Arfer Effeithiol |

Nodi anghenion disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
917
Ystod oedran
3-19
Dyddiad arolygiad
 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Bro Teifi yn ysgol ddwyieithog ar gyfer disgyblion 3-19 oed sy’n cael ei chynnal gan awdurdod lleol Ceredigion.  Agorwyd yr ysgol fel Ysgol Bro Teifi ym mis Medi 2016 yn dilyn cyfuno Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi gydag ysgolion cynradd Aberbanc, Pontsian, Coedybryn a Llandysul.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Wrth sefydlu’r ysgol yn 2016 adnabuwyd yn gynnar yr angen i greu strwythurau a oedd yn hwyluso siwrne’r disgyblion drwy eu cyfnod yn yr ysgol i fod mor esmwyth â phosib.  Sefydlwyd system ffes (Ffês 1 - Meithrin i Flwyddyn 4, Ffês 2 - Blwyddyn 5 i Flwyddyn 8, Ffês 3  - Blwyddyn 9 i Flwyddyn 13) sydd wedi arwain at systemau pontio a rhannu gwybodaeth effeithiol er mwyn sicrhau adnabyddiaeth orau o anghenion  holl ddisgyblion yr ysgol ac felly at ddarpariaeth barhaus ar eu cyfer.  Mae’r ffaith mai un cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol sydd ar gyfer yr ysgol gyfan yn cryfhau'r adnabyddiaeth o anghenion penodol disgyblion unigol a sicrhau teilwra rhaglenni ymyrraeth addas a chynnar ar eu cyfer.  Er mwyn targedu ymyrraeth briodol ac amserol ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oed, mae’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol o wybodaeth i olrhain cynnydd, ymddygiad, presenoldeb a lles.  Mae’r ysgol yn ystyried y ddarpariaeth ar gyfer lles disgyblion i fod llawn mor bwysig â’r ddarpariaeth gwricwlaidd ac nad oes posib gwahanu’r ddwy agwedd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ceir systemau olrhain cyson sy'n adnabod cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion ar draws yr ysgol. Fel rhan o’r strategaeth i wella adnabyddiaeth o ddisgyblion ar fynediad i’r ysgol, mae sgiliau cymdeithasol ac emosiynol yn cael eu hasesu a hynny drwy ddefnydd o brofion masnachol ac asesiadau mewnol yr ysgol.  O ddefnyddio’r wybodaeth, trefnir darpariaeth maethu ar gyfer disgyblion oed cynradd sydd â sgiliau cymdeithasol ac emosiynol llai datblygedig o fewn y “Clwb Cwtsh”.  Mae’r ddarpariaeth hwn ar gael pedwar diwrnod yr wythnos ac fe’i cynhelir mewn ystafell bwrpasol.  O fewn y sesiynau, mae staff hyfforddedig yn darparu cefnogaeth i ddisgyblion y cyfnod sylfaen yn y boreau a chyfnod allweddol 2 yn y prynhawn. Canlyniad yr ymyrraeth yw bod y disgyblion yn magu hyder, datblygu hunanddelwedd bositif a datblygu’r sgiliau angenrheidiol sy’n caniatáu iddynt i gael mynediad llawn i’r cwricwlwm.  Mae llwyddiant y ‘Clwb Cwtsh’ hefyd yn deillio o’r cyswllt agos a geir rhwng yr ysgol a’r cartref.  Gwahoddir rhieni i mewn yn rheolaidd er mwyn gweld y ddarpariaeth a thrafod gyda’r staff.

Drwy olrhain ymddygiad ac ymdrech disgyblion mewn gwersi, mae penaethiaid ffes yn datblygu trosolwg cadarn o ymagweddau’r disgyblion at ddysgu.  Mae hyn yn caniatáu iddynt i ymateb yn rhagweithiol er mwyn cynnig datrysiad i danberfformiad.  Gwneir hyn drwy drafodaeth agored gyda’r disgybl, eu rhieni a staff yr ysgol er mwyn adnabod y ffordd ymlaen a thargedu ymyrraeth briodol. 

Mae arferion monitro ac olrhain presenoldeb ar draws yr ystod oed wedi eu gwreiddio yn gadarn; trafodir disgyblion sy’n peri gofid yn wythnosol gyda’r dirprwy bennaeth, penaethiaid ac is-benaethiaid ffes, swyddog cynhwysiant yr awdurdod addysg leol a swyddog presenoldeb yr ysgol.  Arweinia hyn at gyfathrebu effeithiol gyda’r rhieni a’r gofalwyr er mwyn ymateb yn syth i ofidiau am bresenoldeb isel.  Golyga hyn bod y rhan fwyaf o’r disgyblion a’i rhieni yn gweld gwerth mynychu’r ysgol yn rheolaidd sydd yn ei dro yn arwain at agweddau cadarnhaol at yr ysgol ac at ddysgu.

Mae gwaith y penaethiaid ffês a’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol traws ysgol yn greiddiol i adnabyddiaeth gadarn yr ysgol o anghenion ei disgyblion.  O’r wybodaeth drylwyr sydd gan yr ysgol arnynt, targedir rhaglen gynhwysfawr o ymyraethau effeithiol gan gynnwys:

  • Cyfeirio at asiantaethau amrywiol gan gynnwys tîm o amgylch y teulu, cwnselydd yr ysgol, gwasanaeth atal a chyfiawnder ieuenctid, gweithwyr cymdeithasol,
  • Addasu’r cwricwlwm i gwrdd ag anghenion unigol y dysgwr
  • Amserlennu sesiynau pwrpasol o fewn yr ‘Hafan’ sy’n ganolfan o fewn yr ysgol i ddarparu gofal emosiynol i ddisgyblion bregus tra hefyd yn darparu rhaglenni o gymwysterau a rhaglen defnydd cymdeithasol o iaith

Rhoddir pwyslais ar weithgareddau o fewn y ffesys wrth i’r disgyblion symud o’r cyfnod sylfaen i Flwyddyn 3, Blwyddyn 6 i Flwyddyn 7, Blwyddyn 9 i Flwyddyn 10 ac o Flwyddyn 11 i’r chweched dosbarth.  Wrth sicrhau’r continwwm o staff ac adnoddau nid oes toriad yn y ddarpariaeth academaidd a bugeiliol y mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn eu profi wrth iddynt fynd o un pwynt allweddol yn eu haddysg i'r nesaf.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r systemau olrhain cynnydd trylwyr, mae’r ysgol yn darparu cymorth ychwanegol er mwyn rhoi pob cyfle i ddisgyblion i gyrraedd eu potensial.  Mae’r ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn sicrhau lefelau priodol o ymyrraeth sydd yn galluogi’r disgyblion i gael profiadau cwricwlaidd cyfoethog.  Mae natur ofalgar yr ysgol yn golygu fod bron pob disgybl yn ymddwyn yn eithriadol o dda gan ddangos parch a gofal at eraill ac arddangos agweddau cadarnhaol iawn at eu dysgu.

Mae’r ddarpariaeth o fewn yr Hafan, yn ogystal â chefnogaeth cwnselydd yr ysgol yn effeithiol i sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad llawn i’r cwricwlwm yn ogystal â sicrhau cymwysterau priodol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhennir arferion effeithiol ar draws yr ysgol er mwyn datblygu arfer cyson o un Ffês i’r llall.  Mae’r ysgol hefyd yn rhannu effeithiolrwydd y strwythur ffês a’r ddarpariaeth ar gyfer gofal a lles disgyblion gydag ymwelwyr yn ogystal â fforymau megis fforwm ysgolion pob oed Cymru.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol