Ymddygiad Dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach - Estyn

Ymddygiad Dysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach

Adroddiad thematig


Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio ymddygiad dysgwyr mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Mae’n canolbwyntio ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiadau cadarnhaol a negyddol, yn ogystal â’r amrywiadau mewn ymddygiad ar draws gwahanol grwpiau dysgwyr a rhaglenni dysgu. Mae’r adroddiad yn ystyried sut mae colegau’n hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol ac yn rheoli ymddygiadau negyddol, ochr yn ochr â’r cymorth a’r arweiniad sydd ar gael i ddysgwyr a  staff, fel ei gilydd. Mae’n amlygu heriau cyfredol fel effaith barhaus pandemig COVID-19, ynghyd â’r cynnydd mewn camddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a fepio. Rydym yn ystyried y ffactorau amgylcheddol a’r arferion sefydliadol sy’n dylanwadu ar yr ymddygiadau hyn. Mae ein canfyddiadau wedi’u seilio ar ymweliadau â saith coleg, arolygon cenedlaethol o staff a dysgwyr, ac ymgynghoriadau â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr undebau. Mae’r adroddiad yn cynnwys sawl ciplun arfer effeithiol neu ddiddorol yn seiliedig ar ein hymweliadau.

Yn ystod ein hymweliadau, ac o’r arolygon, nodom fod llawer o batrymau a heriau mynych mewn colegau addysg bellach. Mae llawer o ddysgwyr yn dangos ymddygiadau cadarnhaol, gan gynnwys rhyngweithio parchus â staff a chyfoedion, ymgysylltiad gweithredol mewn gwersi, ac ymrwymiad i gynnal campysau glân a threfnus. Cefnogir y deilliannau hyn gan amgylchedd sy’n meithrin annibyniaeth ac yn mabwysiadu dull addysgu sy’n canolbwyntio ar oedolion, sy’n chwarae rôl hanfodol mewn ffurfio ymddygiad mor adeiladol. Fodd bynnag, mae ymddygiadau negyddol yn amlwg, hefyd. Mae cyrraedd yn hwyr, absenoldeb, defnydd amhriodol o gyfryngau cymdeithasol, a fepio yn faterion yr adroddir amdanynt yn aml. Mae ymddygiadau mwy pryderus, er eu bod yn llai aml, yn cynnwys achosion o aflonyddu rhywiol, camddefnyddio sylweddau, a thrais ymhlith cyfoedion. Mae staff yn nodi bod digwyddiadau difrifol yn aml yn codi yn sgil pwysau allanol neu heriau personol heb eu datrys sy’n effeithio ar ddysgwyr.

Mae effeithiau parhaol y pandemig yn parhau i ffurfio ymddygiad dysgwyr. Mae llawer o bobl ifanc yn arddangos oedi datblygiadol, yn enwedig mewn medrau cymdeithasol a gwydnwch. Er bod effeithiau uniongyrchol y pandemig wedi lleihau yn y flwyddyn ddiwethaf, mae’r heriau sy’n weddill yn amlwg yn ymgysylltiad dysgwyr a’u gallu i ymdopi â phwysau academaidd.

Mae patrymau ymddygiadol yn amrywio ar draws gwahanol ddemograffeg dysgwyr a rhaglenni colegau. Mae dysgwyr iau, gan gynnwys y rhai sy’n dilyn rhaglenni 14-16, yn ogystal â rhai sydd wedi gadael yr ysgol yn ddiweddar, a’r rhai sydd wedi cofrestru mewn cyrsiau lefel is, yn aml yn dangos tarfu ymddygiadol mwy mynych. Mae dysgwyr niwrowahanol yn wynebu heriau unigryw, fel anawsterau â rheoleiddio emosiynol a rhyngweithio â chyfoedion. Mae dysgwyr o grwpiau ymylol, gan gynnwys myfyrwyr LHDTC+, yn anghyfartal o agored i fwlio ac aflonyddu, gan fod eu hunaniaethau weithiau’n cael eu dirnad yn negyddol gan gyfoedion. Mae dysgwyr gwrywaidd, yn enwedig y rhai ar gyrsiau masnach alwedigaethol fel adeiladu, yn fwy tebygol o ddangos ymddygiadau negyddol. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio iaith amhriodol tuag at ddysgwyr benywaidd, sy’n aml yn cael ei yrru gan ymdrech i ffitio i mewn yn yr amgylcheddau gwrywaidd, yn bennaf.

Yn gyffredinol, mae colegau’n darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol mewn rheoli ymddygiad ac arferion sy’n ystyriol o drawma, gan gynnig strategaethau i staff gynorthwyo dysgwyr â heriau ymddygiadol. Fodd bynnag, dywed rhai staff eu bod yn teimlo wedi eu llethu wrth ddelio â’r materion hyn yn rheolaidd, sy’n gallu effeithio ar eu gallu i reoli ymddygiad yn effeithiol.

Mae colegau mewn cyfnodau amrywiol o ran ymgorffori arferion rheoli ymddygiad. Mae rhai sefydliadau wedi sefydlu systemau effeithiol gyda fframweithiau clir i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a mynd i’r afael â heriau, tra bod sefydliadau eraill megis dechrau datblygu ac yn wynebu materion â chysondeb a dyrannu adnoddau. Caiff sefydlogrwydd a chynaliadwyedd arferion rheoli ymddygiad eu cymhlethu ymhellach gan heriau cyllid. Yn aml, mae colegau yn dibynnu ar ffrydiau cyllido tymor byr, sy’n rhwystro’u gallu i roi strwythurau cymorth tymor hir ar waith neu gadw staff medrus. Mae’r ansicrwydd ariannol hwn yn tanseilio ymdrechion i sefydlu ymagwedd gyson a chynaledig at reoli ymddygiad dysgwyr, gyda goblygiadau i effeithiolrwydd ymyriadau a lles staff, fel ei gilydd.


Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn