Adroddiad thematig |

Sut defnyddiodd ysgolion a cholegau’r grant recriwtio, adfer a chodi safonau (RAChS) neu’r grant dal i fyny ar gyfer dysgwyr ôl-16

Share this page

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y cymorth ar gyfer dysgwyr ôl-16 er mis Medi 2020 trwy’r grant ‘Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau: y Rhaglen Dysgu Carlam’ (y grant RACHS) mewn ysgolion a’r grant dal i fyny mewn colegau addysg bellach (AB).

Argymhellion

Yn achos grantiau tebyg yn y dyfodol, dylai arweinwyr mewn ysgolion a cholegau:

  • A1 Sicrhau bod ganddynt weledigaeth glir ar gyfer y deilliannau y maent yn dymuno eu cael o wariant ychwanegol
  • A2 Gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i ddatblygu strategaethau i gefnogi cynnydd a lles dysgwyr
  • A3 Olrhain a gwerthuso’n effaith unrhyw wariant ychwanegol yn aml er mwyn addasu cynlluniau cyfredol lle mae angen, a llywio eu cynllunio dyfodol
  • A4 Ystyried adeiladu ar newidiadau llwyddianus wnaethon i’w harferion yn ystod y pandemig
  • A5 Sicrhau bod cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg yn flaenoriaeth, ni waeth beth yw cefndiroedd ieithyddol dysgwyr

Dylai consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol:

  • A6 Olrhain a gwerthuso llwyddiant gwahanol fodelau sy’n darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr ar draws eu hardaloedd, gan gyfeirio at y dangosyddion a awgrymir yn yr adroddiad hwn

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A7 Sicrhau bod amodau ar gyfer unrhyw wariant o’r grant dal i fyny yn y dyfodol yn briodol hyblyg, ac yn hafal ar gyfer ysgolion a cholegau

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol