Arolygu: beth i’w ddisgwyl - Estyn

Arolygu: beth i’w ddisgwyl


Two primary school children doing arts and crafts

Rydym yn cynnal arolygiadau gyda’r nod o wella ansawdd addysg a hyfforddiant i bob dysgwr yng Nghymru. Byddwn bob amser yn canolbwyntio ar ansawdd y cyflwyno a’r effaith ar ddeilliannau i ddysgwyr a bydd ein hadroddiadau’n manylu ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu dysgwyr i ddysgu.

Gallwch ddysgu mwy am y profiad arolygu yma. Trwy ein hymgyrch Barod yn Barod, cwestiynau cyffredin ac ystod o adnoddau, gan gynnwys podlediadau a recordiadau Estyn yn Fyw, rydym yn rhannu camau ymarferol, disgwyliadau a realiti arolygu. Gallwch glywed yn uniongyrchol gan ddarparwyr, sy’n myfyrio ar eu profiad o adolygu ac yn chwalu rhai o’r chwedlau cyffredin.

Rydym am i arolygu fod yn brofiad cadarnhaol sy’n rhan naturiol o’ch proses wella arferol ac yn gobeithio y bydd y wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno yma yn eich helpu i feithrin dealltwriaeth ehangach o ddiben a hanfodion arolygu.

Podlediad – Tynnu’r dirgelwch o’r broses arolygu: Ysgolion ac UCDau – Sgwrs – Pennod 3


Estyn yn fyw – Arolygu ar gyfer ysgolion ac UCDau – popeth y mae angen i chi ei wybod!