Y Cwricwlwm Medrau Byw yn Annibynnol (MBA) mewn Addysg Bellach: Creu cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau sy’n canolbwyntio ar unigolyn
Adroddiad thematig
Crynodeb gweithredol
- Bu gwelliannau nodedig i ddarpariaeth Medrau Byw yn Annibynnol (MBA) yn y sector addysg bellach (AB) ers i ni adrodd ar hyn ddiwethaf yn 2017, yn enwedig mewn personoli dysgu a gwella cydweithio. Fodd bynnag, mae amrywioldeb mewn darpariaeth, asesu ac olrhain anghyson, a gwendidau mewn systemau sicrhau ansawdd yn parhau. Yn ychwanegol, nid yw cynigion cwricwlwm yn alinio’n gyson â chyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 sy’n achosi risg o ddiffyg cydymffurfio a deilliannau anghyson ar gyfer dysgwyr. Mae’r adroddiad hwn yn galw am ailffurfweddu’r cwricwlwm MBA i fodel mwy cydlynus, dyheadol, ac yn canolbwyntio ar fedrau, sy’n cynorthwyo dysgwyr yn well i baratoi ar gyfer byw bywydau boddhaus pan fyddant yn oedolion.
- O fis Medi 2024, mae 12 sefydliad addysg bellach (SAB) yng Nghymru, gan gynnwys Addysg Oedolion Cymru, yn darparu rhaglenni MBA ar gyfer dysgwyr ag ADY, sef cynnydd o un darparwr ers adolygiad thematig Estyn yn 2017. Coleg Chweched Dosbarth Catholig Dewi Sant yw’r unig sefydliad addysg bellach o hyd nad yw’n cynnig darpariaeth MBA. Cwblhaodd tua 1,700 o ddysgwyr raglenni MBA yn 2023-2024, sy’n adlewyrchu galw cynyddol.
- Mae rhaglenni MBA yn gwasanaethu dysgwyr sydd ag amrywiaeth o anghenion, gan gynnwys anawsterau ac anableddau dysgu cymedrol i ddifrifol a dwys, cyflyrau’r sbectrwm awtistig, ac anghenion cymdeithasol neu iechyd meddwl. Maent hefyd yn darparu ar gyfer dysgwyr y tarfwyd ar eu profiadau addysgol ac sy’n meddu ar ychydig iawn o gymwysterau. Er bod rhai dysgwyr yn ymuno pan fyddant yn 16 oed, mae dysgwyr eraill yn dechrau pan fyddant yn 19 oed o ysgolion arbennig.
- Caiff mynediad i raglenni MBA ei lywio gan asesiadau lefel coleg, gan ddefnyddio Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU), ac o bryd i’w gilydd, Cynlluniau Addysg, Gofal ac Iechyd ar gyfer dysgwyr o Loegr. Pan mae darpariaeth yn anaddas, gallai dysgwyr gael eu cyfeirio i golegau arbenigol annibynnol.
- Mae Medr yn cydnabod cost ychwanegol cefnogi dysgwyr ag anawsterau ac anableddau dysgu. Mae dysgwyr MBA yn derbyn cyllid gwahaniaethol trwy strwythurau cyllido cyrsiau, ac weithiau trwy gymorth dysgu ychwanegol (CDA). Caiff gwybodaeth allweddol ei holrhain trwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (CDGOC), sy’n casglu data ar gyfraddau cwblhau cyrsiau a chymwysterau. Nid oes casgliad cenedlaethol o ddata cyrchfannau ar gyfer y dysgwyr hyn.
- Nododd adolygiad Estyn yn 2017 fod diffyg systemau asesu ac olrhain cadarn, gorddibyniaeth ar gymwysterau i fesur cynnydd, a ffocws annigonol ar fedrau bywyd, annibyniaeth, a chyflogadwyedd. Arweiniodd hyn at bum argymhelliad, gan sbarduno diwygiadau, yn cynnwys mabwysiadu’r fframwaith Cydnabod a Chofnodi Cynnydd a Chyflawniad (RARPA), gostyngiad mewn dysgu achrededig amhriodol, a symud i gwricwla personoledig, yn seiliedig ar fedrau. Er y gwnaed llawer o welliannau, mae anghysondebau mewn ansawdd yn parhau, yn enwedig mewn asesiadau cychwynnol ac integreiddio CDU.
- Mae llwybrau 1 a 2 yn gwasanaethu dysgwyr â’r anghenion mwyaf cymhleth. Fodd bynnag, mae anghysondeb mewn dehongli proffiliau dysgwyr yn arwain at amrywiad o ran pa ddysgwyr a all ddilyn y llwybrau hyn. Er enghraifft, gallai dysgwyr â phroffil tebyg ddilyn llwybr 1, 2 neu hyd yn oed mewn colegau arbenigol annibynnol yn y pen draw, yn dibynnu ar y cynnig lleol. Nid yw rhai darparwyr yn cynnig eglurder ynghylch hyd rhaglenni a deilliannau disgwyliedig dysgwyr, sy’n peryglu amgyffrediadau fod y coleg yn darparu gweithgareddau yn debyg i wasanaeth dydd yn hytrach na datblygiad dysgu a medrau pwrpasol.
- Mae llwybr 3 yn darparu ar gyfer y gyfran fwyaf o ddysgwyr ac yn diwallu ystod eang o anghenion dysgu. Mae’n aml yn cynnwys dysgwyr â heriau ymddygiadol neu emosiynol, na nodwyd bod gan lawer ohonynt ADY neu na nodwyd eu bod yn ddysgwr MBA. Mae colegau wedi datblygu cynigion cwricwlwm eang, gan gynnwys sesiynau rhagflas galwedigaethol, hyfforddiant cyflogadwyedd a datblygiad personoledig medrau cymdeithasol a chyfathrebu. Mae cyflwyno, cynllunio ac asesu’r rhaglenni llwybr 3 hyn yn amrywio’n sylweddol ac yn aml yn cynnwys dysgu achrededig. Mewn rhai darparwyr, mae hyn yn debyg i raglen gyflogadwyedd 16-19 Twf Swyddi Cymru+, ac yn diwallu anghenion dysgwyr tebyg. Mae’n bwysig nodi nad yw pob sefydliad addysg bellach yn cyflwyno Twf Swyddi Cymru+.
- Mae llwybr 4 yn darparu interniaethau a gefnogir. Er bod y model cyflwyno ar gyfer y llwybr hwn wedi dangos potensial newid bywyd ar gyfer rhai dysgwyr, mae anghysondebau cyflwyno, cyfyngiadau cyllid, a gwahanol ddisgwyliadau dysgwyr, rhieni a/neu ofalwyr, colegau, asiantaethau cyflogaeth a gefnogir a chyflogwyr yn cyfyngu ar ei effaith.
- Mae arferion sicrhau ansawdd ar draws sefydliadau addysg bellach yn esblygu ond yn parhau yn anghyson o fewn gwahanol sefyllfaoedd, ac ar eu traws. Mae darparwyr cryf yn alinio hunanwerthuso â chyflawniad targedau gan ddysgwyr, yn defnyddio prosesau arsylwi trylwyr, ac yn cynnwys dysgwyr a rhanddeiliaid. Fodd bynnag, mae llawer o golegau’n nodi bod monitro cynnydd, yn enwedig ar gyfer dysgu heb ei achredu, yn faes allweddol sydd angen ei wella.
- Mae manylebau rhaglenni presennol yn gor-bwysleisio namau dysgwyr yn hytrach na’u hanghenion a’u nodau dysgu. Mae’r pedwar ‘piler dysgu’ (iechyd a lles, cynhwysiant cymunedol, byw yn annibynnol, a chyflogadwyedd) yn cael eu diffinio’n anghyson, nid ydynt yn cael eu deall yn dda, ac weithiau, cânt eu cymhwyso’n anghywir. Mae llawer o’r farn fod diffyg dyhead ac eglurder yn y derminoleg bresennol, gan gynnwys y term ‘MBA’.
- Mae sefydliadau addysg bellach yn gwella cymorth pontio o ysgolion, wedi’i gynorthwyo gan gydweithio cynyddol. Fodd bynnag, mae problemau’n parhau, gan gynnwys cwricwla nad ydynt yn alinio’n gywir, diffyg cysondeb yng nghynnwys CDU, a dysgwyr yn dechrau yn y coleg heb CDU.
- Nid yw darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi’i datblygu’n ddigonol o hyd. Dau goleg yn unig sy’n cyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel mater o drefn, ac ychydig iawn o ddarparwyr eraill sy’n dweud eu bod yn gallu darparu hyn os gofynnir amdani, ond anaml mae hyn yn digwydd. O ganlyniad, yn rhy aml, gall dysgwyr sy’n siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf fanteisio ar ddarpariaeth MBA trwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
- Er bod cyfleoedd dysgu proffesiynol wedi ehangu, cânt eu halinio’n anghyson â gofynion penodol addysgu ac asesu MBA. Nid oes gan lawer o golegau gynlluniau datblygiad proffesiynol teilwredig ar gyfer staff MBA, ac mae gwerthuso sut mae dysgu proffesiynol yn effeithio ar ddeilliannau dysgwyr yn parhau i fod yn gyfyngedig.
- Mae diwygio ADY wedi cynyddu cydweithio ar draws rhanddeiliaid, er bod y pontio o’r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) wedi creu heriau. Yn aml, caiff CDUau eu gohirio, maent yn anghyflawn neu nid ydynt yn alinio ag anghenion ôl-16. Mae’r baich gweinyddol ar golegau i ddatblygu, cynnal a rhannu CDUau wedi cynyddu’n sylweddol, ac mae anghysondebau yn ansawdd CDU yn rhwystro cynllunio cwricwlwm effeithiol ar gyfer datblygiad medrau ystyrlon ac unigoledig.