhau bod disgyblion yn meddu ar ddealltwriaeth briodol o’r hyn y byddant yn ei ddysgu, a sut mae hyn yn cysylltu â gweithgareddau iaith a llythrennedd blaenorol
- yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth dda o sut i lwyddo yn eu dysgu, er enghraifft trwy ddarparu modelau effeithiol o wahanol fathau o ysgrifennu
- yn sgaffaldio datblygiad medrau disgyblion yn briodol
- yn modelu prosesau meddwl i ddatblygu medrau metawybyddol disgyblion, er enghraifft i egluro’r dewisiadau a wna siaradwr wrth gyflwyno dadl
- yn archwilio dealltwriaeth disgyblion trwy holi treiddgar sy’n eu herio i ddatblygu eu hatebion ar lafar ar yr un pryd, er enghraifft trafod achos ac effaith, neu resymu a dadlau
- yn cynorthwyo disgyblion â medrau cyfathrebu gwan i gaffael geirfa a phatrymau brawddeg allweddol ar lafar
- yn helpu disgyblion i ddysgu ‘siarad’ yn ogystal â dysgu ‘trwy siarad’, trwy ddatblygu’r amrywiaeth lawn o fedrau gwrando a siarad, fel: dadlau, chwarae rôl, cyfweld, cyflwyno, archwilio
- yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o dafodiaith, priodiaith a chywair fel rhan o gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
- yn datblygu medrau darllen cynnar disgyblion trwy ymagwedd systematig a chyson at addysgu ffoneg a geiriau amlder uchel
- yn adeiladu ar fedrau darllen cynnar disgyblion i sicrhau eu bod yn gallu cymhwyso ystod eang o strategaethau darllen pan fyddant yn darllen testun yn annibynnol, er enghraifft sut i ddefnyddio cliwiau i wneud synnwyr o’r hyn y maent yn ei ddarllen
- yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o destun, eu gallu i adalw a defnyddio gwybodaeth yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm, a datblygu medrau darllen uwch, fel cyfosod a gwerthuso
- yn annog agweddau cadarnhaol disgyblion tuag at ddarllen, ac yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu stamina darllen, er enghraifft fel eu bod yn mwynhau darllen testunau hwy a mwy cymhleth ac yn canolbwyntio wrth ddarllen am gyfnodau hir
- yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o ddiben ysgrifennu a’u gallu i ysgrifennu ar gyfer ystod o ddibenion a chynulleidfaoedd, gan ddewis tôn ac arddull briodol
- yn herio disgyblion i ddatblygu a chynnal eu syniadau yn gydlynus ac yn ddychmygus, ac ailddrafftio a golygu eu hysgrifennu i wella’i ansawdd
- yn datblygu medrau cynllunio, cyfansoddi a thrawsgrifio disgyblion (er enghraifft strwythur a threfniadaeth syniadau, llunio brawddegau, sillafu, llawysgrifen / print digidol ac atalnodi)
- yn datblygu gwybodaeth disgyblion am eirfa fel agwedd bendant ar ddysgu iaith mewn gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu, er enghraifft trwy ddefnyddio geirdarddiad
- yn herio disgyblion i ddatblygu a chymhwyso eu medrau llythrennedd mewn cyd-destunau ystyrlon ar draws y cwricwlwm i’r un safon ag yn eu sesiynau iaith, llythrennedd a chyfathrebu neu Gymraeg / Saesneg
Dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae staff:
- yn darparu ystafelloedd dosbarth ac ardaloedd cymunol sy’n amgylcheddau dysgu cyfoethog o ran iaith a llythrennedd
- yn darparu cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau iaith a llythrennedd trwy ddarpariaeth barhaus ac estynedig dan do ac yn yr awyr agored, yn y cyfnod sylfaen
