Arweiniad atodol ar arolygu asesu


Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:

  • ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
  • ysgolion cynradd
  • ysgolion uwchradd
  • ysgolion pob oed
  • ysgolion arbennig
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • ysgolion annibynnol
  • addysg bellach
  • colegau arbenigol annibynnol
  • dysgu oedolion yn y gymuned
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
  • addysg a hyfforddiant athrawon
  • Cymraeg i oedolion
  • dysgu yn y gwaith
  • dysgu yn y sector cyfiawnder

Rydym hefyd:

  • yn adrodd i Senedd Cymru ac yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
  • yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu.

Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi.  Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:

Yr Adran Gyhoeddiadau
Estyn
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW   neu drwy anfon e-bost at 

Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan:  www.estyn.llyw.cymru

Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).

Ynglŷn â’r arweiniad hwn

Trosolwg

Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach. 

Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai bod y dogfennau’n datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).

Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.

Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i gael dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn hefyd. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran gwerthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.

Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  • Bydd arolygwyr yn mynd ati i arolygu’n gadarnhaol, i sicrhau mai’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl fydd hwn ar gyfer y staff ym mhob darparwr
  • Bydd arolygwyr yn arolygu ar sail dull sy’n cael ei arwain gan y dysgwr
  • Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
  • Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol, graff
  • Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, i’r graddau ag y bo hynny’n bosibl
  • Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymateb i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac yn defnyddio ystod gynyddol yr adnoddau a dulliau arolygu sydd ar gael
  • Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr

Gwerthuso agweddau disgyblion at asesu ffurfiannol yn yr ystafell ddosbarth

Maes Arolygu 2: Lles ac agweddau at ddysgu.

  • pa mor dda y mae disgyblion yn deall adborth gan oedolion a’u cyfoedion, ac yn ymateb iddo
  • pa mor effeithiol y mae disgyblion yn defnyddio adborth i symud eu dysgu ymlaen

Bydd arolygwyr yn cynnal ystod o weithgareddau i gasglu tystiolaeth ar gyfer y meysydd hyn.

Gallai’r rhain gynnwys:

  • teithiau dysgu
  • sgyrsiau â disgyblion am eu gwaith
  • arsylwadau dysgu
  • craffu ar lyfrau a dysgu arall
  • Dylai’r pwyslais fod ar werthuso pa mor dda y mae disgyblion yn deall eu rôl nhw yn y prosesau adborth, a beth mae angen iddynt ei wneud i elwa ar adborth a symud eu dysgu ymlaen.

Yn yr un modd ag y dylai arolygwyr ystyried agweddau disgyblion tuag at adborth gan athrawon ac oedolion eraill, dylent hefyd werthuso pa mor dda y mae disgyblion yn defnyddio ac yn ymateb i adborth o weithgareddau asesu gan gyfoedion a hunanasesu i wella eu dysgu.

Mae trafodaethau â disgyblion yn ffynhonnell dystiolaeth allweddol ar gyfer y meysydd hyn. Bydd hyn yn darparu cyfle i archwilio dealltwriaeth disgyblion o’u rôl yn y broses adborth. Wrth lunio barn ar hyn, mae’n bwysig i arolygwyr gadw mewn cof oedran a gallu’r disgyblion dan sylw.

Dylai arolygwyr ystyried:

  • beth yw agwedd disgyblion at yr adborth a gânt? 
  • a yw disgyblion yn gwahodd adborth, ac a ydynt yn cael eu cymell ganddo? 
  • a yw disgyblion yn meddwl am adborth fel rhan gefnogol a buddiol o’r broses ddysgu?
  • a yw disgyblion yn gallu esbonio beth maent yn ei wneud â’r adborth a gânt, a sut byddant yn gweithredu yn unol â’r adborth i wella eu gwaith? 
  • pa mor dda y mae disgyblion yn gwneud gwelliannau neu’n cymhwyso strategaethau newydd o ganlyniad i’r adborth a gânt? 
  • a oes diwylliant lle caiff camgymeriadau eu gwerthfawrogi fel cyfleoedd dysgu, a bod cyfaddef i beidio â deall rhywbeth yn dderbyniol?

Bydd tystiolaeth a gesglir o’r gwaith hwn hefyd yn helpu arolygwyr pan fyddant yn ystyried arferion asesu yn yr ystafell ddosbarth ym maes arolygu 3 (3.2 Addysgu ac asesu). Bydd yn helpu arolygwyr i gael amcan o ba mor dda y mae’r ysgol yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o’u rôl yn y broses adborth wrth iddynt symud yn eu blaenau trwy’r ysgol. Nodir y rôl bwysig hon hefyd yn y canllawiau sy’n cyd-fynd â    ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu’[1] y Cwricwlwm i Gymru. Mae’n nodi mai rôl bwysig i ymarferwyr yw ‘datblygu sgiliau dysgwyr o ran gwneud defnydd effeithiol o adborth i symud eu dysgu yn ei flaen’.

[1] ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu

Maes Arolygu 3: 3.2 Addysgu ac asesu

Wrth werthuso ansawdd yr adborth gan athrawon ac ymarferwyr eraill, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae adborth llafar ac ysgrifenedig yn helpu disgyblion i wybod pa mor dda y maent yn gwneud a beth mae angen iddynt ei wneud i wella. Dylent werthuso effeithiolrwydd yr adborth a gaiff disgyblion am waith y maent wedi’i gwblhau ar-lein neu’n ddigidol.

Bydd arolygwyr yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau i gasglu tystiolaeth ar gyfer y meysydd hyn. Gallai’r rhain gynnwys:

  • trafodaethau ag athrawon ac oedolion eraill
  • craffu ar ddogfennau ysgol
  • teithiau dysgu
  • sgyrsiau â disgyblion am eu gwaith
  • arsylwadau o ddysgu
  • craffu ar lyfrau a dysgu arall, yn cynnwys dysgu ar-lein a digidol

Wrth werthuso ansawdd yr adborth, dylai arolygwyr gofio bod yna ystod o ffactorau a all bennu ei effaith ar gynnydd disgyblion. O’r herwydd, dylai arolygwyr ystyried:    

  • a yw adborth yn addas ar gyfer oedran a gallu’r disgybl?
  • a yw adborth yn glir, yn bersonol ac yn benodol?  
  • a yw’n canolbwyntio ar yr elfennau sy’n bwysig ac yn berthnasol?
  • a yw’n glir ynglŷn â’r camau nesaf? 
  • a yw’n darparu arweiniad buddiol ar sut i wella? (h.y. nid dim ond yn dweud wrth ddisgyblion pan fyddant yn anghywir)
  • a yw adborth wedi’i gysylltu’n fuddiol â bwriadau dysgu a/neu ddeilliannau arfaethedig?
  • a yw adborth yn amserol, fel ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer dysgu yn y dyfodol?
  • a gaiff disgyblion gyfle digonol i drafod a/neu weithredu i ymateb i adborth?  (D.S. mae’n annhebygol y bydd disgyblion yn elwa ar adborth oni bai eu bod yn cael amser priodol i ystyried ac ymateb) 
  • a oes tystiolaeth fod disgyblion yn cael cyfleoedd i fynd i’r afael â gwelliannau posibl yn ddiweddarach?

D.S. Nid oes angen i’r holl adborth gydymffurfio â phob un o’r meini prawf uchod i fod yn fuddiol.

Hefyd, bydd yn bwysig i arolygwyr ystyried:

  • pa mor dda y mae athrawon ac oedolion eraill yn addysgu disgyblion am sut i ddefnyddio adborth, er enghraifft trwy hyfforddi a modelu? 
  • pa mor dda y mae athrawon yn helpu disgyblion i ddatblygu’r medrau hyn wrth iddynt symud trwy’r ysgol? 
  • a yw disgyblion yn cael adborth o ansawdd da ym mhob pwnc / disgyblaeth a maes dysgu? 

Dylai arolygwyr ystyried:

  • y graddau y mae athrawon yn datblygu meddwl a dealltwriaeth disgyblion trwy gwestiynu a monitro dysgu disgyblion yn fedrus
  • pa mor effeithiol y mae athrawon ac ymarferwyr eraill yn ymateb i ddysgu disgyblion yn ystod gwersi a gweithgareddau, ac yn addasu eu dull yn unol â hynny


Wrth werthuso’r pwyntiau uchod, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda:

  • y mae cwestiynau yn denu disgyblion tuag at ddealltwriaeth allweddol ac/neu yn cynyddu lefel yr her wrth i wersi fynd rhagddynt?
  • y mae holi yn cynnwys yr holl ddisgyblion?
  • y mae cwestiynau yn hyrwyddo meddwl, cyfiawnhau a rhesymu?
  • y mae holi yn atgyfnerthu ac yn ailedrych ar fwriadau dysgu?
  • y mae holi yn annog disgyblion i fyfyrio a damcaniaethu?
  • y mae’r athro yn creu awyrgylch o ymddiriedaeth lle caiff atebion, barnau a syniadau disgyblion eu gwerthfawrogi?
  • y mae amgylchedd yr ystafell ddosbarth yn annog disgyblion i wrando ar ei gilydd, ac ymateb i’w gilydd, yn ogystal â’r athro?
  • y mae athrawon yn annog disgyblion i ofyn cwestiynau, yn ogystal ag ymateb iddynt?
  • y mae athrawon yn monitro dealltwriaeth disgyblion yn barhaus i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gywir o’u cynnydd yn ystod gwersi?
  • y mae athrawon yn addasu dysgu i ymateb i gamsyniadau y maent yn eu nodi trwy holi a chraffu ar ddysgu wrth i’r wers, neu gyfres o wersi, fynd rhagddi neu rhagddynt? 

Dylai arolygwyr ystyried:

pa mor llwyddiannus y mae athrawon yn darparu cyfleoedd perthnasol a phwrpasol i ddisgyblion asesu eu dysgu eu hunain, a dysgu eu cyfoedion
Wrth ystyried pa mor llwyddiannus y mae athrawon yn darparu cyfleoedd perthnasol a phwrpasol i ddisgyblion fyfyrio ar eu dysgu eu hunain a dysgu eu cyfoedion, dylai arolygwyr ystyried y cyfleoedd a gaiff disgyblion, ac effaith hyn ar eu dysgu.

Dylai arolygwyr ystyried:

  • p’un a yw’r diben ar gyfer defnyddio asesu gan gyfoedion a hunanasesu yn glir ar gyfer disgyblion a staff 
  • p’un a oes gan yr ysgol arferion a ddeellir yn dda ar gyfer datblygu medrau disgyblion mewn gwerthuso eu dysgu eu hunain, a dysgu disgyblion eraill 
  • pa mor dda y mae athrawon ac oedolion eraill yn addysgu disgyblion ynglŷn â sut i asesu eu dysgu eu hunain a dysgu ei gilydd, er enghraifft trwy hyfforddi a modelu 
  • pa mor dda y mae athrawon yn monitro adborth i sicrhau bod disgyblion yn elwa ar gyngor defnyddiol, ac yn gallu gwneud cynnydd o ganlyniad  
  • pa mor dda y mae athrawon yn helpu disgyblion i wneud dewisiadau am sut maent yn symud eu dysgu eu hunain ymlaen

Wrth werthuso arferion, dylai arolygwyr ystyried p’un a yw’r meini prawf ar gyfer gwerthuso dysgu yn glir i alluogi disgyblion i gael dealltwriaeth dda o nodau eu gwaith, ac o beth mae’n ei olygu i’w gwblhau yn llwyddiannus. Gallai athrawon ddatblygu a rhannu’r meini prawf hyn, neu wrth i ddisgyblion ddatblygu, dylent gymryd rhan yn gynyddol mewn datblygu’r meini prawf eu hunain.

Dylai arolygwyr ystyried:

  • pa mor dda y mae arferion asesu gan gyfoedion a / neu hunanasesu’r ysgol yn annog disgyblion i fyfyrio’n feirniadol ar eu dysgu a’u cynnydd eu hunain neu ddisgyblion eraill  
  • pa mor effeithiol y mae disgyblion yn nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu yn eu dysgu eu hunain ac yn nysgu disgyblion eraill
  • pa mor dda y mae asesu gan gyfoedion yn helpu disgyblion i ddysgu oddi wrth ei gilydd
  • pa mor dda y mae dealltwriaeth ac annibyniaeth disgyblion wrth asesu eu dysgu eu hunain, a dysgu eu cyfoedion, yn datblygu wrth iddynt wneud cynnydd