Arfer Effeithiol |

Trawsnewid Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd a’r Fro

Share this page

Nifer y disgyblion
5814
Ystod oedran
18+

Gwybodaeth am yr ysgol

Sefydlwyd Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd a’r Fro yn 2013 o bartneriaethau dysgu oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg gynt. Mae pedwar prif bartner cyflenwi, sef: Coleg Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Addysg Oedolion Cymru. Mae’r bartneriaeth yn gwasanaethu prifddinas Cymru, Caerdydd, ac awdurdod lleol cyfagos Bro Morgannwg, sy’n wledig yn bennaf, ac yn cynnig darpariaeth mewn ystod o leoliadau, gan gynnwys canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a champysau’r coleg.

Mae’r bartneriaeth yn cyflogi tua 193 o staff addysgu rhan-amser, a 43 o staff addysgu amser llawn. Mae tua 5,814 o ddysgwyr wedi cofrestru ar gyrsiau, ac mae 2,209 ohonynt yn ddysgwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE). Mae mwyafrif ei dysgwyr ar lefel mynediad a lefel 1 neu ddarpariaeth cwrs byr. Ar draws y bartneriaeth, mae 39% o ddysgwyr yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae 63% o gofrestriadau’r bartneriaeth o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Mae 65% o gofrestriadau’r bartneriaeth yn fenywod.

Mae’r weledigaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn un lle mae:

• cyfranogiad cynyddol gan y rhai sydd wedi elwa leiaf ar addysg yn y gorffennol neu sydd fwyaf mewn perygl o beidio ag elwa yn y dyfodol

• ansawdd gwell o ran y profiad dysgu, gan gynnwys dilyniant cynyddol i gyfleoedd dysgu eraill neu waith

• cydlyniad gwell yn natur a phatrymau’r ddarpariaeth ar draws y darparwyr.

Cyd-destun a chefndir

Ffurfiwyd Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd a’r Fro yn 2013 ar ôl i Estyn nodi bod y ddau bartner etifeddol yn anfoddhaol. Nodwyd yn glir nad oedd y naill bartneriaeth na’r llall yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu ateb effeithiol i oedolion sy’n ddysgwyr ac nad oedd y ddarpariaeth yn canolbwyntio’n ddigonol ar arlwy cwricwlwm ymatebol a chynhwysfawr a oedd yn cyflwyno profiadau dysgu sy’n ymatebol i flaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Ers y cyfnod hwn, mae wedi trawsnewid i fod yn gorff sefydledig ac aeddfed gydag arweinyddiaeth gref ac effeithiol, sy’n cydweithio i ddiwallu anghenion y cymunedau amrywiol yn llwyddiannus.

Disgrifiad

Mae rhanberchnogaeth cyfeiriad strategol y bartneriaeth a mabwysiadu trefniadau gweithio teg ac agored yn eang wedi bod yn ganolog i’r trawsnewid hwn. Ymrwymodd yr holl bartneriaid i’r weledigaeth drosfwaol hon trwy gydweithio mewn strwythur gweithio gweithredol diwygiedig a thrwy gyfrannu adnoddau i drawsnewid cymorth. Roedd hyn yn cynnwys penodi Cydlynydd Partneriaeth.

Sefydlwyd pedwar gweithgor - Grŵp Strategol, Grŵp Ansawdd a Data, Grŵp Addysgu a Dysgu a Grŵp Ymglymiad Dysgwyr; roedd y rhain yn cynnwys staff o bob partner. Cymerodd y grwpiau hyn gyfrifoldeb ar y cyd i ddatblygu’r cynllun datblygu ansawdd (CDA) cyntaf gan ysgogi a darparu cyfeiriad ar gyfer newid cadarnhaol. Mae uwch arweinwyr o bob partner yn cyfarfod yn rheolaidd i gydlynu gwaith y bartneriaeth. Datblygodd y Grŵp Strategol gysylltiadau cryf â rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a grwpiau cymunedol i hwyluso gwaith partneriaeth ehangach sydd wedi bod yn arloesol ac yn ystwyth, gan ddarparu atebion effeithiol i’r heriau sy’n wynebu’r rhanbarth. Gwnaeth y tri grŵp gweithredol newidiadau sylweddol i’r cwricwlwm, arfer addysgu a dysgu a systemau ansawdd, gan gynnwys arsylwadau ar y cyd, gweithgareddau ymglymiad dysgwyr ar y cyd a dysgu proffesiynol partneriaeth. Mae hyn wedi arwain at strwythurau a chyfathrebu clir.