- yn datblygu gweithgareddau wedi eu hysgogi gan ddisgyblion yn y cyfnod sylfaen
- yn cynllunio ar gyfer datblygiad eglur medrau gwrando a siarad disgyblion, yn cynnwys cyfleoedd perthnasol i ddisgyblion hŷn gymryd rhan mewn profiadau dysgu sy’n canolbwyntio ar ddatblygu eu gallu i siarad yn hyderus ac yn briodol mewn ystod o gyd-destunau a lleoliadau
- (mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg) yn cynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu medrau trawsieithu a chyfryngu
- yn cynllunio’n ofalus fel bod datblygiadau mewn un medr, er enghraifft siarad, yn gallu cefnogi ac ychwanegu at y datblygiad mewn medr arall, fel ysgrifennu
- yn cynllunio ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion yn gynyddol, yn cynnwys cyfleoedd i wrando ar ddisgyblion eraill yn darllen, a darllen iddyn nhw eu hunain (yn dawel ac ar goedd)
- yn meithrin mwynhad disgyblion o ddarllen trwy ystod eang o gyfryngau, yn cynnwys darllen delweddau (heb destun, neu wedi eu cyfuno â thestun) mewn llyfrau lluniau, animeiddiadau a ffilmiau
- yn dewis testunau llenyddol ac anllenyddol gyda themâu a geirfa heriol addas, i ennyn diddordeb disgyblion ac ymestyn eu llythrennedd
- yn sicrhau bod disgyblion yn cael cyd-destunau ysgogol a dilys ar gyfer ysgrifennu, yn cynnwys profiadau dychmygol a phrofiadau go iawn
- yn adeiladu ar wybodaeth bresennol disgyblion am strwythur, trefniadaeth a nodweddion iaith mathau o destun i sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd yn eu hysgrifennu
- yn cynorthwyo disgyblion i ddeall ysgrifennu fel proses a darparu cyfleoedd gwerth chweil iddynt feddwl am syniadau, eu cynllunio a’u trefnu ac ailddrafftio a mireinio eu hysgrifennu
- yn nodi’n fanwl gywir y gwendidau ym medrau llythrennedd disgyblion i bennu’r camau nesaf gorau er mwyn iddynt wybod ble i ganolbwyntio eu hymdrechion ar gyfer gwella
- yn cynorthwyo disgyblion i gynllunio, monitro a gwerthuso eu datblygiad llythrennedd
- yn cynnwys disgyblion mewn asesu eu dysgu eu hunain a dysgu eu cyfoedion mewn llythrennedd
- yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan mewn ystod o ymweliadau sy’n ymestyn y cwricwlwm llythrennedd, er enghraifft teithiau i lyfrgelloedd a theatrau
- yn gwneud defnydd da o ymwelwyr ag ysgolion i ennyn diddordeb disgyblion mewn gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu, er enghraifft awduron plant, beirdd ac actorion
- yn defnyddio gweithgareddau allgyrsiol i hyrwyddo a datblygu medrau llythrennedd disgyblion, er enghraifft cymdeithasau trafod a drama, ysgrifennu creadigol a chlybiau llyfrau
- yn addasu gwaith pan fydd disgyblion yn meddu ar fedrau llythrennedd sydd gryn dipyn uwchlaw neu islaw’r lefel ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran
- yn creu cysylltiadau rhwng gwahanol feysydd dysgu a phynciau i sicrhau bod y medrau a enillir gan ddisgyblion mewn llythrennedd a gwersi Cymraeg / Saesneg yn cael eu hatgyfnerthu, eu datblygu a’u hymestyn ar draws y cwricwlwm
- yn defnyddio platfformau ac offer digidol yn effeithiol i gefnogi datblygiad medrau llythrennedd disgyblion
- yn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddilyniant i sicrhau bod asesiadau o lythrennedd disgyblion yn ddilys, yn gywir ac yn ddibynadwy
- yn olrhain ac yn monitro cynnydd disgyblion mewn datblygu eu medrau llythrennedd wrth iddynt symud trwy’r ysgol, yn cynnwys y disgyblion hynny ag anghenion ychwanegol, er enghraifft anghenion addysgol arbennig, disgyblion dan anfantais neu ddisgyblion y mae’r Gymraeg / Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt
- yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o asesiadau i osod targedau clir ar gyfer safonau gwell yn llythrennedd disgyblion
MA4 Gofal, cymorth ac arweiniad
Dylai arolygwyr werthuso pa mor dda:
- y mae’r ysgol yn cynorthwyo disgyblion â medrau llythrennedd gwan neu anawsterau dysgu penodol
- y mae’r ysgol yn gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â pha raglenni ymyrraeth i’w defnyddio
- y mae’r ysgol yn defnyddio rhaglenni ymyrraeth i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn unigol
- y mae staff yn olrhain cynnydd disgyblion sy’n cael cymorth ychwanegol ar gyfer llythrennedd mewn perthynas â’r targedau yn eu cynlluniau unigol
- y caiff gwybodaeth am fedrau a chynnydd disgyblion mewn llythrennedd ei rhannu rhwng staff
- y mae staff yn addasu strategaethau addysgu a dysgu ar gyfer disgyblion sy’n derbyn ymyrraeth ac yn darparu gwaith sy’n gweddu’n dda i anghenion llythrennedd disgyblion
- y defnyddir asesu i lywio penderfyniadau ynglŷn â ph’un a yw disgyblion yn parhau mewn rhaglenni cymorth neu nid oes angen gwaith ymyrraeth arnynt mwyach
- y mae’r ysgol yn datblygu gallu rhieni i gefnogi datblygiad llythrennedd eu plant, er enghraifft trwy ddarparu gwybodaeth am y cwricwlwm neu’r gweithdai ar gyfer rhieni sy’n eu helpu i gynorthwyo eu plant
- y mae’r ysgol yn defnyddio partneriaethau ag ysgolion neu asiantaethau eraill i ddarparu cymorth llythrennedd effeithiol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu’r rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt
Gellid defnyddio Dogfen C fel sbardun wrth ystyried effaith rhaglenni ymyrraeth llythrennedd ar ddysgu a chynnydd disgyblion.
MA5 Arweinyddiaeth a rheolaeth
Gallai arolygwyr gynnal trafodaethau gydag arweinwyr a rheolwyr i ystyried pa mor dda y maent yn dechrau a chefnogi dulliau effeithiol o ddatblygu llythrennedd disgyblion, a sut maent yn defnyddio canfyddiadau hunanwerthuso, ynghyd â gwybodaeth arall, i nodi a mynd i’r afael â blaenoriaethau gwella.
Dylai arolygwyr ystyried:
- p’un a yw’r pennaeth a’r uwch arweinwyr yn wybodus am gryfderau a materion wrth addysgu a dysgu llythrennedd
- p’un a yw arweinwyr ysgolion yn darparu arweinyddiaeth gref, ac yn cyfleu i ddysgwyr, staff, llywodraethwyr, rhieni ac aelodau eraill o gymuned yr ysgol, ddisgwyliadau addas o uchel am gyflawniadau disgyblion mewn llythrennedd
- p’un a oes gan yr ysgol strwythurau arwain priodol ar waith i gefnogi cydlynu a datblygu ei darpariaeth ar gyfer llythrennedd, ac a gaiff y strategaeth ei deall yn glir
- pa mor dda y mae’r ysgol yn cyflymu cynnydd disgyblion o’u mannau cychwyn, sut mae’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn llythrennedd, o ganlyniad i anfantais, ac yn datblygu medrau disgyblion mwy abl
- p’un a yw’r ysgol yn cynnwys rhieni a’r gymuned ehangach mewn datblygu llythrennedd disgyblion
- pa mor dda y mae arweinwyr yn datblygu diwylliant cydweithredol lle mae staff yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio gwybodaeth gyfunol yr ysgol am lythrennedd, ac elwa arni
- a yw arweinwyr yn defnyddio staff â gwybodaeth arbenigol i rannu eu harbenigedd yn eu hysgol eu hunain a gydag eraill
- pa mor dda y mae arweinwyr yn gweithio gyda staff i ddefnyddio’r corff cynyddol o dystiolaeth ac ymchwil ar lythrennedd i lywio penderfyniadau a chynlluniau ysgol gyfan
- p’un a yw adolygiadau a gwerthusiadau’r ysgol yn nodi’n fanwl gywir agweddau ar addysgu a darpariaeth y mae angen eu gwella, ac yn galluogi staff i rannu’r arfer fwyaf llwyddiannus ar draws yr ysgol
- a yw arweinwyr yn targedu adnoddau a grantiau’r ysgol yn ofalus, ac yn gwerthuso effaith yr addysgu ar safonau llythrennedd a’u cynnydd ynddo yn drylwyr
- p’un a yw arweinwyr yn canolbwyntio’n ddigon agos ar agweddau ar addysgu iaith sy’n benodol i bwnc yn eu gweithgareddau monitro, ac yn nodi anghenion dysgu proffesiynol staff yn fanwl gywir
- p’un a yw cyfleoedd dysgu proffesiynol yn llwyddiannus o ran cynorthwyo staff i ddatblygu eu gwybodaeth bwnc a’u medrau addysgu mewn llythrennedd, a sut mae hyn yn troi’n arfer ysgol gyfan effeithiol
Dogfen A: Cwestiynau enghreifftiol ar gyfer gwrando ar ddisgyblion yn y cyfnod sylfaen
Darllen
Disgyblion iau yn y cyfnod sylfaen
- Am beth mae eich llyfr?
- Beth sy’n digwydd yn y lluniau?
- Beth ydych chi’n meddwl fydd yn digwydd nesaf?
- Sut ydych chi’n meddwl fydd y stori’n gorffen?
- Beth ydych chi’n ei wneud os nad ydych chi’n gwybod gair?
- A ydych chi’n gwybod enw’r llythyren hon?
- A ydych chi’n gwybod pa sŵn/synau mae’r llythyren hon yn ei wneud/eu gwneud?
- A ydych chi’n mwynhau darllen?
- Pwy sy’n eich helpu chi gyda’ch darllen?
- A oes unrhyw un yn darllen i chi?
Disgyblion hŷn yn y cyfnod sylfaen
- Ai chi ddewisodd y llyfr hwn?
- A oeddech chi’n gwybod unrhyw beth am y llyfr cyn i chi ddechrau ei ddarllen?
- A ydych chi’n mwynhau darllen?
- A oes gan yr ysgol y mathau o lyfrau rydych chi’n hoffi eu darllen?
- A ydych chi’n darllen llyfrau gwybodaeth?
- Pa mor aml ydych chi’n darllen?
- A ydych chi’n darllen gartref?
- A yw oedolion yn darllen i chi yn yr ysgol? A ydych chi’n mwynhau hynny?
- Pa gyngor y mae eich athro yn ei roi i chi am eich darllen?
Testun ffuglen
- Beth sydd wedi digwydd hyd yma yn eich llyfr?
- Beth ydych chi’n meddwl fydd yn digwydd nesaf? Beth sy’n gwneud i chi feddwl hynny?
- Dywedwch wrthyf i am eich hoff gymeriad. Pam ydych chi’n hoffi’r cymeriad hwn?
- Beth yw eich hoff ran o’r llyfr a pham?
- Sut ydych chi’n meddwl mae’r awdur eisiau i ni deimlo ar hyn o bryd yn y llyfr?
- Beth ydych chi’n gwneud os dewch chi ar draws gair nad ydych chi wedi ei weld o’r blaen?
Testun ffeithiol
- Am beth mae’r llyfr?
- A allwch chi esbonio i mi sut galla’ i ddod o hyd i wybodaeth am y llyfr hwn?
- Pryd fydden i’n defnyddio’r llyfr hwn, efallai?
- Beth ydych chi’n gwneud os dewch chi ar draws gair nad ydych chi wedi ei weld o’r blaen?
- Pa ran o’r llyfr ydych chi’n ei gweld yn fwyaf diddorol, a pham?
Pan fydd disgyblion yn darllen ar goedd, gallech chi ofyn:
- A ydych chi wedi dod ar draws y gair hwn o’r blaen?
- A ydych chi’n gwybod beth mae’r gair yn ei olygu, neu a ydych chi’n gallu datrys beth mae’r gair yn ei olygu yn y frawddeg hon?
- Pa air arall allai’r awdur fod wedi ei ddefnyddio sy’n golygu’r un math o beth?
- Pam wnaethoch chi newid eich llais pan ddarllenoch chi’r rhan honno o’r frawddeg?
Ysgrifennu
Disgyblion iau yn y cyfnod sylfaen
- A ydych chi’n hoffi ysgrifennu?
- Am beth rydych chi’n hoffi ysgrifennu?
- A ydych chi’n gallu ysgrifennu eich enw, a beth ydych chi’n hoffi ei wneud yn yr ysgol, os bydda’ i’n eich helpu chi?
- Beth ydych chi’n ei wneud os na allwch chi sillafu gair?
- A ydych chi’n ysgrifennu ar liniadur neu lechen?
- A allwch chi ddangos ychydig o’ch ysgrifennu i mi?
- A yw oedolion yn eich helpu chi â’ch ysgrifennu? Sut maen nhw’n eich helpu chi?
- Ble ydych chi’n gwneud eich ysgrifennu?
Disgyblion hŷn yn y cyfnod sylfaen
- Pa fath o ysgrifennu ydych chi’n ei hoffi orau – ysgrifennu storïau, cerddi neu ysgrifennu gwybodaeth?
- Beth sy’n hawdd am ysgrifennu, yn eich barn chi?
- Beth sy’n anodd am ysgrifennu, yn eich barn chi?
- A ydych chi’n cynllunio eich ysgrifennu? A ydych chi’n cynllunio gyda ffrind neu mewn grŵp weithiau?
- Beth ydych chi’n ei wneud os na allwch chi sillafu gair?
- Dywedwch wrthyf sut gwnaethoch chi ysgrifennu’r stori hon/cyfarwyddiadau hyn, ac ati?
- A allwch chi ddangos darn o’ch ysgrifennu i mi rydych chi’n meddwl ei fod yn dda?
- Ydych chi’n mynd yn ôl at eich gwaith o gwbl i geisio gwneud eich ysgrifennu yn well?
- Sut ydych chi’n gwybod pa atalnodi i’w ddefnyddio?
- Sut ydych chi’n gwybod sut i osod eich ysgrifennu? Pam ydych chi wedi ysgrifennu hyn mewn rhestr, ac ati?
Dogfen B: Cwestiynau enghreifftiol ar gyfer gwrando ar ddisgyblion yng nghyfnodau allweddol 2 a 3
Darllen
- Ydych chi’n mwynhau darllen?
- A oes gan eich ysgol y mathau o lyfrau rydych chi’n hoffi eu darllen? Os na, pa fathau o destunau fyddech chi’n hoffi cael mwy ohonyn nhw? A ydych chi’n ymweld â llyfrgell yr ysgol?
- Sut ydych chi’n dod i wybod am awduron neu lyfrau newydd y gallech chi fod eisiau eu darllen?
- Beth yw eich hoff lyfr rydych chi wedi ei ddarllen yn yr ysgol eleni? A yw eich athrawon yn argymell llyfrau maen nhw’n meddwl y byddech chi’n eu mwynhau o bosibl?
- Pa gyngor y mae eich athro yn ei roi i chi am eich darllen?
- A yw oedolion yn darllen i chi yn yr ysgol? A ydych chi’n mwynhau hynny?
- A ydych chi’n mynd â llyfrau adref? Beth ydych chi’n ei ddarllen gartref? Pa mor aml ydych chi’n darllen gartref?
- Ai chi ddewisodd y llyfr hwn?
- A oeddech chi’n gwybod unrhyw beth am y llyfr cyn i chi ddechrau ei ddarllen?
- A allwch chi esbonio sut mae testunau ffuglen a ffeithiol yn wahanol?
Testun ffuglen:
- Beth sydd wedi digwydd hyd yma yn eich llyfr? Dywedwch wrthyf am y cymeriad/plot, ac ati?
Pan fydd disgyblion yn darllen ar goedd, gallech chi ofyn:
- Pa strategaethau ydych chi’n eu defnyddio os nad ydych yn gwybod gair neu os na fyddwch chi’n gwybod mwyach beth sy’n digwydd yn y stori wrth i chi ddarllen?
- A ydych chi wedi dod ar draws y gair hwn o’r blaen? A ydych chi’n gwybod beth mae’r gair yn ei olygu, neu a allwch chi ddatrys beth mae’r gair yn ei olygu yn y frawddeg hon?
- Pa air arall allai’r awdur fod wedi ei ddefnyddio sy’n golygu’r un math o beth?
- Pam wnaethoch chi newid eich llais pan ddarllenoch chi’r rhan honno o’r llyfr?
Testun ffeithiol:
- A allwch chi ddangos i mi sut i ddod o hyd i…yn y cyfeirlyfr hwn?
- Dywedwch wrthyf sut rydych chi’n chwilio i ddod o hyd i wybodaeth. Ar gyfer beth mae mynegeion, tudalennau cynnwys, geirfaoedd a hyperddolenni yn cael eu defnyddio?
- Pam mae gan yr adran hon is-benawdau a chapsiynau?
- Os bydda’ i’n gofyn i chi frasddarllen y dudalen hon, beth fydda’ i’n gofyn i chi wneud? A allwch chi frasddarllen y dudalen hon a dweud wrthyf am beth mae’n sôn? Sut mae brasddarllen yn wahanol i lithrddarllen?
- A ydych chi’n defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer ymchwilio?
- Os ydych chi’n defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i wybodaeth i ysgrifennu amdani, sut ydych chi’n mynd ati i wneud hyn? A ydych chi’n gwneud nodiadau? A ydych chi’n gallu dangos unrhyw enghreifftiau o’ch nodiadau i mi? A ydych chi’n credu popeth rydych chi’n ei ddarllen mewn llyfr gwybodaeth neu ar y rhyngrwyd, pan fyddwch chi’n ymchwilio i’ch testun?
- A allwch chi feddwl am adeg pan roedd rhaid i chi grynhoi rhywbeth rydych chi wedi ei ddarllen? Beth am gyfosod?
Pan fydd disgyblion yn darllen ar goedd, gallech chi ofyn:
- Pa strategaethau ydych chi’n eu defnyddio os nad ydych chi’n gwybod gair neu os na fyddwch chi’n gwybod mwyach beth sy’n digwydd yn y stori wrth i chi ddarllen llyfr gwybodaeth?
- A ydych chi wedi dod ar draws y gair hwn o’r blaen? A ydych chi’n gwybod beth mae’r gair yn ei olygu, neu a allwch chi ddatrys beth mae’r gair yn ei olygu yn y frawddeg hon?
- Pa air arall allai’r awdur fod wedi ei ddefnyddio sy’n golygu’r un math o beth?
- Sut mae darllen testun ffeithiol yn wahanol i ddarllen llyfr ffuglen?
- A oes gennych chi hoff gymeriad/hoff ran o’r llyfr? Pam ydych chi’n hoffi’r cymeriad hwn / rhan hon o’r llyfr?
- Beth mae’r awdur yn ei olygu wrth yr ymadrodd…?
- Pa eiriau ydych chi’n meddwl oedd y rhai mwyaf effeithiol i ddisgrifio x? Pam ydych chi’n meddwl y dewisodd yr awdur y rhain? Sut ydych chi’n meddwl y mae’r awdur eisiau i ni deimlo ar yr adeg hon yn y llyfr?
- A ydych chi’n meddwl y gallai x ddigwydd go iawn?
- Ym mha ffordd arall mae awduron yn gwneud i ni feddwl am gymeriadau mewn ffordd benodol?
