Ymwybyddiaeth o Ganser Ymhlith Dysgwyr SSIE – lleihau rhwystrau at ofal iechyd ar gyfer dysgwyr SSIE

Arfer effeithiol

Cardiff & Vale Adult Learning in the Community Partnership


Gwybodaeth am yr ysgol

Sefydlwyd Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd a’r Fro yn 2013 o bartneriaethau dysgu oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg gynt. Mae pedwar prif bartner cyflenwi, sef: Coleg Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Addysg Oedolion Cymru. Mae’r bartneriaeth yn gwasanaethu prifddinas Cymru, Caerdydd, ac awdurdod lleol cyfagos Bro Morgannwg, sy’n wledig yn bennaf, ac yn cynnig darpariaeth mewn ystod o leoliadau, gan gynnwys canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a champysau’r coleg.

Mae’r bartneriaeth yn cyflogi tua 193 o staff addysgu rhan-amser, a 43 o staff addysgu amser llawn. Mae tua 5,814 o ddysgwyr wedi cofrestru ar gyrsiau, ac mae 2,209 ohonynt yn ddysgwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE). Mae mwyafrif ei dysgwyr ar lefel mynediad a lefel 1 neu ddarpariaeth cwrs byr. Ar draws y bartneriaeth, mae 39% o ddysgwyr yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae 63% o gofrestriadau’r bartneriaeth o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Mae 65% o gofrestriadau’r bartneriaeth yn fenywod.

Mae’r weledigaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn un lle mae:

• cyfranogiad cynyddol gan y rhai sydd wedi elwa leiaf ar addysg yn y gorffennol neu sydd fwyaf mewn perygl o beidio ag elwa yn y dyfodol

• ansawdd gwell o ran y profiad dysgu, gan gynnwys dilyniant cynyddol i gyfleoedd dysgu eraill neu waith

• cydlyniad gwell yn natur a phatrymau’r ddarpariaeth ar draws y darparwyr.

Cyd-destun a chefndir

Un o’r sbardunau allweddol ar gyfer y bartneriaeth yw pan fydd yn dirnad bod gan ddysgwyr angen penodol a bod bwlch yn y ddarpariaeth; mae’n aml yn gweithio’n strategol gyda phartneriaid eraill i fynd i’r afael â’r mater. Enghraifft ragorol o hyn yw Prosiect Ymwybyddiaeth o Ganser Ymhlith Dysgwyr SSIE mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chanolfan Ganser Felindre (Ymddiriedolaeth Elusennol). Roedd Llywodraeth Cymru a’r GIG yn gweithio i ymgysylltu â chymunedau a gwella addysg am ganser ac atal canser. Mae ymchwil wedi nodi y bu pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yn llai tebygol o gymryd rhan mewn rhaglenni cenedlaethol i sgrinio am ganser y fron, canser y serfics a chanser y coluddyn, a dywedwyd bod ganddynt lefelau ymwybyddiaeth is o arwyddion a symptomau canser. Gallai ffactorau risg o ran ffordd o fyw, fel diet, ysmygu ac ymarfer corff, fod yn wael hefyd. Mae’r rhesymau am hyn yn amlweddog ond nodwyd bod diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth yn rhwystrau sylfaenol.

Diben y prosiect hwn oedd mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb iechyd trwy weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr SSIE i ddatblygu adnodd addysg iechyd y gellid ei ymgorffori o fewn y cwricwlwm SSIE a’i gyflwyno trwy ddosbarthiadau SSIE. Cydnabyddir bod cyrsiau SSIE yn cyflwyno mwy na datblygiad Saesneg yn unig. Mae’r rhaglenni hyn hefyd yn ffordd effeithiol o gyfleu gwybodaeth bwysig i ddysgwyr sydd â medrau Saesneg cyfyngedig mewn amgylchedd cefnogol a chydymdeimladol.

Disgrifiad

Roedd Ymwybyddiaeth o Ganser Ymhlith Dysgwyr SSIE yn bartneriaeth lwyddiannus rhwng Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth Elusennol Felindre i ddatblygu adnoddau cyd-destunol Ymwybyddiaeth o Iechyd a Chanser Ymhlith Dysgwyr SSIE i’w defnyddio mewn dosbarthiadau SSIE lefel mynediad ledled Cymru. Lluniodd y bartneriaeth ddeunyddiau yn cynnwys adnoddau myfyrwyr, nodiadau athrawon ac adnodd rhyngweithiol ar-lein. Cododd y rhain ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dysgwyr SSIE o arwyddion a symptomau canser, yn ogystal â rhoi’r eirfa iddynt a fyddai’n eu galluogi a’u grymuso i gael sgyrsiau effeithiol gyda gweithwyr iechyd proffesiynol y GIG sy’n siarad Saesneg, i ddweud beth yw eu symptomau. Roedd modiwlau penodol ar ganserau menywod a dynion. Trwy’r cwrs, daeth dysgwyr yn fwy ymwybodol o raglenni sgrinio cenedlaethol, gan ymgysylltu â negeseuon ataliol i hybu iechyd (fel buddion rhoi’r gorau i ysmygu neu wneud mwy o weithgarwch corfforol) sydd mor allweddol i fywyd iach. Cafodd y prosiect ei beilota ar draws y bartneriaeth yn ystod ei gam datblygu.

Effaith y ddarpariaeth

Mae adborth gan y dysgwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol. O ganlyniad i ddilyn y rhaglen hon, mae dysgwyr wedi magu hyder i ofyn am wasanaethau meddygol mewn modd amserol. Dangosodd dysgwyr fwy o ymwybyddiaeth o wasanaethau’r GIG ac roeddent yn fwy ymwybodol o newidiadau i ffordd o fyw y gallent eu gwneud i fyw bywyd iach. Yn ôl yr adborth a roddodd dysgwyr, hwn oedd y tro cyntaf iddynt allu siarad am eu pryderon iechyd.

Sut mae’r arfer wedi cael ei rhannu?

Mae’r adnoddau bellach yn rhan o brofiad dysgu’r holl ddysgwyr o fewn y bartneriaeth. Datblygwyd mwy o fodiwlau dros y pandemig i gefnogi ymwybyddiaeth o COVID a brechlynnau. Cyflwynwyd y prosiect hwn ledled Cymru. Rhannwyd y prosiect yn ehangach trwy rwydwaith cydraddoldeb Cymdeithas y Colegau a thrwy’r National Centre for Diversity lle enillodd wobr am arloesi.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn