Arfer Effeithiol |

Trawsnewid darpariaeth gwaith ieuenctid: arloesi digidol dan arweiniad pobl ifanc

Share this page

Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr awdurdod lleol

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd yn perthyn i Gyfarwyddiaeth Addysg Cyngor Caerdydd. Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghaerdydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed. Mae hyn yn cynnwys gwaith ieuenctid mynediad agored mewn cymunedau, gwaith ieuenctid ar y stryd, cymorth mentora ieuenctid sy’n cydweddu ag ysgolion, yn ogystal â chynnig ôl-16 i gefnogi’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Mae gan yr awdurdod lleol ryw 90,000 o bobl ifanc sy’n 11-25 mlwydd oed.

Roedd gwaith ieuenctid yn ffocws yn ystod arolygiad Cyngor Caerdydd yn 2021. Dywedodd y tîm fod y gwasanaeth ieuenctid wedi datblygu cynnig gwaith ieuenctid digidol arloesol yn ystod y 12 mis cyn yr arolygiad, i gyflwyno gwaith ieuenctid effeithiol i ystod ehangach o bobl ifanc yn y ddinas. Caiff y gwaith hwn ei arwain gan bobl ifanc a weithiodd yn effeithiol gyda gweithwyr ieuenctid a datblygwyr gwe i greu gwefan deilwredig sy’n addas i bobl ifanc ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid. Buont yn cydweithio â phartneriaid i bennu’r cynnwys a’r platfform digidol mwyaf priodol ar gyfer gweithgareddau ar-lein. Mae’r awdurdod lleol wedi cydnabod gwerth yr ymagwedd hon, ac mae ganddo gynlluniau i ddatblygu’r agwedd hon ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid ymhellach.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Roedd dechrau pandemig byd-eang COVID-19 ym mis Mawrth 2020 yn golygu nad oedd tîm Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn gallu darparu ei gymorth wyneb yn wyneb arferol. Roedd yn glir nad oedd y gwasanaeth, yn unol â sefydliadau ieuenctid ledled y byd, yn barod i gyflwyno gwasanaethau o bell. Roedd y cynnig ar-lein gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn eithriadol o gyfyngedig, yn cynnwys ychydig o aelodau staff yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn anaml. Achosodd hyn bryder o ystyried defnydd pobl ifanc o gyfryngau cymdeithasol a thechnoleg ddigidol yn eu bywyd bob dydd. Roedd hon yn sefyllfa heriol ac ymatebodd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn gyflym i ddatblygu strategaeth i barhau â’i wasanaethau ieuenctid gyda phobl ifanc. Y cam cyntaf oedd buddsoddi mewn tîm gwaith ieuenctid digidol i gefnogi gwaith Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru.  

Cydnabu’r tîm gwasanaeth ieuenctid fod angen ymchwilio i ddatblygu unrhyw dîm newydd a ffyrdd newydd o weithio. Ymchwilion nhw i sail y dystiolaeth ac enghreifftiau arfer orau ar gyfer gwaith ieuenctid digidol, gyda llawer o hyn yn dod o wledydd yn Ewrop. Defnyddion nhw athroniaeth Digital EU sy’n disgrifio gwaith ieuenctid digidol fel ‘defnyddio neu fynd i’r afael yn rhagweithiol â chyfryngau a thechnoleg ddigidol mewn gwaith ieuenctid. Nid yw gwaith ieuenctid digidol yn ddull gwaith ieuenctid – gellir cynnwys gwaith ieuenctid digidol mewn unrhyw leoliad gwaith ieuenctid (gwaith ieuenctid agored, gwybodaeth a chwnsela ieuenctid, clybiau ieuenctid, gwaith ieuenctid datgysylltiedig…).  Mae gan waith ieuenctid digidol yr un nodau â gwaith ieuenctid yn gyffredinol, a dylai defnyddio cyfryngau a thechnoleg ddigidol mewn gwaith ieuenctid bob amser gefnogi’r nodau hyn. Gall gwaith ieuenctid digidol ddigwydd mewn sefyllfaoedd wyneb yn wyneb ac mewn amgylcheddau ar-lein yn ogystal – neu drwy gyfuno’r ddau beth hyn. Gellir defnyddio cyfryngau a thechnoleg ddigidol naill ai fel offeryn, gweithgaredd neu gynnwys mewn gwaith ieuenctid. Caiff gwaith ieuenctid digidol ei ategu gan yr un foeseg, gwerthoedd ac egwyddorion â gwaith ieuenctid. Mae gweithwyr ieuenctid yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at weithwyr ieuenctid cyflogedig a gwirfoddol, fel ei gilydd.’

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Bu’r tîm digidol a’r gwasanaeth ieuenctid ehangach yn casglu barn pobl ifanc mewn cymunedau. Roedd hyn yn amrywio o ymgynghori ffurfiol i drafodaeth anffurfiol mewn lleoliadau gwaith ieuenctid. O’r gwaith hwn, nododd gweithwyr ieuenctid fod angen gwybodaeth am y gwasanaethau yr oedd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn eu cynnig, yn ogystal â gwybodaeth am wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach sy’n hygyrch i bawb mewn un safle ar-lein. Dywedodd pobl ifanc wrth weithwyr ieuenctid eu bod eisiau cyfleoedd i ddatblygu medrau digidol, yn cynnwys ffilmio, ffotograffiaeth a golygu, a chyfathrebu â gweithwyr ieuenctid trwy fynediad at gyfryngau cymdeithasol a gofodau digidol diogel.

I sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu, sicrhaodd y tîm gwaith ieuenctid fod gan aelodau staff offer a chymorth priodol i allu parhau i gyfathrebu â phobl ifanc trwy gyfryngau cymdeithasol. I gadw i fyny â’r platfformau diweddaraf y mae pobl ifanc yn eu defnyddio, roedd angen adolygu dulliau cyfathrebu a pholisïau cyfryngau cymdeithasol presennol, a datblygu a diweddaru dogfen ganllawiau a gweithdrefnau cyfryngau cymdeithasol a chyfryngau digidol ar gyfer yr holl aelodau staff. Nododd un aelod o staff fod 85% o’u hymgysylltu â phobl ifanc yn eu rôl fel mentor ieuenctid yn digwydd trwy gyfryngau cymdeithasol gan fod pobl ifanc yn gallu defnyddio Wi-Fi yn rhad.

Mae pobl ifanc wedi bod yn ganolog i ddatblygiadau digidol yn y gwasanaeth. Sefydlon nhw’n gyflym fod angen diweddaru’r wybodaeth am ardal y Gwasanaeth Ieuenctid ar wefan gorfforaethol y Cyngor. Sefydlwyd grŵp datblygu gwefannau, a bu aelodau’r grŵp yn cyfarfod ar-lein yn wythnosol i archwilio gwefannau eraill a chreu syniadau am nodweddion pwysig a dylunio’r safle. Cyfarfu’r grŵp â datblygwr y we i amlinellu eu safbwyntiau, eu barn a’u gweledigaeth ar gyfer y safle. Gwnaed gwelliannau i’r safle ac, erbyn hyn, mae’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd, gan gynnwys adran cyfarfod â’r tîm, adnoddau, ffurflenni aelodaeth, gwybodaeth am wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach a nodwedd blog. Gellir mynd at y safle yma. I sicrhau bod pobl ifanc yn gallu mynd at y safle, archwiliodd y tîm stryd sut y gellid gwneud hyn trwy godau QR. Mae’r system hon wedi cael ei mabwysiadu ar draws y gwasanaeth gyda’r codau ar bosteri a chardiau busnes.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae un person ifanc wedi rhannu ei brofiad o gymryd rhan yng ngrŵp datblygu’r wefan ac yn trafod yr effaith y mae wedi’i chael arno yma. O ganlyniad i ddatblygu’r wefan, ffurfiwyd y Grŵp Crewyr Ifanc i alluogi pobl ifanc i greu a datblygu cynnwys ar gyfer gwefan gwasanaethau ieuenctid Caerdydd, sianelau cyfryngau cymdeithasol ac i’w helpu i ddatblygu medrau newydd.

Mae’r Grŵp Crewyr Ifanc wedi darparu cyfleoedd i’r gwasanaeth archwilio ffurfiau eraill o waith ieuenctid digidol. Cynigiodd y tîm digidol gyfleoedd ar-lein wythnosol i bobl ifanc ddysgu medrau newydd mewn dylunio graffeg, ysgrifennu blogiau, fideograffeg a golygu. Mae’r rhain wedi rhoi’r medrau i bobl ifanc fynegi eu hunain yn hyderus a rhannu eu barn ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw, yn ogystal â gwella eu medrau creu cynnwys ar-lein. Gellir gweld rhywfaint o’r gwaith y mae’r grŵp wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio’r dolenni canlynol.

Day in the Life Of the Class 2020/2021 - YouTube

https://youtu.be/VTZKHITcKoc

Pride Month (cardiffyouthservices.wales)

Mae’r grŵp wedi bodoli ers dros flwyddyn erbyn hyn ac mae aelodau’n parhau i gyfarfod bob wythnos yng nghlwb ieuenctid Butetown. Mae bron pob un o’r bobl ifanc sydd wedi ymgysylltu â’r prosiect hwn yn aelodau newydd o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd. Rhoddodd un person ifanc yr adborth canlynol am ei ran yn y grŵp.

‘Ces i wybod am Grŵp Crewyr Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd mewn neges e-bost yr anfonodd fy mhennaeth at yr ysgol gyfan. Roedd y pethau a gafodd eu rhestru yn y neges e-bost yn cynnwys testunau creu cynnwys amrywiol, fel golygu fideo, dylunio graffeg ac ysgrifennu blogiau – roedd gen i gryn dipyn o ddiddordeb yn y ddau olaf ar y pryd, felly cofrestrais. Roedd hynny union flwyddyn yn ôl. 

Mae fy nghyfnod yn y Grŵp Crewyr Ifanc wedi helpu i mi ddatblygu fy medrau mewn amrywiaeth eang o gyfryngau – oni bai am y clwb hwn, mae’n siŵr na fydden i erioed wedi defnyddio camera proffesiynol, golygu gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol, ysgrifennu blogiau ar gyfer gwefan, cymryd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol drosodd dros dro, cyfweld ag aelodau o’r cyhoedd – mae’r rhestr yn mynd yn ei blaen.

Ochr yn ochr â hyn, rwyf hefyd wedi magu ychydig o hyder ac wedi gwneud ffrindiau newydd – a dydy’r rheiny byth yn bethau gwael. Ers i mi ymuno ym mis Tachwedd 2020, rwyf hefyd wedi gwirfoddoli i weithio i Glwb Gemau Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, ac ers hynny, rwyf wedi cynhyrchu fideo hyrwyddo iddyn nhw’. (Person Ifanc).

Roedd y prosiect hwn yn sbardun ar gyfer gwaith arall gyda phobl ifanc. Mae’r gwasanaeth ieuenctid wedi cynnig cyfleoedd i bobl ifanc o wahanol ardaloedd o Gaerdydd gymryd rhan mewn prosiectau tebyg. Mae gan y gwasanaeth ieuenctid lawer o enghreifftiau o’r gwaith hwn y mae pobl ifanc yn fodlon eu rhannu.

Mae aelodau o’r Grŵp Crewyr Ifanc wedi gwirfoddoli i gynorthwyo pobl eraill mewn clwb gemau sy’n cael ei gynnal gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd. Mae’r clwb yn darparu gofod diogel i bobl ifanc gyfarfod â phobl o’r un anian a oedd wedi eu hynysu’n gymdeithasol oddi wrth eu cyfoedion. Trwy hyn, mae pobl ifanc wedi meithrin perthnasoedd gyda phobl eraill ac wedi gwella eu medrau cyfathrebu a gwaith tîm tra’n derbyn cymorth gan weithwyr ieuenctid. Mae’r gwaith ar-lein hwn wedi datblygu i fod yn weithgarwch wyneb yn wyneb a gynhelir mewn cyfleuster gemau teilwredig yng nghanol dinas Caerdydd. Cynhelir y clwb bob wythnos yn y lleoliad, ac mae amrywiaeth eang o bobl ifanc yn ei fynychu, gan gynnwys rhai sydd ag anableddau corfforol, anawsterau dysgu a phroblemau iechyd emosiynol. Mae’r holl aelodau presennol wedi dechrau ymwneud â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn ddiweddar. Caiff atgyfeiriadau i’r ddarpariaeth hon eu gwneud o wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach ar gyfer pobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Trwy gydol y cyfnod hwn yn archwilio ymagweddau gwaith ieuenctid digidol gyda phobl ifanc, mae galw cynyddol wedi bod am rannu arfer gwaith ieuenctid i ddatblygu ymhellach weithwyr ieuenctid, a medrau a galluoedd gwasanaethau cymorth ieuenctid ehangach, yn ogystal â gallu cynnig gwasanaethau a chyfleoedd digidol gyda phobl ifanc.

Cydlynodd tîm digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ddau ddigwyddiad, sef ‘gofodau ac ymagweddau digidol’, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau yn canolbwyntio ar waith ieuenctid digidol gan ein partneriaid cenedlaethol, lleol a rhanbarthol a oedd yn cwmpasu’r themâu canlynol: y celfyddydau mynegiannol, iechyd a lles, cyflogaeth, addysg a hyfforddiant, offer digidol, codau QR, Gemau, dinasyddiaeth ddigidol a lles. Roedd y cyflwyniadau yn cwmpasu eu hymagwedd, eu deilliannau, dysgu o’u darnau gwaith a chyfleoedd ar gyfer cwestiynau ac atebion.

Cynhaliwyd dwy gynhadledd ddigidol; y gynhadledd gyntaf ar gyfer y gwasanaethau cymorth ieuenctid yng Nghaerdydd, ac wedyn dilynwyd hyn gan bartneriaid rhanbarthol, gyda 174 o bobl broffesiynol yn bresennol. Dyma oedd adborth un o’r mynychwyr am y diwrnod: ‘Cynnwys ar-lein, trafferthion ymgysylltu â phobl ifanc yn ystod cyfnod anodd (roedd yn braf clywed bod pobl eraill yn wynebu’r un rhwystrau â gweithio o gartref, oherwydd wrth weithio o gartref, gallwch chi deimlo weithiau mai dim ond chi sy’n gwneud), syniadau ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc yn ddigidol ac ehangu gwybodaeth am gymorth mewn meysydd eraill’ (Gweithiwr Ieuenctid). https://www.cardiffyouthservices.wales/images/pdf_doc/Digital_spaces_and_approaches_for_young_people_report-7-compressed.pdf 

a gellir gweld yr adnoddau o’r digwyddiadau yma:

Digital spaces and approaches event 14/01/2020 / Digwyddiad lleoedd a dulliau digidol 14/01/2020 (padlet.com)

Yn ogystal â’r digwyddiad hwn, mae’r gwasanaeth hefyd wedi cynnig cyfle i aelodau staff ddatblygu eu medrau digidol trwy ddysgu sut i ddefnyddio ‘Mentimeter’, ‘Quizzes’ a ‘Canva’, sydd i gyd yn offer ymgysylltu digidol gwych sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Rydym wedi gallu gweithio gyda ‘Wise Kids’ hefyd i gynnig hyfforddiant i bob aelod o staff ar ddinasyddiaeth ddigidol a lles. Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, mae ymrwymiad parhaus i ddatblygu medrau a chapasiti timau ymhellach i ddatblygu gwaith ieuenctid digidol, a byddwn yn adeiladu ar ein perthynas bresennol gyda ‘Youth Link Scotland’ i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi, yn ogystal â chymorth arbenigol y gall ein tîm digidol ei gynnig i dimau ac unigolion.

Mwy o wybodaeth a chyfeiriadau

Children and parents: media use and attitudes report 2020/21 (ofcom.org.uk)

DFI-Youth-Report.pdf (nominet.uk)

NC0218021ENN.en_.pdf (youth.ie)

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Tegwch profiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY)

Ysgrifennir yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith at Estyn ar gyfer 2022/23. ...Read more
Adroddiad thematig |

Darpariaeth ar gyfer disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr oed uwchradd

pdf, 1.1 MB Added 03/04/2019

Mae’r adroddiad yn gwerthuso’r ansawdd a’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion oedran uwchradd o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’r modd y mae hyn wedi datblygu ers adroddiadau blaenorol Estyn, y ...Read more
Adroddiad thematig |

Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal –Deunydd hyfforddiant

pptx, 530.65 KB Added 05/07/2016

Mae'r cyflwyniad PowerPoint hwn yn ffordd i ddarparwyr rhannu brif ganfyddiadau'r adroddiad a adolygu eu perfformiad eu hunain mewn maes thematig penodol. ...Read more
Adroddiad thematig |

Chwalu rhwystrau rhag prentisiaethau - Hydref 2015

pdf, 784.01 KB Added 22/10/2015

Cyhoeddodd Estyn y cyntaf o ddau adroddiad yn Nhachwedd 2014. ...Read more
Adroddiad thematig |

Mynd i'r afael a thlodi ac anfantais mewn ysgolion: cydweithio ar gymuned a gwasanaethau eraill - Gorffennaf 2011

pdf, 663.02 KB Added 01/07/2011

Mae angen i ysgolion wneud yn well o ran nodi a chefnogi dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig. ...Read more