I ymestyn cyfathrebu ymhellach, dyfeisiwyd cylchlythyrau partneriaeth tymhorol ar gyfer staff a dysgwyr, yn rhannu gwaith y bartneriaeth ac yn codi ymwybyddiaeth am ei datblygiadau a’i chyflawniadau.

Effaith y gwaith hwn

Mae llawer o enghreifftiau o’r modd y mae cydweithio cryf wedi cael effaith gadarnhaol ar y bartneriaeth a’i dysgwyr. Ceir gweledigaeth, nodau a gwerthoedd ar y cyd, gyda didwylledd ac ymddiriedaeth, sy’n rhoi dysgwyr wrth wraidd y penderfyniadau a wneir. Mae’r cwricwlwm yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd a medrau, gyda rhai cyrsiau hamdden wedi’u cynllunio’n dda. Trwy gynllunio fel partneriaeth, mae’r cwricwlwm yn cael ei gyfeirio pryd a lle bynnag y bo’i angen, heb unrhyw ddyblygu diangen, gan weithio yn unol â chryfderau pob partner. Trwy weithio ar lefel strategol, rhannodd y bartneriaeth fanylion am greu ac arwain prosiect REACH gyda Llywodraeth Cymru, gan ddarparu asesiad uniongyrchol ar gyfer SSIE a lleoliad gyda darparwr dysgu sydd ar gael. Lleihaodd hyn y rhestr aros SSIE ledled y rhanbarth yn sylweddol. Mae’r bartneriaeth wedi darparu cydlyniad SSIE, Dysgu Teuluol a chyrsiau eraill i sicrhau ei bod yn denu ac yn cefnogi’r rhai sydd bellaf oddi wrth addysg a hyfforddiant. Mae wedi creu cysylltiadau cryf â diwydiant i ddarparu cyrsiau yn barod ar gyfer cyflogwr, sydd wedi’u teilwra i lenwi bylchau mewn cyflogaeth a chynhyrchu cyfleoedd ar gyfer y rhai sydd o ardaloedd amrywiol a difreintiedig De Cymru. Mae dysgwyr yn gwneud cynnydd da â pherfformiad ar draws y bartneriaeth gan barhau i wella. Maent yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas ac mae llawer o enghreifftiau o sut mae

bywydau dysgwyr wedi cael eu trawsnewid. Nodwyd bod yr addysgu a’r dysgu yn hynod effeithiol gyda chymorth a lles cryf ar gyfer dysgwyr a defnydd effeithiol o dechnoleg, a’r olaf o’r rhain yn cefnogi parhad gwaith yn ystod y pandemig.

 

Sut mae’r arfer wedi cael ei rhannu?

Mae’r bartneriaeth wedi cefnogi partneriaethau eraill ledled Cymru i gyflwyno’u darpariaeth eu hunain, fel REACH ac academïau sgiliau sector blaenoriaethol. Mae aelodau’r bartneriaeth yn mynychu cynadleddau dysgu oedolion a gweithdai Llywodraeth Cymru ar arfer orau, ac wedi cadeirio Partneriaethau Dysgu Oedolion Cymru. Mae’r bartneriaeth yn rhannu ei harferion gweithio yn agored, gan arwain ar wella partneriaethau.

 

Tagiau adnoddau

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol

Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol - Gwaith darparwyr addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu oedolion yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19 ...Read more