- Pa fedrau darllen allai fod angen i chi eu defnyddio i ddeall hwyliau neu ymddygiad cymeriad?
- A allwch chi esbonio pa fath o berson yw x?
- A ydych chi wedi darllen unrhyw lyfrau / cerddi / dramâu eraill gan yr awdur hwn?
- A ydych chi wedi darllen llyfrau fel hyn wedi eu hysgrifennu gan rywun arall?
- A ydych chi wedi darllen unrhyw farddoniaeth neu ddrama yn ddiweddar? A allwch chi ddweud unrhyw beth i mi amdano?
Ysgrifennu
- A ydych chi’n hoffi ysgrifennu?
- Am beth rydych chi’n hoffi ysgrifennu?
- Beth ydych chi’n ei wneud os na allwch chi sillafu gair?
- Pa fath o ysgrifennu ydych chi’n ei hoffi orau?
- Beth sy’n hawdd am ysgrifennu, yn eich barn chi?
- Beth sy’n anodd am ysgrifennu, yn eich barn chi?
- A ydych chi’n cynllunio eich ysgrifennu? Pa dechnegau ydych chi’n eu defnyddio i gynllunio? Am beth ydych chi’n meddwl?
- Ydych chi’n ailddrafftio neu’n golygu eich ysgrifennu? Pam ydych chi’n gwneud hyn?
- Sut ydych chi’n gwybod pa atalnodi i’w ddefnyddio?
- Dywedwch wrthyf sut aethoch chi ati i ysgrifennu’r stori hon/adroddiad/llythyr perswadiol hwn, ac ati. A gawsoch chi unrhyw gymorth â hyn?
- Pam mae angen i chi ddeall diben eich ysgrifennu?
- Pam mae’n bwysig gwybod pwy fydd yn darllen eich gwaith ysgrifennu?
- A allwch chi ddweud wrthyf sut byddech chi’n gosod adroddiad/esboniad/ stori, ac ati?
- Beth sy’n helpu i chi fod yn llwyddiannus pan fyddwch chi’n ysgrifennu?
- A ydych chi’n cael dewis am beth i ysgrifennu neu ba fath o destun rydych chi’n ei ysgrifennu?
- A ydych chi’n defnyddio llechi neu liniaduron i ysgrifennu?
Dogfen C: Sbardunau i’w hystyried wrth werthuso effaith rhaglenni ymyrraeth llythrennedd
- Sut mae’r ysgol yn nodi’r disgyblion sydd angen cymorth i wella eu medrau llythrennedd?
- Sut mae’r ysgol yn dewis y rhaglenni ymyrraeth y mae’n eu defnyddio?
- A yw rhaglenni ymyrraeth yn cefnogi ystod lawn y medrau llythrennedd, yn cynnwys gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu?
- Pa hyfforddiant y mae cynorthwywyr addysgu sy’n cyflwyno rhaglenni ymyrraeth yn ei gael?
- Beth yw fformat y sesiynau, a pha mor aml y cynhelir y sesiynau?
- Pa mor effeithiol yw strategaethau ymyrraeth o ran helpu disgyblion i wneud cynnydd o’u mannau cychwyn?
- Sut caiff cynnydd disgyblion ar y rhaglenni ymyrraeth ei gyfleu i reolwyr ac aelodau staff eraill?
- Sut mae’r ysgol yn sicrhau bod athrawon ystafell ddosbarth yn ymwybodol o’r strategaethau addysgu a dysgu a’r adnoddau a ddefnyddir yn y rhaglenni ymyrraeth?
- Pa strategaethau y mae’r ysgol yn eu defnyddio i wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio strategaethau ac adnoddau tebyg yn eu gwersi?
- Sut mae’r ysgol yn gwerthuso effeithiolrwydd ei hymyriadau i gefnogi llythrennedd disgyblion?
- A oes gan yr ysgol feini prawf ymadael priodol i bennu pryd mae disgyblion yn gadael rhaglenni ymyrraeth, a sut maent yn parhau i’w cynorthwyo a monitro eu cynnydd dros gyfnod?