Medrau llythrennedd, rhifedd a digidol mewn dysgu oedolion yn y gymuned
Crynodeb gweithredol
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y ddarpariaeth ar gyfer medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ar gyfer oedolion – sef rhan arwyddocaol o’r cynnig yn y sector dysgu oedolion yn y gymuned (DOG). I lawer o ddysgwyr, mae’n ‘ail gyfle’ i ddatblygu’r medrau sylfaenol hyn, neu wella’u rhagolygon am swydd, cynorthwyo’u plant neu fagu’r hyder i gymryd rhan yn llawn mewn cymdeithas.
Mae’r adroddiad yn defnyddio ymweliadau gan arolygwyr ar ddiwedd 2024 a dechrau 2025 ag 8 o’r 13 partneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned, ac ag Addysg Oedolion Cymru. Cynhaliom arolwg ar-lein ar gyfer tiwtoriaid DOG. Buom yn dadansoddi data o’r set ddata swyddogol, a data a ddychwelwyd atom ni mewn cais i bartneriaethau unigol. Defnyddiom dystiolaeth o’n harolygiadau ac ymweliadau cyswllt blynyddol â phartneriaethau DOG.
Ymgysylltu â dysgwyr
Mae dysgwyr yn wynebu nifer o rwystrau sy’n eu rhwystro rhag ailymgysylltu ag addysg. Mae’n ymddangos bod y rhain wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Y rhwystr unigol mwyaf yw hyder dysgwyr. Gallai dysgwyr deimlo’n amharod i gyfaddef fod angen help arnynt neu deimlo’n orbryderus am feddwl mynychu lleoliad dysgu ffurfiol. Mae rhwystrau eraill yn cynnwys mynediad at ddyfeisiau digidol, cyfyngiadau ariannol, materion iechyd meddwl, anawsterau dysgu heb eu canfod neu heb gefnogaeth ar eu cyfer, neu ble nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Dywed dysgwyr hefyd fod anhawster dod o hyd i wybodaeth am gyrsiau yn gallu bod yn rhwystr. Mae partneriaethau wedi gwella’u gwefannau i alluogi dysgwyr i chwilio am gyrsiau’n fwy effeithiol, ond, ar y cyfan, mae gwefannau partneriaethau yn gymhleth i’w llywio o hyd neu’n defnyddio iaith neu fformatio nad yw efallai’n hygyrch i ddysgwyr, neu ddarpar ddysgwyr. Rydym yn cynnwys argymhelliad ar gyfer partneriaethau i sicrhau bod ganddynt ffyrdd syml a hygyrch i ddarpar ddysgwyr ddod i wybod am eu darpariaeth.
Mae gan bartneriaethau ddealltwriaeth dda o’r rhwystrau hyn ac maent wedi ceisio lleihau llawer ohonynt. Fodd bynnag, mae partneriaethau’n wynebu heriau o ran ymgysylltu â dysgwyr, ac mae cyfyngiadau a diffyg eglurder am sut maent yn gwario’u cyllid ar ymgysylltu neu ddarpariaeth dysgu teuluol yn lleihau eu gallu i recriwtio dysgwyr sy’n anodd eu cyrraedd. Mae darparwyr yn dweud hefyd fod heriau sylweddol o ran ariannu eu lleoliadau cymunedol. Rydym yn cynnwys argymhellion i Medr / Llywodraeth Cymru i ddatblygu canllawiau clir a hyblyg i ddarparwyr am yr ystod a math o ddarpariaeth y gallant ei hariannu trwy’r grant dysgu cymunedol (yn enwedig am ddarpariaeth ymgysylltu – i’r rhai y mae angen camau cyntaf arnynt tuag at ddysgu ffurfiol); a gwella argaeledd a chysondeb rhaglenni dysgu teuluol.
Addysgu a dysgu proffesiynol
Gwelom fod addysgu’n effeithiol yn y rhan fwyaf o’n harsylwadau ar gyfer yr adolygiad thematig hwn, sy’n gyson â’n canfyddiadau o arolygiadau. Mae tiwtoriaid yn personoli eu hymagweddau at ddiwallu anghenion dysgwyr unigol, gan ystyried ffafriaethau a chryfderau a gwendidau unigol dysgwyr. Mae’r rhan fwyaf o diwtoriaid yn rhoi cymorth un i un hynod effeithiol ac yn ei ddefnyddio i deilwra’u cyflwyno a rhoi adborth sy’n helpu dysgwyr i wybod sut i wella.
Yn yr enghreifftiau prin lle roedd addysgu’n llai effeithiol, roedd dau faes cyffredinol i’w gwella. Y maes cyntaf yw ble nad oedd tiwtoriaid yn adeiladu’n effeithiol ar wybodaeth a phrofiad blaenorol y dysgwr ac nid oedd ganddynt ddealltwriaeth ddigon eang o’r ystod o ddulliau y gellir eu defnyddio i gwblhau gweithrediadau mathemategol, er enghraifft. Yr ail yw ble roedd tiwtoriaid yn dibynnu’n ormodol ar lyfrau gwaith fel eu prif adnodd ar gyfer addysgu. Yn yr achosion hyn, nid oedd tiwtoriaid yn cynnwys digon o amrywiaeth yn eu haddysgu, ac roedd dysgwyr yn diflasu, yn colli cymhelliant neu’n ymddieithrio. Rydym yn cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, Medr, partneriaethau a thiwtoriaid i wella’r dysgu proffesiynol ar gyfer tiwtoriaid yn y sector i gefnogi eu medrau addysgu yn benodol i bwnc.
Darpariaeth a chynnydd
Mae darparwyr yn defnyddio ystod eang o gyrsiau achrededig ac anachrededig i gyflwyno medrau llythrennedd, rhifedd a digidol oedolion ac rydym yn rhoi enghreifftiau o ystod y cyrsiau a gynigir. Mae data perfformiad cyhoeddedig yn dangos bod tua 84% o ddysgwyr ym mhob darpariaeth DOG wedi cwblhau eu cyrsiau a’u cymwysterau yn llwyddiannus yn 2022-2023. Fodd bynnag, ar lefel partneriaeth a lefel system, ni chaiff gwybodaeth a gesglir am gofrestru a chadw dysgwyr ar raglenni ei defnyddio’n ddigon effeithiol i werthuso sut mae dysgwyr yn symud ymlaen trwy eu cyrsiau ac yn datblygu eu medrau dros gyfnod. Mae gwerth cyfyngedig i’r model casglu a dadansoddi data presennol o ran llunio mewnwelediadau am batrymau ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth. O ganlyniad, mae bylchau pwysig mewn deall effaith y ddarpariaeth ar ddeilliannau hirdymor dysgwyr. Rydym yn argymell y dylid canolbwyntio’n gliriach ar ba mor effeithiol y mae darpariaeth yn cynorthwyo dysgwyr i wneud cynnydd. Rydym yn argymell y dylai Medr helpu datblygu methodolegau i fesur dilyniant dysgwyr i ddarpariaeth medrau llythrennedd, rhifedd a digidol, o fewn y ddarpariaeth, a’r tu hwnt iddi. Rydym yn argymell y dylai partneriaethau sicrhau eu bod yn cynllunio llwybrau ar gyfer dysgwyr ac yn gwerthuso pa mor effeithiol y mae dysgwyr yn symud trwyddynt, gan ddefnyddio ystod eang o wybodaeth.
Rydym wedi bod yn feirniadol o bartneriaethau DOG mewn adroddiadau arolygu lle mae gwaith partneriaeth neu gynllunio gwael wedi golygu nad yw llwybrau dilyniant ar gyfer dysgwyr wedi bod yn glir, ac na roddwyd gwybodaeth o ansawdd digon da i ddysgwyr i’w helpu i feddwl am eu camau nesaf. Rydym yn cynnwys argymhellion i wella gwaith partneriaeth i ymgysylltu â dysgwyr newydd a chynllunio ar gyfer llwybrau dilyniant cliriach.
Cafodd menter Lluosi Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddylanwad sylweddol ar ddarpariaeth rhifedd mewn partneriaethau ledled Cymru rhwng canol 2023 a mis Mawrth 2025. Gyda dyraniad cyllid hynod fawr (£100m ledled Cymru), roedd partneriaethau’n gallu datblygu cydweithrediadau newydd â grwpiau cymunedol, ymgysylltu â dysgwyr newydd nad oeddent wedi eu cyrraedd yn y gorffennol, ac roeddent yn greadigol o ran datblygu cyrsiau anachrededig, oedd yn canolbwyntio ar rifedd. Dangosodd y rhain fod galw am y math hwn o ddarpariaeth. Fodd bynnag, roedd partneriaethau’n mynegi rhwystredigaeth yn aml ynghylch natur ‘gwledda a llwgu’ cyllid Lluosi, a chan mai dim ond yn ddiweddar y sefydlwyd darpariaeth gyda chyllid Lluosi, roeddent wrthi’n pontio oddi wrtho.
Mae gan ddysgu digidol rôl bwysig, fel maes darpariaeth ar wahân ac fel offeryn addysgu integredig. Yn aml, mae cyrsiau medrau digidol yn llai brawychus i ddysgwyr ac yn bwyntiau mynediad hygyrch i addysg llythrennedd neu rifedd. Mae tiwtoriaid hefyd yn integreiddio offer digidol mewn gwersi llythrennedd a rhifedd craidd, sy’n gwella ymgysylltiad dysgwyr a pherthnasedd y sesiynau. Mae’r heriau’n cynnwys gwahanol alluoedd digidol dysgwyr, cyfyngiadau amser, a’r angen am dechnoleg ddibynadwy. Yn aml, mae tiwtoriaid yn defnyddio offer fel asesiad ar-lein Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ond gall y rhain greu anawsterau i’r rhai sydd â hyder digidol isel.
Mynegodd y rhan fwyaf o ddysgwyr ffafriaeth glir am ddysgu wyneb yn wyneb dros ddulliau dysgu o bell ar-lein, a gwelom fod y rhan fwyaf o bartneriaethau’n cynnwys cydbwysedd priodol rhwng dysgu wyneb yn wyneb a dysgu o bell ar-lein, ac roedd tua 5 – 15% o’r ddarpariaeth yn cael ei chynnig ar-lein, yn nodweddiadol.
Darpariaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg
At ei gilydd, gwelom mai ychydig iawn o ddarpariaeth oedd yn cael ei chynnig trwy gyfrwng y Gymraeg, ac roedd y galw gan ddysgwyr neu ddarpar ddysgwyr yn isel, ar y cyfan. Mewn ardaloedd sy’n naturiol ddwyieithog fel Gwynedd ac Ynys Môn, roedd y cyflwyno yn aml yn ddwyieithog, ond roedd asesiadau fel arfer yn Saesneg. Roedd dysgwyr yn tueddu i flaenoriaethu caffael medrau dros yr iaith gyflwyno, ac roedd yn well gan lawer ohonynt wella llythrennedd Saesneg na Chymraeg. Roedd mwy o ddiddordeb mewn dysgu rhifedd trwy gyfrwng y Gymraeg gan eu bod yn gyfarwydd â therminoleg fathemategol. Roedd dysgwyr sy’n siarad Cymraeg sy’n dilyn cyrsiau medrau digidol, yn enwedig cyrsiau wedi’u cynllunio i gynorthwyo dysgwyr sy’n nodweddiadol yn hŷn i ddefnyddio’u dyfeisiau, yn mynegi galw cryfach am gyflwyno cyfrwng Cymraeg, ar y cyfan. Mae cyflwyno llwyddiannus trwy gyfrwng y Gymraeg yn aml yn deillio o gydweithio â grwpiau cymunedol fel y Mentrau Iaith. Roedd rhaglenni dysgu teuluol hefyd yn cefnogi ymgysylltu â darpariaeth Gymraeg, yn enwedig trwy gynlluniau wedi’u hariannu gan Lluosi. Rydym yn cynnwys argymhelliad y dylai partneriaethau nodi cyfleoedd i gydweithio â sefydliadau lleol sy’n bodoli eisoes i gynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.