Arweiniad atodol ar gyfer arolygu Diogelu - Estyn

Arweiniad atodol ar gyfer arolygu Diogelu



Nod yr arweiniad atodol hwn yw cynorthwyo arolygwyr yn ôl yr angen i werthuso trefniadau diogelu ysgolion wrth gynnal arolygiadau. At ddiben y ddogfen hon, bydd y term ‘ysgol’ yn cynnwys UCDau.

Dylid ei ddefnyddio er gwybodaeth yn ystod arolygiad ochr yn ochr â’n Polisi a’n Gweithdrefn ar gyfer Diogelu sydd i’w cael ar wefan Estyn.

Nid yw’r arweiniad hwn yn trafod y modd y dylai arolygwyr ddelio â honiadau am ddiogelu a dderbynnir yn ystod arolygiad. Rhaid i arolygwyr fod yn gyfarwydd â’n Polisi a’n Gweithdrefnau ar gyfer Diogelu sy’n cynnwys plant, pobl ifanc ac oedolion bregus. Dylai pob arolygydd wybod beth i’w wneud pe byddent yn derbyn honiadau am ddiogelu ac mae’r camau sy’n ofynnol wedi’u hamlinellu yn y ddogfen hon.